Got a pension question? Our help is impartial and free to use. Get in touch online or over the phone on 0800 011 3797
Cau
Skip to content
Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo
English
  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
  • Credyd Cynhwysol

    Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad

    Budd-daliadau os oes gennych blant

    Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant

    Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr

    Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd

    Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd

    Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth

    Budd-daliadau a gwaith

    Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd

    Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai

    Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel

    Problemau gyda budd-daliadau

    Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau

    Budd-daliadau

    Pob canllaw Budd-daliadau

    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn Llywio Ariannol

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Bancio a thaliadau

    Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc

    Cyllidebu

    Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian

    Prynu a rhedeg car

    Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg

    Credyd

    Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd

    Yswiriant

    Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant

    Arian bob dydd

    Pob canllaw Arian bob dydd

    Teclynnau

    Teclyn

    Cymharu cyfrifon banc

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Dod yn rhiant

    Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant

    Marwolaeth a phrofedigaeth

    Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau

    Ysgariad a gwahanu

    Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu

    Salwch ac anabledd

    Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio

    Gofal tymor hir

    Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal

    Arian myfyrwyr a graddedigion

    Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr

    Siarad am arian

    Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid

    Teulu a gofal

    Pob canllaw Teulu a gofal

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Prynu tŷ

    Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth

    Rhentu

    Rhentu cartref i fyw ynddo, rhentu cartref, a goresgyn problemau

    Cartrefi

    Pob canllaw Cartrefi

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Help gyda chostau byw

    Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi

    Delio â dyled

    Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion

    Problemau a chwynion am arian

    Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion

    Sgamiau

    Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan

    Problemau ariannol

    Pob canllaw Problemau ariannol

    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Ymrestru awtomatig

    Cyflwyniad, sut mae’n gweithio, popeth am gyfraniadau

    Adeiladu eich cronfa bensiwn

    Faint rydych ei angen, ffyrdd i adeiladu'ch cronfa, trosglwyddo ac uno

    Hanfodion pensiwn

    Dechrau pensiwn, mathau o bensiwn, deall pensiynau

    Problemau pensiwn

    Cwynion, cymorth ariannol pan wedi ymddeol, newidiadau i gynlluniau

    Pensiwn y Wladwriaeth

    Sut mae’n gweithio, beth allech chi ei gael, Yswiriant Gwladol

    Cymryd eich pensiwn

    Ffyrdd o dynnu eich pensiwn, pryd allwch chi ymddeol, apwyntiadau Pension Wise

    Treth a phensiynau

    Lwfansau treth, treth a delir ar bensiynau, rhyddhad treth

    Pensiynau ac ymddeoliad

    Pob arweiniad, gan gynnwys sut i ddefnyddio'r gwasanaeth Pension Wise

    Teclynnau

    Apwyntiad

    Trefnwch apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Darganfyddwch ymgynghorydd ymddeoliad

    POB TECLYN

    Trefnwch eich apwyntiad Pension Wise am ddim

    Dros 50 oed? Cewch arweiniad diduedd, am ddim o’n gwasanaeth sydd wedi’i gefnogi gan y llywodraeth. Byddwn yn esbonio’r opsiynau i gymryd arian o’ch cron…

  • Sut i gynilo

    Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau

    Buddsoddi

    Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli

    Math o gynilion

    Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant

    Cynilion

    Pob canllaw Cynilion

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Cyflogaeth

    Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol

    Colli eich swydd

    Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo

    Hunangyflogaeth

    Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad

    Gwaith

    Pob canllaw Gwaith

    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
  • Credyd Cynhwysol Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad
    Budd-daliadau os oes gennych blant Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant
    Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd
    Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth
    Budd-daliadau a gwaith Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd
    Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel
    Problemau gyda budd-daliadau Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau
    Budd-daliadau Pob canllaw Budd-daliadau
    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn Llywio Ariannol

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Bancio a thaliadau Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc
    Cyllidebu Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian
    Prynu a rhedeg car Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg
    Credyd Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd
    Yswiriant Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant
    Arian bob dydd Pob canllaw Arian bob dydd
    Teclynnau

