Cyfrifiannell cardiau credyd
Mae cardiau credyd fel cael benthyciad am y swm rydych wedi'i wario drwy defnyddio'r cerdyn. Maent yn hawdd eu cario, yn cynnig ffordd i brynu-nawr-talu-yn hwyrach, ac yn rhoi amddiffyniad i'r prynwr.
Mae'n hawdd cael eich dal allan gyda cherdyn credyd, a dyna lle mae ein cyfrifiannell cerdyn credyd yn dod i mewn.
Gall cyfraddau llog fod yn uchel a gall methu taliad olygu bod dyledion yn dechrau cynyddu. Bydd ein cyfrifiannell yn gadael i chi weld faint y bydd cerdyn credyd yn ei gostio i chi neu pa mor gyflym y gallwch dalu eich cardiau presennol.
Gallwch ychwanegu nifer o gardiau, ac fel rhan o'r canlyniad gallwch newid y swm ad-dalu i weld sut mae hynny'n effeithio ar faint o amser y byddwch yn ei dalu, a faint yn ychwanegol y byddwch yn ei wario mewn llog.