Mae bancio ar-lein, a elwir hefyd yn fancio ar y rhyngrwyd, wedi dod yn gynyddol boblogaidd dros y ddegawd a aeth heibio. Mae’n ffordd wych o gadw rheolaeth ar eich materion ariannol ac yn un hawdd i sicrhau eich bod yn talu’ch dyledion yn brydlon.. Ond sut mae hyn yn gweithio a pha mor ddiogel ydyw
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Beth yw bancio ar-lein?
- Pa mor ddiogel yw bancio ar-lein?
- Bancio symudol diogel
- Beth os aiff rhywbeth o’i le?
- Sut i sefydlu bancio ar-lein
- Nid yw fy manc yn cynnig bancio dros y rhyngrwyd
- Sut i gael mynediad i fancio ar-lein heb gysylltiad â’r rhyngrwyd
- Darganfyddwch fwy
- Amddiffyn eich hun rhag dwyll
Beth yw bancio ar-lein?
Dangosfwrdd cyfrif
A oes gennych chi fwy nag un cyfrif? Yn sgil gwasanaethau newydd gallwch yn awr weld eich holl gyfrifon ar un ap bancio. Darganfyddwch fwy ar ein tudalen Bancio agored a rhannu'ch gwybodaeth ar-lein.
Golyga bancio ar-lein cael mynediad i’ch cyfrif banc a chwblhau trafodion ariannol dros y rhyngrwyd ar eich ffôn clyfar, tabled neu gyfrifiadur.
Mae’n gyflym, am ddim fel arfer ac yn eich galluogi i gwblhau nifer o dasgau fel talu’ch biliau a throsglwyddo arian, heb orfod ymweld â’ch banc neu ei ffonio.
Mae gan amryw o fanciau apiau am ddim hefyd sy’n eich galluogi i ddefnyddio’r gwasanaethau hyn o’ch ffôn clyfar neu dabbled.
Mae’r rhan fwyaf o fanciau yn caniatáu i chi ddefnyddio’ch cyfrif ar-lein:
- i wirio’ch cyfrif banc ar unrhyw adeg
- talu’ch biliau a throsglwyddo arian i gyfrifon eraill
- gwirio unrhyw forgeisi, benthyciadau, cyfrifon cynilo neu ISAs cysylltiedig
- gwirio’ch cyfriflenni banc a dewis peidio cael biliau papur wedi eu hanfon atoch drwy’r post
- gosod neu ganslo debydau uniongyrchol ac archebion sefydlog
- gwirio unrhyw fuddsoddiadau sydd gennych o bosib sy’n gysylltiedig â’ch cyfrif.
Pa mor ddiogel yw bancio ar-lein?
Cadw eich cyfrif ar-lein yn ddiogel
Mae banciau yn dilyn nifer o wiriadau i sicrhau bod eich cyfrif ar-lein yn ddiogel. Mae hyn yn cynnwys gwefannau wedi’u hamgodio, logio allan wedi cyfnod penodol o amser a phrosesau dilysu. Gallwch ofyn i’ch banc am ragor o fanylion.
Yn gyffredinol mae cael mynediad i’ch cyfrif banc ar-lein yn ddiogel, cyn belled â’ch bod yn sicrhau eich bod yn rhoi’r holl fanylion cywir i mewn wrth fynd ati gyda’ch trafodion a dilyn rhai rheolau:
- Gwiriwch eich cyfriflen yn rheolaidd ac adroddwch ar unrhyw weithgaredd anarferol i’ch banc.
- Peidiwch ag ymateb i negeseuon e-bost yn honni eu bod o’ch banc ac sy’n gofyn am fanylion personol neu gyfrineiriau.
- Cofiwch logio allan o’ch sesiwn bancio ar-lein.
- Defnyddiwch gysylltiadau wi-fi diogel yn unig i gael mynediad i’ch cyfrif banc.
- Yn aml nid yw cysylltiadau wi-fi cyhoeddus yn ddiogel, felly peidiwch â’u defnyddio ar gyfer bancio neu i brynu pethau. Os ydych ar grwydr gyda ffôn symudol neu dabled, mae’n fwy diogel defnyddio’ch cysylltiad 3G neu 4G.
- Diweddarwch eich system weithredu a’ch meddalwedd gwrthfeirws.
- Dewiswch eich cyfrineiriau’n ofalus – defnyddiwch dri gair ar hap a pheidiwch ag ailddefnyddio’r un cyfrinair ar gyfer gwahanol gyfrifon.