    Teclyn

    Cymharu cyfrifon banc

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Dod yn rhiant Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant
    Marwolaeth a phrofedigaeth Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau
    Ysgariad a gwahanu Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu
    Salwch ac anabledd Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio
    Gofal tymor hir Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal
    Arian myfyrwyr a graddedigion Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr
    Siarad am arian Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid
    Teulu a gofal Pob canllaw Teulu a gofal
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Prynu tŷ Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth
    Rhentu Rhentu cartref i fyw ynddo, rhentu cartref, a goresgyn problemau
    Cartrefi Pob canllaw Cartrefi
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Help gyda chostau byw Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi
    Delio â dyled Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion
    Problemau a chwynion am arian Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion
    Sgamiau Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan
    Problemau ariannol Pob canllaw Problemau ariannol
    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Ymrestru awtomatig Cyflwyniad, sut mae’n gweithio, popeth am gyfraniadau
    Adeiladu eich cronfa bensiwn Faint rydych ei angen, ffyrdd i adeiladu'ch cronfa, trosglwyddo ac uno
    Hanfodion pensiwn Dechrau pensiwn, mathau o bensiwn, deall pensiynau
    Problemau pensiwn Cwynion, cymorth ariannol pan wedi ymddeol, newidiadau i gynlluniau
    Pensiwn y Wladwriaeth Sut mae’n gweithio, beth allech chi ei gael, Yswiriant Gwladol
    Cymryd eich pensiwn Ffyrdd o dynnu eich pensiwn, pryd allwch chi ymddeol, apwyntiadau Pension Wise
    Treth a phensiynau Lwfansau treth, treth a delir ar bensiynau, rhyddhad treth
    Pensiynau ac ymddeoliad Pob arweiniad, gan gynnwys sut i ddefnyddio'r gwasanaeth Pension Wise
    Teclynnau

    Apwyntiad

    Trefnwch apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Darganfyddwch ymgynghorydd ymddeoliad

    POB TECLYN

    Trefnwch eich apwyntiad Pension Wise am ddim

    Dros 50 oed? Cewch arweiniad diduedd, am ddim o’n gwasanaeth sydd wedi’i gefnogi gan y llywodraeth. Byddwn yn esbonio’r opsiynau i gymryd arian o’ch cron…

  • Sut i gynilo Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau
    Buddsoddi Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli
    Math o gynilion Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant
    Cynilion Pob canllaw Cynilion
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Cyflogaeth Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol
    Colli eich swydd Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo
    Hunangyflogaeth Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad
    Gwaith Pob canllaw Gwaith
    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

Home
English
  1. Hafan
  2. Arian bob dydd
  3. Cyllidebu
Arian bob dydd Cyllidebu

Sut i leihau eich biliau ynni

Ydych chi'n poeni am eich biliau ynni'n codi? Darganfyddwch pa help sydd ar gael os ydych yn poeni am dalu biliau neu fethu taliad.

Beth sydd yn y canllaw hwn

  • Y ffyrdd gorau i arbed arian ar nwy a thrydan
  • Newid cyflenwr ynni
  • A gaf newid cyflenwr ynni os oes gennyf fesurydd rhagdaledig?
  • Help os anfonir bil ynni atoch i dalu am ragor o ddefnydd yn flaenorol - ôl-filiau ynni
  • Yn ei chael yn anodd talu’ch biliau ynni?
  • Mannau cynnes
  • Beth ddylech chi ei wneud os ydych yn meddwl bod eich swm Debyd Uniongyrchol yn anghywir?
  • A yw'n well mynd am dariff tanwydd deuol neu gael contractau trydan a nwy ar wahân?
  • Sut i gwyno am eich darparwr ynni

Y ffyrdd gorau i arbed arian ar nwy a thrydan

Mae biliau ynni yn uchel iawn ar y foment, ond mae ambell beth y gallwch ei wneud i gadw’ch costau mor isel â phosibl.

Deall eich bil ynni

Mae’n bwysig adolygu eich biliau ynni i aros yn wybodus, bod mewn rheolaeth a sicrhau nad ydych yn gordalu.

