Mae Debydau Uniongyrchol ac archebion sefydlog yn gwneud yn siŵr bod eich biliau chi’n cael eu talu’n awtomatig. Mae’n bwysig gwybod sut a phryd i’w defnyddio, beth yw’r costau a sut mae datrys unrhyw broblemau.
Beth yw’rgwahaniaeth rhwng Debydau Uniongyrchol ac archebion sefydlog
Debydau Uniongyrchol
Mae’r rhain yn rhoi caniatâd i gwmni gymryd arian o’ch cyfrif banc ar ddyddiad a gytunir. Er enghraifft, efallai y byddwch yn defnyddio Debyd Uniongyrchol i dalu eich biliau nwy a thrydan.
Mae angen i'r cwmni roi gwybod i chi am unrhyw newid i'r swm neu'r dyddiad.
Archebion sefydlog
Mae’r rhain yn rhoi cyfarwyddyd i fanc dalu union swm penodol i'w cyfrif yn rheolaidd. Er enghraifft, gallech sefydlu archeb sefydlog i dalu’ch rhent.
Beth yw Debyd Uniongyrchol?
Oeddech chi’n gwybod?
Yn ôl yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol, rydych yn llai tebygol o wynebu ffioedd gorddrafft heb eu trefnu os defnyddiwch ap bancio symudol a gwasanaeth rhybuddio drwy neges destun.
Pan rydych yn sefydlu Debyd Uniongyrchol, rydych yn dweud wrth eich banc neu gymdeithas adeiladu am adael i sefydliad gymryd taliadau o’ch cyfrif.
Gall y sefydliad gasglu faint bynnag sy’n ddyledus iddynt gennych chi. Ond mae’n rhaid iddynt ddweud wrthych chi ymlaen llaw (deng niwrnod gwaith fel rheol) faint fyddant yn ei gymryd, pa bryd, a pha mor aml.
Mae Debydau Uniongyrchol yn ddefnyddiol i dalu biliau rheolaidd, fel nwy neu drydan, yn enwedig os yw’r swm yn newid yn rheolaidd.
Beth sy’n dda amdanyn nhw?
Maent yn arbed amser ac ymdrech i chi, gan nad oes angen poeni am gofio talu bil. Ac rydych yn osgoi dirwyon am dalu’n hwyr.
Maent hefyd yn arbed arian. Mae llawer o ddarparwyr cyfleustodau, fel darparwyr nwy a thrydan, yn rhoi gostyngiad i chi am dalu drwy Ddebyd Uniongyrchol.
Ac maent yn ddiogel a sicr. Bydd y banc yn talu unrhyw daliadau anghywir yn ôl i chi.
A oes unrhyw anfanteision?
Mae angen i chi gadw rheolaeth. Cadwch lygad ar eich Debydau Uniongyrchol a gwnewch yn siŵr fod gennych ddigon o arian yn eich cyfrif i wneud y taliadau. Ceisiwch sefydlu trefn atgoffa i chi’ch hun i wirio.
Mae hyn yn rhwydd i’w wneud, yn enwedig os oes gennych chi fynediad ar-lein i’ch cyfrif. Os na gallech wynebu costau gan eich banc – gweler Ydyn nhw’n costio unrhyw beth? isod.
Pwy sy’n gallu eu defnyddio?
Unrhyw un gyda Chyfrif cyfredol neu Gyfrif banc sylfaenol. Gellir defnyddio rhai cardiau rhagdaledig neu gyfrifon undeb credyd ond ni ellir gwneud hynny gyda chyfrifon cerdyn Swyddfa’r Post.
Mae'r isafswm oedran y gellir eu defnyddio yn seiliedig ar yr isafswm oedran am agor cyfrif banc, sydd ar gyfer rhai cyfrifon mor ifanc ag 11 oed, felly holwch eich banc neu eich cymdeithas adeiladu.
