Got a pension question? Our help is impartial and free to use. Get in touch online or over the phone on 0800 011 3797
Cau
Skip to content
Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo
English
  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
  • Credyd Cynhwysol

    Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad

    Budd-daliadau os oes gennych blant

    Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant

    Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr

    Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd

    Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd

    Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth

    Budd-daliadau a gwaith

    Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd

    Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai

    Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel

    Problemau gyda budd-daliadau

    Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau

    Budd-daliadau

    Pob canllaw Budd-daliadau

    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn Llywio Ariannol

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Bancio a thaliadau

    Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc

    Cyllidebu

    Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian

    Prynu a rhedeg car

    Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg

    Credyd

    Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd

    Yswiriant

    Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant

    Arian bob dydd

    Pob canllaw Arian bob dydd

    Teclynnau

    Teclyn

    Cymharu cyfrifon banc

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Dod yn rhiant

    Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant

    Marwolaeth a phrofedigaeth

    Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau

    Ysgariad a gwahanu

    Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu

    Salwch ac anabledd

    Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio

    Gofal tymor hir

    Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal

    Arian myfyrwyr a graddedigion

    Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr

    Siarad am arian

    Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid

    Teulu a gofal

    Pob canllaw Teulu a gofal

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Prynu tŷ

    Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth

    Rhentu

    Rhentu cartref i fyw ynddo, rhentu cartref, a goresgyn problemau

    Cartrefi

    Pob canllaw Cartrefi

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Help gyda chostau byw

    Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi

    Delio â dyled

    Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion

    Problemau a chwynion am arian

    Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion

    Sgamiau

    Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan

    Problemau ariannol

    Pob canllaw Problemau ariannol

    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Ymrestru awtomatig

    Cyflwyniad, sut mae’n gweithio, popeth am gyfraniadau

    Adeiladu eich cronfa bensiwn

    Faint rydych ei angen, ffyrdd i adeiladu'ch cronfa, trosglwyddo ac uno

    Hanfodion pensiwn

    Dechrau pensiwn, mathau o bensiwn, deall pensiynau

    Problemau pensiwn

    Cwynion, cymorth ariannol pan wedi ymddeol, newidiadau i gynlluniau

    Pensiwn y Wladwriaeth

    Sut mae’n gweithio, beth allech chi ei gael, Yswiriant Gwladol

    Cymryd eich pensiwn

    Ffyrdd o dynnu eich pensiwn, pryd allwch chi ymddeol, apwyntiadau Pension Wise

    Treth a phensiynau

    Lwfansau treth, treth a delir ar bensiynau, rhyddhad treth

    Pensiynau ac ymddeoliad

    Pob arweiniad, gan gynnwys sut i ddefnyddio'r gwasanaeth Pension Wise

    Teclynnau

    Apwyntiad

    Trefnwch apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Darganfyddwch ymgynghorydd ymddeoliad

    POB TECLYN

    Trefnwch eich apwyntiad Pension Wise am ddim

    Dros 50 oed? Cewch arweiniad diduedd, am ddim o’n gwasanaeth sydd wedi’i gefnogi gan y llywodraeth. Byddwn yn esbonio’r opsiynau i gymryd arian o’ch cron…

  • Sut i gynilo

    Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau

    Buddsoddi

    Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli

    Math o gynilion

    Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant

    Cynilion

    Pob canllaw Cynilion

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Cyflogaeth

    Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol

    Colli eich swydd

    Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo

    Hunangyflogaeth

    Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad

    Gwaith

    Pob canllaw Gwaith

    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
  • Credyd Cynhwysol Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad
    Budd-daliadau os oes gennych blant Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant
    Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd
    Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth
    Budd-daliadau a gwaith Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd
    Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel
    Problemau gyda budd-daliadau Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau
    Budd-daliadau Pob canllaw Budd-daliadau
    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn Llywio Ariannol

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Bancio a thaliadau Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc
    Cyllidebu Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian
    Prynu a rhedeg car Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg
    Credyd Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd
    Yswiriant Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant
    Arian bob dydd Pob canllaw Arian bob dydd
    Teclynnau

