Ceir sawl ffordd o dalu arian parod a sieciau i’ch cyfrif banc. A hefyd mae pobl yn gallu trosglwyddo arian yn uniongyrchol i chi. Mae'n werth gwybod y gwahanol opsiynau a sut i'w defnyddio.
Ffyrdd o roi arian yn eich cyfrif
Talu arian parod a sieciau sydd yn eich enw chi i’ch cyfrif
Gallwch dalu arian parod a sieciau i’ch cyfrif banc dros y cownter yn eich cangen leol. Llenwch ffurflen talu a rhowch i’r ariannwr ynghyd â’r siec neu’r arian parod. Mae gan rai canghennau beiriannau y gallwch eu defnyddio ar gyfer hyn hefyd.
Er y bydd peiriannau talu mewn mwy newydd mewn canghennau yn rhoi derbynneb i chi, nid yw rhai peiriannau hŷn yn gwneud hyn. Gallai hyn fod yn broblem os oes anghydfod ynghylch faint y gwnaethoch dalu i’ch cyfrif. Os nad ydych yn siŵr, gofynnwch i aelod o staff yn y gangen a gewch dderbynneb.
Os ydych yn talu siec i mewn, mae angen i’r siec bod yn eich enw chi.
Ni ddylech fyth anfon arian parod yn y post - ond bydd rhai banciau yn caniatáu i chi dalu sieciau trwy’r post. Bydd angen i chi amgáu ffurflen talu i mewn, y gallwch ei chael gan eich banc. Weithiau mae’r ffurflenni hyn hefyd yn cael eu cynnwys yng nghefn eich llyfr siec.
Os ydych yn talu sieciau trwy’r post, gwnewch yn siŵr eich bod yn cael y cyfeiriad cywir gan eich banc. Bydd gan lawer o fanciau gyfeiriadau arbennig ar gyfer anfon sieciau.
Talu arian parod a sieciau i’ch cyfrif yn y Swyddfa’r Post
Mae llawer o fanciau yn y DU yn caniatáu i chi dalu arian parod a sieciau yng nghanghennau Swyddfa’r Post, am ddim. Oherwydd y bydd angen iddynt anfon y siec i’ch banc, gallai gymryd ychydig mwy o amser iddo gyrraedd eich cyfrif.
Darganfyddwch pa wasanaethau bancio y gallwch eu defnyddio ar wefan Swyddfa’r Post
Talu sieciau i’ch cyfrif trwy eich ap bancio (delweddu siec)
Mae rhai banciau yn gwneud bywyd yn haws trwy adael i chi dalu sieciau i’ch cyfrif gan ddefnyddio eu ap bancio symudol. Os yw’ch banc yn cynnig y gwasanaeth hwn, bydd angen i chi dynnu llun o’r siec ar eich ffôn a llenwi ffurflen ar-lein.
Fel arfer mae cyfyngiad ar faint a nifer y sieciau y gallwch dalu, fel uchafswm siec o £500-£1,000 y diwrnod.
I gael atebion i gwestiynau cyffredin ar ddelweddu sieciau ymwelwch â gwefan y Cheque & Credit Clearing Company
Derbyn arian i’ch cyfrif yn awtomatig
Os ydych yn disgwyl i gwmni, neu berson arall, dalu arian i’ch cyfrif, bydd pa mor gyflym y mae’n cyrraedd yn dibynnu ar ba system dalu sy’n cael ei defnyddio.
Taliadau cyflymach
Mae’r mwyafrif o daliadau ar-lein yn y DU yn defnyddio’r system Taliadau Cyflymach. Mae hyn yn golygu y bydd arian yn cyrraedd eich cyfrif cyn pen dwy awr ar ôl ei dalu - ac yn aml ar unwaith.
BACS
Os gwneir taliadau trwy System Clirio Awtomataidd y Bancwyr (BACS), maent yn cymryd tri diwrnod gwaith i’w clirio.
CHAPS
Os na ddefnyddiwyd BACS neu Daliadau Cyflymach, gellir gwneud taliadau ar yr un diwrnod gan ddefnyddio System Taliadau Awtomataidd y Tŷ Clirio (CHAPS). Er na chodir tâl arnoch am dderbyn taliad CHAPS, bydd cost i’r sawl sy’n gwneud y taliad. Mae hyn fel arfer yn £25.