Dysgwch beth sydd wedi’i gynnwys, beth i edrych amdano ar eich bil ynni, a sut i gymryd darlleniadau mesurydd cywir ar wefan Energy Saving TrustYn agor mewn ffenestr newydd

Byddwch yn barod i newid

Mae prisiau ynni yn uchel iawn. O 1 Hydref 2023 mae Cap ar Brisiau Ynni Ofgem wedi’i osod ar £1,834 ar gyfer cartref cyffredin. Mae cap ar brisiau Ofgem nawr yn £1,834 y flwyddyn, a bydd hwn yn newid i £1,928 ar 1 Ionawr 2024.

 

Mae yna nawr ychydig o gytundebau sefydlog ar gael ar lefel y cap ar brisiau neu ychydig yn is felly cadwch lygad barcud ar brisiau. Ceisiwch ddefnyddio gwefannau cymharu a byddwch yn barod i newid pan fod cytundebau gwell ar gael.

Talu trwy Ddebyd Uniongyrchol

Fel arfer mae’n rhatach i dalu trwy Ddebyd Uniongyrchol ac ni fydd rhaid i chi boeni am fethu taliadau.

Defnyddio llai

Mae’n swnio’n amlwg, ond po leiaf o ynni a ddefnyddiwch po rataf fydd eich biliau.

Mae yna ddigon o awgrymiadau a thriciau i dorri'ch defnydd.

Dyma rai syniadau cyflym i'ch helpu i dorri'n ôl:

  • Caewch eich llenni a defnyddiwch rimynnau drafft i atal gwres rhag dianc.
  • Defnyddiwch eich peiriant golchi dillad neu’ch peiriant golchi llestri ar dymheredd is, neu rhowch nhw ar y gosodiad ‘eco’ – a pheidiwch â rhoi’r golch ymlaen pan nad oes gennych lwyth llawn.
  • Dewch i'r arfer o ddiffodd goleuadau pan fyddwch yn gadael ystafell a diffodd eitemau trydanol yn hytrach na'u gadael yn y modd segur.
Darganfyddwch fwy ar awgrymiadau i ostwng eich biliau yn Energy Saving TrustYn agor mewn ffenestr newydd
Nol i'r brig

Gwneud eich cartref yn fwy effeithiol o ran ynni

Mae gwario ychydig i arbed llawer yn fuddsoddiad da - yn enwedig os nad oes rhaid i chi wario'ch arian eich hun.

Mae yna lawer o grantiau ar gael, gan gynnwys y Bargen Wyrdd i wella effeithlonrwydd ynni eich cartref fel:

  • gwella'ch Inswleiddiad
  • uwchraddio'ch boeler a'ch offer
  • gosod paneli solar neu dechnolegau adnewyddadwy eraill
Prif awgrym

Gwiriwch yr argymhellion yn Nhystysgrif Perfformiad Ynni (EPC) eich eiddo, os oes gennych un. Gallwch ddod o hyd i'ch tystysgrif ar y Gofrestr EPCYn agor mewn ffenestr newydd

Gallai'r gwelliannau hyn eich helpu i arbed cannoedd o bunnoedd y flwyddyn. Hyd yn oed os nad ydych yn gymwys i gael grant, dylai'r buddsoddiadau hyn eich helpu i ddechrau arbed arian yn eithaf cyflym.

Darganfyddwch fwy am grantiau arbed ynni ledled y DU yn ein canllaw Sut i dalu am welliannau i’r cartref

Ydy eich incwm cartref yn cael ei wasgu? 

Os ydych chi’n wynebu costau byw uwch, ond heb fawr o arian os o gwbl yn dod i mewn, darganfyddwch ffynonellau incwm ychwanegol a chymorth sydd ar gael i’ch helpu i reoli biliau cartref ac arbed arian yn ein canllaw Byw ar incwm gwasgedig

Nol i’r brig

Newid cyflenwr ynni

Mae'n werth gwirio a allwch gael biliau ynni rhatach trwy newid cyflenwr neu dariff (y fargen rydych chi arni).   

