Got a pension question? Our help is impartial and free to use. Get in touch online or over the phone on 0800 011 3797
Cau
Skip to content
Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo
English
  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
  • Credyd Cynhwysol

    Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad

    Budd-daliadau os oes gennych blant

    Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant

    Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr

    Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd

    Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd

    Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth

    Budd-daliadau a gwaith

    Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd

    Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai

    Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel

    Problemau gyda budd-daliadau

    Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau

    Budd-daliadau

    Pob canllaw Budd-daliadau

    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn Llywio Ariannol

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Bancio a thaliadau

    Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc

    Cyllidebu

    Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian

    Prynu a rhedeg car

    Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg

    Credyd

    Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd

    Yswiriant

    Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant

    Arian bob dydd

    Pob canllaw Arian bob dydd

    Teclynnau

    Teclyn

    Cymharu cyfrifon banc

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Dod yn rhiant

    Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant

    Marwolaeth a phrofedigaeth

    Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau

    Ysgariad a gwahanu

    Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu

    Salwch ac anabledd

    Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio

    Gofal tymor hir

    Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal

    Arian myfyrwyr a graddedigion

    Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr

    Siarad am arian

    Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid

    Teulu a gofal

    Pob canllaw Teulu a gofal

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Prynu tŷ

    Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth

    Rhentu

    Rhentu cartref i fyw ynddo, rhentu cartref, a goresgyn problemau

    Cartrefi

    Pob canllaw Cartrefi

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Help gyda chostau byw

    Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi

    Delio â dyled

    Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion

    Problemau a chwynion am arian

    Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion

    Sgamiau

    Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan

    Problemau ariannol

    Pob canllaw Problemau ariannol

    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Ymrestru awtomatig

    Cyflwyniad, sut mae’n gweithio, popeth am gyfraniadau

    Adeiladu eich cronfa bensiwn

    Faint rydych ei angen, ffyrdd i adeiladu'ch cronfa, trosglwyddo ac uno

    Hanfodion pensiwn

    Dechrau pensiwn, mathau o bensiwn, deall pensiynau

    Problemau pensiwn

    Cwynion, cymorth ariannol pan wedi ymddeol, newidiadau i gynlluniau

    Pensiwn y Wladwriaeth

    Sut mae’n gweithio, beth allech chi ei gael, Yswiriant Gwladol

    Cymryd eich pensiwn

    Ffyrdd o dynnu eich pensiwn, pryd allwch chi ymddeol, apwyntiadau Pension Wise

    Treth a phensiynau

    Lwfansau treth, treth a delir ar bensiynau, rhyddhad treth

    Pensiynau ac ymddeoliad

    Pob arweiniad, gan gynnwys sut i ddefnyddio'r gwasanaeth Pension Wise

    Teclynnau

    Apwyntiad

    Trefnwch apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Darganfyddwch ymgynghorydd ymddeoliad

    POB TECLYN

    Trefnwch eich apwyntiad Pension Wise am ddim

    Dros 50 oed? Cewch arweiniad diduedd, am ddim o’n gwasanaeth sydd wedi’i gefnogi gan y llywodraeth. Byddwn yn esbonio’r opsiynau i gymryd arian o’ch cron…

  • Sut i gynilo

    Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau

    Buddsoddi

    Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli

    Math o gynilion

    Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant

    Cynilion

    Pob canllaw Cynilion

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Cyflogaeth

    Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol

    Colli eich swydd

    Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo

    Hunangyflogaeth

    Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad

    Gwaith

    Pob canllaw Gwaith

    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
  • Credyd Cynhwysol Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad
    Budd-daliadau os oes gennych blant Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant
    Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd
    Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth
    Budd-daliadau a gwaith Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd
    Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel
    Problemau gyda budd-daliadau Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau
    Budd-daliadau Pob canllaw Budd-daliadau
    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn Llywio Ariannol

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Bancio a thaliadau Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc
    Cyllidebu Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian
    Prynu a rhedeg car Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg
    Credyd Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd
    Yswiriant Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant
    Arian bob dydd Pob canllaw Arian bob dydd
    Teclynnau

    Teclyn

    Cymharu cyfrifon banc

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Dod yn rhiant Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant
    Marwolaeth a phrofedigaeth Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau
    Ysgariad a gwahanu Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu
    Salwch ac anabledd Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio
    Gofal tymor hir Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal
    Arian myfyrwyr a graddedigion Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr
    Siarad am arian Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid
    Teulu a gofal Pob canllaw Teulu a gofal
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Prynu tŷ Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth
    Rhentu Rhentu cartref i fyw ynddo, rhentu cartref, a goresgyn problemau
    Cartrefi Pob canllaw Cartrefi
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Help gyda chostau byw Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi
    Delio â dyled Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion
    Problemau a chwynion am arian Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion
    Sgamiau Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan
    Problemau ariannol Pob canllaw Problemau ariannol
    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Ymrestru awtomatig Cyflwyniad, sut mae’n gweithio, popeth am gyfraniadau
    Adeiladu eich cronfa bensiwn Faint rydych ei angen, ffyrdd i adeiladu'ch cronfa, trosglwyddo ac uno
    Hanfodion pensiwn Dechrau pensiwn, mathau o bensiwn, deall pensiynau
    Problemau pensiwn Cwynion, cymorth ariannol pan wedi ymddeol, newidiadau i gynlluniau
    Pensiwn y Wladwriaeth Sut mae’n gweithio, beth allech chi ei gael, Yswiriant Gwladol
    Cymryd eich pensiwn Ffyrdd o dynnu eich pensiwn, pryd allwch chi ymddeol, apwyntiadau Pension Wise
    Treth a phensiynau Lwfansau treth, treth a delir ar bensiynau, rhyddhad treth
    Pensiynau ac ymddeoliad Pob arweiniad, gan gynnwys sut i ddefnyddio'r gwasanaeth Pension Wise
    Teclynnau

    Apwyntiad

    Trefnwch apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Darganfyddwch ymgynghorydd ymddeoliad

    POB TECLYN

    Trefnwch eich apwyntiad Pension Wise am ddim

    Dros 50 oed? Cewch arweiniad diduedd, am ddim o’n gwasanaeth sydd wedi’i gefnogi gan y llywodraeth. Byddwn yn esbonio’r opsiynau i gymryd arian o’ch cron…

  • Sut i gynilo Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau
    Buddsoddi Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli
    Math o gynilion Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant
    Cynilion Pob canllaw Cynilion
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Cyflogaeth Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol
    Colli eich swydd Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo
    Hunangyflogaeth Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad
    Gwaith Pob canllaw Gwaith
    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

Home
English
  1. Hafan
  2. Problemau ariannol
  3. Sgamiau
Problemau ariannol Sgamiau

Mathau o sgamiau

Daw sgamiau ar sawl gwahanol ffurf. Felly mae’n bwysig adnabod yr arwyddion rhybudd y dylech gadw golwg amdanynt a beth i’w wneud os ydych wedi’ch targedu, neu os ydych yn meddwl eich bod wedi’ch targedu.

