Got a pension question? Our help is impartial and free to use. Get in touch online or over the phone on 0800 011 3797
Cau
Skip to content
Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo
English
  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
  • Credyd Cynhwysol

    Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad

    Budd-daliadau os oes gennych blant

    Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant

    Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr

    Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd

    Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd

    Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth

    Budd-daliadau a gwaith

    Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd

    Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai

    Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel

    Problemau gyda budd-daliadau

    Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau

    Budd-daliadau

    Pob canllaw Budd-daliadau

    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn Llywio Ariannol

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Bancio a thaliadau

    Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc

    Cyllidebu

    Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian

    Prynu a rhedeg car

    Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg

    Credyd

    Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd

    Yswiriant

    Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant

    Arian bob dydd

    Pob canllaw Arian bob dydd

    Teclynnau

    Teclyn

    Cymharu cyfrifon banc

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Dod yn rhiant

    Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant

    Marwolaeth a phrofedigaeth

    Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau

    Ysgariad a gwahanu

    Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu

    Salwch ac anabledd

    Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio

    Gofal tymor hir

    Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal

    Arian myfyrwyr a graddedigion

    Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr

    Siarad am arian

    Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid

    Teulu a gofal

    Pob canllaw Teulu a gofal

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Prynu tŷ

    Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth

    Rhentu

    Rhentu cartref i fyw ynddo, rhentu cartref, a goresgyn problemau

    Cartrefi

    Pob canllaw Cartrefi

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Help gyda chostau byw

    Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi

    Delio â dyled

    Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion

    Problemau a chwynion am arian

    Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion

    Sgamiau

    Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan

    Problemau ariannol

    Pob canllaw Problemau ariannol

    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Ymrestru awtomatig

    Cyflwyniad, sut mae’n gweithio, popeth am gyfraniadau

    Adeiladu eich cronfa bensiwn

    Faint rydych ei angen, ffyrdd i adeiladu'ch cronfa, trosglwyddo ac uno

    Hanfodion pensiwn

    Dechrau pensiwn, mathau o bensiwn, deall pensiynau

    Problemau pensiwn

    Cwynion, cymorth ariannol pan wedi ymddeol, newidiadau i gynlluniau

    Pensiwn y Wladwriaeth

    Sut mae’n gweithio, beth allech chi ei gael, Yswiriant Gwladol

    Cymryd eich pensiwn

    Ffyrdd o dynnu eich pensiwn, pryd allwch chi ymddeol, apwyntiadau Pension Wise

    Treth a phensiynau

    Lwfansau treth, treth a delir ar bensiynau, rhyddhad treth

    Pensiynau ac ymddeoliad

    Pob arweiniad, gan gynnwys sut i ddefnyddio'r gwasanaeth Pension Wise

    Teclynnau

    Apwyntiad

    Trefnwch apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Darganfyddwch ymgynghorydd ymddeoliad

    POB TECLYN

    Trefnwch eich apwyntiad Pension Wise am ddim

    Dros 50 oed? Cewch arweiniad diduedd, am ddim o’n gwasanaeth sydd wedi’i gefnogi gan y llywodraeth. Byddwn yn esbonio’r opsiynau i gymryd arian o’ch cron…

  • Sut i gynilo

    Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau

    Buddsoddi

    Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli

    Math o gynilion

    Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant

    Cynilion

    Pob canllaw Cynilion

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Cyflogaeth

    Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol

    Colli eich swydd

    Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo

    Hunangyflogaeth

    Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad

    Gwaith

    Pob canllaw Gwaith

    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
  • Credyd Cynhwysol Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad
    Budd-daliadau os oes gennych blant Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant
    Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd
    Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth
    Budd-daliadau a gwaith Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd
    Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel
    Problemau gyda budd-daliadau Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau
    Budd-daliadau Pob canllaw Budd-daliadau
    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn Llywio Ariannol

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Bancio a thaliadau Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc
    Cyllidebu Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian
    Prynu a rhedeg car Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg
    Credyd Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd
    Yswiriant Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant
    Arian bob dydd Pob canllaw Arian bob dydd
    Teclynnau

