Nid yw bob amser yn hawdd cadw golwg ar bensiwn, yn enwedig os ydych wedi bod mewn mwy nag un cynllun neu wedi newid cyflogwyr trwy gydol eich gyrfa. Dros amser, mae cynlluniau pensiwn yn cau, yn uno neu'n cael eu hailenwi. Felly hyd yn oed os ydych yn cofio enw'ch cynllun, fe allai nawr gael ei alw'n rhywbeth arall. Mae'n bwysig eich bod yn hawlio'ch pensiwn - felly gorau po gyntaf y byddwch chi'n olrhain un coll.
Ydych chi’n siwr bod eich pensiwn ar goll?
Dyma'r cwestiwn cyntaf y mae'n rhaid i chi ei ofyn i'ch hun.
Yn dibynnu pryd roeddech yn aelod o'r cynllun, a'r math o gynllun, efallai na fyddai gennych hawl i gael pensiwn yn awtomatig.
Efallai bod gennych dystysgrif o gynllun pensiwn, ond nid yw bob amser yn golygu bod gennych hawl i bensiwn.
Dros y blynyddoedd mae'r rheolau ynghylch pensiynau wedi newid. O ganlyniad, gall p'un a wnaethoch chi gronni pensiwn ai peidio ac a yw pensiwn yn dal i fodoli i chi ai peidio, ddibynnu ar pryd roeddech yn gweithio.
Mae'r wybodaeth isod yn egluro os gallech fod wedi cronni pensiwn ac yn egluro unrhyw amodau a allai effeithio ar bensiwn sy’n cael ei gadw i chi.
Dylech fod yn ymwybodol mai canllaw bras yn unig yw hwn ac y gallai amrywio o gynllun pensiwn i gynllun pensiwn.
Cyn Ebrill 1975
Os gwnaethoch adael eich cyflogwr cyn Ebrill 1975, mae'n debygol y bydd eich cyfraniadau wedi'u had-dalu. Nid oedd rhai cynlluniau yn ei gwneud yn ofynnol i'r aelod dalu cyfraniadau. Ac os oedd hyn yn wir, mae'n debyg na fyddai gennych hawl i unrhyw fuddion pensiwn o'r cynllun.
Ebrill 1975 – Ebrill 1988
Os gwnaethoch adael eich cyflogwr rhwng Ebrill 1975 ac Ebrill 1988, roeddech dros 26 oed ac wedi cwblhau pum mlynedd o wasanaeth erbyn i chi adael, efallai bod pensiwn wedi cael ei gadw i chi. Os gwnaethoch adael gyda llai na phum mlynedd o wasanaeth, efallai y bydd eich cyfraniadau wedi cael eu had-dalu.
Ebrill 1988 ymlaen
Os gwnaethoch adael eich cyflogwr ar ôl Ebrill 1988, efallai y bydd gennych hawl i gael pensiwn. Mae hyn yn cyn belled eich bod wedi cwblhau dwy flynedd o wasanaeth. Os gwnaethoch adael gyda llai na dwy flynedd o wasanaeth, efallai y bydd eich cyfraniadau wedi cael eu had-dalu.
Olrhain pensiwn personol neu bensiwn gweithle
Rhaid i'r mwyafrif o gynlluniau pensiwn anfon datganiad atoch bob blwyddyn.
Mae'r datganiadau hyn yn cynnwys amcangyfrif o'r incwm ymddeol y gallai'ch cronfa bensiwn ei roi i chi pan gyrhaeddwch eich ymddeoliad.
Yn gyntaf, gwiriwch i weld a oes gennych unrhyw hen waith papur a allai fod ag enw eich cyflogwr neu gynllun pensiwn arno. Bydd hyn yn rhoi man cychwyn da i chi.
Os nad ydych yn cael y datganiadau hyn mwyach - efallai oherwydd eich bod wedi newid eich cyfeiriad - i olrhain y pensiwn gallwch gysylltu â:
- y darparwr pensiwn
- eich cyn-gyflogwr, os oedd yn bensiwn gweithle, neu
- y Gwasanaeth Olrhain Pensiwn
Cysylltwch â’ch darparwr pensiwn
Os ydych yn gwybod gyda pha ddarparwr oedd eich pensiwn, eich cam cyntaf yw cysylltu â hwy.
Mae dolen isod i lythyr templed i chi ei gwblhau a'i anfon atynt. Sut bynnag y byddwch yn cysylltu â hwy, dylech ddarparu cymaint o'r manylion canlynol â phosib:
- rhif eich cynllun
- eich dyddiad geni
- eich rhif Yswiriant Gwladol
- y dyddiad y sefydlwyd eich pensiwn.
A thrwy ofyn y cwestiynau canlynol, fe gewch drosolwg trylwyr o'ch cronfa bensiwn:
- beth yw gwerth cyfredol y gronfa bensiwn?
- a oes derbynnydd enwebedig ar gyfer unrhyw fudd-daliadau marwolaeth?
- faint sydd wedi'i talu i'r gronfa bensiwn?
- pa daliadau ydych chi'n eu talu am reoli'r gronfa bensiwn?
- faint o incwm mae'r gronfa bensiwn yn debygol o'i dalu ar y dyddiad ymddeol o'ch dewis?
- sut mae'r gronfa bensiwn yn cael ei fuddsoddi a pha opsiynau sydd ar gael ar gyfer gwneud newidiadau?
- a fyddai unrhyw daliadau pe byddech am drosglwyddo'r gronfa bensiwn i ddarparwr arall?
