Nid yw’n hawdd meddwl am farwolaeth, ond mae’n bwysig deall beth fydd yn digwydd i’ch pensiwn pan fyddwch yn marw, a beth fydd y goblygiadau treth o drosglwyddo’ch pensiwn. Mae sut y bydd eich pensiwn gweithle neu un rydych wedi’i sefydlu’ch hun gael ei dalu i’ch buddiolwyr pan fyddwch yn marw yn dibynnu ar ba fath o bensiwn sydd gennych chi.
Pensiwn buddion wedi’u diffinio neu gyfraniadau wedi’u diffinio
Pensiwn buddion wedi’u diffinio
Mae’r math hwn o bensiwn yn talu incwm ymddeol yn seiliedig ar eich cyflog a hyd yr amser yr oeddech yn aelod o gynllun pensiwn eich cyflogwr gyda chyfraniadau'n cael eu gwneud.
Mae pensiynau buddion wedi’u diffinio yn cynnwys cynlluniau pensiwn ‘cyflog terfynol’ a ‘chyfartaledd gyrfa’.
Yn gyffredinol, dim ond o gynlluniau pensiwn sector cyhoeddus neu bensiwn gweithle hŷn y mae’r rhain ar gael bellach.
Pensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio
Mae’r math hwn o bensiwn yn caniatáu i chi adeiladu cronfa bensiwn i dalu incwm ymddeol i chi yn seiliedig ar faint rydych chi a/neu’ch cyflogwr yn ei gyfrannu a faint mae hyn yn tyfu.
Gelwir hyn hefyd yn gynlluniau ‘prynu arian’. Maent yn cynnwys pensiynau gweithle a phersonol.
Beth sy’n digwydd i bensiynau buddion wedi’u diffinio?
Os oes gennych bensiwn buddion wedi’u diffinio, bydd unrhyw arian i’w dalu i’ch buddiolwyr yn cael eu hamlinellu yn rheolau’r cynllun.
Gwiriwch â’ch gweinyddwr pensiwn i ddarganfod beth allai fod gan eich buddiolwyr hawl iddo pan fyddwch chi’n marw, gan fod rheolau pob cynllun yn wahanol.
Efallai y bydd eich gweinyddwr pensiwn yn talu pensiwn dibynnydd i:
- eich priod neu’ch partner sifil
- eich plentyn(plant), ar yr amod eu bod o dan 23 oed ac mewn addysg amser llawn
- eich plentyn(plant), waeth beth fo’u hoedran, os oes ganddynt nam meddyliol neu gorfforol
- unrhyw un a oedd yn ddibynnol yn ariannol arnoch chi (neu lle’r oedd y ddau ohonoch yn dibynnu ar eich gilydd yn ariannol) pan fuoch chi farw, gan gynnwys partner nad oeddech chi’n briod a hwy neu mewn partneriaeth sifil a hwy.
Bydd y pensiwn y byddant yn ei gael yn ganran o’r pensiwn roeddech chi’n ei gael (neu y byddech chi wedi’i gael pe byddech chi’n marw cyn i’ch pensiwn ddechrau cael ei dalu).
Bydd unrhyw incwm a delir i ddibynnydd yn cael ei drethu fel enillion ar eu cyfradd ymylol.
Os yw’r pensiwn sy’n daladwy yn weddol fach, gallai fod yn bosibl ei gymryd fel cyfandaliad yn lle - gweler isod.
Cyfandaliadau
Gellir talu’r cyfandaliadau canlynol i’ch buddiolwyr pan fyddwch yn marw:
Cyfandaliad marwolaeth mewn gwasanaeth
Os byddwch chi’n marw tra’ch bod chi’n aelod gweithredol o’ch cynllun pensiwn buddion wedi’u diffinio, efallai y bydd eich buddiolwyr yn cael cyfandaliad. Mae hyn yn aml yn lluosrif o’ch cyflog.
