Mae dewis lle diogel i gadw’ch arian yn haws nag yr ydych yn meddwl. Mae cannoedd o gyfrifon, ond dim ond rhai mathau o gyfrifon – rhai er mwyn cael mynediad hawdd at arian mewn argyfwng, rhai ar gyfer cynilo’n rheolaidd a rhai ar gyfer tyfu eich arian.
Beth sydd yn y canllaw hwn
Mathu o gyfrifon cynilo
Y lle ar gyfer eich cynilion ar gyfer argyfwng. Efallai y byddant yn talu mwy o log na chyfrif cyfredol cyffredin, a bydd yr arian wrth law pan fydd ei angen arnoch. |
|
Er mwyn cynilo cyfran fisol o’ch incwm. Ceir rheolau o ran faint y gallwch ei dalu i mewn a’i godi, ond byddwch yn cael cyfradd llog ychydig yn uwch. |
|
Cyfrifon adnau tymor sefydlog |
Elwir weithiau yn ‘bondiau,’ mae’r rhain ar gyfer rhoi arian o’r neilltu am gyfnod penodedig. Pennir cyfradd llog sefydlog ymlaen llaw, felly byddwch yn gwybod yn union faint y byddwch yn ei gael. |
Cyfrifon sy’n gysylltiedig â mynegeion |
Fel cyfrifon adnau tymor sefydlog, ond bydd y gyfradd llog yn newid yn unol â chwyddiant – ni fyddwch yn gwbl siŵr faint y byddwch yn ei gael ar ddiwedd y tymor. |
Cynilion di-dreth. Byddwch yn cael lwfans blynyddol – felly manteisiwch i’r eithaf! Fel arfer mae ISA Arian Parod yn gyfrif cynilo neu gyfrif adnau syml. Gallwch gael ISA Arian Parod o 16 oed, neu ISA i Bobl Iau i blant o dan 18 oed. |
|
Er nad yw'r mwyafrif o gyfrifon cyfredol yn talu llog ar arian rydych chi'n ei gadw yn y cyfrif, byddantyn caniatáu i chi dderbyn taliadau rheolaidd fel cyflogau, budd-daliadau neu bensiwn y wladwriaeth a sefydlu taliadau ar gyfer pethau fel biliau. |
Mae gwefannau cymharu yn lle da i gychwyn ar gyfer unrhyw un sy’n ceisio dod o hyd i gyfrif banc wedi’i deilwra i’w hanghenion.
Darganfyddwch fwy am ddefnyddio gwefannau cymharu i ddod o hyd i gyfrif banc yn ein canllaw Dod o hyd i'r bargeinion gorau gyda gwefannau cymharu prisiau
Ni fydd pob un gwefan gymharu yn rhoi’r un canlyniadau i chi, felly cofiwch ddefnyddio mwy nag un gwefan cyn gwneud penderfyniad.
Mae hefyd yn bwysig gwneud rhywfaint o waith ymchwil i'r math o gynnyrch a nodweddion sydd eu hangen arnoch chi cyn prynu neu newid darparwr.
Camau nesaf
Yn ansicr beth i’w ddewis? Cliciwch ar y mathau o gyfrifon yn y tabl uchod i ddarllen mwy