Sut i sefydlu Debyd Uniongyrchol
Bydd y sefydliad sy’n casglu’r taliadau’n dweud wrthych chi beth i’w wneud. Fel rheol rydych chi’n llenwi ffurflen ac yn ei hanfon atynt, neu’n ei sefydlu ar-lein neu dros y ffôn. Byddant yn rhoi gwybod i’ch banc chi.
Gallwch hefyd ganslo Debyd Uniongyrchol ar unrhyw adeg drwy gysylltu â’ch banc – gallwch wneud hyn weithiau drwy bancio ar-lein.
Ydyn nhw’n costio unrhyw beth?
Na. Nid yw banciau’n codi tâl arnoch am wneud neu sefydlu Debydau Uniongyrchol.
Ond gwyliwch am daliadau a wrthodir. Os nad oes gennych ddigon o arian yn eich cyfrif i dalu Debyd Uniongyrchol gall eich banc wrthod gwneud y taliad a gall godi tâl arnoch. Mae'r tâl hyn fel arfer rhwng £5 a £25. Hyd yn oed os byddant yn gwneud y taliad gallech fynd i’r coch heb sylwi. Mae hyn yn golygu y bydd rhaid i chi dalu ffioedd gorddrafft.
Bydd nifer o fanciau yn ceisio cysylltu â chi os bydd taliad wedi methu felly bydd gennych chi amser i roi’r arian yna i mewn. Os na fyddant yn cynnig hyn, ystyriwch newid i ddarparwr sydd.
Darganfyddwch fwy am y broses ailgynnig yn y cynllun Payment UK’s ‘Pay your way’
Beth os oes problem gyda Debyd Uniongyrchol?
Mae’r Gwarant Debyd Uniongyrchol yn eich gwarchod chi. Mae hyn yn golygu os bydd y banc neu’r sefydliad sy’n casglu’r Debyd Uniongyrchol yn gwneud camgymeriad - fel cymryd y swm anghywir - gallwch gael ad-daliad gan eich banc.
Os yw’ch darparwr yn mynd i ddwylo'r gweinyddwyr, mae’r warant Debyd Uniongyrchol yn ôl disgresiwn y banc.
Os cewch broblem gyda Debyd Uniongyrchol, dylech gysylltu â’ch banc.
Darganfyddwch fwy am Ddebyd Uniongyrchol ar wefan BacsYn agor mewn ffenestr newydd
Beth yw archeb sefydlog?
Awgrym da
Gallwch ddefnyddio archeb sefydlog i drosglwyddo arian i’ch cyfrif cynilo yn awtomatig. Dechreuwch gyda swm bychan a gwyliwch eich cynilion yn tyfu.
Pan sefydlwch archeb sefydlog, rydych chi’n dweud wrth eich banc neu eich cymdeithas adeiladu am wneud taliadau rheolaidd i gyfrif banc neu gymdeithas adeiladu penodol.
Nid yw archeb sefydlog yr un fath â Debydau Uniongyrchol. Maent yn talu’r union swm a ddewiswch - nid y swm sy’n ddyledus gennych chi i’r sefydliad.
Gallwch eu sefydlu i ddal ati i dalu am gyfnod amhenodol, i orffen ar ddyddiad penodol neu ar ôl cyfres benodol o daliadau.
Chi sy’n rheoli’n llwyr - gallwch eu dechrau neu eu stopio neu newid y taliad pryd bynnag rydych chi’n dymuno.
Maent yn ddefnyddiol ar gyfer talu costau sefydlog, fel eich rhent.
Beth sy’n dda amdanyn nhw?
Maent yn ddefnyddiol pan na allwch ddefnyddio Debyd Uniongyrchol. Er enghraifft, er mwyn gwneud taliadau rheolaidd i unigolyn, fel eich landlord.
Gallwch eu defnyddio i symud arian rhwng eich cyfrifon eich hun. Gallai hyn fod yn ddefnyddiol, er enghraifft, os ydych eisiau talu swm penodol bob mis i gyfrif cynilo.
