Mae rhannu’ch gwybodaeth bancio yn caniatáu i chi weld eich holl gyfrifon banc ar ap neu ar-lein, dadansoddi’ch gwariant a hyd yn oed caniatáu i chi dalu’n uniongyrchol o’ch cyfrif banc. Yn y canllaw hwn, edrychwn ar pam y byddech yn rhannu’ch gwybodaeth, beth yw’r manteision a sut i wneud hynny’n ddiogel.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Beth yw Bancio Agored?
- Pam dylwn rannu fy ngwybodaeth?
- Sut gallaf wirio nad sgam yw Gwasanaeth Bancio Agored?
- Pa wybodaeth y bydd cwmnïau Bancio Agored yn gallu ei gweld?
- Sut y bydd rhannu gwybodaeth fy nghyfrif yn gweithio?
- Sut bydd hyn yn gweithio ar gyfer siopa ar-lein a thaliadau?
- Sut i roi caniatâd yn ddiogel
- Beth i'w wneud os bydd rhywbeth yn mynd o chwith
Beth yw Bancio Agored?
Mae Bancio Agored yn derm a ddefnyddir i ddisgrifio set o dechnolegau a safonau sy'n galluogi cwsmeriaid i rannu gwybodaeth eu cyfrif yn ddiogel, er enghraifft trwy apiau a gwefannau.
Er enghraifft, gallwch ddewis rhoi mynediad diogel i'ch gwybodaeth cyfrif cyfredol, a ddelir gan eich darparwr cyfrif, i gwmni rheoliedig trwy ap neu wefan. Dim ond chi all benderfynu pa wybodaeth rydych am ei rhannu ac am pa hyd, a ni chaiff neb fynediad oni bai i chi roi eich caniatâd.
I ddefnyddio Bancio Agored mae rhaid fod gennych fancio ar-lein neu symudol ar gyfer eich cyfrif cyfredol personol neu fusnes.
Mae gwasanaethau sy’n caniatáu i chi rannu gwybodaeth eich cyfrif â chwmni ar wahân i’ch banc yn bodoli ers tro ond cawsant eu darparu drwy system a elwir yn crafu sgrin. Mae crafu sgrin yn ymwneud â chipio gwybodaeth ar y sgrin, fel tynnu llun o’ch data.
Mae Bancio Agored yn fwy diogel na chrafu sgrin oherwydd, er enghraifft, nid oes rhaid i chi rannu’ch cyfrinair neu fanylion mewngofnodi ag unrhyw un heblaw’ch banc neu gymdeithas adeiladu.
Pam dylwn rannu fy ngwybodaeth?
Mae rhannu’ch gwybodaeth yn caniatáu i gwmnïau gynnig ystod eang o wasanaethau i chi. Fodd bynnag, gallwch ddewis sut y defnyddir eich gwybodaeth a â phwy y caiff ei rhannu.
Efallai y gwelwch y gwasanaethau hyn yn cael eu darparu gan gwmnïau cyfarwydd, fel banciau ar y stryd fawr, neu gan gwmnïau eraill. Gallai’r gwasanaethau gynnwys:
- Dangosfwrdd a chydgasgliad cyfrif - gallwch weld cyfrifon o nifer o fanciau a chymdeithasau adeiladu ar un ap symudol neu ar-lein.
- Dadansoddiad gwariant – categoreiddio trafodion a thaliadau ar draws nifer o gyfrifon er mwyn i chi gael gweld yn union faint rydych yn ei wario ar bethau penodol neu â rhai manwerthwyr penodol.
- Chwilio am y cynnig gorau ar gyfer gwasanaethau – er enghraifft, os ydych yn chwilio am ddarparwr ynni newydd ar wefan gymharu, caiff eich tueddiadau gwario eu dadansoddi’n awtomatig a byddwch yn medru canfod y cynigion gorau, heb orfod mewnbynnu’ch holl wybodaeth â llaw.
- Tracio nodau ariannol – os, er enghraifft, rydych yn cynilo ar gyfer rhywbeth, gallwch greu nod a monitro’ch cynnydd.
- Terfynau gwario – edrychwch faint rydych yn ei wario dros gyfnod penodol o amser, ar ôl ystyried taliadau rheolaidd, fel rhent a biliau.
Sut gallaf wirio nad sgam yw Gwasanaeth Bancio Agored?
Gwiriwch fod yr ap neu’r wefan y dymunwch ei defnyddio wedi ei chofrestru gan yr FCAYn agor mewn ffenestr newydd ac ar wefan Open Banking
Pan fyddwch yn gofrestru i ddefnyddio cwmni ar gyfer gwasanaethau gwybodaeth cyfrif, dylai’r darparwr roi digon o wybodaeth i chi allu deall y gwasanaeth a ddarperir a sut y bydd yn defnyddio’ch data, gan gynnwys sut y bydd yn rhannu’ch data ag unrhyw un arall.
Cyn i chi ddefnyddio un o’r gwasanaethau hyn, byddwch yn wyliadwrus, a gwnewch yn siŵr eich bod yn hyderus bod y sefydliadau sy’n rhannu’ch gwybodaeth yn rhai gwirioneddol yn hytrach na thwyllwyr. Dylech sicrhau eich bod yn deall y gwasanaeth a’ch bod yn fodlon â’r sawl fydd yn ei ddarparu ar eich cyfer.
Os nad ydych yn deall pam rydych yn rhoi mynediad, neu â phwy y rhennir gwybodaeth, ni ddylech roi eich caniatâd. Os na rowch ganiatâd, ni fyddwch yn medru manteisio ar y gwasanaethau a gynigir.