    Teclyn

    Cymharu cyfrifon banc

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Dod yn rhiant Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant
    Marwolaeth a phrofedigaeth Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau
    Ysgariad a gwahanu Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu
    Salwch ac anabledd Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio
    Gofal tymor hir Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal
    Arian myfyrwyr a graddedigion Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr
    Siarad am arian Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid
    Teulu a gofal Pob canllaw Teulu a gofal
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Prynu tŷ Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth
    Rhentu Rhentu cartref i fyw ynddo, rhentu cartref, a goresgyn problemau
    Cartrefi Pob canllaw Cartrefi
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Help gyda chostau byw Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi
    Delio â dyled Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion
    Problemau a chwynion am arian Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion
    Sgamiau Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan
    Problemau ariannol Pob canllaw Problemau ariannol
    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Ymrestru awtomatig Cyflwyniad, sut mae’n gweithio, popeth am gyfraniadau
    Adeiladu eich cronfa bensiwn Faint rydych ei angen, ffyrdd i adeiladu'ch cronfa, trosglwyddo ac uno
    Hanfodion pensiwn Dechrau pensiwn, mathau o bensiwn, deall pensiynau
    Problemau pensiwn Cwynion, cymorth ariannol pan wedi ymddeol, newidiadau i gynlluniau
    Pensiwn y Wladwriaeth Sut mae’n gweithio, beth allech chi ei gael, Yswiriant Gwladol
    Cymryd eich pensiwn Ffyrdd o dynnu eich pensiwn, pryd allwch chi ymddeol, apwyntiadau Pension Wise
    Treth a phensiynau Lwfansau treth, treth a delir ar bensiynau, rhyddhad treth
    Pensiynau ac ymddeoliad Pob arweiniad, gan gynnwys sut i ddefnyddio'r gwasanaeth Pension Wise
    Teclynnau

    Apwyntiad

    Trefnwch apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Darganfyddwch ymgynghorydd ymddeoliad

    POB TECLYN

    Trefnwch eich apwyntiad Pension Wise am ddim

    Dros 50 oed? Cewch arweiniad diduedd, am ddim o’n gwasanaeth sydd wedi’i gefnogi gan y llywodraeth. Byddwn yn esbonio’r opsiynau i gymryd arian o’ch cron…

  • Sut i gynilo Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau
    Buddsoddi Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli
    Math o gynilion Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant
    Cynilion Pob canllaw Cynilion
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Cyflogaeth Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol
    Colli eich swydd Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo
    Hunangyflogaeth Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad
    Gwaith Pob canllaw Gwaith
    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

Home
English
  1. Hafan
  2. Arian bob dydd
  3. Prynu a rhedeg car
Arian bob dydd Prynu a rhedeg car

Prynu car trwy hurbwrcasu

Mae Hurbwrcasu (HP) yn ffordd o ariannu car newydd neu ail law. Ar ôl talu blaendal, rydych yn hurio’ch car gyda thaliadau misol hyd diwedd y contract, pan fyddwch wedi ei brynu’n llawn.

Beth sydd yn y canllaw hwn

  • Beth yw hurbwrcasu?
  • Beth fyddwch chi'n ei dalu am Hurbwrcasu
  • Sut mae Hurbwrcasu yn gweithio?
  • Sut alla i gael bargen Hurbwrcasu ar gar?
  • Cytuno ar eich cytundeb Hurbwrcasu
  • A’i Hurbwrcasu yw’r dewis cywir?
  • Gorffen Hurbwrcasu yn gynnar
  • Os ydych yn cael trafferth gwneud eich taliadau misol

Beth yw hurbwrcasu?

Mae tair prif ran i Hurbwrcasu: 

  1. blaendal y byddwch yn ei dalu ar ddechrau'r contract
  2. taliadau misol a fydd yn cwmpasu gwerth y car ynghyd â llog 
  3. ffi derfynol 'opsiwn i brynu' tua £100 fel arfer, i gymryd perchnogaeth o'r car.