Telir hwn yn ddi-dreth os bu farw’r aelod cyn eu pen-blwydd yn 75 oed. Mae hyn oni bai iddynt farw cyn 75 oed ac na thalwyd y swm cyn diwedd cyfnod ffenestr dwy flynedd ar ôl eu marwolaeth. Disgrifir hyn isod.
Ad-daliad cyfraniadau aelodau
Gallai cynlluniau pensiwn buddion wedi’u diffinio hefyd dalu ad-daliad o’r cyfraniadau a dalwyd gan yr aelod, os bydd yr aelod yn marw cyn dechrau tynnu eu pensiwn. Mae hyn yn ddarostyngedig i reolau’r cynllun.
Gellir ychwanegu llog hefyd at ad-daliad cyfraniadau o dan reolau rhai cynlluniau.
Cyfandaliad amddiffyn pensiwn
Os yw’ch pensiwn yn cael ei dalu, yn aml mae yna gyfnod gwarantedig (5-10 mlynedd fel arfer).
Os byddwch yn marw o fewn y cyfnod gwarantedig, gellir talu cyfandaliad i’ch buddiolwyr.
Y cyfandaliad hwn fel arfer yw gwerth y taliadau pensiwn sydd i fod i gael eu talu rhwng eich marwolaeth a diwedd y cyfnod gwarantedig.
Telir hwn yn ddi-dreth os byddwch yn marw cyn 75 oed. Fel arall, caiff ei drethu fel enillion ar y person(au) sy’n ei dderbyn.
Efallai y bydd Treth Etifeddiant hefyd, gan fod y taliadau hyn yn rhan o’ch ystâd.
Cyfandaliad dibwys budd-dal marwolaeth
Efallai y bydd dibynyddion sydd â hawl i dderbyn pensiwn pan fyddwch chi’n marw yn gallu dewis derbyn cyfandaliad unwaith ac am byth yn lle incwm rheolaidd.
Gellir talu hwn pan nad yw gwerth pensiwn dibynyddion neu randaliadau gwarantedig sy’n weddill o’r pensiwn yn fwy na £30,000. Mae hwn fel arfer yn opsiwn os yw pensiwn y dibynnydd yn weddol fach ac yn cael ei drethu ar gyfradd ymylol treth incwm y derbynnydd.
Beth sy’n digwydd i bensiynau cyfraniadau wedi’u diffinio?
Os byddwch chi’n marw a bod gennych chi arian yn eich pensiynau o hyd, mae yna nifer o opsiynau o ran sut y gellir ei dalu allan a’r sefyllfa dreth. Mae hyn yn dibynnu ar ba mor hen ydych chi pan fyddwch chi’n marw.
Beth yw’r opsiynau?
Gall eich buddiolwyr ddewis cymryd y pensiwn mewn sawl ffordd.
Dyma sut maent yn gweithio.
Os na chymerwyd unrhyw arian o’r pensiwn pan fyddwch yn marw
Fel rheol, gall eich buddiolwyr dynnu allan yr holl arian fel cyfandaliad, sefydlu incwm gwarantedig (blwydd-dal) gyda’r enillion neu, efallai y gallant hefyd sefydlu incwm ymddeol hyblyg (tynnu pensiwn i lawr).
Nid yw bob amser yn bosibl i’ch buddiolwyr ddefnyddio incwm ymddeol hyblyg i dynnu i lawr o’r gronfa bensiwn yn hytrach na chymryd cyfandaliad neu flwydd-dal. Fodd bynnag, efallai y gallant symud y pensiwn i ddarparwr arall i wneud hyn. Dylech wirio pa fuddion marwolaeth y mae gwahanol gynlluniau pensiwn yn eu cynnig.
Os ydych wedi dewis cymryd incwm ymddeol hyblyg a’ch bod mewn tynnu pensiwn i lawr pan fyddwch yn marw
Fel rheol, gall eich buddiolwyr dynnu allan yr holl arian fel cyfandaliad, sefydlu incwm gwarantedig (blwydd-dal) gyda’r enillion neu, efallai y gallant hefyd sefydlu incwm ymddeol hyblyg (tynnu pensiwn i lawr).
