Mae sawl ffyrdd o fenthyca arian, ac mae ganddynt wahanol nodweddion. Gall fod yn anodd gwybod pa un sydd orau i’ch sefyllfa benodol.
Dyna pam rydym wedi creu canllawiau sy'n helpu i egluro sut mae'r gwahanol gynhyrchion yn gweithio. Maent yn cynnwys arweiniad ar gardiau credyd, gwystlwyr, credyd cartref, cardiau siop a chatalog a gorddrafftiau.
Rydym hefyd yn rhoi rhywfaint o arweiniad ar pryd y dylech fod yn ofalus gyda chynhyrchion credyd.