Pryderus am roi manylion eich cerdyn credyd neu ddebyd ar-lein? Mae opsiwn arall – cyfrif e-arian gan un o’r cwmnïau talu fel PayPal, Apple Pay neu Google Pay.
Beth mae’r cwmnïau e-daliad yn ei gynnig a sut mae eu defnyddio
Talu ar-lein
Gyda rhai manwerthwyr gallwch yn awr dalu’n uniongyrchol o’ch cyfrif banc.
Darganfyddwch fwy ar ein tudalen Bancio agored a rhannu eich gwybodaeth ar-lein
Mae cyfrif e-daliad yn cynnig ffordd i anfon a derbyn arian ar-lein heb fod angen eich cerdyn credyd neu gerdyn debyd.
Mae nifer cynyddol o bobl yn defnyddio cwmnïau e-daliad oherwydd gallant ei gwneud yn haws trosglwyddo arian a phrynu pethau.
Sut mae cyfrif e-daliad yn gweithio?
Mae cyfrifon e-daliad yn gweithio mewn dwy brif ffordd.
Rydych naill ai’n:
- talu arian i’ch cyfrif e-arian gan ddefnyddio cerdyn talu. (wrth siopa ar-lein, tynnir yr arian o’ch balans – neu os ydych yn gwerthu pethau, mae’n cael ei ychwanegu at eich balans.
- cysylltu eich cyfrif e-arian i’ch cerdyn talu. Nid oes arian go iawn yn eich cyfrif. (Wrth i chi brynu ar-lein, mae’r cwmni e-daliad yn gosod y swm ar eich cerdyn – neu’n ei dalu i’ch cerdyn os ydych yn gwerthu pethau)
Sut mae defnyddio cwmni e-daliad
Awgrym da
Cyn prynu ar-lein, gwiriwch fod y dudalen yn ddilys - nodwch y cyfeiriad eich hun yn ofalus a pheidiwch â defnyddio dolen. Sicrhewch ei fod yn ddiogel hefyd, gan wirio am ‘https’ a chlo clap dan glo ar ddechrau’r cyfeiriad. A phan fyddwch wedi gwneud, cofiwch allgofnodi.
Darganfyddwch fwy ar wefan Get Safe Online
Y cam cyntaf yw dewis pa gwmni e-daliad i’w ddefnyddio. Y rhai poblogaidd yw PayPal, Apple Pay a Google Pay er enghraifft.
Wedi i chi ddewis cwmni, bydd y rhan fwyaf ohonynt yn gofyn i chi:
- sefydlu cyfrif - Cofrestrwch eich manylion a dilyn y cyfarwyddiadau.
- cysylltwch gerdyn banc - rhowch fanylion eich cerdyn credyd neu ddebyd.
Wedi i chi gofrestru, byddwch yn gallu talu am bethau drwy ddefnyddio manylion eich cyfrif newydd.
Beth yw’r gost?
Mae am ddim i ddefnyddio gwasanaethau e-daliad i brynu pethau fel arfer – ond efallai bydd rhaid i chi dalu ffi am werthu
Mae’r cwmnïau hyn yn gwneud eu harian drwy godi ffi ar adwerthwyr.
Efallai y codir ffi arnoch am wneud neu dderbyn taliadau mewn arian tramor, neu os gwariwch fwy o arian nag a ganiateir i chi.
Mae PayPal hefyd yn codi ‘ffi anweithgarwch’ o hyd at £9 os na fyddwch yn mewngofnodi nac yn defnyddio eich cyfrif am o leiaf blwyddyn a bod rhywfaint o arian yn eich cyfrif. Os yw hyn yn berthnasol i chi, gosodwch nodyn atgoffa i fewngofnodi i'ch cyfrif unwaith y flwyddyn er mwyn osgoi'r tâl.
Beth yw’r anfanteision?
Nid yw cwmnïau e-dalu wedi’u diogelu gan Gynllun Iawndal y Gwasanaethau Ariannol (FSCS).
Mae hyn yn golygu na chewch iawndal efallai os bydd eich cwmni e-daliad yn mynd i’r wal.
Hyd yn oed os ydych yn defnyddio cerdyn credyd trwy PayPal, ni fyddwch yn derbyn yr amddiffyniad ychwanegol o dan adran 75 Deddf Credyd Defnyddwyr.
Darganfyddwch fwy am sut mae diogelwch adran 75 yn gweithio
Wrth ddewis darparwr, dylech wirio’r gwasanaeth a gewch a’r diogelwch y bydd yn ei gynnig am eich arian.
Mae PayPal yn cynnig ei Gynllun ‘Diogelu Prynwr’ ei hun, ond nid yw’n warant y byddwch yn cael eich arian yn ôl os bydd pethau’n mynd o chwith.
Darganfyddwch fwy am y problemau â’r cynllun PayPal ar wefan Which?