Byddwch yn cytuno ar hyd contract gyda'ch deliwr a byddwch yn llogi'r car hyd nes y bydd y contract wedi'i gwblhau. Unwaith y byddwch wedi gwneud eich taliad terfynol, gan gynnwys y ffi opsiwn i brynu, byddwch yn dod yn berchennog y car.

Mae Hurbwrcasu yn fenthyciad sydd wedi'i warantu yn erbyn y car. Mae hyn yn golygu, os na fyddwch yn talu'r cwmni cyllid, y gallant gymryd y car oddi wrthych. Bydd y cwmni yn berchen ar y car nes i chi gyrraedd diwedd y contract.

Os ydych wedi prynu car ar gyllid cyn Ionawr 2021

Os gwnaethoch gymryd cyllid car cyn mis Ionawr 2021, efallai eich bod wedi gordalu. Gallwch ddysgu mwy am sut i gwyno a gwneud cais am iawndal.

Nol i’r brig

Beth fyddwch chi'n ei dalu am Hurbwrcasu

Blaendal

Ystyriwch ddefnyddio cerdyn credyd i dalu rhywfaint o'r blaendal

Mae defnyddio cerdyn credyd yn golygu eich bod yn cael amddiffyniad ychwanegol ar eich bargen, o'r enw amddiffyniad talu cerdyn credyd Adran 75. Byddwch yn cael hyn hyd yn oed os ydych yn rhoi dim ond 1c o'r blaendal ar gerdyn credyd.

Ni fydd llawer o ddelwyr yn caniatáu i chi ddefnyddio cerdyn credyd ar gyfer eich blaendal, felly gwiriwch gyda hwy. 

Fel arfer bydd angen i chi dalu blaendal o tua 10% o werth y car. Byddwch yn talu hyn wrth gytuno’r hurbwrcasu.

Bydd blaendal uwch yn lleihau eich taliadau misol.

Taliadau misol

Byddwch yn gwneud taliadau misol am gyfnod eich contract. Mae'r taliadau hyn yn seiliedig ar werth y car, ar ôl i chi dynnu'r blaendal. 

Byddwch hefyd yn cael llog wedi ei godi. Byddwch yn cytuno ar gyfradd llog ar ddechrau'r cytundeb, a fydd yn seiliedig ar ychydig o ffactorau gwahanol, gan gynnwys eich statws credyd a hyd y contract.

Ffi opsiwn i brynu

Bydd angen i chi wneud taliad terfynol ar ddiwedd eich contract i ddod yn berchennog y car. Mae hyn fel arfer tua £100, ond dylech ddarganfod hwn yn eich contract wrth gytuno ar yr hurbwrcasu.

Costau rhedeg

Er nad ydych yn berchen ar y car, byddwch yn gyfrifol am:

  • yswiriant
  •  tanwydd
  • atgyweirio a chynnal a chadw
  • unrhyw docynnau parcio neu oryrru.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cyllidebu ar gyfer pob un o'r rhain, gan gynnwys costau annisgwyl fel amnewid teiar. Mae mwy o wybodaeth yn ein canllaw Costau prynu a rhedeg car.

Cynlluniwr Cyllideb

I’ch helpu i reoli eich arian, defnyddiwch ein Cynlluniwr Cyllideb hawdd i’w ddefnyddio, rhad ac am ddim.

Sut mae Hurbwrcasu yn gweithio?

Dyma enghraifft o sut y gallai Hurbwrcasu edrych:

  • Rydych chi eisiau prynu car sy'n costio £20,000.
  • Rydych yn talu blaendal o £2,000 ac yn cytuno ar gontract tair blynedd.
  • Yn seiliedig ar eich statws credyd, mae'r gwerthwr yn cytuno ar gyfradd llog o 15%.
  • Bydd yn rhaid i chi wneud £18,000 mewn taliadau misol, ynghyd â llog.

Bydd y ffigurau'n amrywio, ond er enghraifft, byddwch yn talu cyfanswm o tua £4,460 mewn llog. Byddai eich taliadau misol tua £625. Mae Hire Purchase calculator ar The Money CalculatorYn agor mewn ffenestr newydd, a all roi syniad i chi o beth fyddwch yn ei dalu. 

