Un o’r camau cyntaf tuag at reoli’ch arian yw dysgu’r ffordd orau i reoli’ch cyfrif banc. Mae nifer o wahanol fathau o gyfrifon a chardiau banc ar gael, felly chi sy'n dewis pa rai sy’n addas ar gyfer eich ffordd o fyw.
Mathau o gyfrifon banc
A oes gennych fwy nag un cyfrif? Mae gwasanaethu newydd yn golygu gallwch nawr weld eich holl gyfrifon ar un ap bancio.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Bancio Agored a rhannu’ch gwybodaeth ar-lein
Yn gyntaf – bydd angen i chi benderfynu pa fath o gyfrif banc sydd fwyaf addas ar eich cyfer. Gallai hyn fod yn gyfrif cyfredol, cyfrif ar y cyd (wedi’i rhannu gyda’ch partner) neu gyfrif banc sylfaenol (heb ffioedd nac orddrafft).
Mae mwy o wybodaeth am ba gyfrif banc sydd fwyaf addas i chi, yn ein canllawiau:
Sut mae dewis y cyfrif banc cywir dewis y cyfrif
Dewis cyfrif banc ar gyfer eich taliadau budd-dal
Cipolwg ar gynilion arian parod
Darganfyddwch mwy am y camau rydych angen cymryd, darllenwch ein canllaw Agor, newid a chau cyfrif banc
Defnyddio eich cerdyn banc
Y prif fathau yw:
- Cardiau debyd. Weithiau gallwch ddefnyddio credyd debyd am ddim. Weithiau byddwch yn talu ffi i ddefnyddio’r cerdyn. Os oes gennych gorddraft ar eich cyfrif banc efallai bydd y gost o’i ddefnyddio mor uchel a ffi o 40%.
- Cardiau credyd. Mae’r rhain yn caniatáu i chi wario arian ar gredyd. Gallwch wario hyd at derfyn credyd a osodwyd ymlaen llaw, a allai fod yn ychydig gannoedd neu ychydig filoedd o bunnoedd. Os llwyddwch i fodloni gwiriad credyd, efallai y cewch gerdyn gan fanc neu ddarparwr cerdyn credyd.
- Cardiau rhagdaledig. Mae’r cardiau hyn yn gweithio fel ffonau talu wrth fynd – ni chewch wario mwy na’r arian a dalwch i mewn. Fodd bynnag, gan eu bod yn aml yn codi ffi, efallai y byddai’n well i chi gael cyfrif banc sylfaenol (gwelwch Fathau o gyfrifon banc uchod)
Gwneud taliadau i mewn i’ch cyfrif banc
Mae nifer o ffyrdd y gallwch dalu arian i mewn i’ch cyfrif banc.
Ymysg y dulliau mwyaf cyffredin yw:
- dros y cownter
- ar-lein
- mewn peiriannau talu arian i mewn, mewn canghennau banc
- drwy’r post.
Darganfyddwch fwy trwy ddarllen ein canllaw am Daliadau i mewn i’ch cyfrif banc
Talu biliau, cyfeillion a siopa ar-lein
I wneud taliadau o’ch cyfrif banc, mae amryw o ddewisiadau ar gael i chi.
- Debydau Uniongyrchol ac archebion sefydlog. Ffordd wych o awtomeiddio talu biliau o’ch cyfrif banc. Mae'n arbennig o ddefnyddiol ar gyfer taliadau misol rheolaidd, fel biliau ynni. Mae’n bwysig cadw golwg ar unrhyw Ddebydau Uniongyrchol sydd gennych – efallai bydd rhaid i chi dalu ffi os nad oes gennych ddigon o arian yn eich cyfrif i’w talu.
- Trosglwyddiadau banc dros y ffôn ac ar-lein. Ffordd gyflym a hawdd o wneud taliadau unigol.
- Drafftiau a sieciau banc. Ffordd ddefnyddiol o anfon arian neu dalu biliau unigol. Cwblhewch fanylion eich taliad yn eich llyfr siec a rhoi’r siec i’r unigolyn rydych yn ei dalu, neu ei hanfon yn y post.
- E-daliadau. Defnyddiwch dechnoleg fel PayPal neu Apple Pay i siopa neu i anfon arian ar-lein. Mae’n lleihau’r perygl o dwyll oherwydd ni fydd angen i chi rannu’ch manylion cerdyn banc, ond bydd angen i chi agor cyfrif rhad ac am ddim gyda darparwr gwasanaeth e-dalu.
Am ragor o wybodaeth ar fancio dros y rhyngrwyd, darllenwch ein canllaw Sut i aros yn ddiogel wrth fancio ar-lein
A oes angen gorddrafft arnoch?
Dylid defnyddio gorddrafftiau ar gyfer dibenion benthyca tymor byr neu mewn argyfwng yn unig. Yn anffodus, mae’n rhy hawdd o lawer trin gorddrafft fel eich terfyn gwario yn hytrach na dewis olaf.
Darganfyddwch sut maent yn gweithio a sut i osgoi ffioedd yn ein canllaw Egluro gorddrafftiau
Beth yw’r gost o gynnal cyfrif banc?
Os llwyddwch i gynnal y cyfrif banc yn gywir, ni ddylai gostio llawer i chi – dim o gwbl efallai.
Y gyfrinach i osgoi ffioedd, neu i dalu cyn lleied â phosibl, yw paru’ch cyfrif banc i’ch anghenion.
