Pryniant ar Gytundeb Personol (PCP) yw’r dull mwyaf poblogaidd o gyllido car. Yn aml caiff ei ystyried fel dull o brynu car dros dair neu bum mlynedd ond nid yw’r rhan fwyaf o bobl yn prynu’r car wedi hynny.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Beth yw pryniant ar gytundeb personol (PCP)?
- Sut mae Pryniant ar Gytundeb Personol (PCP) yn gweithio?
- Pwyntiau pwysig i fod yn ymwybodol ohonynt wrth gael Pryniant ar Gytundeb Personol (PCP)
- Dewisiadau amgen i Bryniant ar Gytundeb Personol (PCP)
- Eich hawliau os ydych eisiau canslo cynllun Pryniant ar Gytundeb Personol (PCP)
- Beth i’w wneud os ydych yn dechrau llithro gyda’ch taliadau cyllido car
Beth yw pryniant ar gytundeb personol (PCP)?
Mae Pryniant ar Gytundeb Personol (PCP) yn ffordd gymhleth o dalu am gar. Mae’n debyg i rentu hir-dymor, sy’n caniatáu i chi ddefnyddio’r car tan i’r cytundeb ddod i ben. Ar ddiwedd y cytundeb, gallwch:
Cael trafferth gyda thaliadau car?
Darganfyddwch mwy am wyliau talu os ydych yn cael trafferth gyda thaliadau cyllid car
- ddychwelyd y car
- talu’r gwerth ail-werthu a’i gadw
- defnyddio’r gwerth ail-werthu tuag at brynu car newydd.
Dyma beth rydych angen ei wybod ynglŷn â sut mae PCP yn gweithio:
- mae’r cytundeb yn para rhwng tair a phum mlynedd
- bydd angen i chi basio gwiriad credyd
- bydd angen ichi dalu blaendal ymlaen llaw
- bydd y swm y byddwch yn ei dalu dros gyfnod llawn y cytundeb yn aml yn uwch na Chytundeb Llogi Personol (PCH)
- nid chi fydd yn berchen ar y cerbyd ar ddiwedd y cytundeb. Gallwch ei brynu drwy dalu taliad terfynol neu ‘daliad balŵn’, sydd yn rhai miloedd o bunnoedd fel arfer
- gallwch hefyd ddod â’r cytundeb i ben drwy brynu’r car yn llwyr
- mae amodau llym i’r cytundeb, fel cyfyngiad ar y nifer o filltiroedd a deithiwch
- yn aml bydd rhaid i chi aros gyda’r un gwerthwr pe byddech am ddefnyddio unrhyw ecwiti sy’n weddill yn eich car fel blaendal ar gyfer car newydd trwy PCP.
Bydd y llog a godir ar eich trefniant PCP yn dibynnu ar eich statws credyd. Gallwch wirio’ch sgôr credyd am ddim â:
Sut mae Pryniant ar Gytundeb Personol (PCP) yn gweithio?
Dyma beth fydd yn digwydd pan gyllidwch gar drwy PCP:
1. Yn gyntaf, bydd angen i chi basio asesiad teilyngdod credyd.
Cyn i chi lofnodi i fyny am PCP, bydd angen i chi fynd trwy asesiad teilyngdod credyd sy’n cynnwys dau ffactor. Y cyntaf yw fforddiadwyedd y taliadau PCP ar draws cyfnod cyfan y contract yn seiliedig ar eich cyllid - meddyliwch amdano fel darganfod pa mor anodd ydyw i chi gynnal eich ad-daliadau. Yr ail yw risg credyd, sef y siawns na fyddwch yn talu’ch benthyciad PCP yn ôl i’r cwmni benthyciadau.
Gallwch gael syniad o’ch fforddiadwyedd trwy edrych a oes costau yn y dyfodol a allai effeithio ar eich gallu i gynnal eich ad-daliadau ymhen 4 blynedd.
