Mae siopa ar-lein yn ffordd wych i gymharu prisiau, canfod bargeinion ac arbed arian o unrhyw le gyda chysylltiad rhyngrwyd neu ddata symudol. Ond wrth i’w boblogrwydd gynyddu, mae’r risgiau wedi cynyddu hefyd, gyda mwy a mwy o bobl yn ceisio eich sgamio allan o’ch arian neu ddwyn eich manylion cerdyn. Yn ffodus, os byddwch yn dilyn ychydig reolau syml, gallwch gael profiad siopa ar-lein sy’n ddiogel ac yn saff.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Cynghorion diogelwch ar siopa ar-lein
- Sut i siopa’n ddiogel ar-lein
- Sut allwch chi ddweud os yw gwefan yn ddiogel
- Beth yw sgamiau gwe-gorlannu gwefan
- Diogelwch ar-lein
- Diogelwch Wi-Fi
- Ffordd ddiogelaf i brynu ar-lein
- Sut rydych wedi’ch amddiffyn wrth ddefnyddio cerdyn i brynu ar-lein
- Beth i’w wneud os bydd rhywbeth yn mynd o’i le
Cynghorion diogelwch ar siopa ar-lein
Dyma rai ffyrdd syml iawn i siopa’n ddiogel ar-lein y gallwch eu defnyddio bob dydd:
- Ymchwilio i fanwerthwyr ar-lein i sicrhau eu bod yn gyfreithlon.
- Sicrhau bod y wefan yn ddiogel.
- Gwybod eich hawliau a pholisi dychwelyd y cwmni.
- Cadw meddalwedd ac amddiffyniad rhag firws yn gyfredol a defnyddio cyfrineiriau cryf ar gyfer cyfrifon ar-lein.
- Peidio â defnyddio Wi-Fi cyhoeddus. Mae’ch cysylltiad data safonol yn fwy diogel.
- Talwch gan ddefnyddio cerdyn credyd Bydd gennych fwy o amddiffyniad. Neu defnyddiwch wasanaethau ar-lein megis PayPal - fel na fydd sgamwyr yn gallu cael gafael ar eich manylion banc.
- Byddwch yn ddoeth. Os yw bargen yn edrych yn rhy dda i fod yn wir, mae’n ddigon posibl mae fel hynny y mae hi.
Gallwch ddysgu mwy am yr awgrymiadau hyn yng ngweddill y canllaw hwn.
Am ragor o awgrymiadau ar gadw’n ddiogel wrth siopa ar-lein, ewch i Get Safe Online
Sut i siopa’n ddiogel ar-lein
Ymchwilio i’r wefan a’r gwerthwr
Mae miloedd o wefannau siopa ar y rhyngrwyd, gyda llawer ohonynt yn cynnwys miloedd yn fwy o werthwyr annibynnol. Mae mwyafrif y rhain yn gwbl gyfreithlon, ond mae adnabod y rhai twyllodrus yn gofyn am ychydig o ymchwil.
Os ydych yn defnyddio gwefan nad ydych wedi’i defnyddio o’r blaen, chwiliwch amdanynt ar-lein i weld a ydynt wedi derbyn unrhyw adborth negyddol. Ar gyfer gwerthwyr annibynnol ar wefan, gallwch wirio eu hadolygiadau ar-lein ar wefannau fel TrustPilot
Help gyda sgamiau
Os ydych eisiau help gyda'ch anghenion presennol a help i weld a ydych yn gallu cael eich arian yn ôl, ffoniwch ein uned troseddau ariannol a sgamiau ar 0800 015 4402
Mae gwefannau e-fasnach mwy adnabyddus yn fwy dibynadwy, ond gallant fod yn fregus i ymosodiadau gwe-gorlannu. Mae fwyo wybodaeth am y rhain isod.
Os oes gennych amheuaeth, gwiriwch ar Tŷ’r Cwmnïau
Ar gyfer cwmnïau gwasanaethau ariannol, gwelwch gofrestr yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA)
Dychweliadau a nwyddau ffug
Awgrym da
Os ydych yn prynu eitem ddrud, gwiriwch wefan y gwneuthurwyr i sicrhau’ch bod yn defnyddio dosbarthwr neu werthwr awdurdodedig.