    Teclyn

    Cymharu cyfrifon banc

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Dod yn rhiant Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant
    Marwolaeth a phrofedigaeth Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau
    Ysgariad a gwahanu Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu
    Salwch ac anabledd Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio
    Gofal tymor hir Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal
    Arian myfyrwyr a graddedigion Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr
    Siarad am arian Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid
    Teulu a gofal Pob canllaw Teulu a gofal
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Prynu tŷ Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth
    Rhentu Rhentu cartref i fyw ynddo, rhentu cartref, a goresgyn problemau
    Cartrefi Pob canllaw Cartrefi
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Help gyda chostau byw Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi
    Delio â dyled Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion
    Problemau a chwynion am arian Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion
    Sgamiau Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan
    Problemau ariannol Pob canllaw Problemau ariannol
    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Ymrestru awtomatig Cyflwyniad, sut mae’n gweithio, popeth am gyfraniadau
    Adeiladu eich cronfa bensiwn Faint rydych ei angen, ffyrdd i adeiladu'ch cronfa, trosglwyddo ac uno
    Hanfodion pensiwn Dechrau pensiwn, mathau o bensiwn, deall pensiynau
    Problemau pensiwn Cwynion, cymorth ariannol pan wedi ymddeol, newidiadau i gynlluniau
    Pensiwn y Wladwriaeth Sut mae’n gweithio, beth allech chi ei gael, Yswiriant Gwladol
    Cymryd eich pensiwn Ffyrdd o dynnu eich pensiwn, pryd allwch chi ymddeol, apwyntiadau Pension Wise
    Treth a phensiynau Lwfansau treth, treth a delir ar bensiynau, rhyddhad treth
    Pensiynau ac ymddeoliad Pob arweiniad, gan gynnwys sut i ddefnyddio'r gwasanaeth Pension Wise
    Teclynnau

    Apwyntiad

    Trefnwch apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Darganfyddwch ymgynghorydd ymddeoliad

    POB TECLYN

    Trefnwch eich apwyntiad Pension Wise am ddim

    Dros 50 oed? Cewch arweiniad diduedd, am ddim o’n gwasanaeth sydd wedi’i gefnogi gan y llywodraeth. Byddwn yn esbonio’r opsiynau i gymryd arian o’ch cron…

  • Sut i gynilo Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau
    Buddsoddi Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli
    Math o gynilion Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant
    Cynilion Pob canllaw Cynilion
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Cyflogaeth Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol
    Colli eich swydd Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo
    Hunangyflogaeth Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad
    Gwaith Pob canllaw Gwaith
    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

Home
English
  1. Hafan
  2. Arian bob dydd
  3. Cyllidebu
Arian bob dydd Cyllidebu

A ddylech reoli arian ar y cyd neu ar wahân?

Gall rheoli eich arian gyda’ch gilydd pan rydych mewn perthynas ddifrifol fod yn anodd – darganfyddwch ai cael cyfrif ar y cyd fydd y dewis gorau i chi. Mae gennym wybodaeth hefyd ar sut i reoli biliau, budd-daliadau, a phroblemau ariannol fel cwpl.

Beth sydd yn y canllaw hwn

  • Pethau i’w hystyried wrth benderfynu sut i reoli eich arian
  • Rhannu, talu lwfans neu gadw eich arian ar wahân?
  • Peidiwch â chamu i ddyfroedd dyfnion yn syth
  • Beth os ydych yn cael Credyd Cynhwysol?
  • Beth os yw’ch partner yn gwario gormod o arian?
  • Diogelu eich hunan a’ch teulu
  • Beth os ydych chi’n ofalwr sy’n ystyried rheoli arian rhywun arall?

Pethau i’w hystyried wrth benderfynu sut i reoli eich arian

Nid oes unrhyw un ffordd ‘sy’n siwtio pawb’

Bydd sut yn union y byddwch yn rheoli eich materion ariannol yn dibynnu ar eich agwedd chi’ch dau tuag at arian.

Efallai y gwelwch rai meysydd ble rydych yn hapus i rannu’r cyfrifoldeb, ond eraill ble mae angen i chi ddod i gyfaddawd.