Beth sydd yn y canllaw hwn

  • Gwe-rwydo
  • Llais rwydo
  • Dwyn hunaniaeth a sgamiau
  • Sgamiau buddsoddi
  • Sgamiau cryptoarian
  • Twyll swyddi
  • Twyll pensiwn
  • Twyll rhamant
  • Sgamiau Ofgem
  • Twyll taliad gwthio a awdurdodwyd (APP)
  • Sgamiau cyfrif diogel
  • Twyll ffi benthyciad
  • Gwe-gorlannu
  • Twyll neges destun (smishing)
  • Twyll meddalwedd cyfrifiadurol
  • Twyll o ddrws i ddrws
  • Twyll tocynnau
  • Sgamiau posibl eraill

Gwe-rwydo

Rhowch adroddiad am sgam

Os ydych wedi cael eich targedu neu wedi dioddef sgam, gallwch roi gwybod amdano ar wefan Action FraudYn agor mewn ffenestr newydd neu gael help gan Victim Support.Yn agor mewn ffenestr newydd

Sgam e-bost sy’n ymddangos eich bod yn cael neges o ffynhonnell ddilys, fel eich banc, Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi, PayPal, Apple neu Amazon.

Bydd y neges yn eich annog i glicio ar ddolen a mewngofnodi i’ch cyfrif, fel arfer trwy ddweud wrthych fod eich cyfrif wedi’i gloi neu fod trosglwyddiad arian mawr.

Mewn gwirionedd, mae’r ddolen yn yr e-bost yn mynd at wefan ffug sy’n casglu’ch gwybodaeth.

Mae fersiwn arall ar y sgam yn cynnwys atodiad e-bost – efallai cwpon neu ffurflen y bydd angen i chi ei llanw – sy’n firws cyfrifiadurol mewn gwirionedd.

Sut i’w adnabod

Mae dwy brif ffordd o adnabod sgam gwe-rwydo:

  1. Edrychwch ar sut rydych yn cael eich cyfarch yn yr e-bost. Yn gyffredinol bydd sgamwyr yn defnyddio cyfarchiad megis Annwyl Syr, Annwyl Madam neu Annwyl Gwsmer. Bydd negeseuon e-bost dilys yn defnyddio’ch enw.
  2. Y cyfeiriad e-bost sydd wedi anfon y neges. Agorwch yr e-bost ac ehangwch y paen ar dop y neges ac edrychwch ar yr e-bost a’i hanfonodd. Os yw’n neges go iawn, daw oddi wrth gyfeiriad cyfarwydd noreply @ bank.com. Ni fydd sgamwyr yn gallu anfon negeseuon o enw parth go iawn, felly bydd cyfeiriadau e-bost yn cael eu llenwi â llythrennau neu rifau ar hap noreply @ 1234.bank.com, neu’n cynnwys gwallau sillafu bwriadol.
Darganfyddwch fwy am we-rwydo yn Action Fraud

Beth i’w wneud

Peidiwch byth â chlicio ar y dolenni neu atodiadau mewn e-bost amheus. Os credwch y gallai problem ddilys fod â chyfrif, ewch i’r wefan yn uniongyrchol a mewngofnodi. Y ffordd hon ni fyddwch byth yn cael eich dal gan wefan ffug.

Mae gan rai sefydliadau, megis CThEF, gyfeiriad e-bost y gallwch anfon y negeseuon e-bost hyn ymlaen atynt, sy’n helpu i frwydro yn erbyn sgamiau.

Nol i’r brig

Llais rwydo

Help gyda sgamiau

Os ydych eisiau help gyda'ch anghenion presennol a help i weld a ydych yn gallu cael eich arian yn ôl, ffoniwch ein uned troseddau ariannol a sgamiau ar 0800 015 4402.

Llais-rwydo yw pan fydd sgamwyr yn ffonio ac yn esgus eu bod yn gweithio i'ch banc, cymdeithas adeiladu neu hyd yn oed asiantaeth y llywodraeth.

Yn ystod yr alwad ffôn, bydd y twyllwyr yn ceisio’ch cael i ddatgelu eich manylion personol, neu hyd yn oed i drosglwyddo arian allan o’ch cyfrif banc.

Gallai sgamwyr ddefnyddio’r dull o ‘ffug-rifau’ wrth wneud hyn. Mae ffug-rifau fel arfer yn golygu bod y sgamiwr yn newid eu ID galwr wrth wneud galwad ffôn.

Sut i’w adnabod

Mae’n anodd iawn i’w adnabod. Yr arwydd amlwg yma yw bydd y sawl sy’n ffonio’n ceisio’i orau i’ch cael i ddatgelu’ch gwybodaeth, a ni fyddai unrhyw alwr dilys yn gofyn i chi wneud hynny.

Beth i’w wneud

Os ydych yn sicr bod yr alwad yn dwyllodrus, rhowch y ffôn i lawr.

Os nad ydych yn siŵr, rhowch y ffôn i lawr a ffoniwch eich banc, cymdeithas adeiladu ar y rhif sydd ar eich cerdyn debyd neu gredyd.

Bydd hyn yn golygu gallwch fod yn siŵr eich bod yn mynd at y bobl gywir ac os oes problem, gallant roi gwybod i chi amdano.