Er enghraifft, os ydych yn mynd i orddrafft yn aml, dewiswch gyfrif nad yw’n codi ffi uchel am hynny.
Darllenwch ein canllaw Ffioedd banc - cipolwg i gael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i gadw’ch cyfrif yn un sydd yn rhad ac am ddim
Awgrymiadau da am ddefnyddio cyfrif banc
Gallwch sicrhau nad ydych yn talu ffioedd diangen a'ch bod yn gwneud y gorau o'ch cyfrif trwy neilltuo cwpl o funudau yn unig i weithredu ar un neu fwy o'r awgrymiadau hyn.
Sefydlu rhybuddion neges testun am ddim
Mae'n werth rhoi eich rhif ffôn symudol i'ch banc fel y gallwch elwa o wasanaeth awtomatig newydd. Os oes gan eich banc eich rhif, byddant yn anfon rhybudd neges testun atoch os ewch yn agos at neu mewn i orddrafft. Mae hyn yn golygu y gallwch leihau effaith unrhyw daliadau am fynd yn orddrafft.
Mae hefyd rybuddion testun am ddim y gallwch ofyn amdanynt eich hun. Bydd rhai yn rhoi gwybod i chi pan fydd eich balans yn mynd yn isel a gall rhai ddweud wrthych pan fydd arian wedi'i dalu i mewn neu allan o'ch cyfrif. Mae'n ffordd gyflym ac awtomatig o sicrhau eich bod yn gwybod beth sy'n digwydd gyda'ch cyfrif, gan ei gwneud yn llai tebygol y cewch eich dal allan.
Mae troi'r rhybuddion hyn ymlaen fel arfer yn hawdd. Mewngofnodwch i'ch cyfrif ar wefan eich banc a'i droi ymlaen yn eich gosodiadau. Os ydych yn cael problemau, gallwch ffonio neu ymweld â'ch banc a gallant ei sefydlu ar eich cyfer.
Defnyddio bancio symudol
Mae defnyddio ap eich banc ar eich ffôn clyfar yn caniatáu i chi wneud bron popeth y gallwch ei wneud yn eich banc gan ddefnyddio'ch ffôn yn unig. Mae hynny'n golygu y gallwch wirio'ch balans, gwneud taliadau, gwneud cais i newid eich gorddrafft - i gyd pryd bynnag a ble bynnag y dymunwch.
Mae apiau bancio wedi'u cynllunio a'u profi'n arbennig i sicrhau eu bod yn ddiogel. Maent yn defnyddio amgryptio arbennig, ynghyd â chyfrineiriau, i sicrhau bod eich cyfrif yn ddiogel rhag twyll.
Mae sefydlu bancio symudol yn gyflym. Sicrhewch fod eich cerdyn banc yn barod, a lawrlwythwch ap eich banc o siop apiau eich ffôn. Bydd gan bob banc ffordd wahanol o wirio'ch hunaniaeth - efallai y cewch alwad, bod rhaid i chi ateb rhai cwestiynau diogelwch yn yr ap, neu ymweld â pheiriant ATM i gael cod pas unigryw.
Ar ôl sefydlu'r ap, bydd angen i chi nodi'ch cyfrinair i'w agor ar eich ffôn.
Darganfod beth mae’ch banc yn codi ffi arnoch amdano
Mae banciau'n codi tâl arnoch am rai pethau, fel tynnu arian tramor neu drafodion pan fyddwch dramor. Edrychwch ar-lein neu cysylltwch â'ch banc am restr o'r holl daliadau y gallant eu codi a'r hyn y maent yn ei wneud. Pan fyddwch yn gwybod sut mae ffioedd a thaliadau yn cael eu defnyddio, gallwch sicrhau eich bod yn eu hosgoi neu'n eu cadw'n isel.
Gallwch wirio'r taliadau o'ch banc neu gymdeithas adeiladu ar ein Teclyn cymharu cyfrifon banc
Siarad â’ch banc
Os nad ydych yn siŵr mai'ch cyfrif banc yw'r un cywir i chi, neu pa nodweddion sydd ganddo i'ch helpu i gynilo arian, siaradwch â'ch banc. Byddant hefyd yn helpu os nad ydych yn siŵr sut i ddefnyddio unrhyw un o nodweddion eich cyfrif.
Mae'r rhan fwyaf o fanciau am eich helpu i ddefnyddio'ch cyfrif i'r eithaf, gan eich helpu i aros ar y trywydd iawn gyda'ch arian.
Newid cyfrif os nad yw’ch cyfrif yn iawn
Os ydych wedi siarad â'ch banc ac yn teimlo nad yw'r cyfrif yn iawn, dyma'r amser i feddwl am newid. Mae'n hawdd chwilio am gyfrifon i weddu i'ch anghenion, p'un a ydych yn chwilio am gyfrif gyda gorddrafft rhatach neu fwy neu un sy'n talu mwy o log i chi pan fydd gennych arian yn eich cyfrif.
Darganfyddwch fwy am newid eich cyfrif cyfredol yn ein canllaw Sut i ddewis y cyfrif banc cywir
Beth os bydd rhywbeth yn mynd o’i le?
Os nad ydych yn fodlon â’ch banc, neu os bydd rhywbeth yn mynd o’i le â thaliad, efallai y byddwch yn cael eich diogelu.