Opsiynau apwyntiad Pension Wise
Bydd y dudalen hon yn rhoi gwybod i chi sut i drefnu eich apwyntiad a’n esbonio’r mathau o apwyntiadau y gallwch eu trefnu.
Os ydych am ddeall beth fydd eich apwyntiad yn cynnwys ac os ydych yn gymwys, ewch i dudalen croeso Pension Wise.
Cael apwyntiad dros y ffôn
Y ffordd hawsaf a chyflymaf i’r rhan fwyaf o bobl yw trefnu apwyntiad ar-lein, ond gallwch hefyd drefnu apwyntiad dros y ffôn.
Bydd y dudalen nesaf yn eich galluogi i ddewis dyddiad ac amser:
Ffoniwch i drefnu apwyntiad ar 0800 138 3944
Os ydych tu allan i’r DU, ffoniwch +44 20 3733 3495
Ffoniwch rhwng 8.00am a 6.30pm,ddydd Llun i ddydd Gwener.
Cael apwyntiad wyneb yn wyneb
Dim ond nifer cyfyngedig o apwyntiadau wyneb-yn-wyneb sydd ar gael, felly mae’n gallu golygu amseroedd hirach. Y peth gorau yw trefnu apwyntiad wyneb-yn-wyneb os oes gennych anghenion hygyrchedd sy’n golugu nad yw apwyntiad dros y ffôn yn addas.
Ffoniwch i drefnu apwyntiad wyneb-yn-wyneb ar 0800 138 1585
Os ydych tu allan i’r DU, ffoniwch +44 20 3733 3495
Ffoniwch rhwng 8.00am a 6.30pm, ddydd Llun i ddydd Gwener.
Archwilio eich dewisiadau pensiwn heb siarad â rhywun
Os nad yw apwyntiad wyneb-yn-wyneb yn addas, gallwch ddefnyddio ein teclyn ar-lein i ddeall y gwahanol ffyrdd y gallwch gymryd arian o’ch cronfa bensiwn.
Mynychu ar ran aelod o’r teulu neu ffrind
Hoffech drafod opsiynau pensiwn aelod o’ch teulu, ffrind neu rywun arall? Bydd angen cydsyniad ar lafar neu’n ysgrifenedig gan y person rydych am drafod ei bensiwn.
Os oes gennych atwrniaeth sy’n cynnwys materion eiddo ac ariannol, byddwn yn gofyn am gopi – mae hyn er mwyn cwrdd â gofynion diogelu data.
Cael dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain
Gallwn ddarparu apwyntiad dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain drwy fideo, yn dibynnu ar eich anghenion.
Cwblhewch y ffurflen i wneud cais am apwyntiad a byddwn yn cysylltu â chi o fewn 2 diwrnod gwaith.