Cyflwynir drafftiau a sieciau banc yn yr un modd fwy neu lai, ond cânt eu cyhoeddi mewn dulliau gwahanol. Mae drafft banc yn rhagdaledig a chaiff ei gyhoeddi gan y banc. Nid yw siec, ar y llaw arall, yn rhagdaledig. Gall y ddau fod yn ddefnyddiol mewn gwahanol sefyllfaoedd.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Sut allwch chi ddefnyddio siec?
- Nodweddion sylfaenol ysgrifennu sieciau
- Delweddu sieciau
- Pryd mae’r arian yn gadael/cyrraedd eich cyfrif?
- Stopio sieciau a phroblemau eraill gyda sieciau
- Beth yw drafft banc?
- Pryd ddylech chi ddefnyddio un
- Defnyddio drafftiau a sieciau banc yn ddiogel
- Os oes gennych gŵyn am siec neu ddrafftiau banc
Sut allwch chi ddefnyddio siec?
Awgrym da
Dim ond gan rywun rydych chi’n ei adnabod ac yn ymddiried ynddo ddylech chi dderbyn siec.
Gallwch ddefnyddio siec i dalu rhywun, neu i gael eich talu gan rywun.
Talu rhywun
Gallwch dalu unrhyw un gyda siec, os ydyn nhw’n dewis ei derbyn. Mae rhai busnesau wedi penderfynu peidio â derbyn sieciau am fod ychydig o risg yn gysylltiedig os bydd y siec yn bownsio.
Cael eich tal
Dim ond gan rywun rydych chi’n ymddiried ynddo ddylech chi dderbyn sieciau. Os yw’r siec yn un ffug, neu os nad oes gan y person ddigon o arian i dalu, gall fod yn anodd cael gafael ar yr arian.
Nodweddion sylfaenol ysgrifennu sieciau
Mae ysgrifennu sieciau’n syml ac yn ddiogel, ar yr amod eich bod yn cael y nodweddion sylfaenol yn gywir.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn:
- Ysgrifennu enw’r unigolyn neu’r sefydliad rydych yn eu talu.
- Rhoi llinell drwy unrhyw fylchau gwag ar y siec fel nad yw pobl yn gallu ychwanegu rhifau neu enwau ychwanegol.
- Ychwanegu manylion (fel cyfeirnod neu rif cyfrif) at linell y talai. Mae hyn yn gwneud yn siŵr bod yr arian yn cyrraedd y lle priodol.
- Cofio cadw bonyn y siec a fydd yn cynnwys manylion a chyfeirnod y siec.
- Cael digon o arian yn eich cyfrif i dalu gwerth y siec hyd nes y bydd yr unigolyn wedi ei thalu i mewn a’r arian wedi cael ei dynnu. Os na wnewch hynny, gallai rhai banciau godi ffi arnoch am y taliad a fownsiodd.
Delweddu sieciau
Mae rhai banciau yn gadael i chi dalu siec i mewn yn defnyddio eu hap symudol trwy dynnu llun o’r siec a chyflwyno rhai manylion.
Fel arfer mae cyfyngiad ar faint a nifer y sieciau y gallwch eu talu, megis uchafswm maint siec o £ 500-£ 1,000 y diwrnod.
Mae arian fel arfer yn clirio ar y diwrnod nesaf, dydd Llun i ddydd Gwener, ond gall gymryd mwy o amser dros y penwythnos neu ar wyliau cyhoeddus.
Byddai talu siec i mewn yn y ffordd arferol yn cymryd hyd at chwe diwrnod. Felly mae ei wneud yn ddigidol ar ap yn llawer cyflymach.
I gael atebion i gwestiynau cyffredin ar ddelweddu sieciau, ewch i wefan Cheque & Credit Clearing Company
Pryd mae’r arian yn gadael/cyrraedd eich cyfrif?
- Pan ysgrifennwch siec, fel rheol mae’r arian yn gadael eich cyfrif dri diwrnod gwaith ar ôl i’r unigolyn dalu eich siec i mewn.
- Pan dalwch siec i mewn, byddwch yn dechrau ennill llog dau ddiwrnod ar ôl iddi gael ei thalu i mewn a byddwch yn gallu tynnu arian allan erbyn y pedwerydd diwrnod. Ond ni fyddwch yn siŵr fod y siec wedi clirio (chi sy’n berchen yr arian) tan chwe diwrnod gwaith ar ôl i chi ei thalu i mewn. Os byddwch yn defnyddio’r arian yn y cyfamser, efallai bydd rhaid i chi ei dalu yn ôl.
- Os ydych yn talu'r siec i gyfrif cynilo, byddwch yn dechrau ennill llog ar ôl dau ddiwrnod, ond ni fyddwch yn gallu tynnu'r arian allan tan chwe diwrnod gwaith ar ôl iddo gael ei dalu i mewn.
- Os defnyddioch chi ddelweddu siec i dalu eich siec i mewn, bydd eich arian ar gael o fewn dau ddiwrnod gwaith - yn aml erbyn y diwrnod gwaith nesaf.
Nid oes gan sieciau ddyddiad terfyn ond mae’n arferiad i wrthod siec a gyflwynir ar gyfer taliad sydd â dyddiad yn mynd yn ôl chwe mis a mwy. Mae hyn yn ôl disgresiwn y banc neu gymdeithas adeiladu.
Stopio sieciau a phroblemau eraill gyda sieciau
Stopio siec
Oeddech chi’n gwybod?
Mae’n drosedd cyflwyno siec gan wybod y bydd hi’n bownsio neu eich bod yn bwriadu ei chanslo.
