Darganfyddwch sut i ddewis y cyfrif banc cywir i chi. Gallai hyn fod p'un a ydych yn ceisio penderfynu pa fath o gyfrif sy'n gweddu orau i'ch anghenion neu a ydych eisiau gwybod pa nodweddion cyfrif y dylech eu cymharu. Neu efallai eich bod yn ystyried newid eich cyfrif banc.
Dewis y math o gyfrif sy’n addas i’ch anghenion
Cyfrifon cyfredol
Mae’r rhan fwyaf o bobl yn defnyddio cyfrif cyfredol â banc neu gymdeithas adeiladu i reoli eu harian o ddydd i ddydd.
Mae’n galluogi i chi wneud y canlynol:
- talu biliau trwy Ddebyd Uniongyrchol neu archeb sefydlog
- derbyn taliadau awtomataidd fel salari, cyflog, neu fudd-daliadau
- cael mynediad at orddrafft, er y bydd angen i’r banc awdurdodi hyn
- talu am bethau â cherdyn debyd a chodi arian o beiriannau arian parod.
I’ch helpu i reoli eich arian gallwch:
- defnyddio’r ap bancio diogel, i wirio ac i wneud taliadau.
- sefydlu negeseuon testun sy’n eich rhybuddio os yw’ch balans yn isel.
Os ydych wedi gorfod defnyddio’ch gorddrafft yn y gorffennol, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio’r ffioedd a’r costau am fynd i orddrafft.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Cyfrifon cyfredol
Os ydych yn cael anhawster agor cyfrif â banc neu gymdeithas adeiladu, mae'n werth ystyried cyfrif cyfredol undeb credyd.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw i Cyfrifon cyfredol undebau credyd
Os ydych yn ystyried sefydlu cyfrif cyfredol ar y cyd i reoli arian rydych yn ei rannu â rhywun arall, darganfyddwch fwy yn ein canllaw Cyfrifon banc ar y cyd
Cyfrifon pecyn cyfredol
Awgrym Da
Os ydych yn ystyried agor cyfrif pecyn, edrychwch faint o'r buddion ychwanegol y byddech yn eu defnyddio mewn gwirionedd ac a allwch eu cael yn rhatach yn rhywle arall.
Mae rhai cyfrifon cyfredol yn cynnig nodweddion ychwanegol ac maent yn codi ffi am hynny. Gall hyn fod cymaint â £25 y mis.
Gelwir y rhain yn gyfrifon pecyn.
Mae’r ychwanegiadau’n cynnwys:
- cynigion arbennig, fel cyfraddau llog ffafriol ar orddrafft
- yswiriant rhag i’ch car dorri i lawr
- sicrwydd yswiriant, fel yswiriant teithio neu ffôn symudol
- gwasanaethau ychwanegol.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Cyfrifon banc pecyn
Cyfrifon banc sylfaenol heb ffi
Gall cyfrif banc sylfaenol heb ffi fod yn werth ei ystyried os na allwch agor cyfrif cyfredol arferol, o bosib gan fod eich sgôr credyd yn isel neu os nad oes gennych hanes credyd.
Wedi i chi gael un am gyfnod o amser efallai y cewch gynnig cyfrif cyfredol gan fanc.
Nid oes gan gyfrif banc sylfaenol gyfleuster gorddrafft ond mae’n caniatáu i chi:
- talu biliau trwy Ddebyd Uniongyrchol neu archeb sefydlog.
- derbyn taliadau fel cyflog, tâl, neu fudd-daliadau
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Cyfrifon banc sylfaenol heb ffi
Cyfrifon cyllidebu jar jam
Weithiau gelwir y cyfrifon hyn yn gyfrifon cyllidebu neu'n gyfrifon rhent. Maent wedi'u cynllunio i'ch helpu i gyllidebu.
Anaml y bydd banciau stryd fawr yn cynnig y cyfrifon hyn. Yn lle, bydd rhaid i chi wneud cais trwy undeb credyd neu'ch cymdeithas dai.
Yn aml, bydd ffi o tua £3- £15 am y cyfrifon hyn, er y gallai'ch cymdeithas dai ei thalu amdanoch.
Mae cyfrif jar jam yn caniatáu ichi rannu eich arian yn wahanol ‘botiau’ neu ‘jariau’.