Cyn i chi ddechrau, ceisiwch ddeall dull o ymdrin ac agwedd eich gilydd tuag at arian.

Bydd hyn yn eich helpu i ganfod meysydd y cytunwch – ac yr anghytunwch – arnynt, er mwyn i chi allu adnabod problemau cyn iddynt godi.

Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Siarad â'ch partner am arian

Byddwch yn ofalus o gadw’ch arian ar y cyd os oes gan un ohonoch hanes credyd gwael

Ni fydd byw gyda rhywun, neu bod yn briod â rhywun sydd â sgôr credyd gwael yn effeithio ar eich credyd chi.

Fodd bynnag, cyn gynted ag yr agorwch gyfrif banc ar y cyd, neu gymryd morgais â’ch gilydd, gallai’ch statws credyd gael ei effeithio.

Er enghraifft, cewch eich sgorio ar y cyd os ymgeisiwch am gredyd. Mae’n syniad da i chi’ch dau wirio eich statws credyd cyn cyfuno eich arian.

Darganfyddwch Sut i wella eich sgôr credyd.

Ymddiriedaeth a thegwch

Pan fyddwch yn agor cyfrif banc ar y cyd byddwch chi’ch dau yn gyfrifol am unrhyw ddyled neu orddrafftiau, felly mae’n hanfodol eich bod yn ymddiried yn eich gilydd.

Mae rhaid i chi fod yn glir ar yr hyn yr ystyriwch yn gyfraniad teg a glynu at hynny.

Cofiwch adolygu unrhyw gytundebau os bydd unrhyw beth yn newid. Er enghraifft, os bydd un ohonoch yn newid swydd, neu os cewch chi blant.

Gosodwch ffiniau a byddwch yn glir ynghylch annibyniaeth

Byddwch yn glir o’r cychwyn cyntaf ynghylch beth rydych yn ei ddisgwyl. Rhowch gynnig ar osod terfyn gwario, fel y bydd angen penderfyniad ar y cyd ar unrhyw beth uwchben y swm hwn cyn i chi ei brynu.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn eglur a di-lol ynghylch faint o annibyniaeth fydd gennych eich dau. Yn y modd hwnnw byddwch chi’ch dau yn gwybod ble rydych yn sefyll ac ni fydd angen i chi ddadlau dros unrhyw anghytundebau. Sefydlwch gynllun rhag ofn i bethau fynd o chwith a pheidiwch â bod ofn ysgrifennu hynny i lawr os credwch y bydd hynny’n ei gwneud yn haws i chi lynu ati.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn bartneriaid cyfartal

Osgowch sefyllfa ble mae un ohonoch yn unig yn deall eich materion ariannol.

Nid oes ots pa mor ddi-hid y gallai un ohonoch fod o ran rheoli arian, mae gadael i un partner reoli’r holl arian sydd gennych ar y cyd yn beth gwael i chi’ch dau.

Mae dealltwriaeth dda yn golygu byddwch chi’ch dau yn gwybod beth gallwch ei fforddio ac i’r gwrthwyneb a phetai unrhyw beth yn digwydd i un ohonoch, byddai gan y llall syniad da ynglŷn a sefyllfa’r materion ariannol.

Siaradwch â’ch priod neu bartner am arian

Mae’n bwysig gwybod yn union beth sy’n digwydd i’ch arian fel cwpl, felly trafodwch eich materion ariannol gyda’ch partner yn rheolaidd ac yn agored. Bydd hyn o gymorth i chi fod ynghlwm â materion ariannol y cartref, rheoli’ch arian yn gyfrifol a delio ag unrhyw anawsterau gyda’ch gilydd.

Nol i’r brig

Rhannu, talu lwfans neu gadw eich arian ar wahân?

Eich penderfyniad chi yw sut byddwch yn rheoli eich arian pan fyddwch mewn perthynas. Yn gyffredinol, mae pedwar prif ddull y gallwch wneud hyn:

  • cadw cyfrifon ar wahân
  • rhannu a rheoli popeth fel cwpl
  • mae’r prif enillydd yn talu ‘lwfans’ i’r partner
  • rhannu rhai cyfrifoldebau ond cadw rhai pethau’n breifat.