Gallwch gymharu bargeinion ynni gan ddefnyddio gwefannau cymharu, fel:  

  • Clwb Ynni Rhad MoneySavingExpertYn agor mewn ffenestr newydd
  • Which?Yn agor mewn ffenestr newydd

Mae’r gwefannau cymharu a restrir uchod ond yn gweithio yng Nghymru, Lloegr a’r Alban, os ydych yng Ngogledd Iwerddon gallwch ddarganfod mwy o wybodaeth am y cyflenwyr gallwch newid iddynt ar wefan Which?Yn agor mewn ffenestr newydd

Fel arfer mae'n rhatach talu drwy Ddebyd Uniongyrchol misol, yn hytrach nag arian parod neu siec.

Nol i'r brig

A gaf newid cyflenwr ynni os oes gennyf fesurydd rhagdaledig?

Gwyliwch am sgamwyr stepen drws

Os bydd rhywun yn curo ar eich drws yn cynnig trydan pris gostyngol ar gyfer eich mesurydd rhagdaledig, mae hyn yn sgam ac yn golygu y gallech dalu am eich ynni ddwywaith yn y pen draw.

Darllenwch fwy am sgamwyr stepen drws ar wefan Action FraudYn agor mewn ffenestr newydd

Mae mesurydd rhagdaledig yn gweithio fel tariff ‘talu-wrth-fynd’ ar gyfer nwy neu drydan. Mae angen i chi dalu am ynni cyn y gallwch ei ddefnyddio.

Mae hynny’n golygu rhoi arian yn uniongyrchol i mewn i’ch mesurydd, gan ddefnyddio allwedd mesurydd trydan neu nwy, tocynnau neu, mewn rhai achosion, ychwanegu arian ar-lein.

Prif fantais mesuryddion rhagdaledig yw na fyddwch yn gwario mwy nag sydd gennych. Ar hyn o bryd, gall mesuryddion rhagdaledig fod ychydig yn rhatach na thalu trwy Ddebyd Uniongyrchol gyda'r cap ar brisiau. Fodd bynnag wrth i'r farchnad ddod yn fwy cystadleuol, mae taliadau Debyd Uniongyrchol yn debygol o fod yn rhatach yn y dyfodol. 

Nid yw mesuryddion rhagdaledig yn addas i bawb, yn enwedig os ydych yn fregus. Ni ddylai'ch cyflenwr eich gorfodi i fesurydd rhagdaledig os ydych yn cael trafferth talu'ch bil.

Ni all eich cyflenwr wneud i chi symud i ragdalu os na fyddai'n ddiogel neu'n ymarferol ac mae'n ofynnol iddynt ddilyn y rheolauYn agor mewn ffenestr newydd a osodwyd gan Ofgem, y rheoleiddiwr ynni.

Gall eich cyflenwr orfodi gosod mesurydd rhagdaledig drwy warant neu drwy newid eich mesurydd clyfar o bell, ond dim ond ar ôl iddynt gymryd pob cam rhesymol i gytuno ar daliad gyda chi. Dylai fod yn ddewis olaf i ddatgysylltu'ch cyflenwad.

Darganfyddwch fwy am gael eich symud i fesurydd rhagdaledigYn agor mewn ffenestr newydd ar Gyngor ar Bopeth.

A allaf newid cyflenwyr ynni os oes gennyf fesurydd rhagdaledig?

Os oes gennych fesurydd rhagdaledig, gallwch ddal newid darparwyr ynni. Ar hyn o bryd nid oes llawer o fargeinion ar gael am lai na'r cap ar brisiau, ond dylech wirio'n rheolaidd i weld a oes bargeinion sefydlog newydd y gallwch newid iddynt. Mae rhai cwmnïau ynni ond yn cynnig tariffau sefydlog i gwsmeriaid presennol, felly efallai na fydd angen i chi newid hyd yn oed.

Efallai y gwelwch nad yw'r pris sefydlog rydych chi ei eisiau ar gael i gwsmeriaid rhagdalu. Os yw hynny'n wir, ni fydd yr un o'r chwe chyflenwr mawr yn codi tâl arnoch i'ch newid i fesurydd credyd (lle rydych yn talu am ynni ar ôl i chi ei ddefnyddio) a all fod yn rhatach.