Chi sy'n penderfynu faint o arian sy'n mynd i mewn i bob pot. Rydych yn gwneud hyn trwy weithio allan faint sydd ei angen arnoch ar gyfer eich biliau a faint sy'n weddill ar gyfer gwariant neu gynilo.
Maent hefyd yn caniatáu i chi:
- talu biliau trwy Debyd Uniongyrchol neu archeb sefydlog
- derbyn taliadau fel cyflog, cyflogau neu fudd-daliadau.
Efallai y bydd cyfrif pot jam yn iawn i chi os:
- ydych eisiau cyfrif sy'n eich helpu chi i gyllidebu
- ydych am osgoi taliadau am Ddyledion Uniongyrchol a wrthodwyd
- ydych yn rhentu eiddo cyngor neu gymdeithas dai - ac os felly efallai y bydd eich landlord yn talu'r ffi fisol ar eich rhan.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Cyfrifon pot jam
Cyfrifon banc i fyfyrwyr a graddedigion
Bydd y rhan fwyaf o fanciau’n cynnig cyfrifon penodol i fyfyrwyr, â gorddrafft di-log fel rheol hyd at swm y cytunwyd arno.
Hefyd mae banciau’n cynnig cyfrifon atyniadol yn aml i raddedigion, er mwyn ceisio eu cadw fel cwsmeriaid hirdymor.
Darganfyddwch fwy am Cyfrifon banc i fyfyrwyr a graddedigion
Cyfrifon banc i garcharorion neu bobl sydd â chollfarnau yn eu herbyn
Os ydych yn y carchar neu os oes gennych gollfarn yn eich erbyn, efallai y gallech gael cyfrif banc sylfaenol.
Nid oes gan fanciau fynediad at gofnodion troseddol. Ond mae ganddynt systemau i adnabod ceisiadau gan bobl sydd â hanes o dwyll neu weithgareddau anghyfreithlon cysylltiedig.
Gall pob banc a chymdeithas adeiladu wrthod ceisiadau gan bobl sydd â hanes o dwyll.
Darganfyddwch fwy am fancio os ydych yn y carchar neu os oes gennych gollfarn yn eich erbyn ar wefan theInformationHub
Cymharu costau a nodweddion cyfrifon
Fees, charges and overdraft costs
Gall ffioedd amrywio llawer rhwng banciau a chyfrifon, ag un o'r ffioedd uchaf yn cael ei godi am fynd dros eich terfyn gorddrafft y cytunwyd arno (os oes gennych un).
A oeddech yngwybod y gallech arbed cannoedd o bunnoedd â chyfrif sy'n gweddu'n well i'ch anghenion? Os ydych yn gwario mwy yn rheolaidd nag sydd gennych yn eich cyfrif, dewiswch un a fydd yn rhoi gorddrafft i chi hyd at derfyn y cytunwyd arno heb godi ffioedd a/neu gyda chyfradd llog isel.
Darllenwch ein tudalen Egluro gorddrafftiau i ddeall sut maent yn gweithio a sut i gwtogi costau ac osgoi taliadau
Cyfraddau llog ar falans credyd
Os ydych yn ofalus ynghylch eich gwariant heb defnyddio’ch gorddrafft byth, edrychwch ar y cyfrifon sy’n talu llog ar eich balans credyd.
Fodd bynnag, os yw’ch enillion braidd yn isel ac rydych yn defnyddio’ch gorddrafft ar brydiau, peidiwch â thalu gormod o sylw i’r llog cedyd - canolbwyntiwch fwy ar y ffioedd yn lle.
Cymhelliant
Cymharu’ch cyfrifon
Gall banciau gynnig dangosfyrddau cyfrifon hefyd, sy’n eich galluogi i weld cyfrifon o amryw o fanciau a chymdeithasau adeiladu ochr yn ochr ar-lein. Mae hyn yn eich galluogi i weld gwahaniaethau mewn pethau fel costau a ffioedd.
Mae llawer o fanciau’n cynnig cynigion arbennig i ddenu cwsmeriaid newydd, ond cofiwch ddarllen y print mân.
Edrychwch y tu hwnt i unrhyw gynnig byrdymor a gwnewch yn siŵr mai’r cyfrif fydd yr un gorau i chi wedi i’r cynnig ddod i ben.
Ymhlith y cynigion mae:
- cymhelliant ariannol.
- llog uwch am gyfnod
- credyd misol o oddeutu £5 fel arfer.