Ond byddwch yn ofalus. Gall sgamwyr herwgipio eich llinell ffôn. Felly, pan fyddwch yn rhoi’r ffôn i lawr, arhoswch ychydig funudau cyn ffonio eich banc neu gymdeithas adeiladu neu ddefnyddiwch ffôn gwahanol.

Nol i’r brig

Dwyn hunaniaeth a sgamiau

Dwyn hunaniaeth yw pan fydd eich manylion personol yn cael eu dwyn a'u defnyddio ar gyfer gweithgaedd troseddol. Gall twyll hunaniaeth ddigwydd pan fo'r manylion hynny'n cael eu dwyn ac yna'n cael eu defnyddio i dwyllo.

Os ydych wedi cael eich hunaniaeth wedi'i dwyn, darganfyddwch sut i roi gwybod am drosedd, beth all eich banc ei wneud i gael eich arian yn ôl a sut i gael cymorth os ydych wedi cael anhawster ariannol.

Os ydych chi'n poeni am dwyll hunaniaeth ac angen ystyried gweithredoedd, fel cofrestriad diogelwch, gall CIFASYn agor mewn ffenestr newydd eich helpu chi.

Gallwch hefyd edrych ar rewi eich adroddiad credydYn agor mewn ffenestr newydd Bydd angen i chi wneud hyn gydag Experian, Equifax a TransUnion ar wahân.

Nol i’r brig

Sgamiau buddsoddi

Mae'r rhain yn debygol o fod yn sgamiau ar y cyfryngau cymdeithasol o gymeradwyaeth enwogion neu gyfrifon pobl rydych yn eu hadnabod sydd wedi’u hacio, er y gallech gael eich targedu mewn ffyrdd eraill, megis e-bost, dros y ffôn neu bobl sy'n dod i'ch tŷ.

Er bod sgamiau buddsoddi yn amrywio, mae’r egwyddor yn parhau’r un fath. Fe’ch anogir i drosglwyddo arian i fuddsoddi mewn cwmni neu gynnyrch, nad yw’n bodoli go iawn. Fel arfer nid oes unrhyw fuddsoddiad yn bodoli eisoes, ynghyd â'r twyllwr yn dwyn eich arian.

Sut i’w adnabod

Gall fod yn eithaf anodd. Gall llawer o gwmnïau y mae sgamwyr yn galw ohonynt neu’n ceisio’ch cael i fuddsoddi ynddynt edrych yn ddilys, â gwefannau, proffiliau cyfryngau cymdeithasol a geirdaon ffug.

Gweld a yw'r cwmni buddsoddi neu'r ymgynghorydd buddsoddi yn cael ei reoleiddio drwy wirio'r gofrestr ar wefan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA)Yn agor mewn ffenestr newydd Gwiriwch a yw'r cwmni ar restr rybudd yr FCAYn agor mewn ffenestr newydd neu gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol ar 0800 111 6768.

Os oes gennych amheuon gallwch wirio i weld os yw’r cwmni’n bodoliYn agor mewn ffenestr newydd trwy chwilio amdano ar wefan Tŷ’r Cwmnïau.

Ni fydd cwmni dilys yn cysylltu â chi yn ddirybudd am gyfle buddsoddi. Felly trin unrhyw gyswllt annisgwyl fel hyn yn ofalus.

Rhybudd amlwg yw os byddant yn dweud wrthych fod buddsoddiad yn cynnig cyfradd uchel o adenillion heb fawr risg. Defnyddir buddsoddiadau cryptoarian yn aml gan fod arian yn anodd ei olrhain.

Ai sgam ydyw?

Mae gan wefan ScamSmart y FCA offeryn i’ch helpu i wirio a yw cyfle i fuddsoddi neu i gael pensiwn yn dwyll.

Mae llawer mwy o wybodaeth hefyd ynglŷn ag osgoi’r twyllau diweddaraf.

Beth i’w wneud

Rhoi gwybod am sgamiau i'r FCAYn agor mewn ffenestr newydd neu Police ScotlandYn agor mewn ffenestr newydd, hyd yn oed os nad ydych wedi colli arian.

Neu, os ydych wedi colli arian i fuddsoddiad lle’r amheuir mai twyll ydyw, cysylltwch â’ch banc ac yna rhowch wybod i Action FraudYn agor mewn ffenestr newydd ar-lein neu ffoniwch nhw ar 0300 123 2040.

Darganfyddwch fwy am adnabod ac osgoi sgamiau buddsoddi yn ein canllaw  Sut i adnabod twyll buddsoddi
Nol i’r brig

Sgamiau cryptoarian

Ffordd gynyddol arall y mae pobl yn cael eu twyllo yw trwy cryptoarian.

Arian digidol yw cryptoarian. Nid yw’n bodoli mewn ffurf faterol – felly nid oes ceiniogau neu nodiadau. Mae pob cryptoarian yn cael eu trosglwyddo, storio neu gyfnewid yn electronig.

Gweler ein blog ar sut i adnabod sgamiau cryptoarian a Bitcoin.

Nol i’r brig

Twyll swyddi

Mae amrywiaeth o sgamiau swyddi. Mae'r rhain yn amrywio o gynlluniau gweithio o bell amheus, addewidion am yrfa newydd, lle gofynnir i chi dalu ymlaen llaw am hyfforddiant neu ddeunyddiau, i gael cynnig swyddi nad ydynt yn bodoli dramor, lle gofynnir i chi dalu ffi i drefnu fisâu a llety.

Math mwy diweddar o sgam swydd yw 'gweithio gartref' a sgamiau cyflogaeth gweithio hyblyg.  Efallai y dywedir wrthych y byddwch yn gwneud arian hawdd – ac efallai y gofynnir i chi dalu ffi ymlaen llaw.

Bydd sgamwyr y tu ôl i'r cynlluniau twyllodrus hyn yn gofyn am fanylion personol fel eich pasbort a manylion trwydded yrru. Bydd y sgamwyr hefyd yn creu sgwrs grŵp cyfoedion ffug sy'n seiliedig ar WhatsApp i 'brofi cyfreithlondeb'.

