Gadawodd y Deyrnas Unedig (DU) yr Undeb Ewropeaidd (UE) ar 31 Ionawr 2020. Mae perthynas y DU yn y dyfodol â’r UE yn awr wedi cael ei bennu gan fwyaf gan gytundeb newydd a negododd â’r UE ar fasnach a meysydd eraill o gydweithredu a’r darpariaethau sy'n cael eu cynnwys ym mhrotocol Gogledd Iwerddon.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Trosolwg o beth sy’n newid
- A fyddaf yn gallu anfon neu dalu mewn ewros yn electronig o hyd?
- A allaf dynnu arian allan yn yr AEE o hyd?
- Mae gennyf gyfrif banc yn y DU. A fyddaf yn gallu defnyddio fy ngherdyn i dalu masnachwyr yn yr UE/AEE?
- Rwy’n byw yn y DU. Sut effeithir ar fy mholisïau yswiriant, pensiynau personol, blwydd-daliadau neu gynhyrchion ariannol eraill gan gwmnïau sydd wedi eu lleoli yn yr UE/AEE nawr bod y DU wedi gadael yr UE?
- A fydd telerau ac amodau fy mholisïau yswiriant yn newid yn awr?
- Sut rwyf yn cael gwybod ble mae fy narparwr cynnyrch wedi ei leoli neu ei awdurdodi?
- Diogelu adneuon
- A fydd terfyn amddiffyn adneuon yr FSCS o £85,000 yn cael ei effeithio?
- Sut effeithir ar werth fy muddsoddiadau marchnad stoc a chronfeydd pensiwn buddsoddedig?
- A fyddai darparwyr y DU yn dal i allu darparu gwasanaethau ariannol i ddinasyddion y DU sy’n byw yn yr UE ac AEE?
- Gwneud cwyn i’r Gwasanaeth Ombwdsmon Ariannol
Trosolwg o beth sy’n newid
Bydd y DU yn parhau i ddilyn rheolau’r UE a drosglwyddwyd i gyfraith y DU trwy’r Ddeddf Ymadael â’r UE 2018. Er y bydd y llywodraeth yn cadw’r capasiti i wyro pe byddai’r llywodraeth yn penderfynu’n ddiweddarach i gyflwyno newidiadau yng nghyfraith y DU.
Darganfyddwch fwy am y Ddeddf Ymadael â’r UE 2018 ar wefan yr Institute for Government
Mae hawliau pasportio yn awr wedi peido a daeth y cyfnod trosglwyddo i ben 31 Rhagfyr 2020.
Mae pasportio yn cyfeirio at reoleiddio gwasanaethau ariannol, sy’n caniatáu i gwmnïau o’r DU wneud busnes ledled yr UE heb yr angen am awdurdodaeth ychwanegol.
Bydd cwmniau o’r UE/AEE sy’n gweithredu drwy basbort yn y DU o dan y fframwaith pasport Ewropeaidd presennol angen caniatâd Rhan 4A o dan y Ddeddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol (FSMA) i allu parhau i gyflawni gweithgareddau rheoledig yn y DU.
Mae hyn wedi arwain at Drysorlys EM yn deddfu ar gyfer Trefn Caniatadau Dros Dro (TPR) sydd yn awr wedi dod i rym.
Nod y TPR yw caniatáu i gwmnïau nad ydynt wedi eu lleoli yn y DU barhau i wneud busnes yn y DU am gyfnod cyfyngedig tra’u bod yn ceisio awdurdodaeth gan reoleiddwyr y DU.
Dylai’ch darparwr gwasanaethau ariannol gysylltu â chi os bydd y cynnyrch ariannol neu’r gwasanaeth a gynigiant yn cael ei effeithio.
Fodd bynnag, wrth ddelio â chwmni o’r UE/AEE sy’n ceisio awdurdodaeth gan Awdurdod Rheoleiddio Prudential (PRA) tra yn y TPR, mae’n bosibl na fyddwch yn cael yr un gofal â chwmni wedi ei leoli yn y DU wrth wneud cwyn neu’n ceisio iawndal.
Dylai eich darparwr ddweud wrthych os effeithir arnoch mewn unrhyw ffordd.
A fyddaf yn gallu anfon neu dalu mewn ewros yn electronig o hyd?
Byddwch, mae’r DU wedi cynnal ei gyfranogaeth yn yr Ardal Taliadau Ewro Sengl (SEPA). Mae hyn yn golygu y byddwch yn gallu anfon neu dalu mewn ewros yn electronig.
