Nawr bod y DU wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd (UE), darganfyddwch sut y gallai hyn effeithio ar eich pensiwn preifat, Pensiwn y Wladwriaeth neu flwydd-dal.
Ble i fynd am ragor o wybodaeth
Am ragor o wybodaeth ar fudd-daliadau a phensiynau sy’n esbonio hawliau dinasyddion o’r DU sy’n byw yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (EEA) neu’r Swistir o 31 Rhagfyr 2020:
Os ydych chi’n ddinesydd y DU sy’n byw yn yr UE, Ardal Economaidd Ewropeaidd (EEA) neu’r Swistir o 31 Rhagfyr 2020, gweler y canllaw ar wefan GOV.UK
Am wybodaeth ar fudd-daliadau a phensiynau sy’n esbonio hawliau dinasyddion yr UE neu’r Swistir sy’n byw yn y DU o 31 Rhagfyr 2020:
Os ydych chi’n ddinesydd yr UE neu’r Swistir sy’n byw yn y DU o 31 Rhagfyr 2020, gweler y canllaw ar wefan GOV.UK
Taliadau Pensiwn y Wladwriaeth
Mae’ch Pensiwn y Wladwriaeth yn gallu cael ei dalu i unrhyw fanc o’ch dewis, gan gynnwys banc sydd yn y wlad rydych chi’n byw ynddi.
Bydd angen arnoch y rhif cyfrif banc rhyngwladol (IBAN) a rhifau cod adnabod banc (BIC) os oes gennych gyfrif dramor.
Byddwch yn cael eich talu yn yr arian lleol. Gallai hynny olygu y gallai’r swm a gewch newid oherwydd cyfraddau cyfnewid.
Darganfyddwch ragor o wybodaeth ar hawlio’ch Pensiwn y Wladwriaeth wrth fyw dramor ar wefan GOV.UK
Beth i’w wneud os ydych chi wedi cael gwybod bod eich cyfrif banc yn y DU yn cau
Os ydych chi’n byw dramor ac wedi derbyn rhybudd bod y cyfrif banc yn y DU rydych chi’n derbyn taliadau incwm pensiwn iddo ar fin cael ei gau, mae’n bwysig i wirio gyda’ch darparwr pensiwn pa opsiynau talu meant yn eu cynnig i gwsmeriaid sy’n byw dramor heb gyfrif banc yn y DU. Mewn llawer o achosion byddant yn gallu talu’ch incwm i fanc dramor o’ch dewis chi, hynny yw, cyfrif banc lleol yn eich gwlad breswyl neu yn yr EEA.
Fel arall, edrychwch os yw’n bosibl i sefydlu cyfrif gyda banc o’r DU sy’n gweithredu yn y wlad rydych yn byw ynddi a threfnwch i’ch incwm gael ei dalu yno. Gwiriwch eich bod yn gallu ateb meini prawf cymhwysedd y banc i agor cyfrif banc newydd ac y bydd y cyfrif yn ateb eich anghenion. Er enghraifft, a yw’n gofyn i chi gael isafswm incwm neu adnau gyda nhw.
Os nad yw unrhyw un o’r rhain yn bosibl, gwiriwch a yw eich darparwr pensiwn yn gallu anfon taliad trwy siec i’ch cyfeiriad cartref yn y wlad rydych yn byw ynddi.
Mae’n bwysig hefyd gymryd y camau hyn os ydych yn defnyddio’ch cyfrif banc yn y DU i gyfrannu’n rheolaidd i bensiwn, buddsoddiad neu gynnyrch diogelu.
Darganfyddwch ragor am yr opsiynau bancio a allai fod ar gael ichi yn ein canllaw newidiadau bancio, yswiriant a gwasanaethau ariannol ar ôl Brexit
Os ydych yn dal yn ansicr am beth yw’r opsiwn gorau i chi, gallech geisio cyngor gan gynghorwr ariannol sy’n arbenigo mewn cyngor ariannol i Ddinasyddion y DU sy’n byw dramor a allai helpu.