Mae'n debyg y bydd yn rhaid i chi gael gwiriad credyd a bydd angen i'ch cyfrif ynni fod yn ddi-ddyled.

Gallwch ddarganfod mwy o wybodaeth ar gael y mwyaf allan o’ch mesurydd rhagdaledig ar MoneySavingExpertYn agor mewn ffenestr newydd

A fydd mesurydd deallus yn fy helpu i arbed arian?

Gall mesurydd deallus eich helpu i gofnodi eich defnydd o ynni fel y gallwch geisio lleihau faint rydych yn ei ddefnyddio a phryd.

Mae gwirio eich mesurydd deallus yn rheolaidd yn bwysig i sicrhau bod eich darlleniadau’n gywir. Er ei fod yn gweithio’n awtomatig, mae gwirio pob hyn a hyn yn helpu i ddal unrhyw gamgymeriadau a sicrhau bod eich biliau ynni yn cyd-fynd â’r hyn rydych yn wirioneddol yn ei ddefnyddio.

Darganfyddwch fwy am fesuryddion deallus o’r rheoleiddwr ynni OfgemYn agor mewn ffenestr newydd
Nol i’r brig

Rhybudd sgam

Os cewch alwad ffôn yn cynnig bargen arbennig i chi ar eich biliau ynni gan rywun sy'n dweud eu bod yn dod o Ofgem neu safle cymharu, mae hyn yn sgam ac ni ddylech rannu eich manylion banc â nhw.

Am fwy o fanylion a beth i'w wneud os ydych yn meddwl eich bod wedi cael eich targedu ewch i wefan OfgemYn agor mewn ffenestr newydd

Beth os yw fy margen sefydlog yn dod i ben?

Pan ddaw eich cynllun sefydlog i ben, bydd eich cyflenwr yn eich rhoi ar eu tariff amrywiol safonol. Gyda’r prisiau ynni uchel yr ydym yn eu hwynebu ar hyn o bryd, hwn fydd y cap ar brisiau Ofgem. Mae'r cap ar brisiau yn cyfyngu'r swm rydych yn ei dalu, er dylech ofyn am unrhyw dariffau cyfradd sefydlog rhatach a allai fod ar gael i gwsmeriaid newydd neu gwsmeriaid presennol.

Os ydych yn agos at ddiwedd cynllun sefydlog, ni fydd rhaid i chi dalu ffi i'w adael a symud i dariff newydd – ar yr amod bod eich newid wedi'i gwblhau o fewn 49 diwrnod olaf eich cytundeb presennol.

Darganfyddwch fwy am y cap ar brisiau yn ein canllaw Beth i’w wneud os yw’ch bil ynni’n uchel

Tariff ynni sefydlog

Gyda thariff ynni pris sefydlog, ni fyddwch yn cael eich effeithio gan gynnydd prisiau yn ystod y contract. Mae bargeinion cyfradd sefydlog newydd sydd ychydig yn is na'r cap ar brisiau yn dechrau dod i'r farchnad. Chi sydd i benderfynu a ydych chi eisiau'r sicrwydd o gloi prisiau cyfredol neu a fyddai'n well gennych aros i weld a yw'r cap ar brisiau yn gostwng.

Os byddwch yn dewis tariff cyfradd sefydlog a, mae prisiau ynni yn gostwng, byddwch yn dal i fod yn talu'r hen gyfradd uwch tan ddiwedd y contract.

Os ydych chi am newid eto cyn iddo ddod i ben mae gan rai dariffau sefydlog ffioedd ymadael, y bydd angen i chi eu talu i adael.

Nid yw cael tariff sefydlog ychwaith yn golygu y byddwch yn talu'r un swm ar gyfer pob bil. Y tariff sy'n aros yr un fath a bydd eich bil ynni yn codi ac yn disgyn gyda'ch defnydd.

