Gall treulio amser yn rheoli’ch arian yn well dalu ar ei ganfed. Gall ddysgu cyllidebu eich helpu i gadw trefn ar eich biliau ac arbed £1,000oedd bob blwyddyn. Efallai gallwch ddefnyddio’r arbedion i glirio unrhyw ddyledion, eu neilltuo ar gyfer eich pensiwn, neu eu gwario ar eich car neu ar eich gwyliau nesaf.
Sut i greu cyllideb
Y cam cyntaf tuag at reoli’ch arian yw creu cyllideb.
Bydd yn cymryd ychydig o ymdrech, ond mae’n ffordd wych o gael argraff sydyn o’ch incwm a’ch gwariant.
Gall creu cyllideb golygu eich bod:
- yn llai tebygol o fynd i ddyled
- yn llai tebygol o gael eich llethu gan gostau annisgwyl
- yn fwy tebygol o gael statws credyd da
- yn fwy tebygol o gael eich derbyn ar gyfer morgais neu fenthyciad
- yn gallu gweld lle gallwch wneud arbedion
- mewn sefyllfa wych i gynilo ar gyfer gwyliau, car newydd, neu rywbeth arall neis.
A oes gennych fwy nag un cyfrif? Mae gwasanaethau newydd fel Bancio Agored yn golygu gallwch weld eich holl gyfrifon mewn un ap bellach
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Bancio Agored a rhannu'ch gwybodaeth ar-lein
Beth rydych angen
I ddechrau ar greu eich cyllideb, bydd angen i chi gyfrifo faint rydych yn ei wario ar:
- biliau’r cartref
- costau byw
- cynnyrch ariannol, fel yswiriant, taliadau banc neu log
- teulu a ffrindiau, gallai hyn gynnwys anrhegion, teithio i ddigwyddiadau fel priodasau
- teithio, costau car fel tanwydd a phrofion MOT yn ogystal â thrafnidiaeth gyhoeddus
- hamddena, gan gynnwys gwyliau, ffioedd campfa, bwyta allan neu adloniant arall.
Gallwch gadw eich gwybodaeth a dod yn ôl ati unrhyw bryd y mynnwch.
Gallwch sefydlu cyllideb drwy ddefnyddio taenlen neu ysgrifennu y cyfan i lawr ar bapur.
Mae rhai apiau cyllidebu gwych i'w cael am ddim ac efallai y bydd gan eich banc neu gymdeithas adeiladu teclyn cyllidebu ar-lein sy’n cymryd gwybodaeth yn uniongyrchol o’ch trafodion.
Cael eich cyllideb yn ôl ar y trywydd iawn
Os ydych yn gwario mwy na’ch incwm, bydd angen i chi weithio allan lle allwch dorri’n ôl.
Gall hyn fod mor hawdd â pharatoi eich cinio adref, neu ganslo aelodaeth o gampfa nad ydych yn ei defnyddio.
Gallech gadw dyddiadur hefyd a chadw cofnod o bopeth a brynwch dros fis.
Neu, os yw’r rhan fwyaf o’ch gwariant yn cael ei wneud gyda cherdyn credyd neu ddebyd, edrychwch ar gyfriflen y mis diwethaf i chi gael gweld i ble mae’ch arian yn mynd.
Gallwch ddarganfod mwy o wybodaeth yn ein canllaw Byw ar gyllideb
Cael pawb i gymryd rhan
Cynhwyswch bawb yn eich teulu yn y gwaith o gadw at gyllideb.
Eisteddwch i lawr gyda’ch gilydd a sefydlu cynllun y gallwch gadw ato.
Cyfrifwch faint o arian gwario sydd ar gael a chytuno rhyngoch beth fydd pob un yn ei gael.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Siarad â ffrindiau am arian
Ydy eich incwm cartref yn cael ei wasgu?
Os ydych chi’n wynebu costau byw uwch, ond heb fawr o arian os o gwbl yn dod i mewn, darganfyddwch ffynonellau incwm ychwanegol a chymorth sydd ar gael i’ch helpu i reoli biliau cartref ac arbed arian yn ein canllaw Byw ar incwm gwasgedig
Cwtogi’ch biliau cartref a’ch morgais
I lawer ohonom, mae biliau’r cartref yn ganran fawr o’n gwariant. Mae'n anodd rhagweld beth fydd yn digwydd mewn bywyd felly ceisiwch adolygu'ch cyllideb a'ch gwariant os bydd newid, neu o leiaf pob yn ail fis.
Efallai cewch gynnydd yn eich cyflog, fydd yn golygu gallwch gynilo mwy, neu gallwch weld bod eich biliau cartref yn cynyddu.
Y newyddion da yw ei bod yn hawdd arbed cannoedd o bunnoedd oddi ar eich biliau drwy ddilyn ein hawgrymiadau da.
