Trosglwyddiad banc yw pan anfonir arian o un cyfrif banc i un arall. Mae trosglwyddo arian o’ch cyfrif banc yn broses gyflym fel arfer, yn rhad ac am ddim ac yn fwy diogel na thynnu arian allan a thalu gydag arian parod.
Sut i wneud trosglwyddiad banc
Mae bancio dros y ffôn ac ar-lein yn cynnig ffordd gyflym, sydd fel arfer am ddim a rhwydd i chi fedru trosglwyddo arian i mewn i gyfrif arall.
Mae yna sawl ffordd y gallwch wneud trosglwyddiad banc.
Ymysg y dulliau mwyaf cyffredin o drosglwyddiadau banc yw:
Trosglwyddiadau banc ar-lein
Mewngofnodwch i’ch cyfrif ar-lein a dewiswch yr opsiwn ar gyfer gwneud taliad. Dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrin a rhowch y manylion cywir i mewn. Mae rhai banciau yn cynnig apiau ffôn clyfar sy’n eich galluogi i drosglwyddo arian. Darganfyddwch sut i sefydlu cyfrif ar-lein yn ein canllaw Sut i gadw'n ddiogel wrth ddefnyddio bancio ar-lein.
Trosglwyddiadau dros y ffôn
Ffoniwch wasanaeth bancio dros y ffôn eich banc. Bydd cynrychiolydd gwasanaethau cwsmeriaid y banc yn eich arwain chi drwy’r broses. Mewn rhai achosion gallech gael eich arwain drwy’r cyfan gan recordiad awtomatig.
Trosglwyddiadau banc yn y gangen
Os yw’r arian gennych mewn arian parod, gallwch ei dalu i mewn i gyfrif yr unigolyn sydd arnoch yr arian iddo, yn y gangen.
Pa fanylion sydd eu hangen arnoch i drosglwyddo arian?
Peidiwch byth â thalu unrhyw un nad ydych yn ei adnabod trwy drosglwyddiad banc. Os bydd pethau’n mynd o chwith, does dim rhaid i’ch banc ad-dalu’r arian i chi. Darganfyddwch fwy ar wefan Get Safe Online
Pa bynnag ffordd y dewiswch i drosglwyddo arian, fel arfer bydd angen y manylion canlynol arnoch am yr unigolyn neu’r sefydliad yr ydych yn ei dalu:
- Y dyddiad pryd rydych am i’r taliad gael ei wneud.
- Enw’r unigolyn neu’r busnes rydych am ei dalu.
- Cod didoli chwe digid y cyfrif rydych yn ei dalu.
- Rhif cyfrif wyth digid y cyfrif rydych yn ei dalu.
- Cyfeirnod talu (eich enw neu eich rhif cwsmer fel rheol) i wneud yn siŵr eu bod nhw’n gwybod bod yr arian yn dod gennych chi.
- Weithiau byddwch angen enw a chyfeiriad y banc rydych yn anfon yr arian iddo. Mae hyn o gymorth iddynt wirio bod y cod didoli yn gywir.
Faint o amser mae’n ei gymryd i drosglwyddo’r arian?
Bydd taliadau a wneir drwy ddefnyddio Taliadau Cyflymach weithiau’n cael eu derbyn ar unwaith ar ôl gadael eich cyfrif. Ond gall gymryd hyd at 2 awr.
Mae’r opsiwn hwn yn rhad ac am ddim, ar gael 24 awr y dydd ac yn aml iawn yn cael ei ddefnyddio mewn bancio ar-lein, apiau symudol, dros y ffôn neu mewn cangen.
Mae’r rhan fwyaf o fanciau yn caniatáu i chi drosglwyddo o leaf £10,000, ond mae gan eraill derfynau llawer uwch.
Gallwch wirio trefyn eich banc ar wefan Faster Payments
Gallwch hefyd ddefnyddio:
- Taliadau BACS – Mae’r rhain yn cymryd hyd at dri diwrnod gwaith i glirio. Darganfyddwch fwy ar wefan UK Finance
- CHAPS (Clearing House Automated Payment System) – Bydd taliadau’n mynd trwodd ar yr un diwrnod, os caiff y trosglwyddiad ei wneud erbyn rhyw amser penodol. Darganfyddwch fwy ar wefan Bank of England. Mae taliadau CHAPS yn aml yn codi ffi.
- E-Daliadau – Gallwch ddefnyddio darparwyr fel PayPal neu Google Pay i anfon arian ar-lein os ydych yn anghyfforddus i rannu eich manylion banc. Darganfyddwch fwy yn ein canllaw E-daliadau – pam, pryd a sut mae eu defnyddio
Beth mae cadarnhad o’r talai yn ei olygu?
Mae hwn yn gynllun newydd a gynigir gan y mwyafrif o fanciau'r stryd fawr (ac ar-lein) i roi mwy o ddiogelwch i chi wrth anfon arian trwy drosglwyddiad banc.