Nol i’r brig

Help os anfonir bil ynni atoch i dalu am ragor o ddefnydd yn flaenorol - ôl-filiau ynni

Weithiau gallech fod yn defnyddio mwy o ynni na’r hyn a dybir gan eich cyflenwr ynni.

Mae hyn yn fwy o broblem os ydych yn talu drwy Ddebyd Uniongyrchol neu os nad ydych yn anfon y manylion o’ch mesurydd i’ch cyflenwr ynni yn rheolaidd.

Os ydych ar gynllun rhandaliad taliad sefydlog ac yn defnyddio mwy o ynni nag y codir tâl arnoch amdano, gallai’ch cyflenwr anfon bil atoch am y rhagor a ddefnyddiwyd gennych. Mae hwn yn fil am yr ynni ychwanegol a ddefnyddiwyd gennych dros yr hyn a dalwyd gennych.

Os ydych yn newid cyflenwr, gallwch gael bil i dalu am y rhagor a ddefnyddiwyd gennych. Bydd hyn yn ddibynnol ar ba mor gywir y codwyd tâl arnoch am eich defnydd o ynni.

Mae ôl-filio am ynni yn nodi rheolau ar gyfer anfon biliau dal i fyny i chi. Gallant fod am unrhyw swm ond ni chânt gynnwys defnydd o ynni fwy na 12 mis yn ôl.

Darganfyddwch fwy am filio am ynni blaenorol yn OfgemYn agor mewn ffenestr newydd
Nol i’r brig

Yn ei chael yn anodd talu’ch biliau ynni?

Gall methu â fforddio cynhesu neu bweru’ch cartref beri pryder. Fodd bynnag, mae help ar gael os ydych yn cael trafferth.

Mae’n bwysig cysylltu â’ch cyflenwr i ofyn am help cyn i chi fethu taliad.

Os ydych yn cael trafferth gydag arian neu’n ad-dalu dyled, gall yr opsiynau gynnwys:

  • adolygu cynlluniau talu biliau, gan gynnwys dyled y gallech fod yn ei ad-dalu mewn rhandaliadau
  • seibiannau talu, neu ostyngiadau yn y swm rydych yn ei dalu
  • cael mwy o amser i ad-dalu’r hyn sy’n ddyledus gennych
  • newid i fesurydd rhagdaledig
  • mynediad at gronfeydd caledi - mewn achosion eithriadol.

Os ydych yn cael trafferth gyda biliau a thaliadau, mae ein Blaenoriaethwr Biliau cyflym a hawdd ei ddefnyddio yn eich helpu i ddeall pa filiau a thaliadau i ddelio â nhw yn gyntaf a sut i osgoi methu unrhyw daliadau.

Darganfyddwch pwy yw’ch cyflenwr nwy neu drydan, a’u manylion cyswllt, ar fil ynni diweddar.

Os ydych dal yn ansicr, ewch i wefan Ofgem
 
Ar gyfer Gogledd Iwerddon, ewch i wefan NI Electricity Networks

Os ydych yn cael budd-daliadau, efallai y gallech dalu arian yn ôl sy’n ddyledus i’ch cyflenwr ynni drwy’r cynllun Fuel Direct.

Mae hyn yn gweithio trwy dynnu swm penodol o arian o’ch budd-daliadau i dalu’ch dyledion, ynghyd â swm ychwanegol i dalu am eich defnydd o ynni, yn awtomatig.

Darganfyddwch fwy ar wefan Cyngor ar Bopeth
 
Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon, cysylltwch â’ch cyflenwr. Darganfyddwch fwy ar wefan Northern Ireland Electricity Networks
Nol i’r brig

Mannau cynnes

Mae Warm Welcome yn elusen sy'n cynnig miloedd o lefydd am ddim ledled y DU gan gynnwys llyfrgelloedd, caffis a chanolfannau cymunedol.  Darganfyddwch fwy am lefydd Warm Welcome am ddimYn agor mewn ffenestr newydd ar wefan Warm Welcome. 

Mae cynghorau ar draws y wlad yn agor mannau cymunedol i bobl gadw'n gynnes am ddim yn ystod y dydd yn ystod y misoedd oerach.   

