Got a pension question? Our help is impartial and free to use. Get in touch online or over the phone on 0800 011 3797
Cau
Skip to content
Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo
English
  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
  • Credyd Cynhwysol

    Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad

    Budd-daliadau os oes gennych blant

    Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant

    Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr

    Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd

    Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd

    Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth

    Budd-daliadau a gwaith

    Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd

    Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai

    Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel

    Problemau gyda budd-daliadau

    Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau

    Budd-daliadau

    Pob canllaw Budd-daliadau

    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn Llywio Ariannol

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Bancio a thaliadau

    Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc

    Cyllidebu

    Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian

    Prynu a rhedeg car

    Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg

    Credyd

    Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd

    Yswiriant

    Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant

    Arian bob dydd

    Pob canllaw Arian bob dydd

    Teclynnau

    Teclyn

    Cymharu cyfrifon banc

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Dod yn rhiant

    Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant

    Marwolaeth a phrofedigaeth

    Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau

    Ysgariad a gwahanu

    Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu

    Salwch ac anabledd

    Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio

    Gofal tymor hir

    Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal

    Arian myfyrwyr a graddedigion

    Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr

    Siarad am arian

    Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid

    Teulu a gofal

    Pob canllaw Teulu a gofal

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Prynu tŷ

    Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth

    Rhentu

    Rhentu cartref i fyw ynddo, rhentu cartref, a goresgyn problemau

    Cartrefi

    Pob canllaw Cartrefi

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Help gyda chostau byw

    Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi

    Delio â dyled

    Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion

    Problemau a chwynion am arian

    Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion

    Sgamiau

    Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan

    Problemau ariannol

    Pob canllaw Problemau ariannol

    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Ymrestru awtomatig

    Cyflwyniad, sut mae’n gweithio, popeth am gyfraniadau

    Adeiladu eich cronfa bensiwn

    Faint rydych ei angen, ffyrdd i adeiladu'ch cronfa, trosglwyddo ac uno

    Hanfodion pensiwn

    Dechrau pensiwn, mathau o bensiwn, deall pensiynau

    Problemau pensiwn

    Cwynion, cymorth ariannol pan wedi ymddeol, newidiadau i gynlluniau

    Pensiwn y Wladwriaeth

    Sut mae’n gweithio, beth allech chi ei gael, Yswiriant Gwladol

    Cymryd eich pensiwn

    Ffyrdd o dynnu eich pensiwn, pryd allwch chi ymddeol, apwyntiadau Pension Wise

    Treth a phensiynau

    Lwfansau treth, treth a delir ar bensiynau, rhyddhad treth

    Pensiynau ac ymddeoliad

    Pob arweiniad, gan gynnwys sut i ddefnyddio'r gwasanaeth Pension Wise

    Teclynnau

    Apwyntiad

    Trefnwch apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Darganfyddwch ymgynghorydd ymddeoliad

    POB TECLYN

    Trefnwch eich apwyntiad Pension Wise am ddim

    Dros 50 oed? Cewch arweiniad diduedd, am ddim o’n gwasanaeth sydd wedi’i gefnogi gan y llywodraeth. Byddwn yn esbonio’r opsiynau i gymryd arian o’ch cron…

  • Sut i gynilo

    Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau

    Buddsoddi

    Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli

    Math o gynilion

    Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant

    Cynilion

    Pob canllaw Cynilion

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Cyflogaeth

    Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol

    Colli eich swydd

    Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo

    Hunangyflogaeth

    Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad

    Gwaith

    Pob canllaw Gwaith

    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
  • Credyd Cynhwysol Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad
    Budd-daliadau os oes gennych blant Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant
    Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd
    Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth
    Budd-daliadau a gwaith Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd
    Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel
    Problemau gyda budd-daliadau Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau
    Budd-daliadau Pob canllaw Budd-daliadau
    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn Llywio Ariannol

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Bancio a thaliadau Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc
    Cyllidebu Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian
    Prynu a rhedeg car Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg
    Credyd Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd
    Yswiriant Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant
    Arian bob dydd Pob canllaw Arian bob dydd
    Teclynnau

