Talu gyda cherdyn debyd yw’r dewis cyntaf i lawer o bobl nad ydynt yn hoffi talu ar gredyd. Gallwch godi arian parod o beiriannau arian parod, defnyddio’ch cerdyn wrth y til neu dalu ar-lein a dros y ffôn.
Sut mae cerdyn debyd yn gweithio?
Pan dalwch gyda cherdyn debyd, daw’r arian yn uniongyrchol o’ch cyfrif.
Mae yr un fath â thynnu allan arian parod ac yna’i drosglwyddo – ond yn fwy diogel, oherwydd mae’r cerdyn yn hawdd i’w ganslo os caiff ei golli neu ei ddwyn.
Byddwch hefyd yn cael ychydig bach o ddiogelwch rhag twyll - er nad cymaint ag y byddwch chi'n ei gael gyda cherdyn credyd.
Pan ddefnyddiwch eich cerdyn mewn peiriant arian parod neu’r rhan fwyaf o siopau, bydd gofyn i chi roi eich cod PIN. Mae hyn oni bai eich bod yn defnyddio dull digyffwrdd o dalu.
Beth yw taliadau digyffwrdd?
Mae rhai cardiau debyd yn caniatáu i chi dalu hyd at £100 heb ddefnyddio eich PIN a nifer o daliadau digyffwrdd hyd at £300 cyn y gofynnir am PIN. Bydd dim ond angen i chi ddal eich cerdyn yn erbyn darllenydd. Gelwir hyn yn dechnoleg ddigyffwrdd.
Mae symbol arbennig i nodi lle gallwch dalu fel hyn, a bydd gan eich cerdyn digyffwrdd un hefyd.
Os nad oes gan eich cerdyn debyd y nodwedd hon, efallai y gallwch ofyn i’ch banc am un sy’n gwneud hynny.
Darganfyddwch fwy ar wefan UK Finance
Diogelwch digyffwrdd
Os ydych yn ofalus ynghylch y ffordd y defnyddiwch eich cerdyn digyffwrdd, yna ystyrir y broses fel un gweddol ddiogel.
Fodd bynnag, fel gyda’r mwyafrif o bethau, mae rhai risgiau ynghlwm - ac mae ambell beth y gallwch ei wneud i gadw’ch arian yn ddiogel.
Darganfyddwch fwy am ddefnyddio digyffwrdd yn ddiogel ar wefan Get Safe Online
Mathau o gerdyn debyd
Mae dau brif fath o gerdyn debyd y gellir eu defnyddio ble bynnag y gwelwch eu symbolau - Visa Debit (y mwyaf cyffredin) a Mastercard Debit
Mae’r holl gardiau debyd yn debyg iawn, gydag ychydig o wahaniaethau bach.
Manteision ac Anfanteision cerdyn debyd
Manteision
-
Hawdd i’w gario - un cerdyn bach, o’i gymharu â llwyth o arian parod.
-
Derbynnir bron ym mhob man yn y DU ac mewn llawer o leoedd o gwmpas y byd.
-
Mwy diogel nag arian parod. Os ydych yn colli eich cerdyn neu caiff ei ddwyn, gallwch ei ganslo’n gyflym, ac ni ddylech golli arian.
-
Gallwch ei ddefnyddio i gael arian, fel arfer heb dâl. Bydd rhai peiriannau arian yn codi tâl arnoch, ond byddant yn dweud wrthych ar y sgrin cyn i chi benderfynu codi arian.
-
Gyda rhai cardiau debyd, efallai y gallwch gael hyd at £50 o arian yn ôl wrth y ddesg dalu pan fyddwch yn ei ddefnyddio i brynu rhywbeth.
-
Gallwch siopa ar-lein neu dros y ffôn, nid yn unig ar y stryd fawr.
Anfanteision
-
Ni allwch eu defnyddio i fenthyg arian. Mae’n rhaid i’r arian fod yn eich cyfrif, neu mae’n rhaid eich bod wedi cytuno ar orddrafft gyda’ch banc.
-
Gall y gost o ddefnyddio eich gorddrafft fod mor uchel a 40%.
-
Cewch lai o ddiogelwch nag y cewch gyda cherdyn credyd. Felly efallai na chewch eich arian yn ôl os aiff unrhyw beth o’i le. Mae rhai darparwyr cerdyn debyd yn cynnig cynllun “Gwrthdroi Taliad” lle mae’n bosibl y byddant yn gallu adfer rhywfaint neu’r cyfan o’ch arian yn ôl.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Egluro diogelwch cardiau credyd a debyd
Taliadau a ffioedd ar gardiau debyd
Gorddrafftiau ar gardiau debyd
Os byddwch wedi codi gormod o’ch cyfrif, mae'n debyg y bydd yn rhaid i chi dalu ffioedd a thaliadau llog.
Darganfyddwch fwy am sut i gadw'ch costau i lawr yn ein canllaw Egluro gorddrafftiau
Codi arian parod wrth ddefnyddio cerdyn debyd
Nid yw'r mwyafrif o beiriannau arian parod yn codi tâl arnoch i godi arian parod gyda cherdyn debyd. Bydd y rhai sy'n gwneud hynny yn dweud wrthych chi yn gyntaf ac yn rhoi cyfle i chi ganslo os ydych chi eisiau.
Os ydych chi'n defnyddio peiriant arian parod dramor, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu ffioedd. Y peth gorau yw gwirio gyda'ch banc cyn i chi fynd. Os yw'r ffioedd yn rhy uchel, efallai yr hoffech gael cerdyn gwahanol i'w ddefnyddio tra byddwch chi i ffwrdd.
Diogelwch wrth ddefnyddio cerdyn debyd
Os cewch broblem gyda rhywbeth rydych yn ei brynu ar gerdyn debyd, efallai y gallwch gael eich arian yn ôl o’ch banc o dan y cynllun Gwrthdroi Taliad. Mae rhai darparwyr cardiau debyd yn cynnig hyn, ac mae'n golygu efallai y gallant gael rhywfaint neu'r cyfan o'ch arian yn ôl.
Er enghraifft, os ydych yn prynu soffa newydd ac mae’r cwmni yn mynd i’r wal cyn bod y soffa yn cael ei ddarparu, efallai y bydd eich banc yn gallu cael rhywfaint neu’r holl arian nol i chi.
Mae Gwrthdroi Taliad yn dibynnu ar eich banc yn gallu cael yr arian yn ôl o fanc y cwmni rydych chi'n ei brynu ganddo.
Fodd bynnag, mae defnyddwyr yn cael diogelwch cryfach pan fyddant yn prynu gan ddefnyddio cerdyn credyd - gan fod yr hawliau hyn wedi'u nodi yn y gyfraith.
Felly, os byddwch yn gwneud pryniant mawr - fel gwyliau neu ddarn newydd o ddodrefn - mae’n gwneud synnwyr defnyddio’ch cerdyn credyd i dalu am o leiaf rhywfaint o’r trafodiad.
Gallwch hawlio arian yn ôl gan eich darparwr cerdyn os aiff rhywbeth o'i le gydag unrhyw beth rydych chi wedi talu rhwng £100 a £30,000 amdano. Ac er mwyn cael y diogelwch llawn dim ond rhywfaint o hyn y mae angen i chi ei dalu ar eich cerdyn credyd.