Darganfyddwch eich cyngor lleol ar GOV.UK am leoliadau ac amseroedd agorYn agor mewn ffenestr newydd

Beth ddylech chi ei wneud os ydych yn meddwl bod eich swm Debyd Uniongyrchol yn anghywir?

Os ydych yn credu bod y taliadau misol y gofynnir i chi eu gwneud yn ormodol a bod gennych lawer o gredyd yn eich cyfrif yn barod, gallwch ofyn i’ch cyflenwr eu newid. Mae cod Ofgem ar gyfer cyflenwyr sy’n berthnasol yng Nghymru, Lloegr a’r Alban yn nodi y dylent osod Debyd Uniongyrchol teg a gallu esbonio i chi pam mae’r swm hwnnw’n rhesymol. Os na allant, gallwch ofyn i’ch cyflenwr ad-dalu rhywfaint o’ch credyd. Yng Ngogledd Iwerddon, mae’n cael ei reoleiddio gan y Utility RegulatorYn agor mewn ffenestr newydd, os ydych yn credu bod eich bil yn anghywir siaradwch â’ch darparwr neu gallwch fynd at y Cyngor Defnyddwyr am gymorthYn agor mewn ffenestr newydd

Mae gan MoneySavingExpert cyfrifiannell i’ch helpu cyfrifo beth ddylai eich taliad misol fodYn agor mewn ffenestr newydd

Mae biliau ynni gaeaf fel arfer llawer yn uwch na rhai’r haf, felly yn lle codi tâl am yr hyn rydych yn ei ddefnyddio pob mis bydd cyflenwyr yn aml yn cymryd eich defnydd blynyddol a’i rhannu i 12 rhan, fel bod y gost wedi lledaenu’n fwy gyfartal. Gall hyn esbonio pam ofynnir i chi dalu am fwy nag ydych yn ei ddefnyddio. I sicrhau bod eich biliau ynni’n gywir, gwiriwch eich darlleniadau mesurydd yn rheolaidd. Os oes gennych fesurydd deallus, mae’n anfon darlleniadau’n awtomatig. 

Nol i’r brig

Ydych chi wedi methu taliad?

Defnyddiwch ein Teclyn Lleolwr cyngor ar ddyledion i ddod o hyd i gyngor ar ddyledion diduedd ac am ddim ar-lein, dros y ffon neu yn agos at le rydych yn byw.

A yw'n well mynd am dariff tanwydd deuol neu gael contractau trydan a nwy ar wahân?

Mae tariff tanwydd deuol yn golygu eich bod yn cael eich nwy a'ch trydan gan yr un cyflenwr ynni.

Bydd llawer o dariffau sefydlog, ar-lein a safonol yn cynnig opsiwn tanwydd deuol.

Mae llawer o dariffau tanwydd deuol hefyd yn cynnig gostyngiad ar gyfer cymryd nwy a thrydan o'r un cwmni.

Gall fod yn fwy cyfleus delio ag un cyflenwr na chael dau gyflenwr ar wahân ar gyfer nwy a thrydan. Weithiau gall weithio allan yn rhatach ond nid dyma'r opsiwn rhataf bob amser.

Darganfyddwch fwy am dariffau ynniYn agor mewn ffenestr newydd ar Gyngor ar Bopeth.

Nol i’r brig

Sut i gwyno am eich darparwr ynni

Os oes gennych gŵyn, cysylltwch â’ch darparwr ynni yn gyntaf. Bydd rhif ffôn a gwefan eich cyflenwr ar eich bil ynni.

Eglurwch beth yw'r broblem a beth rydych am i'ch cyflenwr ei wneud yn ei gylch. Gallwch ddefnyddio templed llythyrau cwyn am ddim o wefan Cyngor ar Bopeth.

Yna bydd gan gyflenwyr ynni hyd at wyth wythnos i ddweud wrthych am eu penderfyniad ar y cwyn.