    Teclyn

    Cymharu cyfrifon banc

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Dod yn rhiant Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant
    Marwolaeth a phrofedigaeth Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau
    Ysgariad a gwahanu Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu
    Salwch ac anabledd Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio
    Gofal tymor hir Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal
    Arian myfyrwyr a graddedigion Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr
    Siarad am arian Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid
    Teulu a gofal Pob canllaw Teulu a gofal
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Prynu tŷ Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth
    Rhentu Rhentu cartref i fyw ynddo, rhentu cartref, a goresgyn problemau
    Cartrefi Pob canllaw Cartrefi
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Help gyda chostau byw Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi
    Delio â dyled Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion
    Problemau a chwynion am arian Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion
    Sgamiau Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan
    Problemau ariannol Pob canllaw Problemau ariannol
    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Ymrestru awtomatig Cyflwyniad, sut mae’n gweithio, popeth am gyfraniadau
    Adeiladu eich cronfa bensiwn Faint rydych ei angen, ffyrdd i adeiladu'ch cronfa, trosglwyddo ac uno
    Hanfodion pensiwn Dechrau pensiwn, mathau o bensiwn, deall pensiynau
    Problemau pensiwn Cwynion, cymorth ariannol pan wedi ymddeol, newidiadau i gynlluniau
    Pensiwn y Wladwriaeth Sut mae’n gweithio, beth allech chi ei gael, Yswiriant Gwladol
    Cymryd eich pensiwn Ffyrdd o dynnu eich pensiwn, pryd allwch chi ymddeol, apwyntiadau Pension Wise
    Treth a phensiynau Lwfansau treth, treth a delir ar bensiynau, rhyddhad treth
    Pensiynau ac ymddeoliad Pob arweiniad, gan gynnwys sut i ddefnyddio'r gwasanaeth Pension Wise
    Teclynnau

    Apwyntiad

    Trefnwch apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Darganfyddwch ymgynghorydd ymddeoliad

    POB TECLYN

    Trefnwch eich apwyntiad Pension Wise am ddim

    Dros 50 oed? Cewch arweiniad diduedd, am ddim o’n gwasanaeth sydd wedi’i gefnogi gan y llywodraeth. Byddwn yn esbonio’r opsiynau i gymryd arian o’ch cron…

  • Sut i gynilo Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau
    Buddsoddi Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli
    Math o gynilion Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant
    Cynilion Pob canllaw Cynilion
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Cyflogaeth Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol
    Colli eich swydd Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo
    Hunangyflogaeth Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad
    Gwaith Pob canllaw Gwaith
    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

Home
English
  1. Hafan
  2. Pensiynau ac ymddeoliad
  3. Cymryd eich pensiwn
Pensiynau ac ymddeoliad Cymryd eich pensiwn

Incwm Ymddeol Gwarantedig (blwydd-daliadau) wedi’i egluro

A ydych yn cynllunio'ch ymddeoliad ac yn meddwl defnyddio rhywfaint neu'r cyfan o'ch pensiwn i sicrhau incwm gwarantedig trwy brynu blwydd-dal? Darganfyddwch y mathau o flwydd-dal sydd ar gael, manteision ac anfanteision pob un, a sut i ddewis un sy'n iawn i chi. 

Beth sydd yn y canllaw hwn

  • Beth yw blwydd-dal?
  • Mathau o flwydd-dal
  • Faint o incwm ymddeol a gaf o flwydd-dal?
  • Budd-daliadau a dyledion sy'n dibynnu ar brawf modd
  • Sut i ddewis y math gorau o flwydd-dal
  • Beth yw'r dewisiadau amgen i brynu blwydd-dal?
  • Allwch chi barhau i gyfranu i bensiwn os ydych yn prynu blwydd-dal?

Beth yw blwydd-dal?

Mae blwydd-dal yn darparu incwm gwarantedig rheolaidd i chi ar ôl ymddeol.