Pwy sy’n gallu eu defnyddio?
Gallwch sefydlu archebion sefydlog o Gyfrifon cyfredol a Chyfrifon banc sylfaenol. Gellir defnyddio rhai cardiau rhagdaledig neu gyfrifon undeb credyd - ond ni ellir gwneud hynny gyda Chyfrifon Cerdyn Swyddfa’r Post.
Sut i sefydlu archeb sefydlog
Gyda rhai banciau a chymdeithasau adeiladu, gallwch eu sefydlu ar-lein neu dros y ffôn.
Fel arall, gallwch lenwi ffurflen archeb sefydlog a’i rhoi i’ch banc. Bydd angen rhif y cyfrif a chod didoli y person rydych yn ei dalu.
Gallwch ganslo archeb sefydlog ar unrhyw adeg, neu newid y swm neu ddyddiad y taliad.
Ydyn nhw’n costio unrhyw beth?
Na. Nid yw banciau yn codi ffi arnoch chi am sefydlu archebion sefydlog.
Ond gwyliwch am daliadau a wrthodir. Os nad oes digon o arian yn eich cyfrif i dalu archeb sefydlog gall eich banc wrthod gwneud y taliad a gall godi tâl arnoch. Fel arfer bydd y tâl hwnnw rhwng £5 a £25. Hyd yn oed os bydd y banc yn caniatáu’r taliad, gallech fynd i orddrafft heb sylwi – sy’n golygu y bydd rhaid i chi dalu taliadau a ffioedd gorddrafft
Golyga’r ‘broses ailgynnig’ bod gennych chi tan 2 pm ar y diwrnod - fel isafswm - i dalu arian i mewn i’r cyfrif ar gyfer y taliad pan fydd eich banc neu gymdeithas adeiladu yn rhoi ‘ailgynnig’ y diwrnod hwnnw.
Bydd llawer o ddarparwyr yn cysylltu â chi ar y diwrnod os bydd taliad wedi methu. Mae hyn fel bod gennych chi amser i roi arian yn eich cyfrif. Os nad yw eich banc neu gymdeithas adeiladu yn gwneud hyn, ystyriwch newid i ddarparwr sydd.
Darganfyddwch fwy am y broses ailgynnig yn y canllaw Payment UK’s ‘Pay your way’
Sut mae osgoi a datrys problemau gydag archebion sefydlog
Dyma rhai awgrymiadau:
- Adolygwch eich archebion sefydlog yn rheolaidd, a stopio taliadau i wasanaethau nad oes eu hangen arnoch mwyach.
- Gwiriwch y manylion banc rydych chi’n eu rhoi, a’r swm a’r dyddiad talu.
- Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod y taliad am y swm cywir os bydd yn newid. Er enghraifft ar gyfer taliad morgais os yw’r cyfraddau llog yn newid.
- Os cewch chi broblem gydag archeb sefydlog, cysylltwch â’ch banc.
Awdurdodautaliad parhaol
Mae’n bwysig peidio â chymysgu Debyd Uniongyrchol a Rheolau Sefydlog gydag awdurdodau taliad parhaol (CPAs).
Mae CPAs yn cymryd taliadau o’ch cerdyn debyd neu gredyd, tra bod Debyd Uniongyrchol a Rheolau Sefydlog yn cymryd taliadau o’ch cyfrif banc.
Mae’n well osgoi CPAs. Mae hyn oherwydd maent yn galluogi cwmnïoedd – fel benthycwyr diwrnod cyflog, neu wasanaethau tanysgrifio penodol, fel aelodaeth gampfa – gymryd yr arian maent yn credu sy’n ddyledus gennych iddynt, pan maent yn meddwl ei fod yn ddyledus iddynt.
Mae problemau hefyd wedi bod wrth ganslo CPAs.