Sut alla i gael bargen Hurbwrcasu ar gar?

Gallwch gael bargen Hurbwrcasu:

  • gan y gwerthwr yn gwerthu'r car i chi
  • gan frocer ar-lein
  • trwy rai banciau.

Gallwch ddod o hyd i fargeinion Hurbwrcasu a'u cymharu ar: 

  • MoneySavingExpertOpens in a new window 
  • The Car ExpertOpens in a new window
Nol i’r brig

Cael y fargen orau

Mae'n syniad da ymchwilio bargeinion ar-lein yn gyntaf, gan y gall cynigion gan wahanol ddarparwyr benthyciadau fod yn wahanol iawn. Bydd yn ddefnyddiol cael rhai rhifau i'ch helpu i drafod gyda'ch deliwr.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn bargeinio wrth brynu gan ddeliwrYn agor mewn ffenestr newydd, a gofynnwch iddynt ostwng nid yn unig pris y car, ond y Gyfradd Ganrannol Flynyddol (APR) hefyd. Gallai llog is arbed cannoedd o bunnoedd i chi. 

Gallwch hefyd fargeinio dros flaendaliadau a ffioedd. Peidiwch â bod ofn rhoi cynnig ar wahanol ddelwyr, gan y gall hyd yn oed delwyr o'r un gwneuthurwr gynnig prisiau gwahanol. Gall ein canllaw Sut i brynu car helpu i'ch tywys drwy'r broses brynu.

Nol i’r brig

Cytuno ar eich cytundeb Hurbwrcasu

Mae'n bwysig eich bod yn deall yn union beth fydd disgwyl i chi ei dalu a phryd.

Os nad ydych yn sicr am unrhyw beth, gofynnwch i'ch deliwr ei egluro. Dylen nhw wneud popeth yn glir - os nad ydynt, byddwch yn barod i gerdded i ffwrdd.

Mae'r rhan fwyaf o werthwyr yn fwy tebygol o gynnig Taliad Contract Personol (PCP) i chi na Hurbwrcasu. Mae'r rhain yn ddau fargen wahanol iawn, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn glir pa fath o gyllid rydych yn ei gael.

Rhestr wirio wrth gytuno ar Hurbwrcasu

  • Faint yw'r blaendal?
  • Faint yw'r taliadau misol?
  • Faint yw'r ffi dewis i brynu?
  • Faint ydych chi'n ei dalu mewn llog?
  • Beth yw'r gyfradd ganrannol flynyddol (APR)?
  • A fyddwch chi'n cael yr APR a hysbysebwyd? Neu a yw'r APR yn gynrychioliadol, sy'n golygu efallai na fyddwch yn cael y gyfradd a hysbysebwyd?
  • Faint yw’r cyfanswm rydych yn ei dalu?
  • Pa mor hir yw'r contract?
  • Beth yw telerau ac amodau'r contract?
  • A oes angen i chi roi gwybod i'ch cwmni cyllid os ydych chi'n mynd â'r car dramor?
  • A yw'ch contract yn ei gwneud yn ofynnol i chi gael math penodol o yswiriant car (fel cynhwysfawr)?
  • A yw eich contract yn caniatáu i chi wneud newidiadau i'r car?
  • A oes unrhyw ffioedd eraill i fod yn ymwybodol ohonynt?

Ychwanegiadau dewisol yn eich contract

Bydd rhai gwerthwyr yn cynnig ychwanegiadau dewisol nad ydynt fel arfer mewn Hurbwrcasu, fel yswiriant, yswiriant torri i lawr a gwarantau.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn deall yn union beth mae'ch deliwr yn ei gynnig i chi, a sut y bydd yn effeithio ar eich taliadau misol – a chwiliwch o gwmpas am fargeinion rhatach cyn dweud ie.