Gallwch brynu blwydd-dal â rhywfaint neu'r cyfan o'ch cronfa bensiwn. Mae'n talu incwm naill ai am oes neu am nifer y blynyddoedd y cytunwyd arnynt.

Pan ddefnyddiwch arian o'ch cronfa bensiwn i brynu blwydd-dal, gallwch gymryd hyd at chwarter (25%) o'r swm fel arian parod di-dreth.

Yna gallwch ddefnyddio'r gweddill i brynu'r blwydd-dal - ac mae'r incwm rydych yn ei gael yn cael ei drethu fel enillion.

Gwerthir blwydd-daliadau gan gwmnïau yswiriant.

Logo Pension Wise

Eisiau gwybod eich opsiynau cronfa bensiwn?

Logo Pension Wise

Os ydych yn meddwl cymryd arian allan o’ch cronfa bensiwn, mae ein gwasanaeth Pension Wise yn cynnig arweiniad di-duedd, am ddim ar eich opsiynau.

Dros 50? Darganfyddwch fwy neu trefnwch eich apwyntiad am ddim neu ffoniwch ni ar 0800 138 3944

Nol i’r brig

Mathau o flwydd-dal

Mae'r gwahanol fathau o flwydd-dal sydd ar gael yn cynnwys:

  • Blwydd-dal gydol oes
  • Blwydd-dal tymor penodol
  • Blwydd-daliadau uwch
  • Blwydd-daliadau cysylltiedig i fuddsoddiad
  • Blwydd-dal bywyd wedi'i brynu.

Mae pa fath sydd orau i chi yn dibynnu ar lawer o bethau, fel pa incwm ymddeol arall sydd gennych, p'un a oes gennych broblem iechyd, a beth yw eich awydd am risg.

Blwydd-dal gydol oes

  • Bydd yn talu incwm gwarantedig i chi am weddill eich oes.
  • Gallai fod yn addas os ydych yn gyffredinol ddim yn hoffi risg ac nad ydych am i'ch cronfa bensiwn fod yn destun unrhyw risg buddsoddi.
  • Mae'n opsiwn da os ydych eisiau tawelwch meddwl neu'n poeni bod eich arian yn rhedeg allan. Nid oes rhaid i chi ddefnyddio'ch holl gronfa bensiwn i brynu blwydd-dal. Felly gallech brynu blwydd-dal i dalu am rai, yn hytrach na'r cyfan, o'ch anghenion incwm - er enghraifft, eich gwariant hanfodol fel bwyd a biliau cartref.
  • Gallwch brynu blwydd-dal sy'n cynyddu bob blwyddyn, i'ch amddiffyn rhag chwyddiant.
  • Pan fyddwch yn prynu un, nid oes modd newid y penderfyniad, ni allwch newid eich meddwl yn nes ymlaen.
  • Yn dibynnu ar ba mor hir rydych yn byw, efallai y byddwch yn cael llai na'r hyn rydych wedi'i dalu am eich blwydd-dal. Er y gallech ddewis darparu incwm neu lwmp swm i ddibynnydd pan fyddwch farw.

Bydd faint o incwm a gewch yn dibynnu ar y darparwr a ddewiswch, felly mae'n bwysig edrych o gwmpas i sicrhau eich bod yn cael y cynnig gorau.

Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Opsiynau blwydd-dal a siopa o gwmpas

Gwnewch yn siŵr eich bod yn egluro unrhyw gyflyrau meddygol sydd gennych chi neu'ch partner - oherwydd gallai olygu y gallech gael incwm blwydd-dal uwch.

Byddwch yn ymwybodol

Pan fyddwch yn prynu blwydd-dal gydol oes, ni allwch newid eich meddwl.