Nid yw bob amser yn bosibl i’ch buddiolwyr ddefnyddio incwm ymddeol hyblyg i dynnu i lawr o’r gronfa bensiwn yn hytrach na chymryd cyfandaliad neu flwydd-dal. Fodd bynnag, efallai y gallant symud y pensiwn i ddarparwr arall i wneud hyn. Dylech wirio pa fuddion marwolaeth y mae gwahanol gynlluniau pensiwn yn eu cynnig.
Pe byddech wedi sefydlu incwm gwarantedig (blwydd-dal)
Bydd yr hyn sy’n daladwy yn dibynnu ar yr opsiynau a ddewisoch pan yn sefydlu’r blwydd-dal.
Os byddwch ynsefydlu’r blwydd-dal ar sail bywyd ar y cyd, bydd eich buddiolwr yn parhau i dderbyn cyfran o’r incwm roeddech chi’n ei dderbyn.
Byddwch yn ymwybodol pe byddech yn dewis blwydd-dal oes sengl, byddai’r taliadau’n dod i ben pan fyddwch chi’n marw.
Efallai y bydd taliadau pellach pe bai gennych gyfnod gwarantedig ac wedi marw o fewn y cyfnod gwarantedig. Yn yr achos hwn bydd incwm yn parhau i’ch buddiolwr tan ddiwedd y cyfnod gwarantedig.
Gallai cyfandaliad hefyd fod yn daladwy pe bai diogelwch gwerth wedi’i gynnwys.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Prynu blwydd-dal: opsiynau blwydd-dal a siopa o gwmpas
Beth fydd yn digwydd os byddaf yn marw cyn 75 oed?
Os byddwch chi’n marw cyn eich bod chi’n 75 oed, ni fydd unrhyw un sy’n etifeddu’ch cronfa bensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio yn talu unrhyw dreth.
Mae hyn yn amodol ar arian yn cael ei dalu (neu’n cael ei symud i drefniant am daliad fel incwm neu gyfandaliadau yn y dyfodol) o fewn dwy flynedd i’r cynharaf o’r dyddiadau canlynol:
- Y dyddiad y gwyddai gweinyddwr y cynllun pensiwn gyntaf am eich marwolaeth, neu
- Y dyddiad y gellid bod wedi disgwyl yn rhesymol i weinyddwr y cynllun wybod am eich marwolaeth.
Os byddwch yn marw cyn 75 oed, bydd unrhyw bensiwn na chyrchwyd ato eisoes yn cael ei brofi yn erbyn eich lwfans oes. Ar ôl cael ei brofi ar y pwynt hwn, ni chynhelir unrhyw brofion eraill yn erbyn y lwfans oes.
Os cyrchwyd pensiwn a bod incwm gwarantedig (blwydd-dal) neu incwm ymddeol hyblyg (tynnu pensiwn i lawr ) wedi’i sefydlu, bydd y rhain wedi’u profi wrth eu sefydlu ac ni fyddai unrhyw brofion pellach yn cael eu cynnal cyn 75 oed.
Y lwfans oes yw’r terfyn y gallwch ei gronni mewn pensiynau dros eich oes wrth barhau i fwynhau’r buddion treth llawn.
Ar hyn o bryd, y lwfans oes yw £1,073,100.
Bydd y lwfans oes yn aros ar y lefel hon tan 5 Ebrill 2026.
Os eir y tu hwnt i’r lwfans hwn, rhaid talu tâl treth ar y swm sy’n uwch na’r lwfans.
Fodd bynnag, nid yw unrhyw bensiwn y mae buddiolwr yn ei etifeddu yn cyfrif tuag at eu lwfans oes ei hunan.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Lwfans gydol oes ar gyfer cynilion pensiwn
Beth sy’n digwydd os byddaf yn marw ar ôl 75 oed?
Os byddwch chi’n marw ar ôl 75 oed, bydd unrhyw un sy’n etifeddu’ch pensiwn yn cael ei drethu ar unrhyw incwm a dderbynnir fel enillion ar eu cyfradd ymylol o Dreth Incwm.
