Got a pension question? Our help is impartial and free to use. Get in touch online or over the phone on 0800 011 3797
Cau
Skip to content
Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo
English
  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
  • Credyd Cynhwysol

    Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad

    Budd-daliadau os oes gennych blant

    Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant

    Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr

    Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd

    Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd

    Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth

    Budd-daliadau a gwaith

    Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd

    Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai

    Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel

    Problemau gyda budd-daliadau

    Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau

    Budd-daliadau

    Pob canllaw Budd-daliadau

    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn Llywio Ariannol

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Bancio a thaliadau

    Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc

    Cyllidebu

    Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian

    Prynu a rhedeg car

    Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg

    Credyd

    Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd

    Yswiriant

    Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant

    Arian bob dydd

    Pob canllaw Arian bob dydd

    Teclynnau

    Teclyn

    Cymharu cyfrifon banc

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Dod yn rhiant

    Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant

    Marwolaeth a phrofedigaeth

    Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau

    Ysgariad a gwahanu

    Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu

    Salwch ac anabledd

    Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio

    Gofal tymor hir

    Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal

    Arian myfyrwyr a graddedigion

    Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr

    Siarad am arian

    Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid

    Teulu a gofal

    Pob canllaw Teulu a gofal

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Prynu tŷ

    Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth

    Rhentu

    Rhentu cartref i fyw ynddo, rhentu cartref, a goresgyn problemau

    Cartrefi

    Pob canllaw Cartrefi

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Help gyda chostau byw

    Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi

    Delio â dyled

    Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion

    Problemau a chwynion am arian

    Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion

    Sgamiau

    Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan

    Problemau ariannol

    Pob canllaw Problemau ariannol

    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Ymrestru awtomatig

    Cyflwyniad, sut mae’n gweithio, popeth am gyfraniadau

    Adeiladu eich cronfa bensiwn

    Faint rydych ei angen, ffyrdd i adeiladu'ch cronfa, trosglwyddo ac uno

    Hanfodion pensiwn

    Dechrau pensiwn, mathau o bensiwn, deall pensiynau

    Problemau pensiwn

    Cwynion, cymorth ariannol pan wedi ymddeol, newidiadau i gynlluniau

    Pensiwn y Wladwriaeth

    Sut mae’n gweithio, beth allech chi ei gael, Yswiriant Gwladol

    Cymryd eich pensiwn

    Ffyrdd o dynnu eich pensiwn, pryd allwch chi ymddeol, apwyntiadau Pension Wise

    Treth a phensiynau

    Lwfansau treth, treth a delir ar bensiynau, rhyddhad treth

    Pensiynau ac ymddeoliad

    Pob arweiniad, gan gynnwys sut i ddefnyddio'r gwasanaeth Pension Wise

    Teclynnau

    Apwyntiad

    Trefnwch apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Darganfyddwch ymgynghorydd ymddeoliad

    POB TECLYN

    Trefnwch eich apwyntiad Pension Wise am ddim

    Dros 50 oed? Cewch arweiniad diduedd, am ddim o’n gwasanaeth sydd wedi’i gefnogi gan y llywodraeth. Byddwn yn esbonio’r opsiynau i gymryd arian o’ch cron…

  • Sut i gynilo

    Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau

    Buddsoddi

    Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli

    Math o gynilion

    Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant

    Cynilion

    Pob canllaw Cynilion

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Cyflogaeth

    Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol

    Colli eich swydd

    Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo

    Hunangyflogaeth

    Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad

    Gwaith

    Pob canllaw Gwaith

    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
  • Credyd Cynhwysol Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad
    Budd-daliadau os oes gennych blant Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant
    Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd
    Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth
    Budd-daliadau a gwaith Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd
    Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel
    Problemau gyda budd-daliadau Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau
    Budd-daliadau Pob canllaw Budd-daliadau
    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn Llywio Ariannol

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Bancio a thaliadau Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc
    Cyllidebu Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian
    Prynu a rhedeg car Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg
    Credyd Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd
    Yswiriant Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant
    Arian bob dydd Pob canllaw Arian bob dydd
    Teclynnau