Os credwch i chi wneud camgymeriad - er enghraifft wedi ysgrifennu enw anghywir ar eich siec, neu wedi ei choll - gallwch ofyn i’ch banc ei chanslo. Codir ffi am hyn fel arfer.
Cofiwch gadw bonyn y siec a fydd yn cynnwys manylion a chyfeirnod y siec.
Cael gwybod a fydd siec yn clirio
Os nad oes gan yr unigolyn sy’n ysgrifennu’r siec ddigon o arian neu os yw’n cyflawni twyll, efallai na fydd y siec yn cael ei thalu a bydd yn ‘bownsio’.
Golyga hyn na fyddwch yn medru cadw’r arian.
Os oes arnoch angen cael gwybod ar frys a fydd siec yn bownsio gallwch ofyn am ‘gyflwyniad arbennig’.
Bydd eich banc yn anfon y siec i ffwrdd i’r banc sy’n talu gyda phost dosbarth cyntaf ac yn ei ffonio y diwrnod canlynol i gadarnhau y bydd yn cael ei thalu. Codir ffi arnoch chi am y gwasanaeth hwn.
Ni fyddwch yn cael yr arian yn gynt, ond byddwch yn cael gwybod a ydych yn mynd i’w gael o gwbl.
Gwrthod sieciau gyda’r dyddiad arnynt yn rhy hen
Fel rheol mae banciau’n gwrthod sieciau sy’n hŷn na chwe mis.
I osgoi problemau gyda sieciau gyda’r dyddiad arnynt yn rhy hen, gwnewch yn siŵr i dalu pob siec i mewn cyn gynted â phosibl.
Os bydd rhywun rydych wedi talu iddo’n gofyn i chi am siec arall - gan ddweud ei fod wedi colli’r siec wreiddiol neu fod y dyddiad arni’n rhy hen – gofynnwch i’ch banc stopio’r siec flaenorol i ddechrau.
Sieciau wedi’u dyddio ymlaen
Mae siec wedi’i dyddio ymlaen yn un gyda dyddiad yn y dyfodol arni.
Mae’n bwysig i beidio ag ysgrifennu na derbyn sieciau sydd wedi’u dyddio ymlaen. Os byddwch chi’n talu siec wedi’i dyddio ymlaen i mewn efallai y caiff ei dychwelyd atoch chi heb ei thalu
Beth yw drafft banc?
Drafft Banc
Fel rheol mae’n rhaid i chi roi rhybudd o 24 awr i fanc i baratoi drafft banc ac mae’n debygol o godi ffi arnoch chi am y gwasanaeth.
Mae drafft banc, a elwir hefyd yn siec banc, fel gofyn i fanc ysgrifennu siec i chi.
Rydych yn rhoi eich arian chi i’r banc ac mae’r banc yn rhoi siec i chi am y swm hwnnw, i’w rhoi i’r person rydych chi’n talu iddo.
Am y rheswm hwn nid ydynt yn bownsio oherwydd prinder arian.
Faint o amser mae drafft banc yn ei gymryd i glirio?
Mae’r arian ar ddrafft banc ar gael am bedwar niwrnod wedi iddo gael ei dalu i mewn.
Fodd bynnag, ni fyddwch yn siŵr fod y siec wedi clirio (yr arian yn eiddo i chi) tan chwe niwrnod gwaith ar ôl i chi ei thalu i mewn.
Os byddwch yn defnyddio’r arian yn y cyfamser, efallai bydd raid i chi ei dalu yn ôl.
Pryd ddylech chi ddefnyddio un
Yn aml iawn defnyddir drafftiau banc ar gyfer symiau mwy pan na fydd pobl na sefydliadau’n derbyn siec bersonol.
Mae nifer o ffyrdd y gallwch drosglwyddo arian i’ch cyfrif banc ac oddi yno a all fod yn gynt ac yn fwy diogel na defnyddio drafft banc.
Darganfyddwch fwy yn ein canllawiau:
Sut i drosglwyddo arian o’ch cyfrif banc
Taliadau i’ch cyfrif banc
Defnyddio drafftiau a sieciau banc yn ddiogel
Byddwch yn ofalus wrth dderbyn drafft banc. Yn enwedig ar gyfer symiau uwch. Mae hyn oherwydd y nifer o ddrafftiau ffug a gyflwynir - er enghraifft, taliadau am geir.
Nid yw drafftiau banc wedi’u gwarantu rhag twyll. Os byddwch chi’n colli drafft o’r fath neu os caiff ei ddwyn, gallai rhywun arall ei ddefnyddio mewn ffordd dwyllodrus. Byddwch yn ofalus iawn.
Cadwch gofnod o bob siec ac ysgrifennwch ar fonyn eich llyfr siec. Gwiriwch y rhain yn erbyn eich cyfriflen a rhowch wybod i’ch banc ar unwaith am unrhyw broblemau.
Ar gyfer symiau mwy, defnyddiwch ddrafft banc neu drosglwyddiad banc
Darganfyddwch fwy am wneud trosglwyddiadau banc ac ffôn ar-lein yn ein canllaw Sut i drosglwyddo arian o’ch cyfrif banc
Darganfyddwch fwy o wybodaeth am ddiogelwch, neu unrhyw agweddau eraill ar ddefnyddio sieciau a drafftiau banc, ewch i wefan Cheque & Credit Clearing Company
Os oes gennych gŵyn am siec neu ddrafftiau banc
Os yw rhywbeth wedi mynd o'i le gyda siec neu ddrafft banc, yna gallwch gwyno i Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol (FOS).