Bydd angen i bwy bynnag sy’n talu arian i’ch cyfrif gwybod eich cod didoli a’ch rhif cyfrif.
Darganfyddwch fwy am CHAPS ar wefan Banc Lloegr
Gellir gwneud taliadau heb y manylion hyn gan ddefnyddio Paym - system taliadau symudol.
Gellir gwneud taliadau heb y manylion hyn gan ddefnyddio Paym - system taliadau symudol.
Os yw rhywun yn talu arian i chi gan ddefnyddio Paym, dim ond eich rhif ffôn symudol fydd ei angen arnynt.
Bydd angen i chi fod wedi’ch cofrestru i ddefnyddio’r system gyda’ch banc cyn y gallwch dderbyn taliadau. Dim ond 15 o fanciau’r DU sy’n cynnig y system Paym - ond mae hyn yn cynnwys y rhai mwyaf.
Darganfyddwch fwy am wneud trosglwyddiadau dros y ffôn ac ar-lein yn ein canllaw Sut i drosglwyddo arian o’ch cyfrif banc
Talu arian o dramor - SWIFT, BIC ac IBAN
Os yw rhywun yn talu arian i chi o dramor, bydd angen iddynt wybod eich Cod Adnabod Banc SWIFT (BIC) a’ch Rhif Cyfrif Banc Rhyngwladol (IBAN).
Fel arfer gallwch ddod o hyd i’r holl fanylion hyn ar eich cyfriflen banc. Gofynnwch i’ch banc os nad ydych yn siŵr.
Pryd gallwch chi ddefnyddio’r arian?
Arian parod
Os byddwch yn talu arian parod i’ch cyfrif mae ar gael i chi ei wario ar yr un diwrnod. Efallai bod gan eich banc terfyn amser am hyn – gofynnwch iddynt i gael gwybod.
Taliadau awtomatig
Mae taliadau awtomatig ar gael ar y diwrnod rydych yn eu derbyn.
Gall hyn fod hyd at dri diwrnod busnes ar ôl i rywun eu hanfon atoch chi. Mae'n gynt yn aml gyda’r Gwasanaeth Taliadau Cyflymach.
Sieciau
Mae’r arian fel arfer yn clirio ar y diwrnod gwaith nesaf (dydd Llun i ddydd Gwener, heb gynnwys gwyliau cyhoeddus).
Gall ei dalu i mewn cyn terfyn amser a hysbysebwyd gan y banc, helpu i arbed diwrnod ychwanegol. Os ydych yn dibynnu ar arian yn cael ei dalu i’ch cyfrif gyda siec, gwnewch yn siŵr eich bod yn gofyn i’ch banc pryd fydd yr arian yn clirio.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Sut i ddefnyddio sieciau a drafftiau banc
Beth fydd eich banc yn ei wneud pan fyddwch yn cael taliad
Gyda’r rhan fwyaf o fanciau neu gymdeithasau adeiladu does dim ffi am dderbyn taliadau. Ond byddwch yn ymwybodol bod rhai yn codi ffi. Os ydynt, mae’n rhaid iddynt ddweud wrthych.
Bydd eich banc yn rhoi manylion y taliad i chi, naill ai ar eich cyfriflen neu yn eich cyfrif ar-lein.
Bydd hyn yn cynnwys:
- swm y taliad
- y dyddiad pryd cafodd y taliad ei gredydu i’r cyfrif
- unrhyw ffioedd neu log sy’n ddyledus gennych chi neu sy’n ddyledus i chi
- enw’r talwr ac unrhyw fanylion y mae wedi’u darparu, fel cyfeirnod talu
- y swm gwreiddiol a’r gyfradd gyfnewid - os cawsoch eich talu mewn arian tramor.
Pethau i gadw llygaid amdanynt ar y taliadau i’ch cyfrif
Efallai na fydd rhai sieciau sydd wedi’u talu i’ch cyfrif yn hwyr yn y dydd yn cael eu prosesu tan y diwrnod gwaith nesaf.
Os bydd arian yn cael ei dalu i’ch cyfrif chi drwy gamgymeriad, gall y banc neu’r gymdeithas adeiladu ei gymryd yn ôl – does gennych ddim hawl i’w gadw. Mae'n werth cysylltu â nhw i roi gwybod iddynt.