    Teclyn

    Cymharu cyfrifon banc

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Dod yn rhiant Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant
    Marwolaeth a phrofedigaeth Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau
    Ysgariad a gwahanu Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu
    Salwch ac anabledd Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio
    Gofal tymor hir Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal
    Arian myfyrwyr a graddedigion Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr
    Siarad am arian Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid
    Teulu a gofal Pob canllaw Teulu a gofal
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Prynu tŷ Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth
    Rhentu Rhentu cartref i fyw ynddo, rhentu cartref, a goresgyn problemau
    Cartrefi Pob canllaw Cartrefi
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Help gyda chostau byw Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi
    Delio â dyled Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion
    Problemau a chwynion am arian Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion
    Sgamiau Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan
    Problemau ariannol Pob canllaw Problemau ariannol
    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Ymrestru awtomatig Cyflwyniad, sut mae’n gweithio, popeth am gyfraniadau
    Adeiladu eich cronfa bensiwn Faint rydych ei angen, ffyrdd i adeiladu'ch cronfa, trosglwyddo ac uno
    Hanfodion pensiwn Dechrau pensiwn, mathau o bensiwn, deall pensiynau
    Problemau pensiwn Cwynion, cymorth ariannol pan wedi ymddeol, newidiadau i gynlluniau
    Pensiwn y Wladwriaeth Sut mae’n gweithio, beth allech chi ei gael, Yswiriant Gwladol
    Cymryd eich pensiwn Ffyrdd o dynnu eich pensiwn, pryd allwch chi ymddeol, apwyntiadau Pension Wise
    Treth a phensiynau Lwfansau treth, treth a delir ar bensiynau, rhyddhad treth
    Pensiynau ac ymddeoliad Pob arweiniad, gan gynnwys sut i ddefnyddio'r gwasanaeth Pension Wise
    Teclynnau

    Apwyntiad

    Trefnwch apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Darganfyddwch ymgynghorydd ymddeoliad

    POB TECLYN

    Trefnwch eich apwyntiad Pension Wise am ddim

    Dros 50 oed? Cewch arweiniad diduedd, am ddim o’n gwasanaeth sydd wedi’i gefnogi gan y llywodraeth. Byddwn yn esbonio’r opsiynau i gymryd arian o’ch cron…

  • Sut i gynilo Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau
    Buddsoddi Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli
    Math o gynilion Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant
    Cynilion Pob canllaw Cynilion
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Cyflogaeth Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol
    Colli eich swydd Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo
    Hunangyflogaeth Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad
    Gwaith Pob canllaw Gwaith
    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

Home
English
  1. Hafan
  2. Problemau ariannol
  3. Help gyda chostau byw
Problemau ariannol Help gyda chostau byw

Byw ar incwm gwasgedig

Beth bynnag sy’n digwydd yn eich bywyd, mae yna ffyrdd o wneud i’ch incwm fynd ymhellach. Dysgwch sut i dorri’n ôl ar gostau a gweld pa gymorth ychwanegol sydd ar gael.

Tad ifanc yn dal ei fab bach

Deall eich sefyllfa ariannol gwirioneddol

Darganfyddwch ffyrdd o hybu eich incwm

Arbed arian ar filiau cartref

Help i dalu am bethau hanfodol

Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio

Arian ac iechyd meddwl

Deall eich sefyllfa ariannol gwirioneddol

Os ydych wedi colli rheolaeth o’ch arian, gall creu cyllideb eich helpu i ddod yn ôl ar y trywydd iawn. Mae’n rhaid i bawb cyllidebu er mwyn cael gwell ansawdd bywyd. Yna, na fyddwch i fyny’n hwyr yn troi a throsi, yn meddwl tybed sut fyddwch yn talu’ch biliau.

Dilynwch y camau hyn i weithio allan beth sydd angen i chi ei wneud

Work out how much you’re spending

Dechreuwch trwy restru eich anghenion. Bydd angen i chi weithio allan faint rydych chi’n ei wario ar:

  • biliau’r cartref
  • costau byw
  • cynhyrchion ariannol, fel yswiriant, taliadau banc neu log
  • teulu a ffrindiau, gallai hyn gynnwys anrhegion a theithio i ddigwyddiadau fel priodasau
  • teithio, costau car fel tanwydd a phrofion MOT yn ogystal â thrafnidiaeth gyhoeddus
  • hamdden, gan gynnwys gwyliau, ffioedd campfa, prydau allan neu adloniant arall.

Mae hefyd yn syniad da cael pawb yn eich teulu i gadw at gyllideb.

Eisteddwch i lawr gyda’ch gilydd i greu cynllun y gall pawb ei ddilyn.

Rhannwch eich costau i’r pethau rydych angen ac eisiau a chytunwch rhyngoch ar beth fydd gennych i'w wario. Os na allwch fforddio'r pethau rydych eisiau, penderfynwch ar yr hyn sy’n bwysig i chi neu edrychwch ar ffyrdd i dorri costau.

Gweler ein canllaw Sut i gael sgwrs am arian
Darganfyddwch ffyrdd o dorri costau eich biliau cartref

Gall fod yn anodd cynyddu faint o arian sydd gennych yn dod i mewn, ond mae gennych lawer mwy o reolaeth dros beth sy’n mynd allan.