Bydd ein canllaw costau o brynu a rhedeg car yn eich helpu i ddeall sut y gallai ychwanegiadau dewisol effeithio ar y costau cyffredinol.

Yswiriant ‘GAP’

Wrth brynu car efallai y cewch gynnig yswiriant ‘gap’. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod beth yw hyn ac os ydych ei angen - a gwnewch yn siŵr eich bod yn cael bargen deg bob amser.

Gallwch ddysgu mwy am yswiriant 'GAP' ar MoneySavingExpertYn agor mewn ffenestr newydd

Gwiriad credyd

Bydd angen i chi basio gwiriad credyd pan yn gwneud cais am Hurbwrcasu. Bydd hwn yn 'chwiliad caled', sy'n golygu bod marc yn cael ei adael ar eich ffeil credyd.

Os ydych yn poeni am eich credyd, edrychwch ar ein canllaw Sut i wella eich sgôr credyd.

Nol i’r brig

A’i Hurbwrcasu yw’r dewis cywir?

Fel pob bargen, mae Hurbwrcasu yn dod â manteision ac anfanteision. Mae p'un a yw y fargen gywir yn dibynnu ar y math o gar rydych ei angen, a'ch sefyllfa ariannol chi.

Manteision o Hurbwrcasu
  • Os ydych angen car mwy newydd, gall hyn fod yn ffordd dda o dorri'r costau.

  • Byddwch yn dod yn berchennog y cerbyd ar ddiwedd y cytundeb. 

  • Dim ond taliad bach sydd i'w wneud ar ddiwedd y contract.

  • Fel arfer, nid oes unrhyw gyfyngiadau ar faint o filltiroedd y gall eich car ei wneud fel rhan o'r cytundeb. 

  • Byddwch fel arfer yn talu ychydig yn llai mewn llog na PCP.

Anfanteision Hurbwrcasu
  • Ni fyddwch yn berchennog y car tan eich taliad olaf, felly ni allwch werthu nac addasu'r car yn ystod y contract (oni bai eich bod yn cael caniatâd gan y cwmni cyllid).

  • Mae taliadau misol fel arfer yn uwch na Thaliad Contract Personol (PCP), sy'n golygu bod gwerth y car y gallwch ei fforddio yn llai.

  • Os bydd eich sefyllfa ariannol yn newid, byddwch yn dal wedi cael eich cloi i daliadau misol.

  • Mae'n anodd newid eich car am gar mwy newydd yn ystod eich cytundeb.

  • Bydd eich car yn colli gwerth (dibrisio) yn ystod eich cytundeb.

  • Hyd nes eich bod wedi talu traean o gost y car, gall eich cwmni cyllid ei adfeddiannu heb orchymyn llys.

Opsiynau eraill

Efallai y bydd rhai o'r opsiynau hyn yn fwy addas i chi yn dibynnu ar eich amgylchiadau. Sicrhewch eich bod yn cael cyngor a deall risgiau unrhyw gytundeb a wnewch cyn i chi benderfynu. 

Prynu car yn gyfan gwbl

Os oes gennych chi ddigon o gynilion i allu prynu car gydag arian parod, fel arfer dyma fydd eich opsiwn gorau. Ni fyddwch yn talu llog a byddwch yn berchen ar y car ar unwaith.

Mae'n bwysig dal i gael rhywfaint o arian wrth gefn ar gyfer argyfwng. Edrychwch ar ein canllaw Cynilion ar gyfer argyfwng - faint sy’n ddigon?.

Prynu car rhatach

Meddyliwch a fyddai car rhatach yn gwedduch anghenion.

Mae ceir newydd yn colli eu gwerth (dibrisio) yn gyflym, felly ar ddiwedd Hurbwrcasu mae'n debyg y bydd gennych gar sy'n llawer llai gwerthfawr nag yr oedd ar ddechrau'r cytundeb.

Mae ceir hŷn fel arfer yn dibrisio llai, felly weithiau maent yn werth gwell yn y tymor hir. Fodd bynnag, bydd gan rai ceir gostau rhedeg uwch, ac efallai y byddant yn fwy tebygol o fod angen atgyweiriadau a chynnal a chadw.