Fodd bynnag, mae’n bosibl y gwelwch yr amser a gymerir i brosesu unrhyw daliadau a throsglwyddiadau ewro yn cynyddu.
Os oes angen gwneud taliad erbyn dyddiad terfyn sefydlog arnoch, gallai fod yn syniad da i adael rhywfaint o amser ychwanegol i gael prosesu’r taliad.
Ers 1 Ionawr 2021, bydd rhaid i fanciau a mathau eraill o ddarparwyr gwasanaeth talu (PSPs) ddarparu gwybodaeth ychwanegol wrth wneud taliadau penodol rhwng y DU a’r UE/AEE.
Mae hyn yn cynnwys enw’r talwr a’r talai, a chyfeiriad y talwr. Os nad ydynt yn darparu’r wybodaeth hon, mae’n bosibl y gellid tarfu ar rai taliadau, gan gynnwys Debydau Uniongyrchol.
Pe byddai tarfu ar eich taliadau, dylai’ch darparwr gwasanaeth gysylltu â chi.
A allaf dynnu arian allan yn yr AEE o hyd?
Gallwch dynnu arian allan yn yr U/EAEE o hyd. Fodd bynnag, gallai’r rhain fod yn ddrutach yn y dyfodol.
Dylai’ch darparwr gwasanaeth roi gwybod i chi am unrhyw newidiadau mewn ffïoedd a chostau a allai effeithio ar gynhyrchion sydd gennych â hwy.
Mae gennyf gyfrif banc yn y DU. A fyddaf yn gallu defnyddio fy ngherdyn i dalu masnachwyr yn yr UE/AEE?
Byddwch, ni ddylech gael eich effeithio nawr fod y DU wedi gadael yr UE a’r cyfnod trosglwyddo wedi dod i ben.
Dyma’r gwir hefyd os oes gennych gyfrif banc â darparwr sydd wedi ei leoli yn yr UE neu’r AEE ac rydych am ddefnyddio’ch cerdyn banc yn y DU.
Bydd hawliau ac amddiffynfeydd defnyddwyr presennol yn parhau i fod yn berthnasol wrth ddefnyddio’ch cerdyn ar gyfer talu am nwyddau a gwasanaethau.
Rwy’n byw yn y DU. Sut effeithir ar fy mholisïau yswiriant, pensiynau personol, blwydd-daliadau neu gynhyrchion ariannol eraill gan gwmnïau sydd wedi eu lleoli yn yr UE/AEE nawr bod y DU wedi gadael yr UE?
Ni ddylai eich gwarchodaeth neu gynnyrch newid oherwydd bod y DU yn awr wedi gadael yr UE.
Mae'r DU wedi negodi ei pherthynas i’r dyfodol â’r UE ac mae wedi rhoi Trefn Caniatadau Dros Dro (TPR) yn ei lle yn awr i ganiatáu i ddarparwyr AEE weithredu yn y DU wrth iddynt geisio awdurdodaeth barhaol.
Darganfyddwch fwy ar wefan yr FCA
Cafodd deddfwriaeth ychwanegol ei gwneud ar gyfer Trefn Contractau Gwasanaethau Ariannol (FSCR) i alluogi cwmnïau sydd ddim yn mynd i mewn i’r drefn caniatadau dros dro i ddod â’u busnes yn y DU i ben mewn modd trefnus
Darganfyddwch fwy am y Drefn Contractau Gwasanaethau Ariannol ar wefan FCA
Os hoffech gyngor am gynnyrch ariannol, dylech ystyried siarad â chynghorwr ariannol cymwys.
Darganfyddwch fwy yn ein canllawiau:
Dewis cynghorydd ariannol
Newidiadau pensiwn ac ymddeol ar ôl Brexit
Darganfyddwch am ddelio â chwmnïau AEE ar ôl y cyfnod trosglwyddo Brexit ar wefan yr FCA
Am wybodaeth am fuddsoddiadau manwerthu yn y DU, gwelwch wefan yr FCA
A fydd telerau ac amodau fy mholisïau yswiriant yn newid yn awr?
Bydd eich darparwr yn dweud wrthych os effeithir ar eich cynhyrchion mewn unrhyw ffordd.
Fodd bynnag, dylech gysylltu â’ch darparwr cynnyrch yn uniongyrchol os oes gennych unrhyw bryderon am eich polisi neu’r gwasanaeth a gynigiant.
Pan ddaw’r amser i adnewyddu eich yswiriant, sicrhewch eich bod yn siopa o gwmpas i ganfod cynnig sy’n gywir ar gyfer eich anghenion.