Cewch ragor o wybodaeth isod ar sut mae pob dull yn gweithio, ond cofiwch bydd angen i chi feddwl yn ofalus ynghylch pa un sydd fwyaf addas i’ch amgylchiadau.

Cadw eich arian yn gyfan gwbl ar wahân

Os nad oes gennych gyfrif ar y cyd, byddwch chi’ch dau yn cadw eich enillion ar wahân.

Bydd angen i unrhyw filiau rydych yn eu rhannu fel rhent neu forgais gael eu rhannu ar sail pob achos yn ei dro.

Dyma ychydig o ffyrdd o wneud yn siŵr eich bod yn rheoli eich arian yn dda pan fyddwch yn ei reoli ar wahân:

  • Cynlluniwch bopeth a chyfathrebwch yn rheolaidd: Drwy wneud hynny byddwch yn gwybod bob amser beth fydd eich incwm a’ch gwariant.
  • Penderfynwch sut i rannu’r biliau: P’un ai yw hynny’n 50/50, neu drwy ffordd wahanol, bydd angen i chi fod yn glir ynghylch sut y byddwch yn rhannu’r cyfrifoldeb.
  • Rhowch ystyriaeth i’ch partner wrth wneud penderfyniadau ar wariant: Byddwch yn rhannu’r cyfrifoldeb felly gwnewch yn siŵr nad ydych yn gwario gormod, neu bydd eich partner yn gorfod ysgwyddo unrhyw wahaniaeth er mwyn talu’r biliau.

Rhannu popeth mewn cyfrif ar y cyd

Gallwch gyfuno eich holl incwm i mewn i un pot a defnyddio hyn ar gyfer eich treuliau i gyd, o bethau bach, bob dydd hyd at dalu rhent, morgais a biliau.

Gall hyn wneud cyllidebu’n haws o lawer, ond bydd angen cyfrif ar y cyd arnoch er mwyn iddo weithio’n ddidrafferth.

Drwy wneud hynny, bydd gennych chi’ch dau reolaeth dros yr arian ac yn medru gweld ar beth mae’r llall yn ei wario.

Dyma ychydig o ffyrdd er mwyn gwneud yn siŵr bod rhannu popeth yn gweithio’n dda i chi:

  • sicrhewch fod gennych batrymau gwario, arferion ac ymddygiadau tebyg – fel arall byddwch yn anghytuno a dechrau dadlau ynghylch arian
  • cytunwch ar drothwy gwario rhyngoch – os ydych eisiau talu am rywbeth sy’n ddrutach na’r trothwy, bydd angen i chi’ch dau gytuno er mwyn osgoi unrhyw fath o ddadlau.

Ei rannu’n fy arian i, dy arian di a’n harian ni’n dau

Pan fyddwch yn rhannu cyfrifoldeb am faterion ariannol, gallai cyfaddawd fod y ffordd orau o fynd ati.

Gallwch agor cyfrif ar y cyd er mwyn gofalu am y biliau, ond cadw eich cyfrifon eich hunain er mwyn talu am y pethau rydych eich hunain eu heisiau.

Mae hon yn ffordd wych o wneud cyllidebu’n haws a byddwch yn cadw peth o’ch annibyniaeth a’ch preifatrwydd.

Dyma ychydig o bethau i’w hystyried pan fyddwch yn penderfynu sut i rannu’r cyfrifoldeb:

  • penderfynwch pa filiau i’w talu o’r cyfrif ar y cyd
  • penderfynwch ar gyfraniad i’w dalu i mewn i’r cyfrif ar y cyd bob mis, p’un ai yw hynny’n 50/50, neu’n seiliedig ar faint eich incwm
  • meddyliwch am eich patrymau, arferion ac ymddygiadau gwario a chytuno ar beth sy’n dderbyniol i chi’ch dau er mwyn i chi allu osgoi anghytuno a dadleuon dros arian
  • cytunwch ar faint y gall pob un ohonoch gynilo i'r gronfa cynilion brys ar gyfer biliau annisgwyl a ddaw i fyny. Mae hyn yn ddefnyddiol i osgoi sgyrsiau anodd yn nes ymlaen. Gweler mwy yn ein canllaw Cynilion ar gyfer argyfwng – Faint sy’n ddigon?