Mae peth gwybodaeth y dylech ei gael cyn prynu ar-lein:
- Pa mor hir y cymer i ddosbarthu ac o ble y mae’r eitem yn cael ei hanfon? Dylai gwerthwr yn y DU neu Ewrop fod yn gallu dosbarthu o fewn wythnos, os yw’r eitem mewn stoc.
- Beth yw’r polisi dychweliadau? Os nad yw’n ymddangos bod ganddynt un, dylech fod yn amheus. Bydd gwybod beth yw’r polisi yn eich helpu os na fydd rhywbeth yn cael ei ddosbarthu neu yn cyrraedd wedi torri, hyd yn oed os nad oedd y gwerthwr yn ceisio’ch twyllo.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Hawliau defnyddwyr – yr hyn sydd angen i chi wybod
Mae marchnad fawr ar-lein ar gyfer gwerthu nwyddau ffug. Gall y rhain fod yn anodd eu hadnabod, hyd yn oed os ydych yn dal y cynnyrch yn eich llaw.
Ond bydd bod yn ymwybodol o hyn ac ymchwilio i faint y bydd y peth go iawn yn costio yn rhoi syniad i chi o ba bryd y mae’r cynnig yn rhy dda.
Sut allwch chi ddweud os yw gwefan yn ddiogel
Dim ond i wefannau diogel y dylech roi’ch manylion cerdyn. Byddwch yn wyliadwrus am yr arwyddion canlynol i wybod eich bod chi’n siopa’n ddiogel.
Cofiwch, y cyfan y bydd hyn yn ei olygu yw bod y safle yn ddiogel, ond nid os yw’r gwerthwr yn onest.
Symbol clo
Dylai symbol clo fod yn y bar cyfeiriad wrth ymyl cyfeiriad y wefan.
Cyfeiriad gwefan
Dylai ddechrau gyda https://. Ystyr yr ‘s’ yw diogel (secure).
Bar cyfeiriad gwyrdd
Ar rai porwyr a gwefannau bydd y bar cyfeiriad yn troi’n wyrdd.
Tystysgrif ddilys
Os byddwch chi’n clicio ar y symbol clo neu i’r chwith o’r bar cyfeiriad, dylech weld gwybodaeth ar y dystysgrif safle.
Dylai ddweud wrthych pwy sydd wedi cofrestru’r safle. Os byddwch chi’n derbyn rhybudd am dystysgrif, osgowch y wefan.
Darganfyddwch fwy am wefannau diogel ar y Get Safe Online
Beth yw sgamiau gwe-gorlannu gwefan
Dylech hefyd fod yn ymwybodol o sgamiau gwe-gorlannu, ble y mae twyllwyr yn ymosod ar y wefan rydych yn ceisio’i defnyddio .
Bydd yn ymddangos eich bod wedi mynd i’r wefan gywir, ond mae’n wefan ffug wedi’i chynllunio i ddwyn eich gwybodaeth. Byddwch ar eich gwyliadwriaeth am gyfeiriadau gwe sy’n edrych yn rhyfedd gyda detholiad o rifau neu sillafiad gwahanol.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Mathau o sgamiau
Diogelwch ar-lein
Mae sawl peth y gallwch ei wneud i gadw’ch hun yn ddiogel ar-lein .
Sicrhewch fod eich amddiffyniad gwrth-firws a meddalwedd yn gyfredol. Mae diweddariadau yn aml yn cynnwys newidiadau sy’n helpu i’ch amddiffyn rhag sgamwyr a throseddwyr ar-lein .
Dewiswch gyfrineiriau cryf bob amser ar gyfer eich cyfrifon ar-lein, gan ddefnyddio cyfuniad o lythrennau bach, priflythrennau, rhifau a nodau arbennig. Mae defnyddio ymadrodd neu frawddeg yn arfer da .
Darganfyddwch fwy am greu cyfrineiriau cryf, diogel ar Get Safe Online
Diogelwch Wi-Fi
Sicrhewch fod y cysylltiad rhyngrwyd rydych yn ei ddefnyddio yn ddiogel.
Peidiwch â defnyddio Wi-Fi cyhoeddus mewn siopau coffi, canolfannau siopa a mannau eraill i:
- siopa ar-lein
- defnyddio bancio rhyngrwyd, neu
- unrhyw beth sy’n gofyn i chi anfon gwybodaeth bersonol .