Darganfyddwch frocer ar wefan y British Insurance Brokers’ Association
Darganfyddwch am ddelio â chwmnïau yn yr UE/AEE ar ôl y cyfnod trosglwyddo Brexit ar wefan yr FCA
Am wybodaeth am fuddsoddiadau manwerthu yn y DU, gwelwch wefan yr FCA
Sut rwyf yn cael gwybod ble mae fy narparwr cynnyrch wedi ei leoli neu ei awdurdodi?
I ddarganfod ble mae darparwr gwasanaethau ariannol wedi ei leoli neu ei awdurdodi, ac os yw eich darparwr gwasanaeth ariannol wedi ei awdurdodi gan AEE, defnyddiwch y Gofrestr Gwasanaethau Ariannol ar wefan yr FCA
Diogelu adneuon
A fydd y Cynllun Iawndal Gwasanaethau Ariannol (FSCS) yn parhau i fod yn gymwys?
Bydd fframwaith diogelu presennol FSCS yn parhau i fod yn gymwys.
Fodd bynnag, bydd diogelwch FSCS ar gyfer adneuon yn dibynnu ar sawl ffactor. Mae'r rhain yn gynnwys ble mae’r cwmni wedi ei awdurdodi ac ym mha ddeddfwriaeth mae’r cwmni yn cadw eich adneuon.
Wrth ddelio â chwmni o’r Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) sy’n ceisio awdurdodaeth gan Awdurdod Rheoleiddio Prudential (PRA) tra yn y TPR, mae’n bosibl na fydd gennych warchodaeth yn yr un ffordd â chwmni sydd wedi ei leoli yn y DU wrth wneud cwyn neu geisio iawndal.
Dylai eich darparwr ddweud wrthych os effeithir arnoch mewn unrhyw ffordd. Os oes gennych unrhyw gwestiynau dylech gysylltu â’ch cwmni yn am fwy o wybodaeth.
Byddwch yn gallu darganfod a yw cwmni rydych yn delio ag ef yn y TPR wrth wirio Cofrestr Gwasanaethau Ariannol ar wefan yr FCA
Bydd yn dweud hyn yn glir ar frig tudalen y cwmni.
Darganfyddwch fwy am effaith y DU yn gadael yr UE a’r Cynllun Iawndal Gwasanaethau Ariannol ar wefan yr FSCS
Ac yn ein canllaw Pa mor ddiogel yw fy nghynilion os yw fy manc neu gymdeithas adeiladu yn mynd i’r wal?
Rwy’n defnyddio banc, cymdeithas adeiladu, undeb credyd o’r DU yn y DU. A fydd yr FSCS yn parhau i ddiogelu fy arian ar ôl 31 Ionawr 2020?
Bydd. Bydd adneuon cymwys sy'n cael eu cadw yn y DU gan fanciau, cymdeithasau adeiladu, ac undebau credyd sydd wedi eu hawdurdodi yn y DU, yn parhau i gael eu diogelu gan yr FSCS, gan gymryd bod y cwmni’n cael ei awdurdodi gan y DU o hyd.
Nid yw amddifyniad FSCS yn ddibynnol ar ble rydych yn byw, ond lle mae’r banc, cymdeithas adeiladu, neu undeb credyd sy'n cadw eich arian.
Os yw adnau yn cael ei gadw gan gangen yn y DU, mae amddiffyniad FSCS yn gymwys (oni bai ei fod yn gyfrifoldeb cwmni sydd wedi ei leoli yn Gibraltar, sy’n golygu, byddai amddiffyn yn gyfrifoldeb y cynllun gwarantu adneuon yn Gibraltar).
Mae rhaid i’ch banc, cymdeithas adeiladu ac undeb credyd roi dalen wybodaeth flynyddol sy’n disgrifio eich amddifyniad adneuwr. Gwiriwch â’ch darparwr cynnyrch neu wasanaethau am ragor o wybodaeth.
I ddarganfod mwy am beth mae ymadawiad y DU a’r UE yn ei olygu i amddiffyniad FSCS, gwelwch wefan yr FSCS
A fydd terfyn amddiffyn adneuon yr FSCS o £85,000 yn cael ei effeithio?
Mae’r Cynllun Iawndal Gwasanaethau Ariannol (FSCS) yn darparu iawndal ac amddifyniad i gwsmeriaid cwmnïau awdurdodedig gwasanaethau ariannol sydd wedi methu.
Nid oes cynlluniau gan y llywodraeth i adolygu terfyn amddiffyn adneuon yr FSCS ar hyn o bryd i gwsmeriaid sydd wedi eu lleoli yn y DU o gwmnïau wedi’u hawdurdodi yn y DU.
