Er gwaethaf bod cost biliau cartrefi yn parhau i godi ledled y DU, mae'n haws torri costau nag rydych yn meddwl. A gall yr aelwyd arferol arbed cannoedd o bunnoedd bob blwyddyn trwy ddilyn ein cynghorion.
Lleihau eich bil ffôn cartref a band eang
Mae llawer o gyflenwyr i’w cael ac mae'n hawdd torri eich biliau ffôn a band eang misol.
Dechreuwch trwy ddilyn yr awgrymiadau syml hyn:
- ffoniwch eich cyflenwr a gofynnwch am bris gwell.
- defnyddiwch wefan cymharu prisiau i ddod o hyd i gynnig rhatach.
- parwch eich contract â'ch ffordd o fyw - er enghraifft, os ydych yn defnyddio llawer o ddata a chodir tâl ychwanegol arnoch pan fyddwch yn mynd drosodd, gallai cynnig â mwy o ddata fod yn rhatach.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Sut i arbed arian ar eich ffôn cartref a band eang
Sicrhewch fil ffôn symudol rhatach
A yw eich contract ffôn symudol yn dod i ben? A ydych yn ceisio dod o hyd i'r ffordd rataf o gael y ffôn ddiweddaraf?
Dyma ychydig o awgrymiadau i gadw'ch biliau'n isel:
- defnyddiwch offer ar-lein i ddadansoddi'ch biliau ac argymell contract
- trafodwch gyda chyflenwyr - cofiwch mai chi sydd wrth y llyw
- defnyddiwch wefannau cymharu prisiau i ddod o hyd i'r cynnig gorau i chi.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Sut i arbed arian ar eich ffôn symudol
Torri cost eich bil dŵr
Mae'r bil dŵr blynyddol ar gyfartaledd am 2021/2022 yng Nghymru a Lloegr yn £419, yn ôl Water UK. Ac er na allwch newid cyflenwr dŵr, mae yna ffyrdd o arbed arian ar filiau.
Er enghraifft, gallech:
- osod mesurydd dŵr am ddim
- cael llai o faths a newid i gawodydd
- newid i ben cawod mwy effeithlon.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Sut i arbed arian ar filiau dŵr
Nwy a thrydan rhatach
Er nad yw newid cwmni ynni yn debygol o arbed unrhyw arian i chi, mae nifer o gynlluniau y gallwch wneud cais iddynt a allai eich helpu i leihau biliau.
Mae’r cynllun Gostyngiad Cartrefi Cynnes yn cynnig gostyngiad o £150 i gartrefi incwm isel sydd ar fudd-daliadau penodol sy'n seiliedig ar brawf modd i helpu gyda biliau ynni. Nid yw’r gostyngiad ar gael yng Ngogledd Iwerddon, er efallai y gallwch hawlio help i wneud eich cartref yn fwy effeithlon o ran ynni. Nid oes angen i’r mwyafrif wneud cais am y gostyngiad hwn, dylai hwn gael ei roi i chi yn awtomatig os ydych yn gymwys.
I ddarganfod os ydych yn gymwys, gallwch ffonio llinell ffôn Gostyngiad Cartrefi Cynnes y llywodraeth ar 0800 731 0214 rhwng 14 Tachwedd 2022 a 31 Mawrth 2023.
Darganfyddwch fwy am y Gostyngiad Cartrefi Cynnes ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Os ydych yn byw yn Yr Alban ac yn gymwys am y Gostyngiad Cartrefi Cynnes oherwydd incwm isel ac nid oherwydd eich bod yn cael Credyd Pensiwn, bydd angen i chi wneud cais. Dim ond nifer cyfyngedig o ostyngiadau sydd ar gael gan gyflenwyr, felly mae’n syniad da i wneud cais yn gynnar unwaith y bydd ceisiadau’n agorYn agor mewn ffenestr newydd ym mis Tachwedd 2022. Darganfyddwch fwy o wybodaeth ar GOV.UK.
