Os yw'ch cronfa bensiwn yn cynnwys cyfradd blwydd-dal gwarantedig, gallai swm yr incwm a dderbyniwch fod yn llawer uwch os arhoswch gyda'ch darparwr presennol yn hytrach na siopa o gwmpas.
Beth yw cyfradd blwydd-dal gwarantedig?
Mae blwydd-dal yn incwm rheolaidd a delir i chi am oes a'r gyfradd blwydd-dal yw'r ffactor sy'n penderfynu faint o incwm blynyddol a gewch.
Mae'r gyfradd hon yn dibynnu ar ystod o bethau, gan gynnwys eich oedran, cyflwr eich iechyd a hyd yn oed ble rydych yn byw. Ond yn fwy na dim, mae'n seiliedig ar gyfraddau cyfredol y farchnad.
Heddiw, mae cyfraddau blwydd-dal yn is nag yr oeddent yn yr 1980au a'r 1990au. Cyfradd blwydd-dal gwarantedig yw un a osodwyd yn nhelerau ac amodau eich polisi pensiwn pan wnaethoch chi gymryd y polisi. Mae hyn yn golygu y bydd y gyfradd a gynigir yn uwch na'r cyfraddau sydd ar gael heddiw.
Darganfyddwch fwy am flwydd-daliadau yn ein canllaw Incwm Ymddeol Gwarantedig (blwydd-daliadau) wedi'i egluro
Pam mae’n dda cael cyfradd blwydd-dal gwarantedig?
Mae'r cyfraddau gwarantedig hyn yn golygu y gallwch brynu blwydd-dal ar gyfradd ganrannol benodol. Mae'r cyfraddau cyffredin a gynigir oddeutu 9 i 11% (weithiau'n uwch) - sydd tua dwbl y gyfradd orau y gall y rhan fwyaf o bobl ei chyflawni nawr.
Yr hyn y mae hynny'n ei olygu yw y byddech yn cael £9 neu £11 fel incwm y flwyddyn am bob £100 o gronfa bensiwn sydd gennych chi o'i gymharu â, dyweder, £5 am bob £100 o gronfa bensiwn y gallech ei gael yn seiliedig ar gyfraddau heddiw.
Cafodd y mwyafrif o bolisïau sy'n cynnig cyfradd blwydd-dal gwarantedig eu marchnata yn yr 1980au a'r 1990au, pan oedd cyfraddau blwydd-dal ar y pryd yn uwch.
Fodd bynnag, mae'n bwysig eich bod yn gwirio'r telerau a'r amodau sydd ynghlwm wrth y gyfradd blwydd-dal gwarantedig. A gwiriwch fod y blwydd-dal a ddarperir yn addas ar gyfer eich amgylchiadau.
Sut gallaf ddarganfod a oes gennyf gyfradd blwydd-dal gwarantedig?
Os oes gennych gyfradd blwydd-dal gwarantedig, mae rhaid i'ch darparwr pensiwn eich gwneud yn ymwybodol o hyn wrth ichi agosáu at ymddeol a chyn i chi ddechrau cymryd arian o'ch pensiwn neu ofyn am symud eich pensiwn i rywle arall.
Fel rheol, byddant yn anfon pecyn ymddeol atoch ar wahanol bwyntiau o 50 oed ymlaen. Dylai hyn ddarparu gwybodaeth am unrhyw gyfradd blwydd-dal gwarantedig a allai fod ar gael i chi.
Gallech hefyd wirio'r telerau ac amodau trwy edrych ar y wybodaeth a roddwyd i chi pan gwnaethoch ymuno â'r pensiwn.
Nid yw bob amser yn hawdd darganfod a oes gennych gyfradd blwydd-dal gwarantedig. Gwiriwch eich gwaith papur yn ofalus, edrychwch am iaith fel ‘contract blwydd-dal ymddeol’, ‘polisi adran 226’ ‘gyda- elw’, ‘buddion’, ‘ffafriol’ neu ‘gwarant’. Mae hefyd yn syniad da gofyn i'ch darparwr pensiwn yn uniongyrchol
Gwnewch yn siŵr nad ydych yn colli allan
Os oes gennych gyfradd blwydd-dal gwarantedig, gallai fod cyfyngiadau ar pryd y gallwch ei chymryd. Mae rhai polisïau ond yn cynnig y gyfradd ar y dyddiad ymddeol a ddewiswyd gennych, nid os ydych am ddechrau cymryd arian cyn neu ar ôl hyn.
Efallai y bydd gan bolisïau eraill ffenestr fwy hael o sawl mis, neu ddim ond isafswm oedran. Ond beth bynnag yw'r cyfyngiad, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n gwybod amdano ymlaen llaw.
Gallai'r telerau ac amodau hefyd gyfyngu ar y math o flwydd-dal y gallwch ei gymryd. Os ydych am gynnwys incwm parhaus ar gyfer dibynnydd enwebedig, fel priod, neu incwm cynyddol, efallai na fydd y warant yn berthnasol neu gallai'r gyfradd fod yn is.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn edrych o gwmpas fel y gallwch chi gymharu cyfraddau blwydd-dal, yn enwedig os ydych yn gymwys i gael blwydd-dal uwch os oes gennych gyflyrau iechyd.