2. Yna bydd angen i chi dalu blaendal, fel arfer 10% o werth y cerbyd.
3. Yna byddwch yn medru defnyddio’r car, ond cofiwch nid chi’n sy’n perchen arno eto. Bydd angen i chi hefyd wneud eich taliadau dros gyfnod y cytundeb.
Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n cadw o fewn eich cyfyngiad milltiroedd. Bydd costau os byddwch yn mynd dros eich cyfyngiad. Byddwch yn eithriadol o ofalus hefyd nad ydych yn achosi difrod iddo oherwydd gallech wynebu cost ar ddiwedd y cytundeb. Os credwch y byddwch yn mynd dros y cyfyngiad milltiroedd a ganiateir, efallai byddai’n werth cael cytundeb gyda rhagor o filltiredd.
Awgrym da
Os ydych ar gynllun PCP ac yn bwriadu prynu’r car ar y diwedd, dechreuwch gynilo’r taliad balŵn nawr.
Mae pobl yn cynilo arian yn gynt os oes ganddynt nod cynilo pendant, felly dysgwch sut i osod targed cynilo
4. Pan ddaw’r cytundeb i ben, bydd angen i chi benderfynu a ydych yn dymuno cadw’r car, ei ddychwelyd, neu ddefnyddio ei werth fel blaendal ar gyfer PCP newydd .
Os ydych yn dymuno cadw’r car, bydd angen i chi wneud taliad terfynol, a elwir yn aml yn daliad balŵn. Mae hyn yn seiliedig ar werth y car yn awr yn ôl barn y gwerthwr ceir – ei Warant o Isafswm Gwerth yn y Dyfodol (GMVF). Gall hyn amrywio o ychydig gannoedd i ychydig filoedd o bunnau a bydd yn llawer uwch na’r taliad misol arferol.
Os nad ydych wedi cynilo’r arian hwn, efallai y bydd angen i chi gymryd benthyciad arall i’w dalu.
5. Os nad ydych yn bwriadu cadw’r car, gallwch ei drosglwyddo yn ôl heb unrhyw daliadau pellach.
6. Neu, gallwch ddefnyddio gwerth y car ar ôl talu’r GVF fel blaendal ar PCP newydd.
Efallai y bydd angen i chi aros gyda’r un gwerthwr os dymunwch wneud hynny.
Pwyntiau pwysig i fod yn ymwybodol ohonynt wrth gael Pryniant ar Gytundeb Personol (PCP)
Byddwch yn wyliadwrus
Dywed bron i un o bob pump o bobl sy’n cymryd cynllun PCP na allant fforddio’r taliad terfynol, ac felly’n teimlo bod rhaid iddynt gael cynllun PCP newydd rhag iddynt wastraffu’r buddsoddiad a wnaed ganddynt ar y car cyntaf. Byddwch yn ofalus a gwirio pa mor fawr fyddai’ch taliad balŵn. (Ffynhonnell: Drover)
Gan fod PCPs yn gymhleth ac yn cael eu hegluro’n wael wrth i chi brynu ceir, mae rhai pethau sydd angen i chi fod yn ymwybodol ohonynt nad ydynt yn eglur efallai.
- Gwiriwch eich cytundeb bob tro ynghyd â’r amodau a thelerau. Bydd yna ffioedd y bydd angen i chi fod yn ymwybodol ohonynt, a bydd angen i chi wybod beth sy’n digwydd petai angen i chi newid y cytundeb yn ddiweddarach.
- Gwiriwch faint rydych yn ei ad-dalu, yn fisol ac yn gyfan gwbl – yn aml byddwch yn talu mwy gyda PCP na gyda mathau eraill o gyllido car.
- Gwiriwch beth yw eich cyfyngiad o ran milltiroedd, a’r ffioedd am fynd heibio hynny.