Blwydd-dal tymor penodol

  • Bydd yn talu incwm gwarantedig i chi am gyfnod penodol o amser. Gallwch ddewis term rhwng un a 40 mlynedd - er bod pump i ddeng mlynedd yn nodweddiadol.
  • Mae'r darparwr blwydd-dal yn buddsoddi'r arian rydych yn ei dalu am y blwydd-dal. Ar ddiwedd y cyfnod, byddwch fel arfer yn cael ‘swm aeddfedrwydd’. Y lwmp swm hwn yw'r arian gwnaethoch ei dalu, ynghyd â'r twf buddsoddi - ond heb yr incwm rydych wedi'i dderbyn hyd yn hyn. Bydd y swm yn dibynnu ar faint o incwm roeddech ei angen dros y cyfnod, a faint y gwnaethoch ei dalu am y blwydd-dal ar y dechrau.
  • Gallwch ddefnyddio'ch swm aeddfedrwydd yn y ffordd sy'n gweddu orau. Er enghraifft, gallech ei ddefnyddio i ddarparu incwm ymddeol hyblyg (tynnu pensiwn i lawr) neu brynu blwydd-dal arall. Os yw cyfraddau blwydd-dal wedi gwella erbyn diwedd y cyfnod, gallech gymryd blwydd-dal newydd â chyfradd well yn seiliedig ar eich bod yn hŷn, neu os yw'ch iechyd wedi dirywio.
  • Cytunir ar y swm aeddfedrwydd pan fyddwch yn cymryd allan y cynnyrch. Felly, os dewiswch gael incwm blwydd-dal is, cewch swm aeddfedrwydd uwch ar y diwedd.
  • Os byddwch farw cyn i'ch blwydd-dal tymor penodol ddod i ben, fel rheol gellir talu'r swm aeddfedrwydd i fuddiolwr rydych wedi'i enwebu.
  • Mae rhai darparwyr hefyd yn cynnig opsiwn i drosi a gadael eich blwydd-dal tymor penodol yn gynharach na'ch tymor penodol gwreiddiol. Ar y pwynt hwn, byddant yn ailgyfrifo'r swm aeddfedrwydd sy'n daladwy bryd hynny.

Wrth ystyried blwydd-dal tymor penodol, mae'n bwysig edrych o gwmpas i sicrhau eich bod yn cael y cynnig gorau. Gallwch hefyd ychwanegu ystod o nodweddion eraill sy'n addas i'ch amgylchiadau. 

Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Opsiynau blwydd-dal a siopa o gwmpas

Blwydd-daliadau uwch

A ydych wedi cael diagnosis o salwch, neu oes gennych broblemau iechyd eraill a allai leihau eich disgwyliad oes? Yna efallai y gallwch gael incwm ymddeol uwch. Gelwir hyn hefyd yn flwydd-dal ‘bywyd â nam’.

Ymhlith y problemau iechyd sy'n golygu y gallech gael incwm ymddeol uwch mae:

  • Strôc
  • Canser
  • Diabetes
  • Trawiad ar y galon
  • Methiant yr arennau
  • Asthma cronig
  • Sglerosis ymledol
  • Pwysau gwaed uchel
  • Colesterol uchel.

Mae rhai cyflyrau iechyd eraill a allai hefyd olygu eich bod yn cael incwm uwch. Er enghraifft, os ydych dros bwysau neu os ydych yn ysmygu'n rheolaidd.

Mae rhai cwmnïau hefyd yn cynnig cyfraddau blwydd-dal uwch i bobl sydd wedi gweithio mewn rhai swyddi. Er enghraifft, y rhai sy'n cynnwys llawer o lafur â llaw, neu sy'n byw mewn rhai ardaloedd o'r wlad sydd, er enghraifft, â disgwyliadau oes is.

Gofynnir cwestiynau meddygol i chi cyn i chi gael cynnig cyfradd blwydd-dal uwch. Efallai y bydd y darparwr blwydd-dal yn gofyn i'ch meddyg am fwy o wybodaeth neu'n gofyn i chi fynd am archwiliad meddygol.

Mae'r gyfradd blwydd-dal a gynigir i chi yn seiliedig ar amcangyfrif o'ch disgwyliad oes personol. Cyfrifir hyn gan ddefnyddio'r wybodaeth feddygol a ddarperir.