Pa wybodaeth y bydd cwmnïau Bancio Agored yn gallu ei gweld?
Dylai cwmnïau ond ofyn am ganiatâd i gael mynediad at y wybodaeth sydd ei hangen arnynt er mwyn darparu’r gwasanaeth a gynigir.
Gallwch ddewis rhoi mynediad i gyfrifon cyfredol, cyfrifon cynilo hyblyg, cyfrifon e-arian a chardiau credyd.
Dyma’r mathau o wybodaeth y gallwch eu rhannu:
- manylion cyfrif gan gynnwys y balans ac enw’r cyfrif
- manylion am daliadau rheolaidd, fel pwy sy’n talu, archebion sefydlog a debydau uniongyrchol
- trafodion fel taliadau i mewn ac allan o’r cyfrif o’ch cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu
- nodweddion a buddion y cyfrif, fel ffioedd, taliadau gorddrafft a gwobrwyon.
Gallwch roi caniatâd iddynt hefyd i wneud taliadau o’ch cyfrif banc, gan gynnwys taliadau unwaith ac am byth.
Darganfyddwch fwy o wybodaeth yn ein canllaw Siopa a thalu’n ddiogel ar-lein
Sut y bydd rhannu gwybodaeth fy nghyfrif yn gweithio?
I fanteisio ar wasanaethau gwybodaeth cyfrif:
- Fel arfer bydd angen i chi lawrlwytho ap i’ch ffôn clyfar, neu fewngofnodi i’r wefan.
- Bydd gofyn i chi ychwanegu manylion y gwahanol gyfrifon banc, felly gall eich prif wasanaeth sy’n darparu’r cwmni ddod â’r holl wybodaeth ynghyd.
- Bydd busnesau sy’n dymuno cael mynediad at eich gwybodaeth yn gorfod rhoi digon o wybodaeth i chi allu deall sut a pham y defnyddir eich data.
Os dewiswch roi mynediad iddynt i’ch gwybodaeth cyfrif banc, byddwch un ai’n:
- Cael eich cyfeirio at eich ap bancio neu borth ar-lein i fewngofnodi a chadarnhau eich bod yn dymuno rhannu’r wybodaeth hon.
- Neu gallent anfon eich manylion banc yn ddiogel drwy eu porth eu hunain.
Yna bydd eich banc yn rhoi mynediad i’ch data i’r cwmni.
Sut bydd hyn yn gweithio ar gyfer siopa ar-lein a thaliadau?
Os dewiswch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn, efallai y bydd rhai manwerthwyr ar-lein yn caniatáu i chi wneud taliadau heb ddefnyddio cerdyn. Byddwch yn cydnabod hyn pan gyrhaeddwch y man talu a chewch eich cyfeirio at wefan y banc i fewngofnodi a rhoi caniatâd i’r manwerthwr ofyn am y taliad o’ch banc.
Efallai bydd hyn yn golygu gwiriadau diogelwch ychwanegol, fel dilysu dau ffactor (2FA) i brofi mai chi sy'n gwneud y prynu.
Er enghraifft, efallai anfonir cod i’ch ffôn symudol a fydd rhaid i chi ei roi i gwblhau'ch pryniant. Efallai gofynnir i chi hefyd ddilysu gan ddefnyddio'ch ôl bys, neu dechnoleg adnabod wyneb ar eich ffôn.
Sut i roi caniatâd yn ddiogel
I wneud yn siŵr eich bod yn aros yn ddiogel wrth ddefnyddio’r gwasanaethau hyn, mae rhai pethau y bydd angen i chi eu gwneud.
- Gwiriwch fod y cwmni rydych yn ei ddefnyddio neu’n ystyried ei ddefnyddio, ar gofrestr yr FCA ac ar wefan Open BankingYn agor mewn ffenestr newydd
- Gwiriwch eich cyfriflenni ac os sylwch ar unrhyw beth anarferol neu daliadau anarferol o’ch cyfrif, cysylltwch â’ch banc neu ddarparwr y cyfrif ar unwaith.
- Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod sut i ganslo awdurdodiad. Dylech allu dod o hyd i’r wybodaeth hon ar wefan cwmni, neu drwy ei ffonio.
Mae cadw'n ddiogel ar-lein yn bwysig iawn.
Darganfyddwch fwy o wybodaeth yn ein canllaw Siopa a thalu’n ddiogel ar-lein
Beth i'w wneud os bydd rhywbeth yn mynd o chwith
Os sylwch ar daliad o’ch cyfrif na chafodd ei awdurdodi gennych chi, y peth cyntaf i’w wneud yw cysylltu â’ch banc neu gymdeithas adeiladu cyn gynted â phosibl. Os na chafodd ei awdurdodi gennych, gallwch hawlio ad-daliad.
Os na fyddwch yn fodlon â’u hymateb, gallwch fynd â’ch cwyn at Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol o fewn chwe mis
Mae’r hawl gennych hefyd i gwyno’n uniongyrchol i gwmni a rhaid iddynt ymateb ymhen 15 diwrnod, oni bai bod amgylchiadau eithriadol.
Os yw eich data wedi cael ei ddefnyddio ar gyfer rhywbeth nad ydych yn cytuno iddo, cysylltwch â’r sefydliad perthnasol. Mae’n ofynnol iddynt egluro sut a pham maent yn prosesu’ch gwybodaeth, os cyflwynwch gŵyn ffurfiol.