Er mwyn profi'r cyfreithlondeb ffug hwn ymhellach, fel arfer telir 'cyflogau' am y trafodiad cyntaf. Fodd bynnag, ar ôl hynny gofynnir i chi dalu symiau cynyddol i allu cyrchu'r lefel nesaf o 'enillion'. Yna mae'r sgamwyr yn cymryd yr arian, ac rydych chi'n cael eich rhwystro ar WhatsApp ac fel arfer nid ydych chi'n gallu cysylltu â nhw ar ôl hynny.

Ni fydd unrhyw gyflogwr yn gofyn i chi eu talu. Anwybyddu unrhyw sgamwyr sy'n cysylltu â chi gyda chynigion swydd amheus.

I gael gwybod mwy am dwyll cyflogaeth, ewch i Action FraudYn agor mewn ffenestr newydd

Serch hynny, mae’r ‘cyfleoedd’ neu’r cynnyrch yn ddiwerth ac – yn waeth byth – gallai’ch manylion cofrestru gael eu gwerthu ymlaen i sgamwyr eraill.

Darganfyddwch fwy am sgamiau swyddi yn Action FraudYn agor mewn ffenestr newydd
Nol i’r brig

Twyll pensiwn

Ers i’r rhyddid pensiwn gael ei gyflwyno yn 2015, mae’r rhai sydd wedi ymddeol yn gallu cael gafael ar symiau mawr o arian o botiau pensiwn.

Y sgil-effaith anffodus yw bod y grŵp hwn bellach yn cael eu targedu gan sgamwyr oherwydd ei bod yn bosibl iddynt gael gafael ar symiau mawr o arian.

Bydd sgamiau pensiwn fel arfer yn dilyn llwybr tebyg i sgamiau buddsoddi.

Sut i’w adnabod

Dylid trin galwadau ffôn digymell, neu unrhyw gyswllt di-ofyn drwy’r cyfryngau cymdeithasol neu e-bost, fel un amheus. Dylai unrhyw beth sy'n cynnwys enillion uchel sydd â risg isel fod yn rhybudd o berygl. O 2019, gwaharddodd y Llywodraeth alwadau diwahoddiad dros y ffôn am bensiynau, ond mae sgamwyr yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol ac e-bost yn lle hynny.

Os ydych chi am fod yn siŵr bod cwmni'n gyfreithlon, edrychwch ar gofrestr yr FCA,Yn agor mewn ffenestr newydd rhestr rybudd yr FCAYn agor mewn ffenestr newydd a gwefan Tŷ'r CwmnïauYn agor mewn ffenestr newydd

Beth i’w wneud

Rhowch wybod am sgamiau i wefan yr FCAYn agor mewn ffenestr newydd, Action FraudYn agor mewn ffenestr newydd neu Heddlu'r AlbanYn agor mewn ffenestr newydd, hyd yn oed os nad ydych wedi colli arian.

Neu, os ydych wedi cael arian wedi ei ddwyn i fuddsoddiad lle’r amheuir mai twyll ydyw, rhowch wybod i Action Fraud  ar-leinYn agor mewn ffenestr newydd neu ffoniwch nhw ar 0300 123 2040.

Darganfyddwch fwy am adnabod ac osgoi sgamiau pensiwn yn ein canllaw Sut i adnabod sgamiau pensiwn
Nol i’r brig

Twyll rhamant

Bydd rhai twyllwyr yn cysylltu â chi ar gwefan chwilio am gariad gan ddefnyddio proffil ffug. Byddant yn dweud o’r cychwyn eu bod yn byw dramor ac yn anfon e-bost atoch, gan ddod i’ch adnabod dros gyfnod o amser a bod yn gariadus a rhamantus.

Pan fyddwch wedi mynd ynghlwm byddant yn gofyn i chi am arian i berthynas sâl neu am docyn awyren i ddod i ymweld. Byddant yn hapus i fynd â’ch arian ond byth yn ymddangos.

Darganfyddwch fwy am twyll gariadYn agor mewn ffenestr newydd yn Action Fraud
Nol i’r brig

Sgamiau Ofgem

Mae rhai sgamwyr bellach yn esgus bod yn Ofgem, gan gynnig arbed arian i chi neu eich helpu i newid i ddarparwr ynni arall.

Darganfyddwch beth i'w wneud os ydych chi'n poeni am eich biliau ynni.

Gallant wneud hyn drwy gysylltu â chi drwy neges destun, e-bost neu ffordd arall, gan ofyn am fanylion personol fel eich manylion banc. Sgamiau yw'r rhain, gan na fyddai Ofgem byth yn cysylltu â chi fel hyn nac yn gofyn am wybodaeth bersonol.

Dysgwch fwy yma am sgamiau Ofgem a sut gallwch roi gwybod amdanyntYn agor mewn ffenestr newydd
Nol i’r brig

Twyll taliad gwthio a awdurdodwyd (APP)

Twyll Taliad Gwthio a Awdurdodwyd (APP), a adnabyddir yn gyffredin fel ‘sgamiau trosglwyddiad banc’, yw pan fydd sgamwyr yn eich twyllo i anfon arian atynt. Maent yn gwneud hyn trwy honni eu bod yn fusnes dilys, trwy gael gafael ar eich cyfrif e-bost neu ei hacio.

Mae hefyd yn dacteg a ddefnyddir gan sgamwyr sy'n esgus eu bod yn cysylltu o'ch banc.

Mae’r twyll hwn yn digwydd yn aml wrth i chi brynu tŷ, wneud gwaith adeiladu ar eich tŷ neu drefnu gwyliau. Mae’r sgamiwr yn rhyng-gipio e-bost cwmni ac yn anfon neges atoch yn gofyn am daliad. Gan eich bod yn aros am fil i'w dalu, gall fod yn anodd gweld mai sgam ydyw.

Mae yna dwyll cyffredin newydd lle efallai byddwch yn cael neges destun neu WhatsApp o rif ffôn newydd, yn dweud mai ffrind neu berthynas ydyn nhw sydd angen arian. Gall y negeseuon hyn fod yn argyhoeddiadol iawn, os oes amheuaeth, ffoniwch neu anfonwch neges i’r person maent yn esgus bod ar ei hen rif ffôn i wirio.