Blwydd-daliadau cysylltiedig i fuddsoddiad

Mae hwn yn fath o flwydd-dal gydol oes lle mae rhan o'ch incwm wedi'i warantu, ac mae rhan yn gysylltiedig â pherfformiad buddsoddiad.

Rydych yn dewis y lefel incwm gwarantedig rydych ei eisiau. A defnyddir rhan o'ch cronfa bensiwn i ddarparu hyn.

Buddsoddir balans y gronfa, ac mae'n talu incwm ychwanegol yn seiliedig ar enillion y buddsoddiad.

Byddech yn cael lefelau incwm uwch os yw marchnadoedd buddsoddi'n perfformio'n dda. Ond efallai byddwch ond yn cael yr isafswm gwarantedig os yw marchnadoedd yn gostwng.

Blwydd-dal bywyd wedi'i brynu

Gallwch brynu'r math hwn o flwydd-dal ag arian sydd ddim yn eich cronfa bensiwn.

Gallech hefyd ei brynu â'r cyfandaliad di-dreth y gallwch ei gymryd pan fyddwch yn dechrau cymryd arian o'ch pensiwn.

Mae gan y blwydd-dal hwn yr un opsiynau â blwydd-daliadau pensiwn, er eu bod yn cael eu trin ychydig yn wahanol at ddibenion treth.

Mae pob taliad blwydd-dal yn cynnwys dychweliad o ran o'r swm a fuddsoddwyd (y cyfalaf) ynghyd â'r rhan sy'n llog. Nid ydych yn talu treth incwm ar y cyfalaf. Dim ond ar ran llog eich incwm blwydd-dal y byddwch yn talu treth.

Gellir eu hysgrifennu ar sail cyfalaf a ddiogelir. Mae hyn yn golygu y byddant bob amser yn talu o leiaf cymaint o incwm cyn treth â'r swm a ddefnyddwyd i brynu'r blwydd-dal.

Os byddwch yn dewis ‘dim math o amddiffyniad’ pan fyddwch yn ei brynu, yna ni ddychwelir unrhyw gyfalaf pan fyddwch farw. 

Nol i’r brig

Faint o incwm ymddeol a gaf o flwydd-dal?

Bydd eich incwm ymddeol ac a ddylech brynu blwydd-dal ai peidio yn dibynnu ar:

  • maint eich cronfa bensiwn
  • pa mor hen rydych pan fyddwch yn prynu'ch blwydd-dal
  • pa mor hir rydych am i'r blwydd-dal bara - am dymor penodol neu am eich oes
  • cyfraddau blwydd-dal ar yr adeg rydych yn prynu
  • lle rydych yn disgwyl byw pan fyddwch yn ymddeol
  • eich iechyd a'ch ffordd o fyw
  • pa fath blwydd-dal, opsiynau incwm a nodweddion rydych yn eu dewis.
Nol i’r brig

Budd-daliadau a dyledion sy'n dibynnu ar brawf modd

Gall cymryd arian o'ch pensiwn effeithio ar eich cymhwysedd i gael budd-daliadau y wladwriaeth sy'n dibynnu ar brawf modd.

Darganfyddwch fwy am sut y gall budd-daliadau effeithio ar bensiynau yn GOV.UK

Fel rheol ni all cwmni neu berson rydych mewn dyled iddynt wneud cais yn erbyn eich pensiynau os nad ydych wedi dechrau cymryd arian oddi wrthynt eto. Mae hyn hefyd yn berthnasol i Ddyfarniadau Llys Sirol a Threfniadau Gwirfoddol Unigol. Ar ôl i chi dynnu arian o'ch pensiwn, fodd bynnag, efallai y bydd disgwyl i chi dalu.

Os oes angen i chi gael gwared ar ddyledion, mae'n bwysig cael cymorth arbenigol cyn cyrchu'ch pensiwn.