Os bydd eich buddiolwyr yn dewis tynnu arian allan trwy incwm ymddeol hyblyg (tynnu pensiwn i lawr ) yna dim ond yn ystod y flwyddyn dreth y byddant yn ei chymryd y byddant yn cael eu trethu.
Ni chynhelir profion lwfans oes os byddwch yn marw ar ôl 75 oed.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Incwm Ymddeol Gwarantedig (blwydd-daliadau) wedi’i egluro
Beth am Dreth Etifeddiant?
Bydd unrhyw asedau a adewir pan fyddwch yn marw, fel arian parod neu gynilion, hyd yn oed os oeddent yn rhan o’ch cronfa bensiwn yn wreiddiol, yn rhan o’ch ystâd at ddibenion Treth Etifeddiant.
Yn y rhan fwyaf o achosion, gellir pasio unrhyw bensiynau sydd gennych y tu allan i’ch ystâd ac felly ni ddylent fod yn destun Treth Etifeddiant. Fodd bynnag, er mwyn i hyn ddigwydd, byddai angen i weinyddwr y cynllun pensiwn fod â disgresiwn o ran i bwy y telir y buddion.
Disgresiwn
Yn gyffredinol, sefydlir y mwyafrif o bensiynau o dan ymddiriedolaeth yn ôl disgresiwn. Lle mae hyn yn wir, mae’n golygu bod gan yr ymddiriedolwyr/darparwyr yr hawl i ddewis pwy yn y pen draw sy’n derbyn unrhyw beth sy’n daladwy o’r pensiwn ar eich marwolaeth. Pan fydd hyn yn wir, mae fel arfer yn golygu na fydd y gwerth yn cael ei gyfrif fel rhan o’ch ystâd ac felly ni fydd yn destun IHT. Fel rheol, gallwch gyflwyno ffurflen enwebu, y cyfeirir ati’n aml fel ‘ffurflen mynegiant dymuniad’ sy’n caniatáu i chi ddweud wrth weinyddwr y cynllun i bwy yr hoffech iddynt dalu buddion marwolaeth iddynt. Nid oes rhaid i weinyddwr y cynllun ddilyn eich dymuniadau ond yn gyffredinol byddant yn gwneud hyn.
Cyfarwyddyd
Mewn rhai pensiynau efallai y gallwch ddweud wrth weinyddwr y cynllun yn union pwy ddylai dderbyn y buddion marwolaeth o’ch cynllun. Yna bydd gweinyddwr y cynllun yn talu’r buddion marwolaeth yn unol â’r hyn rydych wedi’i nodi. Yna bydd gwerth y buddion marwolaeth fel arfer yn cael ei gyfrif fel rhan o’ch ystâd ar gyfer IHT ar eich marwolaeth. Os yw hyn yn rhywbeth rydych chi’n arbennig o bryderus amdano, efallai yr hoffech chi siarad ag ymgynghorydd ariannol a allai eich helpu i roi’r trefniadau angenrheidiol mewn lle.
Enwebu dibynyddion
Bydd llawer o gynlluniau pensiwn yn gofyn i chi enwebu buddiolwr (yn aml gan ddefnyddio’r hyn a elwir yn ffurflen Mynegiant o Ddymuniad neu Enwebiad ). Felly mae’n bwysig dweud wrthynt i bwy rydych chi am adael eich pensiwn, a diweddaru hyn os bydd pethau’n newid.
Os ydych yn edrych ar sut i drosglwyddo pensiwn felly ni fydd yn effeithio ar unrhyw fudd-daliadau sy'n seiliedig ar brawf modd y person sy'n etifeddu eich pensiwn, yna dylech ofyn am gyngor ariannol wedi'i reoleiddio.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Darganfyddwch ymgynghorydd ymddeoliad
Enwebu’ch dibynyddion os oes gennych gynllun buddion wedi’u diffinio
Os oes gennych gynllun buddion wedi’u diffinio, telir unrhyw fuddion yn unol â rheolau’r cynllun.