Mae llawer i'w hystyried wrth gyfrifo costau car yn gyffredinol. Mae ein canllaw costau Costau prynu a rhedeg car yn sôn am hyn yn fanylach. 

Prydlesu (Contract Llogi Personol)

Dewis arall yw Contract Llogi Personol (PCH). Ni fyddwch yn prynu'r car gyda'r opsiwn hwn, ond bydd eich taliadau misol yn llawer is. 

Os byddwch yn cael trafferth fforddio prynu car yn llwyr, efallai y bydd llogi yn opsiwn gwell. 

Benthyciad personol

Os ydych am fod yn berchen ar y car yn llwyr, gallech gael benthyciad personol i dalu amdano.

Bydd angen i chi gymharu'r hyn y gallwch ei fenthyca a faint y byddech yn ei dalu'n ôl. Efallai y gwelwch fod benthyciad yn golygu eich bod yn talu llai mewn llog na Hurbwrcasu yn dibynnu ar ba fargen y gallwch ei chael.

Byddwch yn ymwybodol efallai na fydd benthyciad personol yn cael ei warantu yn erbyn eich car, felly os ydych yn cael trafferth ei ad-dalu, ni fydd eich benthyciwr ond yn mynd â'ch car i ffwrdd i wneud pethau yn iawn.

Taliad Contract Personol (PCP)

Mae Taliad Contract Personol (PCP) yn fath arall o gyllid car. Byddwch yn:

  • rhoi blaendal i lawr
  • gwneud taliadau misol
  • cael y dewis i wneud 'taliad balŵn' mawr terfynol ar ddiwedd eich contract, neu
  • rhoi'r car yn ôl, weithiau fel cyfnewid rhannol ar gyfer PCP newydd.

Bydd y taliadau misol hyn yn is na Hurbwrcasu, ond bydd y taliad terfynol yn llawer uwch.  Ond mae gennych yr opsiwn i beidio â thalu'r taliad balŵn os penderfynwch beidio â phrynu'r car ar ddiwedd y contract. 

Nol i’r brig

Gorffen Hurbwrcasu yn gynnar

Os oes angen i chi ddod â Hurbwrcasu i ben yn gynnar, mae gennych ychydig o opsiynau:

Os ydych wedi gwneud o leiaf hanner eich taliadau

Mae gennych hawl gyfreithiol i ddychwelyd y car a dod â'r contract i ben os ydych wedi gwneud o leiaf hanner eich taliadau. Gelwir hyn yn 'derfynu gwirfoddol'.

Os penderfynwch ddychwelyd y car, dywedwch wrth eich cwmni cyllid trwy lythyr neu e-bost, a chadwch gopi. Bydd angen i chi ei gwneud yn glir eich bod yn dychwelyd y car ac yn dod â'r cytundeb i ben.

Gallwch ddefnyddio'r llythyr templed hwn ar National DebtlineYn agor mewn ffenestr newydd i wneud cais am derfynu gwirfoddol.  

Os na fyddwch yn rhoi gwybod i'r gwerthwr, byddant yn ei weld fel eich bod wedi methu taliadau, a gallai hyn effeithio ar eich statws credyd.

Bydd eich gwerthwr yn colli allan, felly efallai y byddant yn ceisio gwneud hyn yn anodd a llusgo'r broses. Cofiwch eich bod yn gweithredu o fewn eich hawliau yn unol â'r Ddeddf Credyd Defnyddwyr.

Er enghraifft, efallai y byddant yn honni bod difrod i'r car y tu hwnt i 'draul deg'. Mae'n werth gwirio beth sy'n cael ei ystyried yn 'draul deg' wrth gytuno ar eich Hurbwrcasu, ond mae yna hefyd ganllaw defnyddiol i draul teg gan Gymdeithas Rhentu a Prydlesu Cerbydau Prydain (BVRLA)Yn agor mewn ffenestr newydd, neu gallwch archebu copi caledYn agor mewn ffenestr newydd

Os ydych am wneud ad-daliad cynnar

Siaradwch â'ch deliwr am ddod â'r pryniant i ben yn gynnar. Byddant yn rhoi un taliad mwy terfynol i chi ei wneud, ac yna bydd y car yn eiddo i chi.