Ar ben eich morgais neu rent, mae rhai biliau yn hanfodol a dylid eu blaenoriaethu. Mae’r rhain yn cynnwys:

  •  biliau ynni
  • Treth Cyngor (neu Ardrethi os ydych yng Ngogledd Iwerddon)
  • tariffau band eang a symudol.

Mae’n werth gwirio gyda’ch darparwr presennol a ydych ar y tariff gorau i’ch anghenion neu chwilio o gwmpas i weld a allwch gael bargen well. Gallwch hefyd wirio eich bod yn talu’r swm cywir am eich Treth Cyngor neu’ch Ardrethi.

Mae torri costau’n haws nag yr ydych yn ei feddwl. Dilynwch ein hawgrymiadau yn ein canllaw Sut i arbed arian ar filiau cartref
Defnyddiwch ein Cynlluniwr cyllideb i’ch helpu i gael darlun cywir

I weithio allan beth yn union sydd gennych yn dod i mewn, yr hanfodion rydych angen eu cwmpasu bob wythnos neu fis a lle gallai fod lle i dorri’n ôl, y peth orau yw creu cyllideb.

Mae yna lawer o declynnau, cyfrifianellau ac apiau a all eich helpu i baratoi cyllideb lawn, ond mae’n iawn ei ysgrifennu ar ddarn o bapur hefyd.

Bydd angen awr neu ddwy am y tro cyntaf i roi’r holl ffigurau i mewn, ond unwaith y byddwch wedi ei wneud, bydd pethau’n dod yn haws.

Cynlluniwr Cyllideb

I’ch helpu i reoli eich arian, defnyddiwch ein Cynlluniwr Cyllideb hawdd i’w ddefnyddio, rhad ac am ddim.

Ffyrdd eraill o wneud cyllideb

Nid oes angen taenlenni ffansi, cynllunwyr ar-lein nac apiau arnoch i wneud cyllideb.

Gallwch ddefnyddio llyfr ymarfer, cadw-mi-gei neu’r dull pot jam i gadw'ch arian mewn potiau ar wahân i dalu’ch biliau a’ch taliadau.

Gallwch ei wneud gyda photiau jam go iawn neu ddod o hyd i gyfrif banc sy’n eich galluogi i wneud yr un peth.

Cofiwch, serch hynny, bydd cyfrif banc yn fwy diogel na chael llawer o arian parod yn y tŷ.

Eisiau ffyrdd hawdd o gadw rheolaeth ar sut rydych yn gwario’ch arian parod? Darganfyddwch sut yn ein canllaw Rheoli eich arian gan ddefnyddio potiau cynilo
Ymunwch â’n grŵp Facebook Budgeting and Saving

Cewch awgrymiadau arbed arian a chefnogaeth gan gymuned o gynilwyr yn ein grŵp preifat Facebook Budgeting and Saving.

Yn y grŵp hwn, rydym yn rhannu syniadau a chymorth i helpu aelodau ar eu taith cynilo. Er enghraifft, gallwch bostio’n ddienw am fater ariannol sydd gennych a chael barn aelodau eraill ar sut i ddelio â'ch sefyllfa.

Ymunwch â’n grŵp Facebook

Ymunwch â’n grŵp preifat Facebook Cyllidebu a ChyniloYn agor mewn ffenestr newydd am awgrymiadau arbed arian a chefnogaeth gan gymuned o gynilwyr.

Oedwch a meddyliwch am eich cyfraniadau pensiwn

Mae aros mewn pensiwn gweithle yn ffordd hawdd i gynilo ar gyfer ymddeol, yn enwedig gan fod rhaid i’ch cyflogwr, yn y rhan fwyaf o achosion, cyfrannu ato. Ond os ydych yn delio gyda dyledion afreolus, efallai mai’n gwneud synnwyr i stopio eich cyfraniadau am nawr.

Gallwch bob amser ail-ymuno yng nghynllun pensiwn gweithle eich cyflogwr yn hwyrach pan mae pethau o dan reolaeth. Os ydy’ch dyledion yn broblem, darllenwch ein canllaw Sut mae ymrestru awtomatig pensiwn yn gweithio.

Cofiwch, os ydych yn stopio neu’n lleihau eich cyfraniadau pensiwn, efallai y byddwch yn colli allan ar fuddion ymddeol gwerthfawr. mae’r rhain yn cynnwys:

cyfraniadau mae’ch cyflogwr yn gwneud i’ch cronfa bensiwn, felly mae eithrio allan fel gwrthod cyflog

rhyddhad treth (arian bydd wedi mynd i’r llywodraeth fel treth sydd yn mynd i’ch cronfa bensiwn yn lle)

 buddion gall eich cynllun eu talu os ydych yn sâl neu’n methu parhau i weithio cyn cyrraedd eich dyddiad ymddeol, a

buddion gall eich cynllun eu talu i’ch dibynyddion os ydych yn marw.