Mae’n ofynnol i’ch banc, cymdeithas adeiladu ac undeb credyd ddarparu dalen wybodaeth flynyddol i chi sy’n disgrifio’ch amddifyniad adneuwr.
Fodd bynnag, gall amddiffyniad FSCS newid os yw cwsmer a/neu ei gwmni wedi ei leoli yn yr UE/Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE).
Sut effeithir ar werth fy muddsoddiadau marchnad stoc a chronfeydd pensiwn buddsoddedig?
Mae’n anodd rhagweld yr effaith ar unrhyw fuddsoddiau unigol oherwydd y gall hyn ddibynnu ar sawl ffactor.
Mae’n bosibl y gallai fod cyfnod byr o ansefydlogrwydd marchnad dros dro, a allai olygu y gallai gwerth eich buddsoddiadau syrthio neu godi.
Os ydynt yn syrthio neu godi, a faint ac am ba hyd, mae’n anodd rhagweld.
Os yw gwerth eich buddsoddiadau wedi syrthio ac nad oes angen mynediad arnoch at y cronfeydd hyn yn y dyfodol agos, mae’n bosibl na fydd hon yn broblem fawr oherwydd bod marchnadoedd yn debygol o adfer dros amser.
Fodd bynnag, os ydych yn cynllunio terfynu unrhyw fuddsoddiadau yn y dyfodol agos, rydym yn argymell eich bod yn cael cyngor ariannol proffesiynol rheoleiddiedig cyn gynted â phosibl.
Darganfyddwch fwy yn ein canllawiau Dewis ymgynghorydd ariannol
A fyddai darparwyr y DU yn dal i allu darparu gwasanaethau ariannol i ddinasyddion y DU sy’n byw yn yr UE ac AEE?
Effaith y DU’n gadael yr UE yw y gallai rheolau ar a yw banciau yn gallu darparu cyfrifon i’w cwsmeriaid sy’n preswylio mewn gwlad UE/EAA newid.
Mae gwledydd gwahanol a banciau gwahanol yn cymryd ymagweddau gwahanol.
Bydd yr ymagweddau hyn yn golygu:
- na fydd rhai gwledydd yn yr UE/AEE yn caniatáu i fanciau’r DU ddarparu cyfrifon i breswylwyr
- bydd rhai banciau yn cau cyfrifon i bobl sy'n breswylwyr yr UE/AEE
- bydd rhai banciau yn parhau i wasanethu preswylwyr yr UE/AEE â chyfrifon presennol, ond ni fyddant yn caniatáu cyfrifon newydd.
Beth gallwch ei wneud
Dylai eich banc gysylltu â chi i roi gwybod i chi beth maent yn bwriadu ei wneud.
Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch a allech gael eich heffeithio, cysyltwch â’ch darparwr.
Os yw eich cyfrif banc yn y DU neu gynnyrch ariannol arall yn cael ei gau dyma’r prif ddewisiadau sydd ar gael:
- Dod o hyd i fanc o’r DU sy’n gweithredu yn y wlad rydych yn byw ynddi (o bosibl yn is-gwmni i'ch banc presennol yn y DU, os oes un) a gwirio eich bod yn gallu ateb eu meini prawf cymhwysedd ar gyfer agor cyfrif banc newydd ac y bydd y cyfrif yn ateb eich anghenion. Er enghraifft, a yw'n gofyn i chi gael isafswm incwm neu adnau â hwy.
- Os ydych yn dal yn breswylydd o’r DU, cysylltu â’ch banc i ddiweddaru eich manylion a diddymu'r cyfeiriad nad yw yn y DU.
- Ystyried defnyddio darparwr e-daliad, fodd bynnag, nid yw’r rhain yn dod ag Amddiffyniad FSCS £85,000.
- Dod o hyd i fanc lleol fydd yn derbyn taliadau o’r DU. Os nad ydych yn gymwys ar gyfer un, gofyn iddynt os ydynt yn gallu cynnig cyfrif banc sylfaenol i chi. Mae’n debygol y bydd rhaid i chi gael cyfnewid eich punnoedd i Ewros neu arian lleol i dalu i mewn i’r cyfrif.
Darganfyddwch fwy yn ein canllawiau:
E-daliadau – pam, pryd a sut mae eu defnyddio
Digollediad os yw’ch banc neu’ch cymdeithas adeiladu yn mynd yn fethdalwr
Sicrhewch eich bod yn deall y ffïoedd, costau a chyfraddau cyfnewid ar gyfer unrhyw gyfrif a sefydlwch. Mae Pensiwn Gwladwriaeth y DU, er enghraifft, yn gallu cael ei dalu i mewn i gyfrif banc dramor, ond bydd yr arian a gewch yn destun cyfnewid arian.