- A oes nodweddion arbennig, megis gwarantau fel cyfradd blwydd-dal gwarantedig neu isafswm pensiwn gwarantedig.
- beth yw'r budd-daliadau marwolaeth - hynny yw, faint o arian fyddai'n cael ei dalu o'r pensiwn pe byddech chi'n marw?
Lawrlwythwch ein templed i ddrafftio llythyr olrhain pensiwn at ddarparwr pensiwn (Opens in a new window) (DOCX, 18KB)
Cysylltwch â’ch cyn gyflogwr
Os ydych am olrhain pensiwn gweithle - cynllun a drefnwyd gan gyflogwr blaenorol - eich cyflogwr ddylai fod eich pwynt cyswllt cyntaf.
Fodd bynnag, pe bai'ch cyflogwr yn darparu mynediad at gynllun personol neu gynllun rhanddeiliaid, cysylltwch â'r darparwr pensiwn os ydych yn gwybod eu manylion.
Os nad ydych yn gwybod manylion y darparwr pensiwn, gofynnwch i'ch cyflogwr blaenorol - dylent allu eu darparu.
Unwaith eto, fe welwch ddolen isod i lythyr templed y gallwch ei ddefnyddio ar gyfer hyn.
Y brif wybodaeth y bydd angen i chi ei darparu yw:
- eich rhif Yswiriant Gwladol
- y dyddiad y gwnaethoch stopio gweithio yno
- y dyddiad y gwnaethoch ddechrau gweithio gyda'r cyflogwr
- y dyddiadau y gwnaethoch ymuno a gadael y cynllun pensiwn.
Ar prif gwestiynau i’w gofyn yw:
- pa fath o gynllun ydyw - er enghraifft, buddion wedi’u diffinio neu gyfraniad wedi’i ddiffinio?
- oni bai ei fod yn gynllun buddion wedi’u diffinio, gyda pha ddarparwr pensiwn y mae eich pensiwn?
Lawrlwythwch ein templed i ddrafftio llythyr olrhain pensiwn at un o'ch cyn-gyflogwyr (Opens in a new window) (DOCX, 15KB)
Cysylltwch â’r Gwasanaeth Olrhain Pensiwn
Os ydych yn dal i gael trafferth gwneud cynnydd, gallwch gysylltu â'r Gwasanaeth Olrhain Pensiwn.
Gallai hyn fod oherwydd na allwch ddod o hyd i fanylion cyswllt hen gyflogwr, neu nad ydych yn gwybod pwy yw’r darparwr pensiwn personol.
Mae'r Gwasanaeth Olrhain Pensiwn yn wasanaeth am ddim gan y llywodraeth. Mae'n chwilio cronfa ddata o fwy na 200,000 o gynlluniau pensiwn gweithle a phersonol i geisio dod o hyd i'r manylion cyswllt rydych eu hangen.
Gallwch ffonio'r Gwasanaeth Olrhain Pensiwn ar 0800 731 0193 neu ddefnyddio'r ddolen isod i chwilio eu cyfeirlyfr ar-lein am fanylion cyswllt.
Cyflwyno ffurflen gais olrhain i'r Gwasanaeth Pensiwn trwy wefan GOV.UK
Darganfyddwch fwy am y Gwasanaeth Olrhain Pensiwn ar wefan GOV.UK
Mwy o help i ddod o hyd i’ch pensiwn
Efallai y byddai'n werth siarad â chyn-gydweithwyr i weld a ydynt yn gallu helpu i olrhain eich pensiwn. Efallai y gallant roi manylion y cynllun i chi, fel ei enw neu wybodaeth gyswllt.
Os gwnaethoch dalu i mewn i bensiwn personol, efallai y gallwch wirio'ch datganiadau banc i weld i ble roedd eich taliadau'n mynd.
A oedd eich pensiwn yn fuddion wedi’u diffinio neu'n gyflog terfynol? Yna mae'n bosibl ei fod wedi'i gymryd drosodd gan y Gronfa Diogelu Pensiwn (PPF).
Pan na all cyflogwr dalu'r buddion pensiwn a addawyd i'w aelodau mwyach, bydd y PPF yn cymryd drosodd ac yn darparu'r buddion (yn amodol ar derfynau).
Gallwch ddod o hyd i restr o gynlluniau y mae'r PPF yn gofalu amdanynt ar wefan PPF
A ydych wedi rhoi cynnig ar yr holl opsiynau uchod ac yn dal i fethu â dod o hyd i'ch pensiwn? Gallai'r gwasanaethau canlynol eich helpu i ddod o hyd i'r manylion cyswllt perthnasol.
Gretel
Mae hwn yn wasanaeth am ddim y gallwch ei ddefnyddio i olrhain cyfrifon, pensiynau a buddsoddiadau coll.
Bydd yn ceisio olrhain eich pensiynau bob 14 diwrnod gan ddefnyddio gwybodaeth sylfaenol fel eich enw, cyfeiriad cyfredol a'ch dyddiad geni. Nid oes angen i chi wybod enwau'r darparwyr pensiwn na'ch rhifau polisi.
The Policy Detective
Mae'r wefan fasnachol hon yn wasanaeth am ddim y gallwch ei ddefnyddio i olrhain eich hen bensiwn. Ond mae'n rhaid i chi wybod enw'r cwmni pensiwn sydd gan eich polisi pensiwn.
Cymdeithas Yswirwyr Prydeinig
Mae'r gymdeithas fasnach hon yn rhoi camau i chi ddod o hyd i'r manylion cyswllt perthnasol i'r darparwr sydd bellach yn gyfrifol am eich polisi.Yn agor mewn ffenestr newydd