Darganfyddwch fwy yn ein canllawiau:
Ble i gael cyngor ar ddyledion am ddim
Defnyddio'ch pensiwn i dalu dyledion
Nol i’r brig

Sut i ddewis y math gorau o flwydd-dal

Beth yw’r math gorau o flwydd-dal? Mae llawer yn dibynu ar eich amgylchiadau.

Darganfyddwch pa nodweddion ac opsiynau blwydd-dal gydol oes a allai fod yn iawn i chi - a faint o incwm ymddeol y gallech ei gael yn y farchnad gyfredol - yn ein canllaw Opsiynau blwydd-dal a siopa o gwmpas

Mae llawer o wahanol nodweddion y gallwch eu dewis wrth brynu blwydd-dal. Felly mae'n bwysig siopa o gwmpas i ddod o hyd i un sy'n gweddu orau i'ch anghenion.

Teclyn cymharu blwydd-dal

Wrth chwilio am flwydd-daliadau, i’ch helpu i weld faint o incwm y gallech ei gael o wahanol opsiynau – defnyddiwch ein Teclyn cymharu blwydd-dal

Nol i’r brig

Beth yw'r dewisiadau amgen i brynu blwydd-dal?

Mae pedwar opsiwn arall ar gyfer defnyddio'ch cronfa bensiwn heblaw blwydd-dal:

  • cadwch eich cronfa bensiwn lle mae ac oedi cyn cymryd arian ohono
  • defnyddio'ch cronfa i ddarparu incwm ymddeol hyblyg - tynnu pensiwn i lawr
  • cymryd sawl cyfandaliad o'ch cronfa
  • cymryd eich cronfa gyfan fel cyfandaliad.

Gallwch hefyd gymysgu'ch opsiynau i roi mwy o hyblygrwydd i chi.

 

Darganfyddwch fwy am y dewisiadau amgen i brynu blwydd-dal yn ein canllaw Opsiynau i ddefnyddio eich cronfa bensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio

Allwch chi barhau i gyfranu i bensiwn os ydych yn prynu blwydd-dal?

Os ydych chi'n bwriadu cymryd eich cyfandaliad di-dreth, sefydlu incwm gwarantiedig o flwydd-dal a gwneud cyfraniadau pellach i'r un pensiwn neu un arall, rhaid i chi fod yn ymwybodol o'r rheolau ‘ailgylchu pensiwn’. 

Mae'r rhain wedi'u cynllunio i atal pobl rhag cael rhyddhad treth pellach ar gyfraniadau lle maent eisoes wedi elwa o ryddhad treth.

Gallai'r rheolau ailgylchu pensiwn effeithio arnoch chi os ydych yn bwriadu defnyddio peth neu'r cyfan o'ch cyfandaliad di-dreth i gynyddu cyfraniadau i bensiwn yn sylweddol.

Darganfyddwch fwy am ailgylchu pensiwn gan CThEM

Os ydych yn ystyried ail-fuddsoddi'ch cyfandaliad di-dreth i mewn i bensiwn, ystyriwch siarad ag ymgynghorydd ariannol. Gallant eich helpu i edrych ai rhoi'r arian yn ôl mewn pensiwn yw'r opsiwn gorau i chi a'ch helpu i osgoi unrhyw beryglon.

Logo Pension Wise

A oes gennych gwestiwn am sut y gall eich pensiwn gael ei dalu?

Logo Pension Wise

Os oes angen help arnoch i wneud synnwyr o sut a phryd y gallwch gael mynediad at eich cronfa bensiwn, gallwch siarad ag arbenigwr Pension Wise, gwasanaeth am ddim gan HelpwrArian.