Unwaith eich bod wedi sefydlu’ch cyfrif newydd, gwiriwch ddwy waith eich bod wedi sefydlu’r holl fanylion talu yn gywir ar gyfer taliadau ‘i mewn’ yn ogystal ag ‘allan’.
Darganfyddwch fwy am sut fydd hyn yn effeithio ar eich cyfrif banc a’ch dewisiadau, ar wefan UK Finance
Darganfyddwch fwy am fyw yn yr UE ar ôl Brexit wefan GOV.UK
Gwneud cwyn i’r Gwasanaeth Ombwdsmon Ariannol
A allaf gwyno i’r Gwasanaeth Ombwdsmon Ariannol?
Os ydych yn gwsmer yn y DU o gwmni o’r DU, ni ddylai fod newid i gwynion mae’r Gwasanaeth Ombwdsmon Ariannol (FOS) yn gallu edrych arnynt.
Fodd bynnag, os ydych yn gwsmer yn y DU o gwmni o'r AEE sy’n gweithredu yn y DU o dan y Drefn Caniatadau Dros Dro (TPR), neu o dan y Drefn Contractau Gwasanaethau Ariannol (FSCR), gallai eich amddiffyniadau fod yn wahanol.
Bydd yr FSCR yn galluogi cwmnïau pasportio AEE nad ydynt yn mynd i mewn i’r TPR i ddod â’u busnes yn y DU i ben mewn modd trefnus.
Bydd yr FSCR yn gyfyngedig gan amser gan ddibynnu ar y math o weithgaredd rheoledig sy’n cael ei berfformio. Bydd yn berthnasol am:
- uchafswm o 15 mlynedd ar gyfer contractau yswiriant, a
- pum mlynedd ar gyfer pob contract arall
Mae’r cyfnodau hyn yn gyfnodau uchafswm ac mae caniatâd (neu eithriad) cwmni o dan yr FSCR yn gymwys yn unig i’r graddau ei fod yn angenrheidiol ar gyfer perfformiad contract sy’n bodoli’n barod a rhai gweithgareddau penodol cyfyngedig.
Byddwch yn gallu dysgu a yw cwmni rydych yn delio ag ef yn y TPR trwy wirio Cofrestr Gwasanaethau Ariannol yr FCA Bydd yn datgan hyn yn glir ar frig tudalen y cwmni.
Darganfyddwch fwy ar wefan y Gwasanaeth Ombwdsmon Ariannol
A fydd fy hawliau ac amddiffyniad defnyddiwr yn aros yr un peth?
Mae eich hawliau ac amddiffyniadau defnyddiwr yn seiliedig ar gyfarwyddebau UE sy’n bodoli sydd wedi cael eu hymgorffori i gyfraith y DU.
Mae hyn yn golygu na fydd eich amddiffyniadau a hawliau presennol sydd gennych ar gyfer eich cynhyrchion a gwasanaethau ariannol wedi newid oni bai fod y llywodraeth yn penderfynu cyflwyno deddfwriaeth newydd.
A fyddaf yn gallu cwyno o hyd am gwmni sydd wedi ei leoli yn yr AEE ar ôl Brexit?
Bydd hyn yn dibynnu ar eich amgylchiadau.
Os yw’r busnes yn gweithredu yn y DU dylai fod wedi ymuno â Threfn Ganiatad Dros Dro (TPR) yr FCA neu fod yn rhan o’r Drefn Contractau Gwasanaethau Ariannol (FSCR).
Os yw cwmni wedi ymuno â’r Rheoleiddiwr Pensiynau, bydd cwsmeriaid yn gallu cyferio cwynion o hyd at y Gwasanaeth Ombwdsmon Ariannol (FOS).
Dylai busnesau oedd yn yr FSCR yn flaenorol yn awdurdodaeth y FOS aros yn awdurdodaeth yr FOS.
Darganfyddwch fwy am y Drefn Contractau Gwasanaethau Ariannol (FSCR) ar wefan yr FCA
Am fwy o wybodaeth am gwybodaeth benodol i gwsmeriaid am ddelio â busnesau ariannol yn yr AEE, gweler wefan yr FCA
Os ydych yn ansicr a allwch ddod â chwyn i wasanaeth yr ombwdsmon gallwch holi’ch darparwr gwasanaethau ariannol – neu cysylltwch â’r FOS yn uniongyrchol.