- Gall traul a difrod gormodol, megis crafiadau, olygu y byddwch yn gorfod talu costau ychwanegol. Gofynnwch am enghreifftiau ysgrifenedig ynglŷn â’r hyn a ystyrir yn draul ormodol a difrod yn eu barn hwy.
- Er mwyn dod â’r cytundeb i ben yn gynnar neu ei ganslo, mae rhaid eich bod wedi talu hanner gwerth y cerbyd. Os nad ydych, bydd rhaid i chi dalu’r gwahaniaeth cyn y gallwch adael y cytundeb. Bydd angen i’r car fod mewn cyflwr da hefyd, neu gallech orfod talu’r costau trwsio
Dewisiadau amgen i Bryniant ar Gytundeb Personol (PCP)
Awgrym da
Bydd pedwar o bob pump o bobl gyda chynlluniau PCP yn dewis peidio prynu’r car ar ddiwedd eu cytundeb Ffynhonnell: the Finance and Leasing Association.
Y peth pwysicaf i’w benderfynu, cyn i chi gymryd PCP, yw a ydych yn debygol o gadw’r car neu beidio ar ddiwedd y cyfnod PCP. Os na fyddwch, gallai prydlesu car trwy logi ar gytundeb personol (PCH) fod yn rhatach i chi.
Mae costau nad ydynt yn gysylltiedig â thanwydd fel rhan o’r pecyn cynhaliaeth y aml yn cael eu cynnwys gyda PCH, gan roi pethau fel treth car blynyddol (a elwir yn aml yn dreth ffordd) a gwasanaethu arferol.
Os ydych yn bwriadu prynu’r cerbyd yn gyfan gwbl a chithau wedyn yn berchen arno, mae yna ddewisiadau rhatach ar gael hefyd.
Eich hawliau os ydych eisiau canslo cynllun Pryniant ar Gytundeb Personol (PCP)
Mae dewis y cyfnod PCP cywir yn bwysig. Os byddwch yn dewis cyfnod maith, byddwch yn talu mwy am y car. Ond os yw’n rhy fyr, bydd gennych daliadau misol uwch ac efallai y bydd perygl na fyddwch yn gallu eu talu.
Os na fyddwch yn gallu gwneud taliadau’n brydlon neu os byddwch eisiau lleihau costau, mae gennych hawl dan y Ddeddf Credyd Defnyddwyr i ddychwelyd y car cyn belled â’ch bod wedi gwneud hanner eich taliadau. Gelwir hyn yn ‘derfynu gwirfoddol’.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Dod â’ch cytundeb cyllid car i ben yn gynnar
Beth i’w wneud os ydych yn dechrau llithro gyda’ch taliadau cyllido car
Os ydych yn cael anhawster wrth dalu biliau cartref yn ogystal â’ch taliadau car, gallwch gael cyngor cyfrinachol am ddim gan sefydliad neu elusen sy’n rhoi cyngor ar ddyledion.
Darganfyddwch ble gallwch gael cyngor ar ddyledion am ddim
Dyma rai opsiynau eraill ar gyfer pan na allwch gadw i fyny a thaliadau.
Dychwelyd y car
Os ydych wedi talu hanner gwerth y cerbyd gallwch dod â’r cytundeb PCP i ben yn gynnar. Os nad ydych chi, bydd yn rhaid i chi dalu’r gwahaniaeth cyn y gallwch adael y cytundeb. Bydd angen i’r car fod mewn cyflwr da hefyd, neu gallech orfod talu’r costau trwsio.
Siaradwch â’r cwmni cyllid
Efallai byddant yn cynnig ymestyn hyd y brydles, a fyddai’n gostwng eich taliadau misol, neu ddod i drefniant arall i’ch helpu.
Ad-dalu’n gynnar
Gall fod yn fwy buddiol i chi dalu swm i setlo’r cytundeb gyda’r cwmni cyllido, a fyddai’n un taliad uwch terfynol i ddod â’r cytundeb i ben. Yna gallwch gadw’r car neu ei werthu.