Cynlluniwr Cyllideb

I’ch helpu i reoli eich arian, defnyddiwch ein Cynlluniwr Cyllideb hawdd i’w ddefnyddio, rhad ac am ddim.

Mae’r prif enillydd yn talu ‘lwfans’ i’r partner

Os nad oes un ohonoch yn ennill cyflog, neu’n ennill llai na’r llall, gallech gadw cyfrifon ar wahân a chael y prif enillydd yn talu lwfans i’r partner arall.

Gall y prif enillydd drosglwyddo swm wedi’i gytuno bob wythnos neu fis i gyfrif y partner.

Gallwch chi’ch dau benderfynu p’un ai yw’r swm a drosglwyddir yn arian ar gyfer biliau’r cartref ac arian gwario, neu’n arian gwario personol yn unig.

Mae ychydig o bethau i’w trafod cyn dilyn y llwybr hwn:

  • gwnewch yn siŵr eich bod chi’ch dau yn teimlo’n gysurus gyda’r syniad
  • ni ddylai’r lwfans gael ei ystyried fel ‘ffafr’ – os oes un partner adref yn gofalu am y plant neu’n gweithio yno fel gofalydd – mae hynny’n swydd hefyd
  • siaradwch am yr holl fathau o wariant y mae rhaid i’r lwfans eu cwmpasu a gwnewch yn siŵr fod y swm misol neu wythnosol yn ddigon.
Nol i’r brig

Peidiwch â chamu i ddyfroedd dyfnion yn syth

Mae rhannu cyfrif yn gam mawr, felly gallai fod yn syniad da i wthio bys troed i’r dŵr cyn neidio i mewn a rhannu popeth.

Rhowch gynnig ar agor cyfrif ar y cyd heb unrhyw gyfleuster gorddrafft â chi’ch dau yn cyfrannu swm bach bob mis.

Defnyddiwch yr arian i rannu’r cyfrifoldeb am un neu ddau o filiau’r aelwyd er mwyn gweld sut byddwch yn dod yn eich blaenau.

Ar ôl ychydig fisoedd, eisteddwch i lawr a’i drafod er mwyn gweld p’un ai yw’n gweithio’n dda ai peidio. Os ydyw, gallwch gynyddu eich cyfraniadau a dechrau rhannu mwy o’r cyfrifoldeb.

Os oes gennych lawer o arian mewn cynilion, mae’n bosibl y byddwch eisiau agor cyfrif cynilo ar y cyd ble fydd angen i chi’ch dau gytuno cyn y gellir tynnu unrhyw arian ohono.

Mae hwn yn ddull da o ddiogelu rhag un person yn tynnu arian o’r cynilion heb drafod hynny gyda’r llall yn gyntaf.

Darganfyddwch fwy a yw cael cyfrif ar y cyd orau yn ein canllaw Cyfrifon banc ar y cyd
Nol i’r brig

Beth os ydych yn cael Credyd Cynhwysol?

Pan fydd Credyd Cynhwysol wedi ei sefydlu, bydd y ffordd y byddwch yn cael budd-daliadau yn newid a bydd angen i chi benderfynu ai cael cyfrif ar y cyd yw’r peth gorau i’ch cartref

Darllenwch fwy yn ein canllaw Ceisiadau Credyd Cynhwysol ar y cyd ar gyfer cyplau
Nol i’r brig

Beth os yw’ch partner yn gwario gormod o arian?

Os yw’ch priod neu’ch partner yn gwario mwy o arian nag y gallwch ei fforddio, mae’n hanfodol eich bod yn siarad â’ch gilydd. Ni fydd claddu eich pen yn y tywod yn gwneud i’r broblem ddiflannu.

Gallwch ddod o hyd i awgrymiadau ar siarad â’ch partner am arianYn agor mewn ffenestr newydd ar wefan Relate.

Os ydych yn barod i daclo’ch gwario gyda’ch gilydd, efallai byddwch yn cael Stop Spending – Tips & tools to help you fight yourself yn defnyddiol ar wefan MoneySavingExpert.

Os bydd sgwrsio yn arwain at ddim ond dadlau (ac yn aml gall problemau mewn perthynas fod yn un o brif achosion gwario cysur), efallai byddwch angen cymorth gan:

  • ymgyngorydd,
  • ymgynghorydd ar ddyledion; neu
  • ymgynghorydd perthnasau.
Os mai dyled afreolus yw'r brif broblem, cysylltwch â gwasanaeth cyngor dyled diduedd am ddim

Ymunwch â’n grŵp Facebook

Ymunwch â’n grŵp Facebook Debt Support Community preifat i helpu i roi syniadau newydd i chi daclo dyledion ac i’ch annog.

Nol i’r brig

Diogelu eich hunan a’ch teulu

Efallai y bydd amser yn dod pan na allwch weld golau ar ddiwedd y twnnel.

Os felly, yna mae angen i chi ddiogelu’ch hunan a gweddill y teulu rhag y problemau fydd y gorwario yn eu creu.

Osgowch ddyled ar y cyd

Os oes gennych unrhyw ddyledion ar y cyd, cofiwch eich bod chi’ch dau yn atebol am eu had-dalu’n llawn.

Os nad yw’ch partner yn talu ei siâr, byddwch yn dal i fod yn atebol.

Peidiwch â chytuno i ddyledion ar y cyd newydd oni bai eich bod yn gwbl hapus â’r trefniant, gweler mwy yn ein canllaw Beth rydych angen ei wybod am gymryd benthyciad ar y cyd.

Yn benodol, peidiwch â chytuno i warantu dyledion yn erbyn eich cartref.

Dysgwch sut i leihau neu osgoi fynd i ddyled.

Os ydych yn rhentu gyda’ch partner

Cyn symud i mewn gyda'ch partner gwiriwch pwy sy'n cael ei enwi ar y cytundeb tenantiaeth. Efallai y gwelwch mai chi sy'n gyfrifol am dalu eu cyfran o'r rhent a'r biliau os ydynt yn methu â thalu neu symud allan. Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Rhentu gyda phartner neu gyd-letywyr.

Cadwch eich cerdyn credyd i chi’ch hunan

Er na all cardiau credyd fod ‘ar y cyd’, mae’n gyffredin cael prif ddeiliad cerdyn a defnyddwyr eraill awdurdodedig.

Pan fydd defnyddiwr awdurdodedig yn creu dyled na ellir ei rheoli, cyfrifoldeb y prif ddeiliad yw talu’r ddyled o hyd.

Felly os yw eich partner yn ddefnyddiwr awdurdodedig ar eich cerdyn, ystyriwch ganslo’r caniatâd.

Diogelu’ch statws credyd

Gall cael eich cysylltu â rhywun arall o safbwynt ariannol effeithio ar eich sgôr credyd, gan olygu y bydd yn anodd, o bosibl, i chi gael credyd newydd.

Os gallwch, osgowch gyd-gyfrifon banc, cyd-fenthyciadau a chyd-filiau nes bod sefyllfa gredyd eich partner yn gwella.

Diogelu eich arian os ydych chi'n gwahanu

Os ydych chi wedi bod yn byw gyda'ch gilydd fel cwpl ac yna ar wahân, mae gennych lai o hawliau na chyplau sy'n ysgaru neu'n diddymu eu partneriaeth sifil. Bydd yn haws os gallwch gytuno ar yr hyn rydych chi'n ei rannu - er enghraifft, eich eiddo.

Efallai na fydd datrys eich cyllid rydych yn ei rannu yn syml a gallai gymryd amser. Rydym yn amlinellu rhai camau allweddol i'w cymryd yn ein canllaw Sut i drefnu eich arian wrth wahanu os oeddech yn cyd-fyw.  