I ddarganfod pa fuddion gallwch golli, gwiriwch y llyfryn am eich cynllun pensiwn neu gofynnwch i’ch cyflogwr neu’ch darparwr pensiwn am gopi os nad oes un gennych.

Angen mwy o wybodaeth am bensiynau?

Ffoniwch ni am ddim ar 0800 756 1012 neu defnyddiwch ein gwe-sgwrsYn agor mewn ffenestr newydd. Bydd un o’n harbenigwyr pensiwn yn hapus i ateb eich cwestiynau.

 

Mae ein help yn ddiduedd ac am ddim i’w ddefnyddio, p’un ai yw hynny ar-lein neu dros y ffôn.

Oriau agor: Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm. Ar gau ar wyliau banc.

Darganfyddwch ffyrdd i gynyddu eich incwm

Oedd y wybodaeth yma yn ddefnyddiol?

Diolch am eich adborth.

Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Nol i’r brig

Darganfyddwch ffyrdd o hybu’ch incwm

Os mai ond ychydig neu ddim arian sydd gennych ar ôl i wneud i fyny am y diffyg mewn costau byw uwch, darganfyddwch am ffynonellau incwm a chymorth eraill sydd ar gael i’ch helpu i reoli’ch arian.

Dilynwch y camau hyn i weithio allan beth sydd angen i chi ei wneud

Defnyddiwch gyfrifiannell budd-daliadau i weld faint gallech chi ei gael

Os ydych wedi dioddef sioc incwm neu os ydych yn byw ar incwm isel efallai y bydd gennych hawl i fudd-daliadau nad oeddech yn gwybod amdanynt.

Mae tua £19 miliwn y flwyddyn heb ei hawlio gan bobl sydd yn colli allan.

Defnyddio ein cyfrifiannell budd-daliadau

Os ydych chi’n byw ar incwm isel neu wedi cael sioc incwm, defnyddiwch ein Cyfrifiannell Budd-daliadau i ddarganfod yn gyflym beth y gallech fod â hawl iddo

Gwiriwch a allech chi gael grant elusennol

Os ydych yn wynebu sioc incwm difrifol, mae llawer o elusennau, sefydliadau proffesiynol, ffydd a lleol eraill yn cynnig grantiau.

Does dim rhaid i chi dalu’r arian yn ôl. Gallwch hefyd chwilio am grantiau os oes gennych salwch neu gyflwr sydd angen cymorth ariannol ychwanegol i’w reoli.

Gallech wirio’r hyn y gallech wneud cais, amdano gan ddefnyddio Gwiriwr Grantiau Turn2USYn agor mewn ffenestr newydd

Gwiriwch a oes gennych yswiriant rydych wedi anghofio amdano

Os ydych yn wynebu sioc incwm neu ddigwyddiad annisgwyl fel colli swydd, diswyddo neu salwch, efallai bod gennych yswiriant nad oeddech yn gwybod bod gennych.

Weithiau gall yswiriant Damweiniau, Salwch a Diweithdra (ASU) neu yswiriant cyfreithiol gael ei gynnwys fel ychwanegiad at gytundebau morgais, cyfrifon banc wedi’u pecynnu neu yswiriant cartref neu gar.

Mae bob amser yn werth gwirio eich polisïau presennol. Er enghraifft, efallai y cewch gyngor cyfreithiol am ddim os ydych yn cael eich diswyddo neu’n colli eich swydd.

Rhentwch allan eich ystafell sbâr

Os oes gennych ystafell wely sbâr yn eich cartref, efallai yr hoffech ystyried ei rhentu o dan y cynllun Rhentu Ystafell, sy’n gadael i chi ennill hyd at £7,500 y flwyddyn mewn incwm rhent heb dalu treth arno.

Nid oes rhaid i chi fod yn berchennog tŷ i fanteisio ar y cynllun. Os ydych yn rhentu gallwch hefyd osod ystafell i letywr, os yw eich cytundeb tenantiaeth yn caniatáu i chi wneud hynny.

Os ydych ar Gredyd Cynhwysol gallwch ennill hyd at y terfyn o £7,500 heb iddo effeithio ar eich taliad. Mae hyn yn golygu ei fod yn ffordd wych o ychwanegu at eich incwm.

Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Cynllun Gosod Ystafell – sut mae’n gweithio a’r rheolau treth

Darganfyddwch sut y gallwch arbed arian ar filiau cartref

Oedd y wybodaeth yma yn ddefnyddiol?

