Os ydych yn anfodlon â'r gwasanaeth a gawsoch gan eich banc, ymgynghorydd ariannol neu unrhyw gwmni ariannol arall, peidiwch â goddef hynny. Ceisiwch siarad â hwy yn gyntaf ac esboniwch y broblem. Efallai y byddant yn ei ddatrys yn y fan a'r lle i chi. Os nad yw trafod pethau drwodd yn gweithio, mae ffordd ffurfiol i gwyno bob amser - ac os gwrthodir eich cwyn gallwch fynd â hi i Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol.
Beth sydd yn y canllaw hwn
Camau allweddol i’w cymryd os ydych eisiau cwyno
Cam 1 – Siarad â'r cwmni a werthodd y cynnyrch i chi neu a roddodd y cyngor i chi.
Yn aml gallwch ddatrys cwyn yn gyflym trwy ddim ond siarad â’r cwmni.
Dywedwch wrthynt pam eich bod yn anfodlon a beth hoffech iddynt wneud i unioni pethau.
Os na allant roi esboniad rhesymol o beth sydd o’i le ac nad ydynt yn ceisio unioni pethau, gallwch wneud cwyn ffurfiol yn ysgrifenedig.
Cam 2 – Gwneud cwyn ffurfiol
Mae rhaid bod gan bob cwmni ariannol weithdrefn gwyno ffurfiol i’w dilyn pan fyddwch eisiau cwyno.
Mae’n dweud wrthych:
- â phwy ddylech siarad neu ysgrifennu atynt
- pryd ddylech ddisgwyl derbyn ymateb, a beth i’w wneud os nad ydych yn fodlon â’r ateb a dderbyniwch.
Dylech allu dod o hyd i’w gweithdrefn gwynion ar-lein – ond os nad ydych yn gallu dod o hyd iddo, gofynnwch amdano.
Os yw’r weithdrefn gwynion yn ymwneud â rhywbeth rydych wedi ei wneud yn barod, fel ymweld â’ch banc, sicrhewch fod y sawl gwnaethoch siarad â hwy yn deall bod angen iddynt drin eich cwyn fel un ffurfiol.
Ceisiwch roi popeth ar bapur, yn hytrach na thrafod dros y ffôn.
Dylech gael penderfyniad terfynol o fewn wyth wythnos, yn esbonio yn union sut fydd y cwmni yn delio â’r broblem.
Cam 3 – Cael penderfyniad diduedd
Wedi gwneud cwyn ffurfiol, os ydych o’r farn fod ateb y cwmni yn afresymol, neu os nad ydych yn clywed ganddynt o fewn wyth wythnos, mae gennych yr hawl i fynd â’ch cwyn ymhellach.
Ar gyfer cwynion am ymgynghorwyr ariannol neu’r rhan fwyaf o gynhyrchion neu wasanaethau ariannol, gallwch fynd â’ch cwyn i Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol
Ar gyfer cwynion am gynllun pensiwn cyflogwr neu anghydfodau ag ef, gallwch fynd i’r Ombwdsmon Pensiynau
Ond os yw’ch cwyn yn ymwneud â chael eich cam-werthu pensiwn – Gwasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol ydyw
Mae terfynau amser ar gyfer cwyno i Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol. Mae rhaid i chi gwyno:
- yn dda o fewn chwe mis i'r cwmni anfon ymateb terfynol atoch, ac
- o fewn chwe mlynedd i’r digwyddiad rydych yn cwyno amdano, neu (os yw’n fwy na chwe blynedd) o fewn tair blynedd i’r amser y byddai’n rhesymol i chi fod wedi gwybod bod gennych achos dros gwyno.
- Mae’n bosibl y bydd Gwasanaeth y Financial Ombudsman yn dal i allu ymchwilio i’ch cwyn os oes amgylchiadau eithriadol yn eich rhwystro rhag gwneud eich cwyn ar amser. Mae mwy o wybodaeth ar beth sy’n cael ei dderbyn fel amgylchiadau eithriadol ar wefan y Financial OmbudsmanYn agor mewn ffenestr newydd
Cael iawndal os yw cwmni'n mynd i'r wal
Os ydych wedi colli arian oherwydd bod banc neu gwmni ariannol yn y DU wedi mynd allan o fusnes, efallai y gallwch hawlio iawndal trwy'r Cynllun Iawndal Gwasanaethau Ariannol.
- mae'r gwasanaeth yn annibynnol ac am ddim i'w ddefnyddio
- mae cyfyngiadau ar faint o iawndal y gallwch ei hawlio
- Gall helpu unigolion preifat, rhai busnesau bach a holl ddeiliaid polisi polisïau yswiriant gorfodol
- mae'n berthnasol i gwmnïau a reoleiddir gan yr Awdurdod Rheoleiddio Darbodus a'r Awdurdod Ymddygiad Ariannol yn unig (sy'n cwmpasu'r mwyafrif o gwmnïau ariannol).