Darllenwch fwy yn ein canllaw Sut i arbed arian ar filiau cartref
Gallwch arbed cannoedd ar filoedd o bunnoedd hefyd drwy chwilio am y fargen orau ar forgeisi, neu adolygu’r un sydd gennych ar hyn o bryd.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Pam ei bod yn werth adolygu’ch morgais yn rheolaidd
Clirio benthyciadau a chardiau credyd
Os oes gennych fenthyciadau neu arian yn ddyledus ar gardiau credyd, fel arfer mae’n gwneud synnwyr talu’r ddyled sy’n codi’r gyfradd llog uchaf yn gyntaf. Gallai enghreifftiau gynnwys:
- cardiau credyd
- cardiau siop, sydd fel arfer yn codi’r cyfraddau llog uchaf
- benthyciadau personol gan y banc, sydd fel arfer yn codi cyfradd llog is na chardiau credyd neu siop
Mae’n bwysig sicrhau nad ydych yn torri telerau unrhyw un o’ch cytundebau.
Felly, hyd yn oed os ydych yn canolbwyntio ar dalu dyled arall, mae rhaid i chi dalu’r isafswm o leiaf ar unrhyw gardiau credyd a’ch taliadau misol gofynnol ar unrhyw gytundebau benthyciad.
Darllenwch fwy yn ein canllaw am Sut i flaenoriaethu’ch dyledion
Gallwch ddarganfod help mwy penodol yn ein adran am Mathau o gredyd
Darganfyddwch sut i fynd i'r afael â'ch gorddrafft yn ein canllaw Egluro gorddrafftiau
Cael help os bydd problemau dyled yn mynd yn ddifrifol
Os ydych eisoes wedi methu taliadau cerdyn credyd neu fenthyciad neu os ydych ar ei hôl hi gyda’r hyn a elwir yn ‘ddyledion o flaenoriaeth’ fel eich:
- rhent
- morgais
- dirwyon llys
- biliau ynni
- Treth Gyngor
- Cynhaliaeth plant.
cymerwch gyngor gan elusen cynghori ar ddyledion rhad ac am ddim yn syth.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Help os ydych yn cael trafferth gyda dyledion
Gosod nod cynilion
Gall fod yn anodd i feddwl am roi arian i un ochr fel cynilion, ond mae o leiaf yn syniad da cael rhywaint o gynilion ar gyfer argyfwng.
Mae cynilion ar gyfer argyfwng yn arian sydd i’w ddefnyddio os bydd gennych argyfwng, fel boeler yn torri neu os na fyddwch yn gallu gweithio am gyfnod.
Rydych eisiau gallu talu am adferiad annisgwyl, ond mae hefyd yn bwysig cael digon o arian am gwpl o fisoedd mewn sefyllfa anodd.
Dywedwch eich bod yn colli'ch swydd neu'n gwahanu o'ch parter, a bod angen rhywfaint o amser arnoch i gael yn ôl ar eich traed – byddwch eisiau ychydig yn fwy na chost boeler neu beiriant golchi newydd.
Peidiwch â phoeni os na allwch gynilo hyn yn syth ond cadwch ef fel nod i anelu ato.
Y ffordd orau i gynilo yw talu rhywfaint o arian i gyfrif cynilo bob mis.
Unwaith y byddwch wedi gosod cronfa argyfwng o’r neilltu, gallai nodau cynilo posibl gynnwys:
- prynu car heb gymryd benthyciad
- mynd ar wyliau heb orfod poeni am y biliau pan fyddwch yn dychwelyd
- cael rhywfaint o arian ychwanegol i’w ddefnyddio pan fyddwch ar gyfnod mamolaeth neu dadolaeth
Darllenwch fwy yn ein canllaw Faint i'w gynilo ar gyfer argyfwng
Buddsoddi’ch cynilion
Wrth i’ch cynilion ddechrau tyfu, gallwch:
- dalu mwy i’ch cronfa bensiwn; mae’n ffordd wych i wneud yn siŵr y byddwch yn medru byw yn fwy cyfforddus yn eich blynyddoedd hŷn
- gwneud cynllun buddsoddi ar sail eich nodau a’ch amserlenni
Os ydych wedi’ch llethu gan eich dyledion
Yn aml, y rhan anhawsaf o dalu’ch dyledion yw cymryd y cam cyntaf.
Dysgwch fwy yn ein canllaw Cael cymorth anffurfiol i reoli eich arian
Mae’n hawdd teimlo eich bod wedi’ch llethu os ydych yn gwybod eich bod yn ei chael yn anodd yn ariannol.
Mae’n demtasiwn i anwybyddu’r cyfan, gan gynnwys datganiadau banc a galw am daliadau, ond ni fydd hyn yn datrys y broblem, a gallai ei gwneud yn waeth.
Felly, cymerwch anadl ddofn ac agorwch unrhyw lythyrau rydych wedi bod yn eu hanwybyddu.
Unwaith y byddwch wedi gwneud hyn, o leiaf byddwch yn gwybod beth mae’n rhaid i chi ddelio ag ef, a gallwch ddewis beth mae rhaid i chi ei wneud nesaf.