Nid oes rhaid i reoli eich cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu gostio llawer. Yn wir, os na fyddwch yn defnyddio’ch gorddrafft ac yn defnyddio’ch cardiau yn ofalus, efallai na fydd rhaid i chi dalu unrhyw beth o gwbl. Darganfyddwch am rai o’r costau cyffredin y gallwch wynebu.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Ffioedd a llog gorddrafft
- Ffioedd trafodion os yw’ch gorddrafft yn anawdurdodedig
- Ffioedd am Ddebydau Uniongyrchol ac archebion sefydlog a wrthodir
- Ffioedd peiriannau codi arian (ATM)
- Ffioedd trafodion tramor
- Ffioedd trosglwyddiadau banc ar yr un diwrnod
- Ffioedd am eitemau untro
- A fydd ffioedd eich banc yn newid?
- Beth i’w wneud os oes problem
Ffioedd a llog gorddrafft
Os oes gennych cyfrif cyfredol, efallai bydd yn bosibl tynnu mwy o arian allan na sydd gennych yn eich cyfrif. Mae hyn yn cael ei alw’n gorddrafft.
Fel arfer mae cost am ddefnyddio eich gorddrafft.
Mae banciau a chymdeithasau adeiladu yn codi rhwng 15% a 40% APR (cyfradd ganrannol flynyddol) am ddefnyddio eich gorddrafft.
Dysgwch fwy am orddrafftiau yn ein canllaw Egluro gorddrafftiau
Ffioedd trafodion os yw’ch gorddrafft yn anawdurdodedig
Os ewch dros derfyn awdurdodedig eich gorddrafft, efallai y bydd ffi yn cael ei godi arnoch bob tro y byddwch yn codi arian neu wneud taliad siec neu gerdyn.
Mae hyn yn wir hyd yn oed os na fydd y banc yn caniatáu i’r taliad fynd trwodd. Fodd bynnag os yw’r banc yn codi ffi am wrthod taliad, mae rhaid i’r ffi fod yn gymesur â’i gostau.
Ffioedd am Ddebydau Uniongyrchol ac archebion sefydlog a wrthodir
Os nad oes digon o arian yn eich cyfrif i gwmpasu Debyd Uniongyrchol neu archeb sefydlog, gall y banc wrthod gwneud y taliad a chodi ffi arnoch.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Debydau Uniongyrchol ac archebion sefydlog
Uchafswm Tâl Misol
Bellach mae gan gyfrifon cyfredol Uchafswm Tâl Misol (MMC) mewn lle. Hyn yw’r uchafswm y byddech yn ei dalu bob mis mewn ffioedd, costau a llog ar orddrafftiau heb eu trefnu.
Nid yw hyn yn effeithio ar orddrafftiau awdurdodedig, ac mae’n swm gwahanol yn ddibynnol ar y banc neu gymdeithas adeiladu, a pha gyfrif cyfredol sydd gennych.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio beth yw’r MMC gyda’ch cyfrif cyfredol fel eich bod yn gwybod faint mae eich gorddrafft yn ei gostio i chi.
Ffioedd peiriannau codi arian (ATM)
Yn y DU, mae tynnu arian o beiriant arian parod â'ch cerdyd debyd am ddim fel arfer.
Fodd bynnag, mae rhai eithriadau:
- Mae rhai peiriannau codi arian hwylus – yn enwedig y rhai y tu mewn i siopau bychain, mewn garejys ac mewn clybiau nos – yn gallu codi ffi o hyd at £5 bob tro rydych yn tynnu arian allan ohonynt. Maent yn dweud wrthych am y ffioedd ar y sgrin cyn i chi dynnu’r arian allan fel eich bod yn gallu penderfynu ydych am fynd ymlaen ai peidio.
- Mae defnyddio cerdyn credyd i dynnu arian allan yn cynnwys ffi – yn arferol tua £3 – ac rydych yn talu llog o’r dyddiad rydych yn tynnu’r arian allan. Dim ond wrth brynu nwyddau y cewch gyfnod di-log.
- Mae rhai cardiau rhagdaledig yn codi ffi i dynnu arian o beiriannau codi arian.
Ffioedd trafodion tramor
Mae banciau’n codi ffioedd o hyd at 3% am y rhan fwyaf o drafodion tramor, fel defnyddio eich cerdyn debyd i:
- tynnu arian parod o beiriannau codi arian
- prynu pethau tra rydych dramor
Fel rheol, gelwir y ffioedd hyn yn ‘ffioedd llwyth’ neu ‘ffioedd trafodion nad ydynt yn sterling’.