Os ydych yn poeni am sicrhau bod eich arian wedi'i warchod gan FSCS, gwelwch ein canllaw ar sut mae dewis y cyfrif banc cywir
Taliadau digyffwrdd
Beth yw taliad digyffwrdd?
Awgrym da
Os ydych yn pryderu am siopa a thalu'n ddiogel ar-lein edrychwch ar ein canllaw.
Mae taliad digyffwrdd yn caniatáu i chi dalu am bethau â’ch cerdyn credyd neu ddebyd heb orfod rhoi eich PIN. Y cwbl sydd angen i chi ei wneud yw chwifio’r cerdyn uwchben y darllenydd cerdyn talu digyffwrdd melyn – neu daro’ch cerdyn yn ysgafn ar y darllenydd
Gallwch hefyd nawr gysylltu’ch cerdyn talu â'ch ffôn clyfar i wneud taliadau digyswllt
Darganfyddwch fwy am Apple Pay, Google Pay a Samsung Pay ar wefan Which?
A oes terfyn talu wrth ddefnyddio dull digyffwrdd?
Mae rhai cardiau’n gadael i chi dalu hyd at £100 heb ddefnyddio’ch PIN a gwneud sawl taliad digyffwrdd o hyd at £300 cyn y gofynnir am PIN.
Nod y ddau fesur hwn yw helpu stopio gwario diderfyn ar eich cerdyn os byddwch yn ei golli neu ei fod yn cael ei ddwyn.
Os byddwch yn cofrestru’ch cerdyn fel gallwch ei ddefnyddio ag Apple Pay, Google Pay, neu Samsung Pay, nid oes un terfyn unigol i drafodiadau.
Efallai bydd gan rhai manwerthwyr eu terfynau llai eu hunain er hynny.
Sut i atal twyll ar eich cerdyn digyffwrdd
Mae dau ddull o ddiogelwch i atal gwariant afreolus os bydd eich cerdyn yn cael ei ddwyn. Y rheiny yw’r terfyn gwariant o £100, a chyfyngu ar y nifer o daliadau digyffwrdd a ganiateir cyn y gofynnir am PIN y cerdyn, sydd â chyfanswm o £300.
Fodd bynnag, mae camau y medrwch eu cymryd serch hynny.
- Canslo’ch cerdyn ar unwaith os collwch ef. Bydd hyn yn atal y rhan fwyaf o daliadau rhag cael eu gwneud ar y cerdyn.
- Cadwch eich llygaid ar eich cerdyn. Os na allwch weld eich cerdyn, nid oes gennych sicrwydd nad yw’n cael ei ddefnyddio i dalu am rywbeth neu’n cael ei roi drwy ddarllenwydd a allai ei efelychu.
- Cadwch dderbynebau neu gwiriwch eich cyfriflen. Drwy wneud hynny mi fyddwch yn gwybod faint godwyd arnoch a gallwch sylwi yn gyflym ar unrhyw gostau anghyfarwydd.
Digyswllt a thrafnidiaeth gyhoeddus
Gallwch ddefnyddio’ch cerdyn digyffwrdd neu ap talu symudol ar drafnidiaeth gyhoeddus yn Llundain, gan gynnwys y rheilffordd danddaearol, bysiau a gwasanaethau’r Rheilffordd Cenedlaethol.
Mae hyn yn rhatach na phrynu tocynnau papur. Mae’r pris hefyd yr un fath â defnyddio cerdyn digyffwrdd swyddogol Transport for London (TfL), sef y cerdyn Oyster.
Yr anfantais o ddefnyddio cerdyn banc neu ap talu symudol yn hytrach nag Oyster wrth deithio yn Llundain yw rydych ond yn llwytho tocyn Travelcard neu Fws neu Dram ar gerdyn Oyster.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio’r un dull o dalu, pa un ai bod hynny’n gerdyn Oyster, cerdyn digyffwrdd neu ap talu symudol, wrth dalu’n ddigyffwrdd wrth deithio. Y rheswm am hyn yw bod gan TfL system brisio wedi’i chapio sef, wedi i chi gyrraedd eich terfyn dyddiol neu wythnosol, cewch deithio am weddill y diwrnod neu’r wythnos am ddim.
Os ydych yn defnyddio dull gwahanol i dapio i mewn neu allan, codir y pris uchaf arnoch.
Mae llawer o rwydweithiau trafnidiaeth gyhoeddus eraill ledled y wlad bellach yn caniatáu talu digyswllt. Mae hyn yn cynnwys Metrolink Manceinion a bysiau sy'n cael eu rhedeg gan Stagecoach neu First Bus.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio cyn teithio a yw'ch darparwr trafnidiaeth gyhoeddus leol yn cynnig taliad digyswllt
Beth i'w wneud os bydd problem â thaliad neu bryniant
Os oes problem â’ch pryniant, y peth cyntaf i’w wneud yw siarad â’r adwerthwr a cheisio datrys y broblem.
Os na allwch gael eich arian yn ôl gan y manwerthwr, gallwch ofyn am help gan y cwmni e-daliad.