Mae’n bwysig eich bod chi’n diweddaru’ch enwebiad, yn enwedig ar ôl digwyddiadau bywyd sylweddol fel priodas, ysgariad, colli partner neu eni plentyn.
Mae hyn er mwyn i ymddiriedolwyr y cynllun fod yn ymwybodol o bwy yr hoffech chi dderbyn unrhyw fuddion marwolaeth sy’n daladwy.
Mae’n bwysig nodi, er y bydd yr ymddiriedolwyr yn ystyried eich mynegiant o ddymuniadau, mae ganddynt ddisgresiwn i bwy i dalu’r buddion.
Fel y dywedwyd yn gynharach, ni fydd unrhyw fuddion marwolaeth pensiwn a delir o dan bwerau dewisol yr ymddiriedolwr/darparwr fel arfer yn cael eu cynnwys yn eich ystâd ac felly ni ddylai fod ganddynt unrhyw rwymedigaeth Treth Etifeddiant.
Mae pensiynau unrhyw ddibynnydd sy’n ddyledus fel arfer yn cael eu talu i briod cyfreithiol neu bartner sifil cofrestredig yr aelod.
Efallai y bydd rhai cynlluniau, ond nid pob un, yn talu’r pensiwn i bartner, roedd yr aelod ymadawedig yn byw gydag hwy pan iddynt farw, a oedd yn ddibynnol yn ariannol ar yr aelod. Mae’n bwysig gwirio gyda’ch cynllun i ddarganfod beth sy’n digwydd pan fyddwch chi’n marw.
Enwebu’ch dibynyddion os oes gennych gynllun cyfraniadau wedi’u diffinio
Gallwch enwebu pwy bynnag rydych chi am dderbyn eich cronfa bensiwn pan fyddwch chi’n marw. Fodd bynnag, yn gyffredinol mae i fyny i ddisgresiwn y darparwr neu’r ymddiriedolwyr sy’n gofalu am y pensiwn o ran pwy y bydd yn cael ei dalu iddynt.
Os ydych chi wedi llenwi ffurflen Mynegiant o Ddymuniad/Enwebu, byddant yn ystyried hyn. Felly mae’n bwysig eich bod chi’n diweddaru’r rhain.
Os ydych chi eisoes wedi prynu incwm gwarantedig (blwydd-dal) gyda’ch cronfa bensiwn, dim ond i’r person y gwnaethoch chi ei enwi pan fyddwch chi’n sefydlu’r blwydd-dal y mae’r blwydd-dal yn daladwy.
Unwaith eto, os oes gan weinyddwyr y cynllun pensiwn ddisgresiwn i bwy i dalu buddion marwolaeth, mae’r buddion fel arfer yn rhydd o Dreth Etifeddiant.
Os nad oes disgresiwn o’r fath yna bydd y buddion yn cael eu talu i’r unigolion a enwir yn y cyfrannau a nodwyd gennych chi, ond gallent fod yn atebol i Dreth Etifeddiant gan y bydd y buddion yn cael eu cyfri fel rhan o’ch ystâd.
Ydych chi’n aelod o bensiwn NEST? Yna bydd gwerth y gronfa fel arfer yn rhan o’ch ystâd, oni bai eich bod wedi llenwi ffurflen Mynegiant o Ddymuniad.
Darganfyddwch fwy gan NEST
Pensiwn y Wladwriaeth
Yn gyffredinol, pan fyddwch chi’n marw, bydd eich Pensiwn y Wladwriaeth yn stopio cael ei dalu.
Mae yna ychydig o sefyllfaoedd lle gallai’ch priod neu’ch partner sifil etifeddu rhywfaint o’ch Pensiwn y Wladwriaeth.
Byddwch yn ymwybodol nad yw’n bosibl i unrhyw un heblaw priod neu bartner sifil etifeddu Pensiwn y Wladwriaeth.
Mae’r rheolau ar etifeddu Pensiwn y Wladwriaeth yn gymhleth. Maent yn dibynnu ar yr hyn y mae pob un ohonoch wedi’i gronni a phryd y cyrhaeddodd pob un ohonoch oedran Pensiwn y Wladwriaeth.