Weithiau, mae hyd yn oed y cynlluniau sy'n cael eu rhedeg orau yn gwneud camgymeriadau. Os credwch fod camgymeriad wedi'i wneud, mae'n bwysig gweithredu cyn gynted â phosibl. Gallwn helpu os credwch y bu gwall, neu os yw'ch cynllun yn dweud wrthych fod camgymeriad wedi'i wneud. Os ydych yn cael trafferth gweithio allan beth i'w wneud nesaf, siaradwch â ni.
Beth sydd yn y canllaw hwn
Beth sy’n digwydd os oes camgymeriad
Os yw cynllun pensiwn yn gwneud camgymeriad, fel rheol nid oes gennych hawl i'r ffigurau a roddir i chi trwy gamgymeriad. Yr egwyddor sylfaenol yw bod gennych hawl i'ch buddion cywir, ac nid i ffigurau a ddyfynnir trwy gamgymeriad.
Os yw darparwr cynllun pensiwn yn sylweddoli ei fod wedi gwneud camgymeriad yn swm y pensiwn maent wedi bod yn ei dalu i chi, mae'n ddyletswydd ar yr ymddiriedolwyr i gywiro hyn.
Mae hyn yn golygu, os ydynt wedi bod yn talu gormod i chi, gallant leihau eich taliad yn y dyfodol i'r swm cywir a gofyn i’r gordaliadau gael eu talu’n ôl.
- Mae bosibl cywiro camgymeriadau.
- Y cynharaf y byddwch yn nodi camgymeriad ac yn rhoi gwybod i'r cynllun pensiwn, y mwyaf o opsiynau fydd gennych i ddatrys y camgymeriad.
- Gellir adennill gordaliadau, ond gellir cyfyngu'r swm i'w ad-dalu.
- Gallai iawndal fod yn daladwy os ydych wedi dioddef colled ariannol neu wedi dioddef trallod ac anghyfleustra.
- Gallwn egluro'ch sefyllfa a'ch cefnogi ag unrhyw gamau nesaf y gallai hyn eu cynnwys, megis argymell eich bod yn cysylltu â'r Ombwdsmon Pensiynau.
Iawndal
A wnaethoch benderfyniadau neu wario arian oherwydd y camgymeriad? Yna efallai y gellir talu iawndal, i wneud iawn am y golled rydych wedi'i dioddef. Gelwir hyn yn dioddef anfantais ariannol oherwydd eu gwall.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Cael iawndal am broblem pensiwn
Pa mor gyflym y mae rhaid i mi dalu gordaliad yn ôl?
Mae fel arfer yn rhesymol caniatáu i chi ad-dalu gordaliad dros yr un cyfnod ag y cafodd ei dalu. Er enghraifft, os ydych wedi cael gordaliad am ddwy flynedd, dylid caniatáu dwy flynedd i chi ad-dalu.
Gwnaethpwyd y camgymeriad ddeng mlynedd yn ôl - a yw hynny'n golygu na all fy nghynllun ofyn i mi ad-dalu?
Os gwnaed y camgymeriad a arweiniodd at ordaliad fwy na chwe blynedd yn ôl, gallai fod yn bosibl nad oes angen ad-dalu gordaliadau a wnaed fwy na chwe blynedd o'r adeg y dywedir wrthych am y camgymeriad.
Bydd hyn yn dibynnu a oedd yn rhesymol i'r camgymeriad gael ei ddarganfod yn gynharach nag a gafodd. Mae hwn yn faes cymhleth. Siaradwch â ni os ydych yn meddwl y gallai fod yn berthnasol i chi.
Bydd p'un a delir iawndal yn dibynnu ar amgylchiadau'r achos. Efallai nad ydych wedi dioddef colled ariannol, ond rydych wedi cynhyrfu oherwydd bod eich buddion yn is na'r disgwyl. Os felly, efallai y telir iawndal i chi am y trallod a'r anghyfleustra rydych wedi'i ddioddef.
Gallwch gysylltu â ni i drafod amgylchiadau'r camgymeriad neu'r gordaliad. Yna gallwn roi'r holl wybodaeth a'r camau nesaf i chi i ddatrys eich sefyllfa.
Dywed fy narparwr pensiwn y dylwn fod wedi gwybod
Efallai y bydd yn annhebygol y bydd darparwr pensiwn yn cytuno i dalu iawndal neu leihau swm y gordaliad y maent yn gofyn i chi ei ad-dalu, os credant y dylech fod wedi gwybod bod camgymeriad yn cael ei wneud. Pan gysylltwch â ni, gallwch ddweud wrthym pam roeddech yn meddwl bod y buddion a ddyfynnwyd neu a dalwyd yn gywir.
Oes gennyf gontract â'm darparwr pensiwn?
Os oes gennych gontract, ni all camgymeriad dorri ei delerau.
Ond er mwyn ffurfio contract, mae'r nodweddion canlynol yn angenrheidiol:
- cynnig
- derbyn
- ystyriaeth
- y bwriad i ffurfio perthynas gyfreithiol.