Os na allwch ddod i gytundeb gyda’ch cyflenwr ar ôl wyth wythnos, gallwch ofyn am “llythyr terfyn amser”, sy’n eich galluogi i fynd â’ch achos yn rhad ac am ddim at yr Ombwdsmon Ynni.

Bydd yr Ombwdsmon Ynni wedyn yn penderfynu gyda pha barti y mae'n cytuno a sut i ddatrys y mater.

Darganfyddwch fwy am sut i wneud cwyn ar wefan Ofgem

Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon ac rydych eisiau gwneud cwyn ynglyn â gwasanaethau ynni, dŵr, trafnidiaeth neu post, cysylltwch â Chyngor DefnyddwyrYn agor mewn ffenestr newydd

Nol i’r brig
Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Rhannu erthygl
E-bost Facebook Twitter
Rhannu hwn gyda
WhatsApp LinkedIn
Copio’r ddolen yma
Anfon e-bost
Copio’r ddolen yma
Cyllidebu

Arbed arian ar filiau

  • Sut i arbed arian ar filiau cartref
  • Sut i leihau eich biliau ynni
  • Sut i arbed arian ar filiau dŵr
  • Sut i arbed arian ar eich ffôn symudol
  • Suti leihau eich bil ffôn cartref a’r rhyngrwyd
  • Sut i dalu am welliannau i’r cartref
  • Beth i’w wneud os yw’ch bil ynni’n uchel
  • Help os ydych yn cynhesu eich cartref gan ddefnyddio olew gwresogi neunwy petrolewm hylifedig
  • Cael y gorau o wefannau cymharu
  • Treth Cyngor: beth ydyw, beth yw’r gost a sut i arbed arian
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan

Arbed arian ar filiau

  • Sut i arbed arian ar filiau cartref
  • Sut i leihau eich biliau ynni
  • Sut i arbed arian ar filiau dŵr
  • Sut i arbed arian ar eich ffôn symudol
  • Suti leihau eich bil ffôn cartref a’r rhyngrwyd
  • Sut i dalu am welliannau i’r cartref
  • Beth i’w wneud os yw’ch bil ynni’n uchel
  • Help os ydych yn cynhesu eich cartref gan ddefnyddio olew gwresogi neunwy petrolewm hylifedig
  • Cael y gorau o wefannau cymharu
  • Treth Cyngor: beth ydyw, beth yw’r gost a sut i arbed arian
Logo Llywodraeth E.M

Darperir HelpwrArian gan:

Logo Gwasanaeth Arian a Phensiynau
Level AA conformance, W3C WAI Web Content Accessibility Guidelines 2.1 Clear English Standard for Websites logo
  • Amdanom ni
  • Cael help a chyngor
  • Cysylltu â ni
  • Partneriaethau
  • Offer a chyfrifianellau
  • Rhoi adborth
  • Cynllun Iaith Gymraeg
  • Blog

Dilynwch ni:

© 2023 Money and Pensions Service, 120 Holborn, London EC1N 2TD. Cedwir pob hawl.

  • Telerau ac amodau
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Datganiad hygyrchedd
  • Map safle
  • Sut rydym yn defnyddio cwcis
  • Dewisiadau cwcis Dewisiadau cwcis
Siaradwch â ni yn fyw am...
Cau
Siaradwch â ni yn fyw am...
Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio’r ffôn
  • O dramor: +44 20 7932 5780
  • I’r hunangyflogedig: 0345 602 7021*
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn – Sul:Wedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn
  • Cymraeg: 0800 138 0555*
  • Typetalk: 18001 0800 915 4622
  • O dramor: +44 20 3553 2279
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Blaenorol Cau

Blaenorol Cau

Blaenorol Cau

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun–Gwener8am-6pm
  • Sadwrn8am - 3pm
  • Sun and bank holidaysWedi cau
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun, Mercher, Gwener8.20am - 6.20pm
  • Tues, Thurs9am - 6.20pm
  • Sat, Sun and bank holidaysWedi cau
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion, cwestiynau credyd neu ganllaw pensiynau. Am bopeth arall, cysylltwch â ni trwy Wesgwrs neu dros y Ffôn.

Blaenorol Cau