Diolch am eich adborth.

Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Nol i’r brig

Arbedwch arian ar filiau cartref

Ydych chi ar y fargen neu’r tariff gorau ar gyfer eich anghenion? Allech chi arbed arian trwy fynd ar-lein neu dalu mewn ffyrdd gwahanol? Nid yw’n cymryd yn hir i wirio. Hefyd, darganfyddwch yr help sydd ar gael os ydych yn cael trafferth gyda’ch biliau.

Dilynwch y camau hyn i weithio allan beth sydd angen i chi ei wneud

Adolygwch eich costau ynni

Mae prisiau ynni yn uchel ar hyn o bryd. Mae llawer o bobl yn edrych i ddod o hyd i fargen ratach, ond mae’n debygol mai cyfradd tariff diofyn safonol eich cyflenwr a osodwyd ar y cap ar brisiau ynni gan y rheolydd Ofgem fydd y gyfradd rataf sydd ar gael.  Mae arbenigwyr wedi darogan y bydd costau ynni’n dechrau gostwng yn fuan, felly cadwch olwg am ddêl well.

Gwnewch gais am yr holl fudd-daliadau y mae gennych hawl iddynt (yn enwedig Credyd Pensiwn neu Gredyd Cynhwysol) oherwydd bydd y rhain yn rhoi mynediad i help pellach i chi, gan gynnwys Gostyngiad Cartrefi Cynnes gwerth £150 y flwyddyn.

Mae gan ein canllaw Help os ydych chi'n cynhesu eich cartref gan ddefnyddio olew gwresogi neu nwy petroliwm hylifedig fwy o wybodaeth.

Darganfyddwch beth all eich cyflenwr yn ein tudalen erthygl arall adran ar Help i dalu eich bil nwy neu drydan
Os ydych yn defnyddio olew, nwy petrolewm hylifedig (LPG) neu danwydd solet

Yn wahanol i nwy a thrydan, nid oes cap ar brisiau i helpu i reoli cost y mathau hyn o danwydd.

Defnyddiwch y rhestr wirio hon i helpu i gadw costau i lawr:

  • Cymharwch brisiau a pheidiwch â bod ofn bargeinio.
  • Ystyriwch ymuno neu sefydlu clwb olew i gael gostyngiadau pellach
  • Gofynnwch am opsiynau talu hyblyg
  • Prynwch yn ystod y misoedd cynhesach
  • Cadwch eich tanc mewn cyflwr da
  • Gosodwch foeler effeithlon
  • Hawliwch grantiau i wella effeithlonrwydd ynni eich cartref
  • Hawlio budd-daliadau i helpu i dalu biliau ynni
  • Mae'r llywodraeth wedi addo £200 o gymorth i bobl sy'n defnyddio'r mathau hyn o danwydd, darganfyddwch fanylion ar sut i hawlio ar ein tudalen am danwydd oddi ar y grid.
  • Gall aelwydydd cymwys yng Nghymru hawlio taliad untro o £200 tuag at filiau ynni gyda chynllun cymorth tanwydd Cymru

Cofiwch hefyd hawlio’r holl fudd-daliadau y mae gennych hawl iddynt (yn enwedig Cedit Pensiwn neu Gredyd Cynhwysol) oherwydd bydd y rhain yn eich trosglwyddo i gymorth pellach, gan gynnwys y Gostyngiad Cartref Cynnes gwerth £150 y flwyddynYn agor mewn ffenestr newydd

Gweler mwy o wybodaeth yn ein canllaw Help os ydych yn cynhesu eich cartref gan ddefnyddio olew gwresogi neu nwy petrolewm hylifedig
Gwnewch cais am grantiau effeithlonrwydd ynni

Os ydych eisiau lleihau eich biliau ynni, gallwch fynd yn wyrdd a lleihau faint o ynni rydych yn ei ddefnyddio.

Os ydych yn gwirio eich Tystysgrif Perfformiad Ynni (EPC) dylai hwn cynnig ffyrdd i chi wella eich cartref yn effeithlon a dangos faint o wahaniaeth bydd hwn yn ei wneud. Os nad ydych yn gwybod os oes gennych EPC neu’n methu â dod o hyd iddo, gallwch gofrestru ar EPC a chwilio am EPCO eich eiddo ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd

Os yw’r eiddo yn Yr Alban gallwch chwilio amdano ar gofrestr EPC Yr AlbanYn agor mewn ffenestr newydd

Gallwch ddod o hyd i syniadau am sut i dorri'n ôl ar yr ynni rydych yn ei ddefnyddio ar wefan yr Energy Saving TrustYn agor mewn ffenestr newydd

Mae rhai o’r newidiadau’n hawdd iawn. Er enghraifft, gallwch arbed £80 y flwyddyn ar eich costau gwresogi drwy droi’r tymheredd i lawr un radd yn unig.