Gallai rhai banciau ychwanegu ffi ychwanegol – a gellir ei alw'n ‘ffioedd prynnianau nad ydynt yn sterling’. Mae'r rhain yn aml yn ffioedd safonol o rwng £1 a £1, sy'n cael ei godi ar bob trafodiad.
Ffioedd trosglwyddiadau banc ar yr un diwrnod
Mae’r rhan fwyaf o drosglwyddiadau banc ar yr un diwrnod am ddim wrth ddefnyddio’r Gwasanaeth Taliadau Cyflymach (FPS). Ond mae pob banc yn capio’r swm y gallwch ei drosglwyddo bob dydd drwy ddefnyddio’r system Taliadau Cyflymach.
Mae’r terfynau isaf o gwmpas £10,000. Os ydych yn gwneud trosglwyddiad mawr – fel rhan o bryniant tŷ, er enghraifft – efallai y bydd angen i chi symud symiau mwy ar fyr rybudd.
Gall rhai banciau godi eu terfyn Taliadau Cyflymach dros dro i hwyluso trafodion mwy yn rhad ac am ddim. Ond bydd eraill yn defnyddio’r system dalu CHAPS ac yn codi ffi rhwng £15 a £55 arnoch am y trosglwyddiad. Darganfyddwch fwy am y system CHAPS ar y wefan Taliadau Cyflymach
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Sut i drosglwyddo arian o’ch cyfrif banc
Ffioedd am eitemau untro
Mae gan bob banc restr o’r ffioedd maent yn eu codi am eitemau untro, fel:
- stopio siec
- cael drafft banc
- archebu dyblygiad o ddatganiadau
- cael copïau o sieciau sydd wedi’u talu
- gofyn am eirda gan y banc.
- cyflwyniad arbennig siec (cael gwybod yn sydyn a fydd y siec yn cael ei thalu)
Fel rheol mae’r rhain rhwng £3 a £30 – mae’n amrywio o fanc i fanc. Ond mae’n werth i chi wirio beth yw’r ffioedd hyn cyn i chi agor cyfrif.
Mae rhaid i’r banciau gyhoeddi rhestr lawn o’u ffioedd - dylech allu dod o hyd iddynt ar eu gwefan.
A fydd ffioedd eich banc yn newid?
Gall y ffioedd newid, ond bydd rhaid i’ch banc chi roi rhybudd i chi.
Bydd eich banc neu eich cymdeithas adeiladu’n dweud wrthych am eu ffioedd wrth i chi agor eich cyfrif.
Os bydd unrhyw newid i’r ffioedd neu delerau ac amodau rhedeg eich cyfrif cyfredol neu gyfrif taliadau, mae rhaid iddynt roi gwybod i chi ymhell o flaen llaw. Mae hyn dau fis fel arfer.
Nid yw’r cyfnod rhybudd hwn yn berthnasol i bob newid i gyfrif cynilo na gorddrafft.
Beth i’w wneud os oes problem
Os cewch broblem â ffioedd a chostau, siaradwch â’ch banc.
Os credwch fod y banc wedi gwneud camgymeriad
Rhowch gyfle iddynt ei gywiro cyn i chi gwyno.
Os credwch fod y banc wedi codi ffioedd cywir arnoch ond yn teimlo na ddylech eu talu
Mae’n werth gofyn iddynt ildio’r ffioedd. Os nad ydych yn fodlon ag ymateb y banc, gallwch wneud cwyn ffurfiol.
Gwnewch nodyn o enw pawb rydych wedi siarad â hwy a beth maent yn ei ddweud. Hefyd gwnewch nodyn o ddyddiadau ac amseroedd eich galwadau.
Ysgrifennwch eich cwyn ar bapur. Nodwch eich llythyr fel ‘cwyn’ a dywedwch yn glir am beth rydych yn cwyno a beth hoffech weld yn digwydd. Rhowch rif eich cyfrif a’r cod didoli. Hefyd darparwch unrhyw lythyrau, papurau neu ddatganiadau sy’n egluro’r broblem.
Lawrlwythwch ein templed o lythyr i gwyno wrth eich banc neu gymdeithas adeiladuYn agor mewn ffenestr newydd (DOCX, 17KB)
Darllenwch am Sut mae adfer ffioedd banc annheg
Os nad ydych yn fodlon o hyd, gallwch gwyno i Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol.