Got a pension question? Our help is impartial and free to use. Get in touch online or over the phone on 0800 011 3797
Cau
Skip to content
Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo
English
  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
  • Credyd Cynhwysol

    Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad

    Budd-daliadau os oes gennych blant

    Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant

    Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr

    Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd

    Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd

    Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth

    Budd-daliadau a gwaith

    Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd

    Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai

    Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel

    Problemau gyda budd-daliadau

    Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau

    Budd-daliadau

    Pob canllaw Budd-daliadau

    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn Llywio Ariannol

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Bancio a thaliadau

    Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc

    Cyllidebu

    Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian

    Prynu a rhedeg car

    Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg

    Credyd

    Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd

    Yswiriant

    Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant

    Arian bob dydd

    Pob canllaw Arian bob dydd

    Teclynnau

    Teclyn

    Cymharu cyfrifon banc

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Dod yn rhiant

    Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant

    Marwolaeth a phrofedigaeth

    Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau

    Ysgariad a gwahanu

    Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu

    Salwch ac anabledd

    Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio

    Gofal tymor hir

    Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal

    Arian myfyrwyr a graddedigion

    Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr

    Siarad am arian

    Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid

    Teulu a gofal

    Pob canllaw Teulu a gofal

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Prynu tŷ

    Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth

    Rhentu

    Rhentu cartref i fyw ynddo, rhentu cartref, a goresgyn problemau

    Cartrefi

    Pob canllaw Cartrefi

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Help gyda chostau byw

    Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi

    Delio â dyled

    Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion

    Problemau a chwynion am arian

    Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion

    Sgamiau

    Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan

    Problemau ariannol

    Pob canllaw Problemau ariannol

    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Ymrestru awtomatig

    Cyflwyniad, sut mae’n gweithio, popeth am gyfraniadau

    Adeiladu eich cronfa bensiwn

    Faint rydych ei angen, ffyrdd i adeiladu'ch cronfa, trosglwyddo ac uno

    Hanfodion pensiwn

    Dechrau pensiwn, mathau o bensiwn, deall pensiynau

    Problemau pensiwn

    Cwynion, cymorth ariannol pan wedi ymddeol, newidiadau i gynlluniau

    Pensiwn y Wladwriaeth

    Sut mae’n gweithio, beth allech chi ei gael, Yswiriant Gwladol

    Cymryd eich pensiwn

    Ffyrdd o dynnu eich pensiwn, pryd allwch chi ymddeol, apwyntiadau Pension Wise

    Treth a phensiynau

    Lwfansau treth, treth a delir ar bensiynau, rhyddhad treth

    Pensiynau ac ymddeoliad

    Pob arweiniad, gan gynnwys sut i ddefnyddio'r gwasanaeth Pension Wise

    Teclynnau

    Apwyntiad

    Trefnwch apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Darganfyddwch ymgynghorydd ymddeoliad

    POB TECLYN

    Trefnwch eich apwyntiad Pension Wise am ddim

    Dros 50 oed? Cewch arweiniad diduedd, am ddim o’n gwasanaeth sydd wedi’i gefnogi gan y llywodraeth. Byddwn yn esbonio’r opsiynau i gymryd arian o’ch cron…

  • Sut i gynilo

    Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau

    Buddsoddi

    Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli

    Math o gynilion

    Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant

    Cynilion

    Pob canllaw Cynilion

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Cyflogaeth

    Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol

    Colli eich swydd

    Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo

    Hunangyflogaeth

    Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad

    Gwaith

    Pob canllaw Gwaith

    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
  • Credyd Cynhwysol Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad
    Budd-daliadau os oes gennych blant Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant
    Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd
    Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth
    Budd-daliadau a gwaith Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd
    Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel
    Problemau gyda budd-daliadau Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau
    Budd-daliadau Pob canllaw Budd-daliadau
    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn Llywio Ariannol

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Bancio a thaliadau Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc
    Cyllidebu Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian
    Prynu a rhedeg car Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg
    Credyd Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd
    Yswiriant Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant
    Arian bob dydd Pob canllaw Arian bob dydd
    Teclynnau

    Teclyn

    Cymharu cyfrifon banc

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Dod yn rhiant Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant
    Marwolaeth a phrofedigaeth Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau
    Ysgariad a gwahanu Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu
    Salwch ac anabledd Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio
    Gofal tymor hir Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal
    Arian myfyrwyr a graddedigion Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr
    Siarad am arian Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid
    Teulu a gofal Pob canllaw Teulu a gofal
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Prynu tŷ Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth
    Rhentu Rhentu cartref i fyw ynddo, rhentu cartref, a goresgyn problemau
    Cartrefi Pob canllaw Cartrefi
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Help gyda chostau byw Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi
    Delio â dyled Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion
    Problemau a chwynion am arian Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion
    Sgamiau Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan
    Problemau ariannol Pob canllaw Problemau ariannol
    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Ymrestru awtomatig Cyflwyniad, sut mae’n gweithio, popeth am gyfraniadau
    Adeiladu eich cronfa bensiwn Faint rydych ei angen, ffyrdd i adeiladu'ch cronfa, trosglwyddo ac uno
    Hanfodion pensiwn Dechrau pensiwn, mathau o bensiwn, deall pensiynau
    Problemau pensiwn Cwynion, cymorth ariannol pan wedi ymddeol, newidiadau i gynlluniau
    Pensiwn y Wladwriaeth Sut mae’n gweithio, beth allech chi ei gael, Yswiriant Gwladol
    Cymryd eich pensiwn Ffyrdd o dynnu eich pensiwn, pryd allwch chi ymddeol, apwyntiadau Pension Wise
    Treth a phensiynau Lwfansau treth, treth a delir ar bensiynau, rhyddhad treth
    Pensiynau ac ymddeoliad Pob arweiniad, gan gynnwys sut i ddefnyddio'r gwasanaeth Pension Wise
    Teclynnau

    Apwyntiad

    Trefnwch apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Darganfyddwch ymgynghorydd ymddeoliad

    POB TECLYN

    Trefnwch eich apwyntiad Pension Wise am ddim

    Dros 50 oed? Cewch arweiniad diduedd, am ddim o’n gwasanaeth sydd wedi’i gefnogi gan y llywodraeth. Byddwn yn esbonio’r opsiynau i gymryd arian o’ch cron…

  • Sut i gynilo Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau
    Buddsoddi Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli
    Math o gynilion Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant
    Cynilion Pob canllaw Cynilion
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Cyflogaeth Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol
    Colli eich swydd Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo
    Hunangyflogaeth Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad
    Gwaith Pob canllaw Gwaith
    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

Home
English
  1. Hafan
  2. Arian bob dydd
  3. Prynu a rhedeg car
Arian bob dydd Prynu a rhedeg car

Sut i brynu car

Mae yna lawer o ffyrdd i gael car, a gall fod yn ddryslyd i gyfrifo’r opsiwn gorau i chi. Bydd ein canllaw yn mynd â chi drwy’r hyn i’w ystyried cyn gwneud penderfyniad.


Deall eich opsiynau talu

Dechreuwch gyda’ch cyllideb

Siaradwch â’r gwerthwr

Gorffen y cytundeb

Deall eich opsiynau talu

Mae yna sawl ffordd wahanol o brynu car. Mae rhai yn haws nag eraill. Mae’n syniad da deall yr opsiynau cyn i chi neidio i mewn.

Dilynwch y camau hyn i weithio allan beth sydd angen i chi ei wneud

Beth yw’r dewisiadau?

Gallwch chi:

  • brynu car gydag arian parod – fel arfer dewis da os oes gennych yr arian i’w sbario
  • fenthyg arian – naill ai drwy fenthyciad personol neu drwy ddefnyddio credyd
  • gael cytundeb cyllid car – dyma beth fydd y rhan fwyaf o ddelwyr ceir yn ei gynnig i chi
  • brydlesu neu rentu car – opsiwn os nad ydych am ymrwymo i brynu, neu os na allwch fforddio.
Sut mae cyllid car yn gweithio?

Mae dau brif fath o gyllid car.

Pryniant ar Gytundeb Personol (PCP)

Mae hwn yn ddewis poblogaidd, a’r hyn y bydd delwyr yn aml yn ei gynnig i gwsmeriaid. Fodd bynnag, mae’r ffordd y mae’n gweithio’n eithaf cymhleth.

Byddwch yn talu blaendal ymlaen llaw, a thaliadau misol am gyfnod penodol o amser.

Ar ddiwedd y contract, bydd gennych y dewis i wneud taliad mawr ‘balŵn’ os ydych am fod yn berchen ar y car.

Yn aml, bydd pobl yn cytuno ar PCP, ac yna ar ddiwedd y contract byddant yn symud ymlaen i PCP newydd yn hytrach na gwneud y taliad terfynol.

Dysgwch fwy yn ein canllaw Prynu car gyda Pryniant ar Gytundeb Personol.

Hurbwrcas (HP)

Mae hurbwrcas yn fodel symlach, ond nid mor boblogaidd.

Byddwch yn talu blaendal ymlaen llaw, a thaliadau misol am gyfnod penodol o amser. Fodd bynnag, does dim taliad balŵn ar y diwedd - yn hytrach, byddwch yn berchen ar y car ar ddiwedd eich contract.

Oherwydd eich bod yn cytuno i brynu’r car ar ddiwedd y cytundeb, mae’r taliadau misol yn uwch gyda HP na PCP. Ond yn bendant bydd gennych gar ar ddiwedd y contract, ond gyda PCP efallai na fyddwch yn.

Dysgwch fwy yn ein canllaw Prynu car gyda Hurbwrcasu.

Pa un sy’n well?

Mae’n dibynnu ar yr hyn rydych chi’n chwilio amdano.

Bydd PCP yn addas i chi os ydych chi:

  • eisiau taliadau misol rhatach, a
  • eisiau rhywfaint o hyblygrwydd wrth brynu’r car yn llwyr.

Mae HP yn aml yn werth gwell yn gyffredinol, gan y byddwch fel arfer yn talu ychydig yn llai mewn llog, ac mae’ch taliadau misol yn llawer mwy tebygol o’ch gadael gyda char erbyn y diwedd.

Beth yw’r opsiynau ar gyfer benthyg arian?

Os ydych chi’n edrych i dalu’r pris llawn ymlaen llaw, ond bod angen i chi fenthyg arian i wneud hyn, mae yna ychydig o opsiynau.

Cael benthyciad personol

Gallwch gael benthyciad personol i dalu rhywfaint neu’r cyfan o gost y car. Yna byddech yn talu swm sefydlog yn ôl bob mis, hyd nes y bydd y ddyled yn cael ei chlirio.

Byddwch yn talu llog ar y swm a fenthycwch ar gyfradd a benderfynir ar ddechrau’r cytundeb. Bydd eich ad-daliadau yn para tan ddiwedd tymor y benthyciad, fel arfer un i bum mlynedd.

Gallwch gael benthyciad gan fanc neu gymdeithas adeiladu, ond bydd angen i chi basio gwiriad credyd. Dysgu mwy am fenthyciadau personol.

Cael cerdyn credyd 0%

Bydd talu gyda cherdyn credyd cyfradd safonol fel arfer yn opsiwn drud, gan fod eu cyfraddau llog yn tueddu i fod yn uchel.

Mae rhai cwmnïau’n cynnig cardiau credyd gyda chyfradd llog o 0% am gyfnod cyfyngedig. Fel arfer bydd angen statws credyd da arnoch i gael y bargeinion hyn.

Gallwch ddefnyddio cerdyn 0% i dalu rhywfaint neu’r cyfan o gost y car. Yna byddai angen i chi glirio’r ddyled o fewn y cyfnod llog o 0%, neu newid y balans i fargen 0% arall (lle byddech fel arfer yn talu ffi trosglwyddo balans).

Bydd angen i chi gyfrifo’r taliadau misol sydd eu hangen i glirio’r ddyled o fewn y cyfnod 0%. Os gallwch glirio’r ddyled mewn amser, byddwch wedi ei thalu heb talu bron unrhyw log.

Fodd bynnag, ar ôl y cyfnod 0% bydd y gyfradd llog ar eich dyled yn uchel. Felly gwnewch yn siŵr y byddwch yn gallu ad-dalu os ydych yn dewis yr opsiwn hwn.

Mae talu unrhyw swm gyda cherdyn credyd hefyd yn rhoi haen ychwanegol o ddiogelwch defnyddwyr o’r enw Adran 75.

Dysgwch fwy am eich opsiynau am fenthyca arian
Beth yw’r opsiynau ar gyfer rhentu neu prydlesu?

Os nad yw bod yn berchen ar y car yn bwysig i chi, opsiwn arall yw llogi car. Mae sawl ffordd o wneud hyn:

Prydlesu car ar gytundeb prydlesu personol (PCH)

Mae PCH yn ffordd o logi car am ychydig o flynyddoedd. Byddwch yn cytuno ar hyd y contract ac yn gwneud taliadau misol sefydlog. Fel arfer, mae ffi ymlaen llaw.

Byddwch yn gallu gyrru’r car tan ddiwedd eich cytundeb, ond bydd terfyn ar faint o filltiroedd y gallwch ei wneud.

Yn aml gall prydlesu fod yn rhatach na PCP neu HP, ond fel arfer nid oes opsiwn i brynu’r car fel rhan o’r cytundeb.

Dysgwch fwy yn ein canllaw prydlesu car ar Gytundeb Prydlesu Personol.

Tanysgrifiadau car

Mae hyn yn fwy o opsiwn tymor byr na PCH. Byddwch yn talu ffi fisol, fel arfer heb unrhyw gost ymlaen llaw, ac yna gallwch ddewis car i yrru. 

Mae tanysgrifiadau car fel arfer yn fwy hyblyg, gan ganiatáu i chi newid neu ganslo’n haws a gadael i chi fasnachu am gar gwahanol yn haws. Fodd bynnag, maent fel arfer yn ddrutach na PCH.

Gallwch gymharu bargeinion tanysgrifio carYn agor mewn ffenestr newydd

Rhentu car neu ymuno â chlwb car

Os mai dim ond am gyfnod byr iawn o amser y mae angen car arnoch, gallai rhentu un fod yn opsiwn synhwyrol.

Mae ymuno â chlwb ceir yn opsiwn arall os mai dim ond o bryd i’w gilydd y mae angen i chi ddefnyddio car. Byddwch yn talu ffi aelodaeth, ac yna byddwch yn gallu llogi car pan fydd ei angen arnoch.

Mae mwy o wybodaeth am glybiau ceirYn agor mewn ffenestr newydd ar Which?

Dysgwch fwy am brydlesu gyda Cytundeb Prydlesu Personol (PCH)
Sut mae’r dewisiadau yn cymharu?

Bydd angen i chi wybod y pethau pwysig pob opsiwn i ddeall pa un sy’n iawn i chi.

Opsiynau prynu car
Opsiwn prynu Taliadau ymlaen llaw Taliadau misol Taliadau terfynol Ydych chi’n berchen ar y car? Ydych chi’n talu llog? Gwiriad credyd?

Prynu gyda chynilion arian parod

Cost llawn y car

Dim

Dim

Yes

Na

Dim

Ariannu gyda PCP

blaendal (fel arfer 10% o gost y car)

Hyd y contract

Taliad balŵn terfynol mawr, sy’n ddewisol

Ar ddiwedd y cytundeb, ond dim ond os gwnewch y taliad balŵn terfynol

Ie

Ie

Ariannu gyda HP

blaendal (fel arfer 10% o gost y car)

Hyd y contract

Ffi weinyddol fach, fel arfer tua £100

Ar ddiwedd y cytundeb, os ydych wedi cadw i fyny â thaliadau

Ie

Ie

Prynu gan ddefnyddio benthyciad personol

Fel arfer dim

Hyd y cytundeb

Dim

Ie

Ie

Ie

Prynu gan ddefnyddio cerdyn credyd 0%

Fel arfer dim

Ie

Dim, oni bai na allwch gadw i fyny â thaliadau

Ie

Byddwch yn talu os na fyddwch yn ad-dalu’n llawn o fewn y cyfnod 0%

Ie

Prydlesu gyda PCH

Fel arfer tua 3-6 mis o daliadau

Hyd y cytundeb

Dim

Na

Na

Ie

Mae’r opsiwn cywir i chi yn dibynnu ar eich amgylchiadau eich hun, felly bydd angen i chi feddwl am eich sefyllfa ariannol eich hun.

Darganfyddwch sut i ddechrau gyda’ch cyllideb

Oedd y wybodaeth yma yn ddefnyddiol?

Diolch am eich adborth.

Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Nol i’r brig

Dechreuwch gyda’ch cyllideb

Bydd angen i chi gyfrifo’ch cyllideb cyn i chi ddechrau meddwl am brynu car. Mae cael cyllideb yn golygu y byddwch chi’n gwybod yn union beth allwch chi ei fforddio.

Dilynwch y camau hyn i weithio allan beth sydd angen i chi ei wneud

Faint allwch chi fforddio ei dalu ymlaen llaw?

Mae’n anghyffredin y byddwch chi’n gallu cael car heb wneud rhyw fath o daliad mawr ymlaen llaw.

Mae’r hyn y bydd angen i chi ei dalu yn dibynnu ar y car, a’r math o fargen rydych chi’n ei chael:

  • Prynu gydag arian parod – bydd angen i chi dalu cost gyfan y car ar yr un pryd.
  • Benthyg arian – efallai na fydd angen i chi dalu unrhyw beth ymlaen llaw os ydych chi’n edrych i fenthyg digon i dalu’r holl gost.
  • Cyllid car – fel arfer bydd angen i chi dalu blaendal o 10% o werth y car.
  • Prydlesu – byddant yn gofyn am dri i chwe mis o daliadau ymlaen llaw.

Os nad ydych yn siŵr bod gennych ddigon eto, gall gosod nod cynilo eich helpu i gyrraedd eich targed.

Gall ein Cyfrifiannell cynilo eich helpu i osod eich nod a chyfrifo beth sydd angen i chi ei gynilo bob mis
Faint allwch chi fforddio ei dalu’n fisol?

Nesaf, bydd angen i chi feddwl am yr hyn y gallwch ei fforddio mewn taliadau misol. Byddwch yn gwneud taliadau misol oni bai eich bod yn prynu’r car gydag arian parod.

Mae’r rhan fwyaf o gytundebau fel arfer yn dod gyda thaliad misol sefydlog. Felly ni fydd unrhyw gynnydd annisgwyl yn yr hyn y bydd angen i chi ei dalu yn ystod eich cytundeb.

Fodd bynnag, os ydych wedi defnyddio cerdyn credyd, bydd angen i chi gyfrifo’ch taliadau misol eich hun. Fel arall, byddwch yn talu’r ad-daliad misol lleiaf, na fydd yn clirio’r ddyled.

Bydd defnyddio ein Cynlluniwr cyllideb i gyfrifo’r hyn y gallwch ei fforddio ac yn rhoi syniad i chi o ba fargeinion fydd yn gweithio i chi.

Pa opsiynau prynu car sydd â’r taliadau misol rhataf?

Mae’n dibynnu ar y car, hyd y contract a’r hyn y mae’r deliwr yn barod i’w gynnig. Fel arfer:

  • Mae hurbwrcas ac ad-daliadau benthyciad tua’r un peth, yn dibynnu ar y gyfradd llog a gynigir i chi.
  • Mae taliadau PCP ychydig yn is, ond peidiwch ag anghofio am y taliad balŵn terfynol y bydd angen i chi ei wneud os ydych chi am brynu’r car.
  • Mae prydlesu yn tueddu i fod yn rhatach na PCP, ond heb unrhyw opsiwn i brynu.

Ond nid yw bob amser yn gweithio fel hyn. Bydd angen i chi chwilio o gwmpas a gweld pa fargeinion sydd ar gael.

Defnyddiwch ein cynlluniwr cyllideb i weithio allan beth allech chi fforddio ei dalu’n fisol
Allwch chi fforddio’r costau rhedeg?

Nid prynu car yw diwedd yr hyn y byddwch yn ei wario. Bydd angen i chi dalu costau rhedeg a chynnal a chadw hefyd, gan gynnwys:

  • yswiriant car
  • treth ffordd
  • tanwydd
  • MOTs
  • gwasanaethu a chynnal a chadw
  • unrhyw atgyweiriadau
  • tollau a thaliadau aer glân.

Bydd y car rydych yn ei ddewis yn effeithio ar faint fyddwch chi’n ei dalu am y rhain i gyd. Gwnewch yn siŵr eich bod yn ymchwilio i’r costau hyn ac yn eu hystyried yn eich cyllideb.

Llawer o’r amser, bydd ceir sydd â chostau rhedeg is yn ddrytach i’w prynu. Mae’n werth ymchwilio i weld a fydd hwn yn fargen well yn y tymor hir.

Mae ein canllaw  costau rhedeg a phrynu car yn manylu aryr holl gostau hyn, ac yn esbonio sut mae gwahanol geir yn tueddu i effeithio ar bob un.

Mae hefyd yn synhwyrol bod cynilion yn barod ar gyfer unrhyw gostau annisgwyl. Mae mwy o wybodaeth am faint i’w arbed yn ein canllaw Cynilion argyfwng.

Ail-law neu newydd?

Mae’n demtasiwn mynd am gar newydd. Ni fydd rhaid i chi gael MOT am yr ychydig flynyddoedd cyntaf, ac fel arfer mae gwarantiad yn ymdrin ag unrhyw broblemau.

Fodd bynnag, byddwch yn ymwybodol o ‘ddibrisiant’, sef yr enw ar sut mae gwerth car yn gostwng dros amser. Mae car newydd yn dibrisio’n gyflym iawn, a gall fod yn hanner ei werth gwreiddiol o fewn ychydig flynyddoedd.

Mae ceir ail-law yn dibrisio llawer llai gan y byddant ar werth is i ddechrau. Ond efallai y byddant yn costio ychydig yn fwy i chi mewn costau rhedeg.

Dysgwch fwy am gostau rhedeg car
Gweithiwch allan eich milltiroedd

Un peth arall mae’n debyg y bydd angen i chi feddwl amdano yw faint o filltiroedd rydych chi’n debygol o yrru’r car bob blwyddyn.

Fel arfer bydd gennych derfyn milltiroedd os ydych yn:

  • ariannu car gyda PCP, neu
  • prydlesu car.

Mae mynd dros y terfyn dim yn syniad da, gan y byddwch yn cael cosb a all fod yn eithaf drud.

Fel arfer, mae’r terfyn wedi’i osod ar 10,000 milltir, ond gallwch drafod terfyn uwch os oes ei angen arnoch.

Ceisiwch ychwanegu eich holl:

  • tripiau rheolaidd, fel cymudo a casglu o’r ysgol
  • gyrru pellter hir, fel mynd ar wyliau neu ymweld â ffrindiau
  • anghenion o ddydd i ddydd eraill, fel mynd i’r gampfa neu siopa.

Bydd yn rhoi syniad bras i chi o faint o filltiroedd y byddwch yn gyrru, a dylai hyn eich helpu i benderfynu a fydd 10,000 yn ddigon.

Cyfrifwch pa mor hir yw  eich teithiau rheolaiddYn agor mewn ffenestr newydd trwy defnyddio cyfrifiannell milltiroedd yr AA

Darganfyddwch sut i siarad â’r gwerthwr

Oedd y wybodaeth yma yn ddefnyddiol?

Diolch am eich adborth.

Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Nol i’r brig

Siaradwch â’r gwerthwr

Pan fydd gennych syniad o ba gar rydych ei eisiau a faint yr hoffech ei dalu amdano, y cam nesaf yw sicrhau eich bod yn cael y fargen rydych chi ei heisiau.

Dilynwch y camau hyn i weithio allan beth sydd angen i chi ei wneud

Prynu gan deliwr

Yn dibynnu ar y math o gar rydych chi ei eisiau, dylai fod ychydig o ddelwriaethau i ddewis ohonynt. Fe welwch eu prisiau ar y ceir maen nhw’n eu gwerthu - ond maen nhw’n disgwyl i chi negodi.

Bydd cael y fargen orau fel arfer yn cymryd rhywfaint o fargeinio. Efallai y byddwch yn gallu cael taliadau misol is neu dalu llai ymlaen llaw. Efallai y bydd gwerthwyr hefyd yn taflu pethau ychwanegol, fel yswiriant neu becynnau cynnal a chadw.

Y rhan fwyaf o’r amser, bydd gwerthwyr yn cynnig PCP i chi. Pan fyddant yn gwneud hynny, gwnewch yn siŵr eu bod yn esbonio:

  • y blaendal
  • taliadau misol
  • y taliad balŵn ar y diwedd
  • faint o log y byddwch yn ei dalu
  • hyd y contract
  • eich lwfans milltiroedd
  • unrhyw reolau ynghylch traul
  • p’un a yw gwasanaethu a chynnal a chadw wedi’u cynnwys.

Os nad yw’r cytundeb maen nhw’n ei gynnig yn mynd i weithio i chi, peidiwch â bod ofn cerdded i ffwrdd.

Negodi bargen dda

Dylech bob amser fargeinio wrth brynu car i sicrhau eich bod yn cael y pris gorau. Bydd gwerthwyr yn ei ddisgwyl, ac fel arfer maent yn barod i ostwng y pris neu ychwanegu pethau ychwanegol at eich bargen.

Dyma rai awgrymiadau ar gyfer bargeinio:

  • Ewch i mewn yn barod – gall ychydig o ymchwil ar bris y car ar-lein fod yn declyn da i’w ddefnyddio wrth drafod.
  • Dechrau’n isel – cynnig swm is na’r hyn rydych chi’n barod i’w dalu mewn gwirionedd. Mae hyn yn rhoi rhywfaint o le i chi negodi.
  • Peidiwch â rhoi eich pris i ffwrdd – cadwch eich terfyn uchaf yn gyfrinach, gan eich bod yn gobeithio cael bargen well na hyn.
  • Cerddwch i ffwrdd – os nad ydych chi’n cael digon o symudiad gan eich deliwr, byddwch yn barod i adael. Ni fydd y gwerthwr eisiau i chi wneud hyn, a gallai hyn sbarduno cynnig gwell.
Cael cyngor pellach ar fargeinio ar gyfer carYn agor mewn ffenestr newydd ar MoneySavingExpert
Prynu wrth werthwr preifat

Efallai y gwelwch fod y car sydd ei angen arnoch yn cael ei werthu am bris rhatach gan werthwr preifat. Fodd bynnag, mae prynu’n breifat yn dod gyda llai o opsiynau a risg ychwanegol.

Eich opsiynau ar gyfer talu

Ni fyddwch yn gallu cael PCP neu HP wrth brynu’n breifat, felly rydych chi’n gyfyngedig i:

  • brynu gydag arian parod
  • gymryd benthyciad neu gredyd i dalu’r gwerthwr yn llawn.

Byddwch yn wyliadwrus o unrhyw werthwyr a fydd yn cynnig unrhyw fath arall o fargeinion i chi. Efallai eu bod yn eich hudo i fenthyca anghyfreithlon.

Dylech hefyd fod yn ofalus o unrhyw werthwyr sy’n gofyn am arian ymlaen llaw, neu i chi dalu ymlaen llaw drwy drosglwyddiad banc.

Risgiau o brynu’n breifat

Yn anffodus, mae’n bosibl cael eich twyllo wrth brynu car yn breifat. Bydd angen i chi wirio cofrestriad a dogfennau’r car i sicrhau ei fod yn eiddo cyfreithiol. 

Os aiff rhywbeth o’i le pan fyddwch yn prynu car yn breifat, mae’n anoddach cael ad-daliad.

Rhaid i werthwyr preifat roi disgrifiad cywir o’r car maen nhw’n ei werthu, ond ar ôl hynny mae popeth arall yn gyfrifoldeb i chi. 

Mae gan MoneySavingExpert restr wirio ar gyfer prynu car ail-lawYn agor mewn ffenestr newydd, sy’n rhoi syniad i chi o’r pethau y mae angen i chi eu gofyn cyn gwneud bargen gyda gwerthwr preifat.

Gallwch hefyd wirio statws cerbydYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK. Bydd hyn yn dangos i chi pryd oedd ei MOT a’i Dreth ddiwethaf, yn ogystal ag os yw’r plât trwydded yn cyfateb i’r manylion sydd gan y DVLA.

Gwiriadau hanes ceir

Mae gwasanaethau ar gael sy’n gallu cynnal gwiriad hanes car. Y cyfan sydd ei angen arnoch yw rhif cerbyd y car.

Mae cwmnïau sy’n cynnig gwiriad hanes car yn cynnwys:

  • The AAYn agor mewn ffenestr newydd
  • RACYn agor mewn ffenestr newydd
  • HPIYn agor mewn ffenestr newydd

Maent fel arfer yn costio tua £15. Byddan nhw’n darganfod a yw car wedi’i ddwyn neu os oes unrhyw arwyddion o dwyll milltiroedd, dyna lle mae gwerthwr yn gostwng milltiroedd y car ar gam i gael pris uwch.

Osgoi sgamiau

Bydd rhai sgamwyr yn targedu pobl sy’n prynu ceir, gan ei fod yn ffordd gyflym o gael swm mawr o arian.

Dyma rai awgrymiadau i osgoi cael eu sgamio:

  • Peidiwch â rhoi blaendal i lawr cyn gweld y car. Mae hyn yn rhywbeth y bydd sgamwyr yn ei wneud cyn diflannu.
  • Gofynnwch am gael gweld y car yn eiddo’r gwerthwr. Bydd rhai sgamwyr eisiau cwrdd â chi mewn maes parcio neu debyg, felly ni fyddwch yn gwybod ble maen nhw’n byw os aiff rhywbeth o’i le.
  • Osgoi cytundebau sy’n edrych yn rhy dda i fod yn wir.
  • Gofynnwch am weld dogfennau cerbyd, fel y llyfr log V5C a thystysgrifau MOT.
  • Byddwch yn arbennig o ofalus ynghylch prynu ceir a restrir ar wefannau cyfryngau cymdeithasol. Bydd sgamwyr yn aml yn uwchlwytho lluniau o geir nad ydynt yn berchen arnynt.
Darganfyddwch fwy am sut i osgoi sgamiau
Prynu car ar-lein

Mae yna ychydig o ffyrdd y gallwch chi edrych ar brynu car ar-lein.

Defnyddio brocer ar-lein

Gallech edrych ar frocer ar-lein – byddant yn chwilio ystod eang o ddelwyr i ddod o hyd i’r pris gorau i chi ar y car y mae gennych ddiddordeb ynddo.

Defnyddiwch fanwerthwr ceir ar-lein

Mae digon o fanwerthwyr ceir ar-lein lle gallwch brynu car yn llwyr, neu gytuno ar ariannu ceir. Gall hyn fod yn ffordd gyflym a chyfleus o gael car, ond fel arfer ni fydd gennych unrhyw opsiwn i negodi pris.

Dod o hyd i fargen breifat ar-lein

Bydd safleoedd fel eBay, Gumtree a Facebook Marketplace yn rhestru ceir gan werthwyr preifat. Gall ymddangos fel ffordd gyfleus o ddod o hyd i gar gan werthwr preifat - ond byddwch yn ofalus iawn. Bydd gennych lawer llai o ddiogelwch os aiff rhywbeth o’i le gyda’ch car, a bydd angen i chi fod yn wyliadwrus iawn o sgamiau.

Mae rhywfaint o arweiniad defnyddiol ynghylch ble i brynu carYn agor mewn ffenestr newydd Which?

Dysgwch fwy am beth i wylio amdano yn ein canllawiau ar Sgamiau.

Eich hawliau wrth brynu ar-lein

Os byddwch yn prynu’r car yn llawn ar-lein, heb fynd at y deliwr i lofnodi contract neu gwblhau taliad, fel arfer bydd gennych yr hawl i newid eich meddwl o fewn 14 diwrnod a chael ad-daliad llawn. Mae hyn oherwydd ei fod yn cyfrif fel ‘gwerthiant o bell’.

Y rhan fwyaf o'r amser bydd angen i chi siarad â’r gwerthwr i gwblhau’r cytundeb a chodi’r car, felly mae siawns dda na fydd eich pryniant yn cyfrif fel 'gwerthiant o bell’, ac ni fyddwch yn cael y cyfnod 14 diwrnod.

Mae’n well gwirio sut mae’r deliwr ar-lein yn gweithio a beth mae disgwyl i chi ei wneud cyn cwblhau eich pryniant.

Dysgwch fwy am beth i wylio amdano wrth brynu ar-leinYn agor mewn ffenestr newydd ar Which?

Darganfyddwch sut i orffen y cytundeb

Oedd y wybodaeth yma yn ddefnyddiol?

Diolch am eich adborth.

Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Nol i’r brig

Gorffen y cytundeb

Unwaith y byddwch wedi cytuno ar bris a chontract, mae ychydig o gamau ar ôl o hyd cyn i chi yrru i ffwrdd yn eich car newydd.

Dilynwch y camau hyn i weithio allan beth sydd angen i chi ei wneud

Pasiwch wiriad credyd

Os ydych chi’n cael car ar gyllid neu’n defnyddio credyd, bydd yn rhaid i chi basio gwiriad credyd.

Mae’r gwiriadau credyd hyn fel arfer yn ‘chwiliadau caled’, sy’n golygu y byddant ar eich ffeil credyd am chwe blynedd. Weithiau maen nhw’n ‘chwiliadau meddal’, ond gwiriwch gyda’ch deliwr i fod yn siŵr.

Os ydych chi’n poeni am eich statws credyd, edrychwch ar ein canllaw Sut i wella eich sgôr credyd.

Os yw eich cais am gredyd yn cael ei wrthod

Os cewch eich gwrthod am gredyd, ni fydd y deliwr yn mynd drwyddo gyda’r fargen.

Bydd y gwrthodiad yn ymddangos ar eich ffeil gredyd, felly gallai fod yn anoddach cael eich derbyn am gyllid car os bydd hyn yn digwydd.

Efallai y bydd angen i chi aros cyn gwneud cais eto neu edrych ar ffyrdd o wella eich sgôr credyd.

Efallai y bydd y deliwr hefyd yn cynnig benthyciad gwarantwr i chi, a dyna lle mae rhywun arall yn cytuno i ad-dalu’r benthyciad os na allwch chi. Dysgwch fwy yn ein canllaw Esboniad ar fenthyciadau Gwarantwr.

Os gwrthodwyd credyd i chi, defnyddiwch ein teclyn i gael cynllun gweithredu ar beth i’w wneud nesaf
Talu gyda cherdyn credyd ar gyfer amddiffyniad ychwanegol

Unwaith y byddwch wedi pasio’r gwiriad credyd, dim ond llofnodi’r contract a gwneud eich taliad cyntaf. Fel arfer hyn bydd eich blaendal.

Ni waeth sut rydych chi’n prynu’ch car, bydd rhoi unrhyw swm o’r gost ar gerdyn credyd yn rhoi amddiffyniad ychwanegol i chi. Gelwir hyn yn Adran 75.

Mae’n golygu y bydd eich cwmni cerdyn credyd yn eich helpu chi allan os oes problem gyda'ch car, fel os oes rhywbeth o’i le arno neu os nad yw fel roeddech chi’n ei ddisgwyl.

Hyd yn oed os ydych yn talu 1c ar gerdyn credyd yn unig, byddwch yn cael yr amddiffyniad hwn cyn belled â bod y car yn costio llai na £30,000. Fodd bynnag, ni fydd rhai gwerthwyr yn derbyn cardiau credyd, felly bydd yn rhaid i chi wirio gyda’r cwmni rydych chi’n ei brynu ganddo.

Gall cerdyn debyd hefyd gynnig rhywfaint o amddiffyniad

Mae talu gyda cherdyn debyd hefyd yn golygu y gallwch ofyn i’ch banc wrthdroi trafodiad gyda ‘chargeback’ os yw deliwr yn gwrthod eich cais am ad-daliad.

Dysgwch fwy am Adran 75 a chargeback 
Os bydd rhywbeth yn mynd o’i le

Os ydych chi’n meddwl eich bod wedi talu gormod neu wedi cael eu trin yn annheg, gallwch gwyno i’ch darparwr a gofyn am ad-daliad.

Mae ein canllaw Sut i gwyno os ydych wedi cael eich cam-werthu yn rhoi’r camau i’w cymryd os ydych am ddefnyddio’r opsiwn hwn.

Os gwnaethoch gymryd cyllid car cyn mis Ionawr 2021

Os gwnaethoch gytuno ar PCP neu Hurbwrcasu cyn 28 Ionawr 2021, efallai bod cyllid car wedi’i gamwerthu i chi.

Mae’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol yn ymchwilio i weld a yw gwerthwyr wedi gwneud unrhyw beth o’i le, ac a yw cwynion yn cael eu trin yn deg.

Efallai y bydd gennych hawl i gael ad-daliad. Darllenwch fwy yn ein post Sut i gwyno am gyllid car wedi’i gamwerthu.

Os oes problemau gyda’ch car

Os bydd rhywbeth yn mynd o’i le gyda’ch car, efallai y bydd gennych hawl gyfreithiol i gael iawndal. Bydd hyn yn dibynnu ar:

  • bryd a ble wnaethoch chi ei brynu
  • beth yw’r broblem fanwl gywir
  • oeddech chi’n gwybod bod problem pan wnaethoch chi ei brynu.

Efallai y byddwch yn gallu cael cost trwsio wedi’i orchuddio, neu ad-daliad.

Mae gan Cyngor ar Bopeth ganllawiau i’ch helpu os ydych yn cael problemau gyda’ch car, os ydych yn:

  • LloegrYn agor mewn ffenestr newydd
  • Yr AlbanYn agor mewn ffenestr newydd
  • CymruYn agor mewn ffenestr newydd

Os ydych yng Ngogledd Iwerddon, gallwch ddod o hyd i ganllawiau ar brynu car newydd neu ail lawYn agor mewn ffenestr newydd ar nidirect. 

Oedd y wybodaeth yma yn ddefnyddiol?

Diolch am eich adborth.

Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Nol i’r brig
Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Rhannu erthygl
E-bost Facebook Twitter
Rhannu hwn gyda
WhatsApp LinkedIn
Copio’r ddolen yma
Anfon e-bost
Copio’r ddolen yma
Logo Llywodraeth E.M

Darperir HelpwrArian gan:

Logo Gwasanaeth Arian a Phensiynau
Level AA conformance, W3C WAI Web Content Accessibility Guidelines 2.1 Clear English Standard for Websites logo
  • Amdanom ni
  • Cael help a chyngor
  • Cysylltu â ni
  • Partneriaethau
  • Offer a chyfrifianellau
  • Rhoi adborth
  • Cynllun Iaith Gymraeg
  • Blog

Dilynwch ni:

© 2023 Money and Pensions Service, 120 Holborn, London EC1N 2TD. Cedwir pob hawl.

  • Telerau ac amodau
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Datganiad hygyrchedd
  • Map safle
  • Sut rydym yn defnyddio cwcis
  • Dewisiadau cwcis Dewisiadau cwcis
Siaradwch â ni yn fyw am...
Cau
Siaradwch â ni yn fyw am...
Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio’r ffôn
  • O dramor: +44 20 7932 5780
  • I’r hunangyflogedig: 0345 602 7021*
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn – Sul:Wedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn
  • Cymraeg: 0800 138 0555*
  • Typetalk: 18001 0800 915 4622
  • O dramor: +44 20 3553 2279
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Blaenorol Cau

Blaenorol Cau

Blaenorol Cau

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun–Gwener8am-6pm
  • Sadwrn8am - 3pm
  • Sun and bank holidaysWedi cau
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun, Mercher, Gwener8.20am - 6.20pm
  • Tues, Thurs9am - 6.20pm
  • Sat, Sun and bank holidaysWedi cau
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion, cwestiynau credyd neu ganllaw pensiynau. Am bopeth arall, cysylltwch â ni trwy Wesgwrs neu dros y Ffôn.

Blaenorol Cau