Os ydych yn byw mewn cartref parc, bydd hefyd angen i chi wneud cais am y Gostyngiad Cartrefi Cynnes. Mae mwy o fanylion ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Nid yw pob cyflenwr yn cynnig y gostyngiad, felly os ydych yn gymwys efallai y byddai’n werth newid i gyflenwr sy’n gwneud hynny. Gallwch ddod o hyd i gyflenwyr sy’n cymryd rhan yn y cynllun ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Ym mis Mai 2022 cyhoeddodd y llywodraeth gymorth ychwanegol tuag at filiau cynyddol, gan gynnwys £400 tuag at filiau ynni yng Nghymru, Lloegr a’r Alban.
Ym mis Rhagfyr 2022, gwnaeth y llywodraeth gyhoeddiadau pellach – gan gynnwys taliad £600 bydd ar gael o ganol mis Ionawr i bobl sy’n byw yng Ngogledd Iwerddon a chefnogaeth am gartrefi sydd methu cael mynediad at y taliad Cynllun Cymorth Biliau Ynni (EBSS) o gyflenwr ynni domestig.
Bydd pobl sy’n byw mewn cartrefi gofal, parciau carafán, neu gychod preswyl sydd heb berthynas uniongyrchol â chyflenwr ynni yn cael £400 i helpu gyda’u biliau tanwydd. Gallwch wneud cais ar-lein o fis Ionawr 2023 a bydd llinell gymorth ffôn i’r sawl sydd heb fynediad ar-lein. Yna caiff y taliadau eu prosesu gan awdurdodau lleol.
Darganfyddwch fwy am y cynlluniau hyn a’r hyn sydd ar gael yng Ngogledd Iwerddon yn ein canllaw Beth i’w wneud os ydych yn poeni bod eich biliau ynni’n codi
Y ffordd fwyaf uniongyrchol o arbed arian ar eich biliau yw lleihau faint o ynni rydych yn ei ddefnyddio.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Sut i arbed arian ar filiau nwy a thrydan
A ydych yn talu gormod o Dreth Cyngor?
Yn ôl MoneySavingExpert, mae hyd at 400,000 o gartrefi yn y band Treth Cyngor anghywir. Felly mae'n werth sicrhau nad ydych yn talu gormod.
Ni ddylai gymryd mwy na deng munud i ddarganfod. A gallech arbed cannoedd o bunnoedd a chael ad-daliad yn y pen draw.
Gwiriwch hefyd a ydych yn gymwys i gael gostyngiad o hyd at 50% oddi ar eich bil Treth Gyngor.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Treth Cyngor: beth ydyw, beth yw’r gost a sut i arbed arian
Lleihau cost gyrru a thrafnidiaeth gyhoeddus
P'un a ydych yn gyrru, neu'n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, mae'n debyg bod costau teithio yn cyfrif am lawer o'ch gwariant misol.
Fodd bynnag, mae digon o ffyrdd o dorri costau teithio. Mae'r rhain yn cynnwys:
- dod o hyd i yswiriant car rhatach
- prynu tanwydd rhatach
- archebu tocynnau trên ymlaen llaw.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Cwtogi ar gostau car a theithio
Talwch eich biliau mewn pryd
Gall ffioedd talu hwyr ddileu arbedion, felly mae'n bwysig sicrhau eich bod yn talu'ch biliau mewn pryd.
Dyma rai awgrymiadau i helpu i aros ar ben eich biliau:
- talu am filiau rheolaidd yn fisol trwy Debyd Uniongyrchol.
- cadw gofnod o daliadau a chynllunio ymlaen llaw.
- siarad â'r bobl y mae arnoch arian iddynt os ydych yn cael trafferth.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Y ffyrdd gorau i dalu biliau
Ydy eich incwm cartref yn cael ei wasgu?
Os ydych chi’n wynebu costau byw uwch, ond heb fawr o arian os o gwbl yn dod i mewn, darganfyddwch ffynonellau incwm ychwanegol a chymorth sydd ar gael i’ch helpu i reoli biliau cartref ac arbed arian yn ein canllaw Byw ar incwm gwasgedig