Efallai eich bod yn meddwl eich bod yn gwneud buddsoddiad dilys trwy'ch banc ond mae'r twyllwyr yn cymryd eich arian.  Efallai y cewch eich annog i brynu cryptoarian, agor cyfrif banc newydd gyda banc digidol nad oes ganddo hanes o drafodion blaenorol. Mae'r rhain yn arwyddion rhybudd cyffredin.

Sut i’w adnabod

Gall fod yn anodd iawn adnabod twyll taliad gwthio gan y gall ddigwydd ar adeg pan rydych yn disgwyl i chi gael eich gofyn am daliad neu ar adeg pan fyddwch chi’n teimlo dan bwysau, er enghraifft pan fo sgamiwr yn ddynwared eich banc. Peidiwch â chymryd yn ganiataol bod pob neges yn un dilys.

Beth i’w wneud

Os ydych yn talu trwy drosglwyddiad banc, mae angen i chi fod 100% yn hyderus eich bod yn gwybod pwy yw’r derbynnydd, gan y gall fod yn anodd cael yr arian yn ôl. Rhybudd, ni fydd eich banc na’r heddlu byth yn gofyn i chi drosglwyddo arian i gyfrif ‘diogel’, felly mae hwn yn arwydd rhybudd clir mai sgam ydyw.

Gwiriwch fod y cwmni rydych yn disgwyl rhoi taliad iddo wedi anfon yr e-bost dan sylw atoch a bod y manylion banc yn cyfateb.

Os byddwch yn dioddef, mae rheolau newydd a gyflwynwyd gan y FCA, yn golygu y gallwch gyflwyno cwyn i’ch banc a’r banc sy’n derbyn y taliad.

Mae rheolau newydd a ddaeth i rym ar 7 Hydref 2024 bellach yn ei gwneud yn ofynnol i fanciau a darparwyr taliadau eich ad-dalu os gwnaethoch anfon arian trwy drosglwyddiad banc yn y DU a’ch bod wedi dioddef twyll APP. Rhaid iddynt anfon eich ad-daliad o fewn pum diwrnod gwaith ar ôl i chi wneud cais. Mae’r rheolau newydd yn cynnwys “tâl-dros-ben opsiynol o £100” y gall eich banc neu ddarparwr taliadau ei dynnu o’ch cais.

Rydych chi wedi'ch diogelu os ydych chi'n defnyddio:

  • Taliadau Cyflymach: dyma beth fyddwch chi'n ei ddefnyddio fel arfer i anfon trosglwyddiadau banc cyflym am ddim ar unwaith i berson neu fusnes arall.
  • CHAPs: defnyddir hwn fel arfer ar gyfer trosglwyddiadau gwerth uchel, sy'n sicr o gyrraedd yr un diwrnod. Ar gyfer y trafodion hyn rydych wedi’ch diogelu gan reol gyfatebol a nodir gan Fanc Lloegr.

Cyn 7 Hydref roedd cod gwirfoddol ar gyfer banciau a darparwyr taliadau. Roedd hyn yn golygu nad oedd unrhyw ofyniad gorfodol i fanciau ad-dalu dioddefwyr twyll APP.

  • Mae unrhyw daliadau a wneir ar neu ar ôl 7 Hydref 2024 wedi’u cynnwys, ond os gwnaethoch daliad cyn y dyddiad hwn a’ch bod yn meddwl y gallai fod yn sgam, byddai eich hawliad yn dod o dan y cod ymarfer gwirfoddol blaenorol.
  • Yr uchafswm y gallwch ei hawlio yw £85,000. Os collwch fwy na hyn, gallwch godi cais gyda Gwasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol. Gallwch ddarganfod sut y gall Gwasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol eich helpu yn ein canllaw.
  • Mae ceisiasau’n amodol ar derfyn amser o 13 mis ar ôl i’r taliad diwethaf gael ei wneud i sgamiwr, felly mae’n bwysig rhoi gwybod i’ch banc neu ddarparwr taliadau cyn gynted â phosibl.
Darganfyddwch fwy am sut i gael ad-daliad am sgamiau trosglwyddiad banc yn ein blog
Nol i’r brig

Sgamiau cyfrif diogel

Bydd rhywun yn cysylltu â chi, fel arfer dros y ffôn gan honni ei fod o adran dwyll eich banc, yr heddlu neu gorff rheoleiddio fel yr FCA. Byddant yn dweud bod eich cyfrif dan fygythiad mewn rhyw ffordd ac yn eich annog i drosglwyddo'ch holl arian o'ch banc i 'gyfrif diogel' maen nhw'n ei reoli.                                                              

Peidiwch byth â rhoi manylion eich cyfrif banc, rhif PIN neu gerdyn credyd oni bai eich bod yn sicr gyda phwy rydych yn delio.

Sut i’w adnabod

Gall fod yn anodd iawn gan fod y sgamwyr yn chwarae ar eich ofnau am bobl yn cael mynediad anghyfreithlon at eich arian.

Ond y peth cyntaf i’w gofio yw na fydd banciau byth yn gofyn i chi drosglwyddo arian i ‘gyfrif diogel’.

Os oes rhywun wedi hacio’ch cyfrif, bydd eich banc yn gallu stopio arian rhag gadael y cyfrif yn gyflym iawn ac ni fyddai diben trosglwyddo’ch arian i gyfrif banc gwahanol.

Beth i’w wneud

Os oes rhywun yn cysylltu â chi ar y ffôn, rhowch y ffôn i lawr, ac os ydych yn poeni am ddiogelwch eich cyfrif, ffoniwch eich banc yn uniongyrchol.

Os ydych yn ddioddefwr o’r math hwn o dwyll, gysylltwch â’ch banc yn uniongyrchol.

Nol i’r brig

Twyll ffi benthyciad

Os ydych yn chwilio am fenthyciadau ar-lein, gallai twyllwyr gysylltu â chi a chynnig benthyciad i chi’n uniongyrchol.

Gofynnir i chi dalu ffi ymlaen llaw er mwyn cael y benthyciad, ond ni fydd yr arian fyth yn cael ei anfon atoch.