Gall fod arian ar gael i’ch helpu i wneud eich cartref yn fwy effeithlon o ran ynni. Gallwch gael cymorth gyda thalu am insiwleiddio neu hyd yn oed boeler newydd. 

Edrychwch ar ba grantiau arbed-ynni gallwch gael ar ein tudalen Sut i dalu am welliannau i’r cartref
Newidiwch i fesurydd dŵr clyfar

Fel arfer, po fwyaf yw eich cartref a’r lleiaf o bobl sy’n byw ynddo, y mwyaf tebygol ydych chi o arbed arian gyda mesurydd dŵr.

I weld a yw’n addas i chi, gallwch ddefnyddio’r gyfrifiannell mesurydd dŵrYn agor mewn ffenestr newydd ar wefan y Cyngor Defnyddwyr Dŵr. Os yw’n addas, caiff eich mesurydd ei osod am ddim os ydych byw yng Nghymru neu Loegr. (Gwiriwch â’ch cwmni dŵr os ydych yn byw yn yr Alban neu Ogledd Iwerddon). Nid oes unrhyw daliadau dŵr yng Ngogledd Iwerddon. Gallwch hefyd ofyn am newid os ydych yn rhentu.

Efallai na fydd mesurydd dŵr yn iawn i chi os oes gennych rai cyflyrau meddygol. Cysylltwch â'ch cyflenwr dŵr i weld a oes modd i chi gofrestru ar gyfer y Gofrestr gwasanaeth blaenoriaeth. Ar ôl i chi gofrestru, byddant yn gallu cynnig help ychwanegol i chi os ydych yn cael trafferth gyda biliau ond yn methu cael mesurydd dŵr.

Os na all eich cyflenwr dŵr ddarparu mesurydd dŵr i chi oherwydd ei fod yn rhy anodd neu’n rhy ddrud i’w osod, mae’n rhaid iddynt gynnig dewis arall i chi, fel na fyddwch ar eich colled.

Gelwir y dewis amgen hwn yn Daliad Wedi’i Asesu.

Gallwch gael mwy o wybodaeth am Daliadau Wedi’u HasesuYn agor mewn ffenestr newydd ar wefan y Cyngor Defnyddwyr Dŵr.

Os ydych ar fesurydd dŵr gallwch leihau eich bil ymhellach drwy arbed dŵr. Edrychwch ar wefan y Cyngor Defnyddwyr Dŵr a darganfyddwch eich cwmni dŵr am awgrymiadau a theclynnau arbed dŵr am ddimYn agor mewn ffenestr newydd

Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Sut i leihau eich bil dŵr
Ffyrdd o wario llai ar gostau tanwydd

Mae costau tanwydd yn uchel iawn ar hyn o bryd os ydych yn dibynnu ar gerbyd fel eich prif fath o gludiant. Ni allwch wneud llawer am gost petrol yn y pympiau, ond gallwch leihau eich gwariant trwy dorri'n ôl faint rydych yn ei ddefnyddio.

Mae rhai triciau yn cynnwys cadw ffenestri ar gau i gynyddu aerodynameg, neu yrru’n arafach, a all helpu gyda defnyddio tanwydd.

Mae gan wefan Money Saving Expert ganllaw cam wrth gam ar sut i gadw costau lawrYn agor mewn ffenestr newydd

Ffyrdd o wario llai ar fwyd

Biliau bwyd yw’r gost fwyaf i lawer o bobl ar ôl talu eu rhent neu forgais.

Mae llawer o wefannau a all eich helpu i leihau biliau siopa bwyd. Dyma rai o’r rhai mwyaf poblogaidd:

  • My SupermarketsOpens in a new window
  • Love food hate wasteOpens in a new window
  • Money Saving ExpertOpens in a new window
  • Too Good To GoOpens in a new window
Defnyddiwch fanc bwyd os ydych yn wynebu argyfwng

Os nad oes gennych arian i dalu am fwyd, efallai y gallwch chi ddefnyddio banc bwyd.

Fel arfer ni allwch fynd yn syth i fanc bwyd. Bydd y rhan fwyaf yn gofyn i chi gael taleb atgyfeirio gan sefydliad yn eich cymuned yn gyntaf.