Os ydych yn briod neu mewn partneriaeth sifil ac yn ystyried ysgaru neu ddod â'ch partneriaeth i ben efallai y gallwch ddatrys rhywfaint ohono rhyngoch chi a'ch cyn-bartner neu efallai y bydd angen cyfreithiwr arnoch. Bydd hyn yn dibynnu ar lawer o bethau, gan gynnwys pa mor hawdd y gallwch chi a'ch cyn-bartner siarad am arian. Mae yna drosolwg defnyddiol o'r pethau i'w hystyried yn ein canllaw Sut i gael trefn ar eich arian wrth ysgaru neu ddiddymu.

Diogelu’ch hun rhag camdriniaeth ariannol

Mae gan bawb yr hawl i annibyniaeth ariannol. Os yw’ch partner yn rheoli’ch arian neu’n rhedeg dyledion i fyny yn eich enw, mae hwnnw’n gamdriniaeth ariannol. Ond nid oes eisiau dioddef ar eich pen eich hun.

Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Cam-drin ariannol: adnabod yr arwyddion a gadael yn ddiogel
Nol i’r brig

Beth os ydych chi’n ofalwr sy’n ystyried rheoli arian rhywun arall?

Os ydych yn darparu gofal i rywun sydd angen help, efallai eich bod yn ystyried cynnig rheoli eu cyllid. Mae hwn yn gam mawr i'r ddau ohonoch ac yn rhywbeth y dylid meddwl amdano’n ofalus gan y bydd gennych gyfrifoldeb am eu dyfodol ariannol.

Gweler mwy yn ein canllaw Rhoi cymorth i reoli arian rhywun yr ydych yn gofalu amdanynt
Nol i’r brig
Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Rhannu erthygl
E-bost Facebook Twitter
Rhannu hwn gyda
WhatsApp LinkedIn
Copio’r ddolen yma
Anfon e-bost
Copio’r ddolen yma
Cyllidebu

Sut i reoli cyllideb

  • Rheoli eich arian
  • A ddylech reoli arian ar y cyd neu ar wahân?
  • Sut i gyllidebu ar gyfer incwm afreolaidd
  • Rheoli eich arian gan ddefnyddio cronfeydd cynilo
  • Cardiau rhagdaledig
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan

Sut i reoli cyllideb

  • Rheoli eich arian
  • A ddylech reoli arian ar y cyd neu ar wahân?
  • Sut i gyllidebu ar gyfer incwm afreolaidd
  • Rheoli eich arian gan ddefnyddio cronfeydd cynilo
  • Cardiau rhagdaledig
Logo Llywodraeth E.M

Darperir HelpwrArian gan:

Logo Gwasanaeth Arian a Phensiynau
Level AA conformance, W3C WAI Web Content Accessibility Guidelines 2.1 Clear English Standard for Websites logo
  • Amdanom ni
  • Cael help a chyngor
  • Cysylltu â ni
  • Partneriaethau
  • Offer a chyfrifianellau
  • Rhoi adborth
  • Cynllun Iaith Gymraeg
  • Blog

Dilynwch ni:

© 2023 Money and Pensions Service, 120 Holborn, London EC1N 2TD. Cedwir pob hawl.

  • Telerau ac amodau
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Datganiad hygyrchedd
  • Map safle
  • Sut rydym yn defnyddio cwcis
  • Dewisiadau cwcis Dewisiadau cwcis
Siaradwch â ni yn fyw am...
Cau
Siaradwch â ni yn fyw am...
Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio’r ffôn
  • O dramor: +44 20 7932 5780
  • I’r hunangyflogedig: 0345 602 7021*
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn – Sul:Wedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn
  • Cymraeg: 0800 138 0555*
  • Typetalk: 18001 0800 915 4622
  • O dramor: +44 20 3553 2279
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Blaenorol Cau

Blaenorol Cau

Blaenorol Cau

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun–Gwener8am-6pm
  • Sadwrn8am - 3pm
  • Sun and bank holidaysWedi cau
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun, Mercher, Gwener8.20am - 6.20pm
  • Tues, Thurs9am - 6.20pm
  • Sat, Sun and bank holidaysWedi cau
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion, cwestiynau credyd neu ganllaw pensiynau. Am bopeth arall, cysylltwch â ni trwy Wesgwrs neu dros y Ffôn.

Blaenorol Cau