Sut i’w adnabod

Ni ddylai neb fyth ofyn i chi dalu ffi ymlaen llaw am fenthyciad.

Efallai bydd sgamwyr hefyd yn gofyn i chi mewn ffyrdd anarferol, fel drwy dalebau iTunes neu wasanaeth trosglwyddo arian.

Beth i’w wneud

Sicrhewch eich bod yn defnyddio darparwr benthyciadau dilys, trwy wirioYn agor mewn ffenestr newydd gwefan y FCA.

Nol i’r brig

Gwe-gorlannu

Yn debyg i we-rwydo, ond yn hytrach nac anfon e-bost atoch yn uniongyrchol, mae’r sgamwyr yn targedu’r wefan rydych yn ymweld â hi.

Rydych yn teipio’r cyfeiriad gwefan cywir, ond rydych wedyn yn cael eich cyfeirio at fersiwn ffug, ble y byddwch yn anfwriadol yn nodi’ch manylion mewngofnodi a gwybodaeth ddiogel.

Sut i’w adnabod

Mae rhaid i chi fod yn graff iawn. Gan eich bod wedi nodi’r cyfeiriad gwe cywir, yn naturiol byddech yn cymryd yn ganiataol eich bod wedi mynd i’r wefan gywir.

Mae sgamwyr hefyd wedi cynllunio’r gwefannau ffug hyn i edrych yn union fel yr un go iawn.

Edrychwch ar gyfeiriad y wefan. Ni fydd yn ymddangos yn ôl y disgwyl, ond fel detholiad o rifau. Neu efallai rywbeth sy’n debyg i’r enw go iawn, ond â llythrennau wedi’u cyfnewid neu sillafu gwahanol.

Beth i’w wneud

Byddwch yn graff pan fyddwch chi'n mewngofnodi neu'n ymweld â gwefannau ac edrychwch am gyfeiriadau gwefan amheus.

Mae’n bwysig hefyd cadw’ch system weithredu a meddalwedd gwrthfirws yn gyfredol.

Darganfyddwch fwy am we-gorlannu yn Norton Security
Nol i’r brig

Twyll neges destun (smishing)

Sgam ar sail neges destun yw’r rhain.

Bydd sgamwyr yn cysylltu â chi gan honni eu bod o’ch banc yn dweud bod angen i chi ddiweddaru’ch manylion personol, neu fod ryw fath o broblem.

Gallai’r neges gynnwys dolen, fel sgam gwe-rwydo, neu rif ffôn i’w ffonio. Mae’r rhif ffôn yn ffug a, phan fyddwch yn galw, bydd y twyllwyr yn ceisio’ch cael i ddatgelu’ch manylion.

Sut i’w adnabod

Mae’n anodd ei adnabod, felly os ydych yn derbyn neges fel hyn – byddwch yn amheus.

Un arwydd yw bod y rhif ffôn yn y neges yn wahanol i’r un ar eich cerdyn credyd neu ddebyd.

Os yw sgamwyr yn ffugio'r rhif, gallai ymddangos yn ddilys iawn, hyd yn oed yn gollwng i mewn i gadwyn negeseuon testun sy'n bodoli eisoes.

Beth i’w wneud

Os oes gennych amheuaeth, ffoniwch y rhif ar eich cerdyn a holi a ydynt wedi ceisio cysylltu â chi.

Peidiwch â chlicio ar unrhyw ddolenni mewn negeseuon testun. Ewch yn uniongyrchol i’r wefan bob amser a mewngofnodi yn ôl yr arfer.

Nol i’r brig

Twyll meddalwedd cyfrifiadurol

Mae hwn lle mae sgamwyr yn honni eu bod gan Apple neu Microsoft yn cysylltu â chi ar y ffôn neu e-bost. Maent yn dweud eu bod angen eich manylion talu i drwsio, diweddaru neu ddilysu eich meddalwedd.

Sut i’w adnabod

Mae’n annhebygol iawn y byddai cwmnïau cyfrifiadurol yn gwneud galwad ffôn na ofynnwyd amdano am y math hwn o faterion.

Dylech fod yr un mor amheus o alwadau o’r fath ag y byddech i alwadau neu e-bost annisgwyl.

Beth i’w wneud

Os oes gennych amheuaeth, cysylltwch â’ch cyflenwr cyfrifiadur neu feddalwedd yn uniongyrchol a pheidiwch â rhoi eich manylion talu.

Darganfyddwch fwy am dwyll gwasanaethau meddalwedd cyfrifiadurol yn Action Fraud
Nol i’r brig

Twyll o ddrws i ddrws

Daw’r rhain ar sawl ffurf, ond yn hytrach na dibynnu ar anhysbysrwydd cyfathrebu ar-lein, yn syml maent yn curo ar eich drws.

Er y gallant fod yn sgamiau buddsoddi a phensiwn, gallant hefyd geisio eich twyllo mewn ffordd fwy ymarferol – fel gwerthu cynnyrch neu wasanaeth i chi.

Enghraifft gyffredinol yw person yn honni ei fod yn adeiladwr sy’n digwydd sylwi ar ddifrod i’ch to pan oedd yn pasio. Mae casglwyr elusennol ffug a gwerthwyr yn enghreifftiau eraill.

Efallai y bydd sgamiwr yn honni ei fod yn dod o asiantaethau’r llywodraeth gan gynnwys y Gwasanaeth Arian a Phensiynau neu HelpwrArian

Nid yw Gwasanaeth Arian a Phensiynau erioed wedi, ac ni fydd byth yn dod i’ch cartref, nac yn cysylltu â chi ar hap dros y ffôn, WhatsApp, e-bost neu neges destun.

Os yw pobl yn honni sy'n honni mai ni ydynt yn galw i’ch cartref, dylech ffonio 101 i adrodd y sgamwyr, neu 999 os ydych yn teimlo’n anniogel.

Sut i’w adnabod

Byddwch yn amheus hefyd o unrhyw un sy’n cyrraedd yn ddirybudd wrth eich drws. Yn oes gyfathrebu ddigidol, mae’n annhebygol y bydd unrhyw gwmni dilys yn ceisio gweithredu yn y modd hwn.