Pan geisiwch wneud trosglwyddiad banc i berson nad ydych wedi ei dalu o'r blaen, bydd eich banc yn gwirio bod yr enw a roddwyd i chi yn cyfateb i'r enw sydd wedi'i gofrestru â'r rhif cyfrif a'r cod didoli hwnnw.
Os na fydd, bydd eich banc yn eich rhybuddio, naill ai bod yr enw yn cyfateb yn agos neu ei fod yn hollol anghywir. Os bydd hyn yn digwydd, gwiriwch ddwywaith bod gennych y manylion banc cywir oherwydd gallai hyn fod yn arwydd bod sgamiwr yn ceisio eich twyllo i anfon arian atynt.
Darganfyddwch fwy am ddwyn hunaniaeth a sgamiau, a sut i gael eich arian yn ôl, yn ein canllaw Dwyn hunaniaeth a sgamiau: sut i gael eich arian yn ôl
Ar hyn o bryd, mae cadarnhad o’r talai dim ond yn gweithio ar gyfer taliadau cyflym a CHAPS. Nid yw’n gweithio ar gyfer BACS ar hyn o bryd. Gallwch wirio os yw’ch banc yn cynnig y cynllun ar wefan UK Finance
Osgoi anawsterau gyda throsglwyddiadau banc
Gwirio’r manylion dwywaith
Gwiriwch bob ffigwr, hyd yn oed os yw eich banc yn eu llwytho ymlaen llaw. Gall fod yn anodd cael eich arian yn ei ôl os byddwch yn ei anfon i’r cyfrif anghywir (rhagor am hyn isod). Gall hefyd fod yn werth chweil gwneud ''taliad prawf'' llawer llai o £1 neu lai cyn trosglwyddo'r swm llawn.
Gofynnwch i’r sawl sydd ar ben arall y ffôn yn ailadrodd y ffigurau a’r enwau yn ôl i chi
Os ydych yn gwneud trosglwyddiad drwy eich gwasanaeth bancio dros y ffôn, gofynnwch i’r sawl sydd wedi ateb eich galwad ailadrodd pob rhif a llythyren i chi.
Byddwch yn ofalus rhag mynd i orddrafft
Oni bai eich bod wedi nodi dyddiad talu yn y dyfodol, bydd yr arian yn gadael eich cyfrif ar unwaith. Felly gwnewch yn siŵr fod gennych ddigon o arian ar gael, rhag gorfod wynebu ffioedd costus.
Talwch sylw i’r rhybuddion ‘cadarnhad o dalai’
Fel yr esboniwyd uchod, os yw’r enw a roddwyd i chi ddim yn paru gyda’r enw sydd wedi’i godnodi i’r manylion cyfrif hwnnw, efallai eich bod yn delio â sgamiwr. Cymerwch ofal cyn gwneud y taliad.
Darganfyddwch fwy am osgoi sgamiau troslwyddiad banc ar wefan FCA a’r gwefan Take Five
Dulliau eraill o dalu
Os bydd angen i chi wneud taliad yn aml, fel bil ynni misol er enghraifft, gallai fod yn fwy buddiol i chi sefydlu Debyd Uniongyrchol neu archeb sefydlog.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Debydau Uniongyrchol ac archebion sefydlog
Gall sieciau fod yn ffordd ddefnyddiol o anfon arian neu dalu biliau unigol.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Sut i ddefnyddio sieciau a drafftiau banc
Beth os bydd problem?
Os cewch broblem gyda thaliad - er enghraifft, os na fydd yr arian yn cyrraedd - eich cam cyntaf yw cysylltu â’ch banc
Ni fydd eich banc yn gallu atal y taliad os yw wedi'i wneud eisoes. Cadwch gofnod o'r holl ohebiaeth sydd gennych â'ch banc wrth ddatrys y broblem. A gwnewch nodyn o'r gwall, gan gynnwys y dyddiad y cafodd ei wneud a'r manylion banc y gwnaethoch anfon yr arian atynt.
Bydd eich banc yn dechrau ymchwilio o fewn dau ddiwrnod gwaith ar ôl i chi ddweud wrthynt amdano – does dim ots os na ddigwyddodd y gwall yn ddiweddar.
Ar ôl i'r banc ymchwilio, dylid dychwelyd eich arian o fewn 20 diwrnod gwaith. Os yw’n amlwg ei fod yn gamgymeriad dilys, bydd eich banc yn cysylltu â’r banc y gwnaethoch anfon yr arian atynt ar gam i gael eich arian yn ôl.
Os oes problemau - er enghraifft, os bydd y person y gwnaethoch ei anfon atynt ar ddamwain yn gwrthod ei ddychwelyd - bydd eich banc yn rhoi gwybod i chi am ganlyniad eu hymchwiliad o fewn 20 diwrnod gwaith o'r dyddiad y gwnaethoch rhoi gwybod am y gwall.