Gwasanaeth cwsmer
Gallwch ddefnyddio sgôr ansawdd Which? i gwsmeriaid i weld pa fanciau sy’n cynnig y sgôr orau i gwsmeriaid.
Mae’r sgôr yn ystyried pethau fel perfformiad gwasanaeth a delio â chwynion er mwyn i chi fedru dod o hyd i fanc sy’n addas i chi.
Penderfynu sut hoffech ddelio â’ch banc
A ydych yn hoffi delio wyneb yn wyneb mewn cangen neu a fyddai’n well gennych hwylustod bancio dros y ffôn neu ar y rhyngrwyd?
Ni fydd gan bob banc gangen yn lleol i chi nac yn gadael i chi gael mynediad i’ch cyfrif ar y rhyngrwyd, er enghraifft.
Wrth chwilio am eich cyfrif, gwiriwch sut y mae’r banc yn gadael i chi gael mynediad ato a pha ddulliau sydd bwysicaf i chi:
- bancio dros y ffôn
- bancio ar y rhyngrwyd
- ap ffôn clyfar
- peiriant codi arian yn lleol i chi sydd ar gael am ddim
- drwy’r post
- trwy’r Swyddfa Bost leol
- gwasanaeth cangen - os ydych yn hoffi mynd i mewn i gangen, dewis banc sydd o fewn cyrraedd yn hwylus i chi fydd y ffactor bwysicaf.
Cymharu gwahanol gyfrifon gan ddefnyddio safleoedd cymharu
Mae gwefannau cymharu yn lle da i gychwyn ar gyfer unrhyw un sy’n ceisio dod o hyd i cyfrifon cyfredol sy'n gweddu i’w hanghenion.
Defnyddiwch ein teclyn cymharu ffioedd a chostau cyfrif banc i weld yr holl ffioedd a chostau sy’n berthnasol i gyfrifon banc – mae’n dangos popeth o ffioedd gorddrafft i gostau am dynnu arian parod mewn arian tramor.
Dyma ychydig o wefannau sy'n cymharu cyfrifon cyfredol:
- Money Saving Expert
- Which? Gallwch ddefnyddio’r sgôr ansawdd Which? i ddod o hyd i'r banciau sydd â'r sgôr cwsmer gorau.
Yng Ngogledd Iwerddon, gallwch hefyd roi cynnig ar y Teclyn Cymharu Cyngor Defnyddwyr
Ni fydd pob un wefan gymharu yn rhoi’r un canlyniadau i chi, felly cofiwch ddefnyddio mwy nag un wefan cyn gwneud penderfyniad.
Felly mae’n bwysig gwneud tipyn o waith ymchwil i mewn i’r math o gynnyrch neu nodweddion a ddymunwch cyn prynu neu newid darparwr.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Sut i ddod o hyd i'r cynigion gorau ar gyfer nwy a thrydan a chynhyrchion ariannol ar wefannau cymharu prisiau
A oes pwrpas newid eich cyfrif banc?
Os ydych yn anfodlon â’r gwasanaeth rydych yn ei gael gan eich banc neu gymdeithas adeiladu presennol, mae’n hawdd newid.
Bydd eich banc newydd yn gwneud y gwaith drostoch, ac nid oes angen i chi ddelio â’ch hen fanc.
Awgrym da
Mae’n werth gwirio bob blwyddyn bod eich banc yn cynnig popeth sydd ei angen arnoch. Os nad ydyw, ystyriwch newid.
Saith diwrnod gwaith yn unig a gymerir i newid eich cyfrif dan y Gwasanaeth Newid Cyfrif Cyfredol, ac mae bron pob banc a chymdeithas adeiladu yn cynnig hyn.
Chi sy’n dewis y dyddiad y dymunwch newid, a chytuno hyn â’ch banc newydd.
Bydd yn trefnu i’ch holl daliadau sy’n dod i mewn ac yn mynd allan gael eu symud i’ch cyfrif newydd.
Fe’i cefnogir gan warant sy’n golygu y cewch ad-daliad o unrhyw log a chostau ar eich cyfrifon hen a newydd os aiff pethau o chwith.
Canfyddwch bopeth sydd angen i chi ei wybod am newid cyfrif banc ar wefan y Gwasanaeth Newid Cyfrif Cyfredol
Os nad ydych yn dymuno newid banc, efallai y bydd camau ar gael i chi â’ch banc presennol i leihau ffioedd a chostau.