Mae’n bwysig hefyd peidio â chael eich twyllo dim ond achos bod gan rywun gerdyn adnabod. Mae’n hawdd iawn cynhyrchu cerdyn adnabod ffug ac nid yw’n warant o gyfreithlondeb.

Beth i’w wneud

Peidiwch â mynd i siarad ag unrhyw un sy’n curo ar eich drws yn ddirybudd.

A dylai unrhyw un rydych yn amau o geisio’ch sgamio chi neu eich cymdogion gael ei adrodd wrth yr heddlu.

Darganfyddwch fwy am sgamiau gwerthu o ddrws i ddrws yn Action Fraud
Nol i’r brig

Twyll tocynnau

Mae hyn pan fyddwch yn prynu tocynnau ar gyfer cyngerdd neu ddigwyddiad chwaraeon, er enghraifft – ond nid yw’r unigolyn neu’r wefan rydych yn prynu ganddynt yn anfon tocynnau atoch, neu efallai yn anfon rhai ffug.

Mae hyn fwyaf cyffredin ar safleoedd ailwerthu neu gyfnewid tocynnau, sy’n ei gwneud yn anodd iawn i gael ad-daliad.

Er mwyn trechu towtiaid, mae nifer o ddigwyddiadau yn cyhoeddi tocynnau na ellir eu defnyddio gan neb ond y sawl sy’n eu prynu, felly ni fydd tocynnau oddi ar wefannau ailwerthu yn gweithio.

Sut i’w adnabod

Gall fod yn anodd adnabod y twyll hwn gan na fyddwch o reidrwydd yn sylweddoli eich bod wedi’ch twyllo tan ddiwrnod y digwyddiad.

Un ffordd o adnabod hyn yw trwy edrych ar y wefan.

Os yw’n wefan nad ydych yn gyfarwydd â hi, neu sydd heb fanylion cyswllt priodol, neu sy’n rhestru rhif ffôn symudol neu flwch Swyddfa’r Post yn unig – dylech ei osgoi.

Beth i’w wneud

Dylech osgoi prynu tocynnau oddi ar gyfryngau cymdeithasol neu wefannau arwerthiant os gallai fod yn anodd mynd ar drywydd y gwerthwr i gael ad-daliad.

Gwiriwch a yw’r wefan rydych chi'n ei phrynu wrthi yn aelodYn agor mewn ffenestr newydd o'r Society of Ticket Agents & Retailers (STAR).

Wrth dalu, sicrhewch fod cyfeiriad y wefan yn dechrau ag https, nid dim ond http, gan fod hyn yn golygu fod y safle’n ddiogel.

Talu â cherdyn credyd (os yw’n fwy na £100), cerdyn debyd neu PayPal, yn hytrach na throsglwyddiad banc, gan fod gennych fwy o ddiogelwch os aiff rhywbeth o’i le

Darganfyddwch fwy am dwyll tocynnau yn Action Fraud
Nol i’r brig

Sgamiau posibl eraill

Mae sawl ffordd i dwyllwyr geisio eich cael i roi eich arian iddynt.

Gallent ddwyn gwybodaeth o’ch cyfrifon cyfryngau cymdeithasol, trwy gysylltiadau Wi-Fi cyhoeddus, neu trwy amryw fathau o dwyll yswiriant.

Dyma rai sgamiau cyffredin sy’n anos eu hadnabod a’u hatal.

Twyll ffi o flaen llaw

Mae hyn yn fath arall o sgam e-bost a chyfryngau cymdeithasol, ac mae'n debyg y mwyaf adnabyddedig. Rydych chi'n cael neges yn dweud wrthych fod tâl mawr yn ddyledus i chi. Weithiau mae'r negeseuon hyn yn dod yn dirybydd, neu weithiau gallai fod yn rhywun sy'n ceisio meithrin perthynas â chi. Fel arfer, byddant yn dweud wrthych fod person cyfoethog mewn trafferth, a byddwch yn cael eich gwobrwyo am eich help.

Bydd twyllwyr yn ceisio eich argyhoeddi y gallwch dalu ffi ymlaen llaw am fenthyciad, nwyddau, gwasanaethau neu enillion ariannol na fyddwch byth yn eu derbyn.

Gofynnir i chi am eich manylion banc. Ond, wrth gwrs, nid oes arian a bydd y sgamwyr yn defnyddio'r manylion a anfonwch i gael mynediad i'ch cyfrif banc ac o bosibl ei glirio.

Mae cynlluniau tebyg yn bodoli gydag ewyllysiau a hawlio etifeddiaeth gan berthynas hirgolledig.

Sut i’w adnabod

Fel gyda llawer o'r sgamiau rydym wedi'u crybwyll hyd yma - os yw'n swnio'n rhy dda i fod yn wir, mae'n debyg nad yw’n wir.

Unwaith eto, mae'n werth gwirio'r e-bost – fel na fydd yr enw y mae'r neges yn dod ohono nac yr e-bost yn cyd-fynd. Gall sillafu a gramadeg gwael hefyd fod yn arwydd.

Beth i’w wneud

Anwybyddwch yr e-bost a pheidiwch byth ag anfon manylion talu na gwybodaeth bersonol na thalu ffi am fenthyciad neu daliad arall nad oeddech yn ei ddisgwyl.

Darganfyddwch fwy am dwyll ffi o flaen llaw ar wefan Action FraudYn agor mewn ffenestr newydd

Cynlluniau marchnata aml-lefel (MLMs)

Er nad sgam yw pob MLM, os ymunwch â MLM rydych yn dal yn debygol o golli mwy o arian nag a roddwch i mewn.

Yn nodweddiadol, bydd MLM yn sefydliad mawr sy’n cynnwys cannoedd o unigolion sy’n gwerthu nwyddau a gwasanaethau. Er enghraifft, cynhyrchion harddwch, canhwyllau, cynhyrchion glanhau a llyfrau – o gartref neu drwy ‘bartïon’.

Mae gan MLMs strwythur tebyg i gynlluniau pyramid. Ac mewn llawer o MLMs mae’n llawer mwy proffidiol i recriwtio eraill nag ydyw i ennill comisiwn o werthiannau.