Trefnu apwyntiad am ddim

Nol i’r brig
Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Rhannu erthygl
E-bost Facebook Twitter
Rhannu hwn gyda
WhatsApp LinkedIn
Copio’r ddolen yma
Anfon e-bost
Copio’r ddolen yma
Cymryd eich pensiwn

Tynnu pensiwn

  • Ymddeol yn hwyrach neu oedi cyn cymryd eich cronfa bensiwn
  • Incwm Ymddeol Gwarantedig (blwydd-daliadau) wedi'i egluro
  • Prynu blwydd-dal: opsiynau blwydd-dal a siopa o gwmpas
  • Cyfraddau blwydd-dal gwarantedig
  • Tynnu i lawr wedi’i gapio
  • Beth yw incwm ymddeol hyblyg (tynnu pensiwn i lawr)?
  • Cymryd eich pensiwn cyfan ar unwaith
  • Cymryd eich pensiwn fel nifer o gyfandaliadau
  • Symud, byw ac ymddeol dramor
  • Opsiynau i ddefnyddio eich cronfa bensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio
  • Siopa o gwmpas am gynhyrchion incwm pensiwn a darparwyr ar ôl ymddeol
  • Ymddeoliad cynnar oherwydd salwch neu anabledd
  • Dod â'ch cronfeydd pensiwn at ei gilydd pan fyddwch yn ymddeol
  • Lleihau eich cartref ar ôl ymddeol
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan

Tynnu pensiwn

  • Ymddeol yn hwyrach neu oedi cyn cymryd eich cronfa bensiwn
  • Incwm Ymddeol Gwarantedig (blwydd-daliadau) wedi'i egluro
  • Prynu blwydd-dal: opsiynau blwydd-dal a siopa o gwmpas
  • Cyfraddau blwydd-dal gwarantedig
  • Tynnu i lawr wedi’i gapio
  • Beth yw incwm ymddeol hyblyg (tynnu pensiwn i lawr)?
  • Cymryd eich pensiwn cyfan ar unwaith
  • Cymryd eich pensiwn fel nifer o gyfandaliadau
  • Symud, byw ac ymddeol dramor
  • Opsiynau i ddefnyddio eich cronfa bensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio
  • Siopa o gwmpas am gynhyrchion incwm pensiwn a darparwyr ar ôl ymddeol
  • Ymddeoliad cynnar oherwydd salwch neu anabledd
  • Dod â'ch cronfeydd pensiwn at ei gilydd pan fyddwch yn ymddeol
  • Lleihau eich cartref ar ôl ymddeol
Logo Llywodraeth E.M

Darperir HelpwrArian gan:

Logo Gwasanaeth Arian a Phensiynau
Level AA conformance, W3C WAI Web Content Accessibility Guidelines 2.1 Clear English Standard for Websites logo
  • Amdanom ni
  • Cael help a chyngor
  • Cysylltu â ni
  • Partneriaethau
  • Offer a chyfrifianellau
  • Rhoi adborth
  • Cynllun Iaith Gymraeg
  • Blog

Dilynwch ni:

© 2023 Money and Pensions Service, 120 Holborn, London EC1N 2TD. Cedwir pob hawl.

  • Telerau ac amodau
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Datganiad hygyrchedd
  • Map safle
  • Sut rydym yn defnyddio cwcis
  • Dewisiadau cwcis Dewisiadau cwcis
Siaradwch â ni yn fyw am...
Cau
Siaradwch â ni yn fyw am...
Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio’r ffôn
  • O dramor: +44 20 7932 5780
  • I’r hunangyflogedig: 0345 602 7021*
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn – Sul:Wedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn
  • Cymraeg: 0800 138 0555*
  • Typetalk: 18001 0800 915 4622
  • O dramor: +44 20 3553 2279
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Blaenorol Cau

Blaenorol Cau

Blaenorol Cau

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun–Gwener8am-6pm
  • Sadwrn8am - 3pm
  • Sun and bank holidaysWedi cau
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun, Mercher, Gwener8.20am - 6.20pm
  • Tues, Thurs9am - 6.20pm
  • Sat, Sun and bank holidaysWedi cau
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion, cwestiynau credyd neu ganllaw pensiynau. Am bopeth arall, cysylltwch â ni trwy Wesgwrs neu dros y Ffôn.

Blaenorol Cau