Rheolwr Arian i hawlwyr Credyd Cynhwysol
Os ydych chi ar Gredyd Cynhwysol neu'n meddwl y gallech fod yn ei ddefnyddio yn y dyfodol, gall ein teclyn Rheolwr Arian helpu eich arwain.
Rydym wedi gwneud yn siwr ei fod:
- yn eich cefnogi os ydych yn gwneud cais newydd neu'n symud i Gredyd Cynhwysol o fudd-dal arall
- yn eich helpu i gyllidebu wrth aros am eich taliad Credyd Cynhwysol cyntaf
- yn eich helpu os ydych wedi cael newid diweddar yn eich taliad budd-dal
- yn rhoi arweiniad i chi ar gyfer cyllidebu pan fyddwch yn cael taliadau misol rhe
- yn eich helpu os ydych wedi cael eich effeithio gan y cynnydd dros dro i daliad Credyd Cynhwysol oherwydd coronafeirws yn dod i benolaidd
Pam defnyddio Rheolwr Arian?
- I gael gwybodaeth sy'n benodol i'ch sefyllfa bersonol
- I gael awgrymiadau ar gyfer torri costau fel biliau’r cartref
- Byddwn yn dweud wrthych beth i'w wneud a ble i fynd am gymorth ychwanegol os ydych yn cael trafferth.
Cael mynediad i’ch cynllun personol sydd wedi ei arbed
Nawr rydym wedi symud at HelpwrArian, gallwch fod yn sicr ein bod wedi cadw eich gwybodaeth yn ddiogel. Gallwch gael mynediad o hyd at eich cynllun personol sydd wedi ei arbed gan ddefnyddio eich manylion mewngofnodi Gwasanaeth Cynghori Ariannol – ar y sgrin nesaf dewiswch yr opsiwn i fewngofnodi gyda chyfrif presennol.