Darganfyddwch fwy am MLMs yn ein blog A yw cynllun marchnata aml-lefel (MLM) yn ffordd dda o wneud arian?

Damwain am arian

Yn syml, digwydd hyn pan fydd rhywun yn cael damwain yn fwriadol er mwyn gallu hawlio ar yr yswiriant. Mewn realiti, mae’n llawer mwy cymhleth.

Bydd grwpiau, fel arfer gangiau troseddol, yn targedu pobl y maent y meddwl y bydd ganddynt yswiriant car da, neu sy’n llai tebygol o greu ffws – er enghraifft, mamau gyda phlant.

Bydd car y twyllwyr o’ch blaen ac yn sydyn bydd yn taro’r brêc, neu’n tynnu allan o gyffordd yn annisgwyl – gan achosi i chi fwrw mewn iddynt.

Byddant yn mynnu mai’ch bai chi yw’r ddamwain, ond yn barod i drosglwyddo’u gwybodaeth yswiriant.

Ychydig wythnosau yn ddiweddarach bydd eich cwmni yswiriant yn dweud wrthych beth yw manylion hawliad y gyrrwr arall. Bydd hyn yn chwyddo costau fel llogi car, neu anafiadau atchwipio.

Darganfyddwch fwy am ddamwain am arian a sut i’w osgoi ar wefan yr AA

Twyll iechyd

Os byddwch yn gweld neges e-bost neu hysbyseb yn cynnig ‘iachâd gwyrthiol’ ar gyfer moelni, canser, analluedd, acne neu golli pwysau – cadwch yn glir.

Gallech gael cynnig rhywbeth sy’n ymddangos yn feddyginiaeth amgen dilys ond nad yw’n gweithio mewn gwirionedd.

Neu gallech feddwl eich bod yn derbyn cyffuriau a meddyginiaeth yn rhad iawn neu heb bresgripsiwn ond heb fod y pethau go iawn – neu ni fyddant yn cael eu dosbarthu o gwbl.

Mewn rhai achosion, gall y meddyginiaethau hyn niweidio’ch iechyd.

Darganfyddwch fwy am sgamiau iechyd yn Action Fraud

Mulod arian

Yma gallech fod yn torri’r gyfraith yn ddiarwybod i chi ac yn helpu troseddwyr trwy ddefnyddio eich cyfrif banc i dderbyn arian sydd wedi ei ddwyn, ac yna ei anfon ymlaen – a derbyn comisiwn am helpu.

Byddai bod yn rhan o’r sgam hwn yn golygu eich bod yn torri’r gyfraith trwy wyngalchu arian.

Darganfyddwch fwy am fulod arian yn Action Fraud

Sgamiau arwerthiant ar-lein

Gall twyllwyr weithredu fel prynwyr ffug neu werthwyr ffug. Os ydynt yn prynu gennych mae’n ymddangos eu bod yn talu am y nwyddau, ond cyn gynted ag y byddwch wedi anfon y nwyddau, bydd y taliad yn cael ei dynnu yn ôl.

Mae gwerthwyr ffug yn eich cael i brynu cynnyrch nad ydynt yn bodoli ac yn syml yn diflannu â’ch arian.

Os gallwch, defnyddiwch bost sy’n cael ei olrhain i anfon yr eitem, a chadwch afael ar eich derbynneb. Peidiwch â chytuno i’r prynwr drefnu i’w gludwr ei hun ddod i nôl yr eitem.

Am ragor o wybodaeth ar sgamiau posibl eraill, darllenwch A-Z twyll yn Action Fraud
Nol i’r brig
Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Rhannu erthygl
E-bost Facebook Twitter
Rhannu hwn gyda
WhatsApp LinkedIn
Copio’r ddolen yma
Anfon e-bost
Copio’r ddolen yma
Sgamiau

Help gyda sgamiau

  • Sut i adnabod twyll pensiwn
  • Ydw i'n cael fy sgamio? Sut i ddweud a ydych wedi cael eich targedu
  • Sut i adnabod twyll buddsoddi
  • Mathau o dwyll
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan

Help gyda sgamiau

  • Sut i adnabod twyll pensiwn
  • Ydw i'n cael fy sgamio? Sut i ddweud a ydych wedi cael eich targedu
  • Sut i adnabod twyll buddsoddi
  • Mathau o dwyll
Logo Llywodraeth E.M

Darperir HelpwrArian gan:

Logo Gwasanaeth Arian a Phensiynau
Level AA conformance, W3C WAI Web Content Accessibility Guidelines 2.1 Clear English Standard for Websites logo
  • Amdanom ni
  • Cael help a chyngor
  • Cysylltu â ni
  • Partneriaethau
  • Offer a chyfrifianellau
  • Rhoi adborth
  • Cynllun Iaith Gymraeg
  • Blog

Dilynwch ni:

© 2023 Money and Pensions Service, 120 Holborn, London EC1N 2TD. Cedwir pob hawl.

  • Telerau ac amodau
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Datganiad hygyrchedd
  • Map safle
  • Sut rydym yn defnyddio cwcis
  • Dewisiadau cwcis Dewisiadau cwcis
Siaradwch â ni yn fyw am...
Cau
Siaradwch â ni yn fyw am...
Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio’r ffôn
  • O dramor: +44 20 7932 5780
  • I’r hunangyflogedig: 0345 602 7021*
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn – Sul:Wedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn
  • Cymraeg: 0800 138 0555*
  • Typetalk: 18001 0800 915 4622
  • O dramor: +44 20 3553 2279
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Blaenorol Cau

Blaenorol Cau

Blaenorol Cau

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun–Gwener8am-6pm
  • Sadwrn8am - 3pm
  • Sun and bank holidaysWedi cau
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun, Mercher, Gwener8.20am - 6.20pm
  • Tues, Thurs9am - 6.20pm
  • Sat, Sun and bank holidaysWedi cau
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion, cwestiynau credyd neu ganllaw pensiynau. Am bopeth arall, cysylltwch â ni trwy Wesgwrs neu dros y Ffôn.

Blaenorol Cau