Mae taflen ddefnyddiol gan y Gymdeithas Cyllid a PrydlesuYn agor mewn ffenestr newydd sy'n esbonio beth sy'n digwydd pan fyddwch yn ad-dalu benthyciad yn gynnar.

Nol i’r brig

Os ydych yn cael trafferth gwneud eich taliadau misol

Mae'n bwysig siarad â'ch cwmni cyllid car os ydych yn ei chael hi'n anodd cadw i fyny â thaliadau.

Efallai y byddant yn gallu ymestyn eich cytundeb, a all leihau eich taliadau misol. Gallant hefyd ystyried trefniadau eraill, felly gall cael sgwrs gyda nhw fod yn lle da i ddechrau.

Mae'n bwysig cael y sgwrs hon cyn methu unrhyw daliadau. Os na wnewch hynny, efallai y bydd eich deliwr yn ei ystyried yn fethdaliad ar eich taliadau, a allai effeithio ar eich statws credyd.  

Beth sy'n digwydd os na allwch gadw i fyny â'ch taliadau?

Mae Hurbwrcasu yn fenthyciad wedi'i warantu - mae hyn yn golygu y gall y darparwr benthyciadau gymryd y car yn ôl os nad ydych yn cadw i fyny â'ch taliadau.

Dylech wirio eich contract am fanylion am beth yw proses y benthyciwr. Os ydych yn gynnar i mewn i’ch contract, yn aml ni fydd angen gorchymyn llys arnynt i adfeddiannu'ch car.

Os ydych yn cael trafferth gyda dyled, mae'n syniad da siarad ag ymgynghorydd dyledion am ddim.

Darganfyddwch ble y gallwch gael cyngor ar ddyledion am ddim.

Nol i’r brig
Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Rhannu erthygl
E-bost Facebook Twitter
Rhannu hwn gyda
WhatsApp LinkedIn
Copio’r ddolen yma
Anfon e-bost
Copio’r ddolen yma
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Logo Llywodraeth E.M

Darperir HelpwrArian gan:

Logo Gwasanaeth Arian a Phensiynau
Level AA conformance, W3C WAI Web Content Accessibility Guidelines 2.1 Clear English Standard for Websites logo
  • Amdanom ni
  • Cael help a chyngor
  • Cysylltu â ni
  • Partneriaethau
  • Offer a chyfrifianellau
  • Rhoi adborth
  • Cynllun Iaith Gymraeg
  • Blog

Dilynwch ni:

© 2023 Money and Pensions Service, 120 Holborn, London EC1N 2TD. Cedwir pob hawl.

  • Telerau ac amodau
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Datganiad hygyrchedd
  • Map safle
  • Sut rydym yn defnyddio cwcis
  • Dewisiadau cwcis Dewisiadau cwcis
Siaradwch â ni yn fyw am...
Cau
Siaradwch â ni yn fyw am...
Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio’r ffôn
  • O dramor: +44 20 7932 5780
  • I’r hunangyflogedig: 0345 602 7021*
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn – Sul:Wedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn
  • Cymraeg: 0800 138 0555*
  • Typetalk: 18001 0800 915 4622
  • O dramor: +44 20 3553 2279
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Blaenorol Cau

Blaenorol Cau

Blaenorol Cau

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun–Gwener8am-6pm
  • Sadwrn8am - 3pm
  • Sun and bank holidaysWedi cau
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun, Mercher, Gwener8.20am - 6.20pm
  • Tues, Thurs9am - 6.20pm
  • Sat, Sun and bank holidaysWedi cau
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion, cwestiynau credyd neu ganllaw pensiynau. Am bopeth arall, cysylltwch â ni trwy Wesgwrs neu dros y Ffôn.

Blaenorol Cau