Os ydych chi’n wynebu ffioedd gorddrafft gormodol neu ffioedd banc eraill, mae siawns i chi gael ad-daliad neu ddod i drefniant gyda’ch banc, yn enwedig os ydych chi’n wynebu caledi ariannol. Dechreuwch drwy siarad yn uniongyrchol gyda’ch banc. Os nad yw hynny’n gweithio, efallai cewch chi help am ddim.
Oes pwrpas mewn rhoi cynnig ar adfer y ffioedd gorddrafft?
Oes, yn sicr. Mae angen ychydig o ymdrech, ond cofiwch:
- does gennych chi ddim byd i’w golli - ar wahân, i amser yn gwneud galwadau neu ysgrifennu llythyrau efallai
- ni fydd yn costio dim i chi - os oes gennych chi achos, bydd yr ymchwiliad am ddim
- ni fydd eich banc yn eich cosbi chi - ni chewch eich trin yn wahanol am gwyno.
Pwy all adfer ffioedd?
Gall unrhyw un siarad gyda’u banc neu ysgrifennu atynt i ofyn am ad-daliad. Gall rhai banciau hyd yn oed waredu’r ffi fel arwydd o ewyllys da am eich bod yn gwsmer gwerthfawr.
Bu i ddyfarniad mewn Goruchaf Lys yn 2009 ei gwneud hi’n anoddach hawlio costau yn ôl, fodd bynnag mae’n bosibl gwneud hynny - yn enwedig os ydych dan bwysau ariannol.
Os bydd eich banc yn gwrthod, gallwch bob amser ofyn i Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol ymchwilio (am ddim).
Gall Gwasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol helpu os:
- rydych dan bwysau ariannol difrifol - er enghraifft, os ydych yn cael trafferth prynu pethau hanfodol a thalu biliau, neu efallai eich bod wedi colli eich swydd.
- mae'r taliadau’n annheg o’i gymharu â’r hyn rydych wedi’i wneud - er enghraifft, os aethoch i orddrafft o £1 ac yna cael ffi o £35
- rydych yn methu dod allan o gylch dieflig o ffioedd - efallai bod hyn yn wir os yw’r ffioedd yn eich rhoi yn y coch yn ddibaid, ac mae’r gorddrafft yn dal i gostio mwy i chi mewn ffioedd.
Darganfyddwch fwy yn ein blog am sut all Gwasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol eich helpu
Sut mae adfer ffioedd banc
Gallech dedfnyddio Money Saving Expert sydd â’r canllaw gorau ar sut i adfer costau gorddrafft a ffioedd banc annheg.
Bydd eu canllaw yn eich helpu i:
- penderfynu i gwyno neu beidio
- cyfrifo faint gewch chi efallai
- cwyno wrth eich banc
- ysgrifennu lythyrau cwyno da (drwy ddefnyddio llythyrau sampl a thempledi)
- mynd â’r mater ymhellach gyda’r Ombwdsmon Ariannol os nad yw eich banc am helpu
Mae’r cyfan y mae angen i chi ei wybod yn y canllaw adfer camwrth gam gan MoneySavingExpert
Osgoi defnyddio cwmnïau rheoli hawliadau
Awgrym da
Dylech osgoi defnyddio Cwmni Rheoli Hawliadau. Bydd yn codi ffi arnoch am reoli eich achos a gallwch gael yr un help am ddim.
Mae’r rhan fwyaf o’r canlyniadau chwilio am adfer costau banc yn eich arwain at gwmnïau rheoli hawliadau sydd eisiau rhoi eu dwylo ar eich arian chi. Hefyd, gan fod y rheolau wedi newid yn 2009, mae’r we’n llawn gwybodaeth anghywir am adfer ffioedd banc.
Bydd y cwmnïau hyn codi ffi arnoch am adfer arian – gallwch ei wneud eich hun drwy ddefnyddio’r canllaw uchod ac osgoi talu cyfran o unrhyw ad-daliad.
Pam gawsoch chi’ch cosbi yn y lle cyntaf?
Nid oes unrhyw un eisiau taliadau gorddrafft - ond cyn i chi gwyno, gofynnwch i'ch hun pam y cawsoch eich cyhuddo:
- A ddarllenoch chi’r print mân? Gwnewch yn siŵr eich bod yn deall am beth allwch chi gael eich cosbi. Er enghraifft, efallai y cewch eich cosbi am fynd i orddrafft am swm bach, am gyfnod byr o amser.
- Ydych chi’n brwydro â dyled? Os felly, mae llawer o sefydliadau a all helpu gyda chyngor cyfrinachol am ddim.
- Allech chi reoli eich arian yn well?