Darllenwch ragor am fancio diogel ar-lein ar wefan Get Safe Online
Darganfyddwch wybodaeth am Siopa a thalu’n ddiogel ar-lein.
Bancio symudol diogel
Mae cael mynediad i’ch cyfrif drwy eich ffôn clyfar, un ai drwy ddefnyddio gwefan neu ap bancio, yn dod yn gynyddol boblogaidd.
Mae’n ffordd gyflym a chyfleus i reoli’ch materion ariannol ac mae banciau’n buddosddi’n drwm i sicrhau bod bancio symudol yn ddiogel.
Mae gan rai banciau ar y stryd fawr hysbysiadau amser real o drafodion, fel Monzo a Starling. Mae hyn yn ei gwneud hi'n llawer haws ac yn gyflymach sylwi ar drafodion twyllodrus.
Darganfyddwch fwy yng nghanllaw penodol Get Safe Online ar fancio symudol
Beth os aiff rhywbeth o’i le?
Os sylwch ar unrhyw beth anarferol yn eich cyfrif, neu eich bod yn gwneud taliad i’r cyfrif anghywir yn ddamweiniol, cysylltwch â’ch banc cyn gynted â phosibl.
Mae rhai banciau’n cynnig rhewi cardiau ar unwaith, lle gallwch rwystro eich cerdyn yn eich app heb orfod galw nac ymweld â changen. Cysylltwch â'ch banc i wirio a ydyn nhw'n cynnig y nodwedd ddiogelwch ychwanegol hon.
Darganfyddwch fwy am Sut i drosglwyddo arian o’ch cyfrif banc
Sut i sefydlu bancio ar-lein
Mae’r rhan fwyaf o fanciau yn y DU yn darparu gwasanaeth bancio ar-lein.
I wirio a allwch chi gael mynediad ar-lein i’ch cyfrif, gwiriwch wefan eich banc, ei ffonio, neu alw i mewn i gangen.
Am resymau diogelwch, mae’r broses gofrestru’n cymryd nifer o gamau.
Gallai’r rhain gynnwys:
- ymweliad â changen leol eich banc
- cael cod sefydlu mewn neges testun ar eich ffôn symudol
- cael eich cyfrinair wedi ei bostio atoch
- cael teclyn diogelwch bychan y bydd angen i chi ei ddefnyddio i logio i mewn .
Fodd bynnag, mewn sawl achos byddwch chi'n gallu sefydlu cyfrif banc ar-lein heb adael eich cartref hyd yn oed.
Nid yw fy manc yn cynnig bancio dros y rhyngrwyd
Os nad yw’ch banc yn cynnig bancio ar-lein, neu os nad ydych yn fodlon â’r gwasanaeth a ddarperir, bydd croeso i chi symud i ddarparwr arall.
Darganfyddwch fwy yn Sut mae agor, newid neu gau eich cyfrif banc
Sut i gael mynediad i fancio ar-lein heb gysylltiad â’r rhyngrwyd
Hyd yn oed os nad oes gennych chi gysylltiad â’r rhyngrwyd gartref, efallai y gallech chi gael mynediad i’ch cyfrif wrth ddefnyddio cyfrifiadur mewn cangen o’r banc.
Efallai hefyd y gallech gael mynediad i’ch cyfrif banc ar-lein drwy gysylltiad diogel yng nghartref ffrind neu aelod o’r teulu.
Os oes gennych ffôn clyfar, efallai y gallwch gael cynllun data rhad y gallwch ei ddefnyddio i gael mynediad i'ch cyfrif banc ar-lein.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Sut i arbed arian ar eich ffôn symudol
Darganfyddwch fwy
- darganfyddwch fwy am Wneud trosglwyddiad banc dros y ffôn ac ar-lein
- darllenwch am E-daliadau – pam, pa bryd a sut i’w defnyddio
- dysgwch Sut mae dewis y cyfrif banc cywir.
Amddiffyn eich hun rhag dwyll
Yn anffodus, wrth wneud unrhyw beth ar-lein, mae'n hawdd cael eich targedu gan sgamwyr.
Darganfyddwch fwy am adnabod sgamiau, gan gynnwys gwybod pryd mae'ch banc wedi cysylltu â chi'n gyfreithlon trwy e-bost, yn ein Canllaw dechreuwyr i dwyll.
Mae hefyd yn bwysig cadw'n ddiogel wrth drosglwyddo arian. Gall fod yn hawdd trosglwyddo arian i'r cyfrif anghywir.