Mae hyn oherwydd bod Wi-Fi cyhoeddus yn aml yn anniogel. Mae hyn yn golygu y gall twyllwyr gael gafael ar wybodaeth y byddwch yn ei hanfon tra’ch bod wedi’ch cysylltu â’r rhwydweithiau hyn.
Mae hyd yn oed eich data symudol arferol yn fwy diogel na Wi-Fi cyhoeddus.
Ffordd ddiogelaf i brynu ar-lein
Cofiwch
Hyd yn oed os ydych yn defnyddio cerdyn credyd trwy PayPal neu wasanaeth tebyg, ni fyddwch yn derbyn yr amddiffyniad ychwanegol o dan adran 75 o Ddeddf Credyd Defnyddwyr.
Mae amddiffyn eich hun wrth dalu yn bwysig iawn. Gallech golli peth arian os ydych yn prynu gan werthwr ffug, ond gallech golli llawer, neu hyd yn oed bopeth, os yw’ch manylion yn cael eu dwyn .
Mae nifer o fanciau a chymdeithasau adeiladu yn ychwanegu diogelwch atodol pan fyddwch chi’n prynu ar-lein, yn cynnwys awdurdodiad dau ffactor (2FA).
Mae hyn yn golygu, pan fyddwch ar dudalen dalu ar-lein, bydd rhaid i chi basio lefel ychwanegol o ddiogelwch i brofi mai chi sy’n prynu.
Y math mwyaf cyffredin o 2FA yw cod unigryw, a anfonir trwy neges destun, i’r rhif ffôn sydd wedi ei gofrestru i’r cyfrif. Fodd bynnag, gallai hefyd gynnwys cwestiwn diogelwch, mewngofnodi i’ch ap bancio symudol neu sganio’ch ôl bys.
Mae defnyddio gwasanaeth e-arian fel PayPal yn werth ei ystyried gan nad oes rhaid i chi roi eich union fanylion cerdyn.
Gallwch ddysgu mwy am E-daliadau – pam, pryd, a sut i’w defnyddio
Sut rydych wedi’ch amddiffyn wrth ddefnyddio cerdyn i brynu ar-lein
O dan adran 75 Deddf Credyd Defnyddwyr, bydd talu trwy ddefnyddio cerdyn credyd yn rhoi amddiffyniad ychwanegol i chi ar bryniannau dros £100 a hyd at £30,000. Mae hyn yn golygu bod gan y darparwr cerdyn gyfrifoldeb ar y cyd gyda’r gwerthwr ar gyfer eitemau diffygiol, anfoddhaol neu sydd heb eu dosbarthu.
Gallech dderbyn sicrwydd hefyd am bryniannau sy’n llai na £100 a wneir ar gerdyn debyd neu gredyd o dan y cynllun gwirfoddol a elwir yn ‘chargeback’. Mae hyn yn caniatáu i chi hawlio ad-daliad gan eich darparwr cerdyn os nad yw pryniant yn cyrraedd neu os yw’n ddiffygiol.
Darganfyddwch fwy am amddiffyniad cerdyn credyd a chargeback yma
Beth i’w wneud os bydd rhywbeth yn mynd o’i le
Y cam cyntaf, os ydych chi wedi derbyn eitemau anghywir neu ddiffygiol, yw cysylltu â’r gwerthwr ar-lein a’r wefan y gwnaethoch ei defnyddio megis eBay neu Amazon.
Os gwnaethoch dalu â charden ac nad ydych yn hapus ag ymateb y manwerthwr, neu os nad ydych chi wedi derbyn ymateb, cysylltwch â’r darparwr cerdyn .
Os credwch fod eich cerdyn wedi ei ddefnyddio’n dwyllodrus, rhowch wybod i’ch banc ar unwaith er mwyn iddo allu rhoi stop ar unrhyw ddefnydd pellach ohono .
Cyhyd â nad ydych wedi gweithredu’n dwyllodrus neu’n esgeulus, fel arfer byddwch yn cael eich arian yn ôl gan eich cerdyn credyd os defnyddir eich manylion cerdyn ar-lein gan droseddwr i gyflawni twyll.
Os ydych yn credu eich bod wedi’ch targedu gan dwyll, gallwch hefyd ei adrodd i Action Fraud ar 0300 123 2040, neu ddefnyddio eu teclyn adrodd ar-lein
Neu gallwch ei adrodd ar ScamSmart y FCA