Ymhlith y mannau lle gallwch gael taleb banc bwyd mae:

  • Cyngor ar Bopeth
  • eich cyngor lleol
  • Meddyg Teulu neu ymwelydd iechyd
  • gweithiwr cymorth
  • gweithiwr cymdeithasol
  • Canolfan Plant
  • heddlu.

Os ydych yn meddwl bod angen i chi ddefnyddio banc bwyd, dilynwch y camau hyn.

  • Chwiliwch ar-lein am fanciau bwyd yn eich ardal a pha sefydliadau cymunedol lleol all drefnu taleb i chi.
  • Neu ewch yn syth at un o’r sefydliadau atgyfeirio a restrir uchod i weld a allant roi taleb i chi a dweud wrthych ble mae eich banc bwyd agosaf.
  •  Pan fyddwch yn cyrraedd y sefydliad atgyfeirio, byddant yn gofyn am rywfaint o wybodaeth sylfaenol i ganfod eich anghenion a gwirio a allwch chi gael taleb.
  • Os ydych yn gymwys, bydd y sefydliad atgyfeirio yn rhoi taleb i chi fynd i'w gyfnewid am fwyd
  • Os oes angen i chi ddefnyddio banc bwyd eto, fel arfer bydd angen i chi gael atgyfeiriad arall.

Os ydych ar incwm isel ac na allwch fforddio bwyd neu hanfodion, efallai gall eich cyngor lleol helpu.

Chwiliwch ar-lein gan ddefnyddio’r Trussel Trust Find a foodbank toolYn agor mewn ffenestr newydd

Help gyda chostau ffôn a band eang

Mae ffôn a band eang yn hanfodol os ydych yn chwilio am waith neu hyd yn oed eisiau dod o hyd i’r bargeinion gorau i’ch helpu i arbed arian, gan fod cynigion ar-lein yn aml yn rhatach, a gallwch ddefnyddio gwefannau cymharu i wirio tariffau a phrisiau.

Er mwyn eich helpu i gadw cysylltiad digidol, mae rhai darparwyr yn cynnig cynlluniau cost isel os ydych yn cael rhai budd-daliadau sy’n gysylltiedig ag incwm, gan gynnwys:

  • Credyd Cynhwysol
  • Lwfans Ceisio Gwaith
  • Credyd Pensiwn
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth

Os ydych yn chwilio am waith, gallwch wneud cais trwy eich anogwr gwaith am daleb i gyfnewid am fand eang am ddim gan y darparwr cysylltedd TalkTalk.

Mae’r daleb yn caniatáu i chi gael chwe mis o wasanaeth band eang Ffibr 35 TalkTalk heb unrhyw gontract neu wiriad credyd. Mae terfynau defnydd data heb eu capio (o fewn y terfynau defnydd data teg).

Darganfyddwch pwy sy’n cynnig tariffau cost isel a sut y gall darparwyr eich helpu i gael y cynllun gorau am eich anghenion, yn ein hadran gyda thudalennau eraill ar Help os ydych yn cael trafferth i dalu am linell dir, ffôn symudol neu fand eang
Defnyddiwch ein blaenoriaethwr Biliau

Gall talu eich biliau ar amser pan fydd arian yn brin fod yn bryderus iawn, yn enwedig os ydynt yn dechrau pentyrru. Gall fod yn anodd gwybod pa rai i ddelio â nhw yn gyntaf.

Efallai y byddwch yn dechrau teimlo’r temptasiwn i beidio â delio â nhw, efallai oherwydd nad oes neb yn eich erlid am daliad nawr neu efallai nad ydych yn siŵr beth fydd yn digwydd os ydych yn cyfaddef bod yna broblem.

Fodd bynnag, gall canlyniadau peidio â thalu rhai biliau cyn rhai eraill fod yn fwy difrifol. Bydd delio â phethau’n gynnar yn eich helpu i gadw ar ben pethau ac osgoi dyledion problemus. Os ydych yn cael trafferth gwneud ad-daliadau ar amser, mae’n rhaid i chi edrych ar eich biliau a’u gwahanu i daliadau sydd â blaenoriaeth neu sydd heb flaenoriaeth

Os ydych yn cael trafferth gwneud eich ad-daliadau ar amser, mae ein Blaenoriaethwr biliau hawdd ei ddefnyddio yn eich helpu chi i ddeall pa rai i ddelio â nhw gyntaf, yn dweud wrthych pa gymorth sydd ar gael a beth i’w wneud i sicrhau nad ydych yn methu taliad.

Darganfyddwch fwy am yr help allwch chi ei gael i dalu am bethau angenrheidiol

Oedd y wybodaeth yma yn ddefnyddiol?

Diolch am eich adborth.

Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Nol i’r brig

Help i dalu am bethau hanfodol

Os yw’ch incwm wedi gostwng yn sylweddol, er enghraifft, oherwydd colli swydd neu salwch a’ch bod bellach yn cael Credyd Cynhwysol neu ar incwm isel iawn, efallai y byddwch yn gallu cael cymorth ychwanegol gan y llywodraeth i’ch cefnogi.

Dilynwch y camau hyn i weithio allan beth sydd angen i chi ei wneud

Gwiriwch a ydych yn gymwys ar gyfer y Gronfa Cymorth Cartref

Os ydych yn byw yn Lloegr, cysylltwch â'ch cyngor lleol i weld a allwch wneud cais am y Gronfa Cymorth Cartref sy'n helpu pobl sy'n cael trafferth gyda biliau a threuliau bob dydd fel:

  • biliau nwy neu drydan
  • biliau band eang neu ffôn
  • dillad
  • costau cludiant hanfodol fel trwsio car, prynu beic neu dalu am danwydd.

Nid oes rhaid i chi fod ar fudd-daliadau prawf modd i wneud cais am y Gronfa Cymorth Cartref ond rhaid i chi fod ar incwm isel.

Cysylltwch â'ch cyngor lleol i weld a oes ganddynt gynllun cymorth lles. Gallwch hefyd ddod o hyd i help sydd ar gael yn eich ardalYn agor mewn ffenestr newydd ar wefan End Furniture Poverty.

Os ydych yn byw yng Nghymru, gallwch wneud cais am help gyda hanfodion fel rhan o’r Gronfa Cymorth DewisolYn agor mewn ffenestr newydd ar wefan Llywodraeth Cymru.

Yng Nghymru a Lloegr, mae’r cynlluniau hyn wedi’u hymestyn i 2026 fel rhan o Gyllideb yr Hydref 2024.

Mae cynlluniau ar wahân ar gael os ydych chi’n byw yn yr Alban neu Ogledd Iwerddon:

  • Os ydych yn byw yn Yr Alban, darganfyddwch fwy am y Scottish Welfare FundYn agor mewn ffenestr newydd
  • Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon, darganfyddwch fwy am newidiadau i’r Gronfa GymdeithasolYn agor mewn ffenestr newydd
Ar GOV.UK rhowch eich cod post i ddod o hyd i'ch cyngor lleolYn agor mewn ffenestr newydd
Gwnewch gais am Gymorth Lles Lleol

Os ydych yn wynebu argyfwng fel peiriant golchi dillad wedi torri neu os ydych angen cymorth brys gyda bwyd, dillad ac ynni a’ch bod yn fregus, efallai y bydd cymorth lleol ar gael. Gelwir hyn yn gymorth lles lleol.

Os byddwch yn gwneud cais, bydd penderfyniad ynghylch a ddylid darparu cymorth a faint yn seiliedig ar eich sefyllfa unigol.

Os ydych yn byw yn Lloegr, cysylltwch â’ch cyngor i weld a oes ganddynt gynllun cymorth llesYn agor mewn ffenestr newydd. Darganfyddwch yr help sydd ar gael yn eich ardal chi ar wefan End Furniture Poverty.

Os ydych yn byw yn yr Alban, cewch fwy o wybodaeth am Gronfa Les yr AlbanYn agor mewn ffenestr newydd ar wefan Llywodraeth yr Alban.

Os ydych yn byw yng Nghymru, cewch fwy o wybodaeth am y Gronfa Cymorth DewisolYn agor mewn ffenestr newydd ar wefan Llywodraeth Cymru.

Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon, darganfyddwch fwy am y gronfa DisretionaryYn agor mewn ffenestr newydd ar wefan nidirect.

Taliadau Cyllidebu Ymlaen Llaw os ydych ar Gredyd Cynhwysol

Os ydych angen help i dalu am bethau hanfodol fel dillad, dodrefn, costau gwaith neu flaendal rhent, efallai y byddwch yn gallu gwneud cais am Daliad Cyllidebu Ymlaen Llaw di-log.

Er mwyn ei gael, rhaid i chi:

  • fod wedi bod yn cael Credyd Cynhwysol am o leiaf chwe mis – oni bai eich bod angen yr arian i’ch helpu i gael swydd neu gadw swydd sy’n bodoli eisoes
  • fod wedi ennill llai na £2,600 os ydych yn sengl (£3,600 os ydych yn gwpl) yn y chwe mis diwethaf
  • peidio â bod yn talu Taliad Cyllidebu Ymlaen Llaw arall yn ôl.

Mae ad-daliadau fel arfer yn dod allan o’ch taliad Credyd Cynhwysol nesaf a bydd angen i chi ei dalu’n ôl o fewn 12 mis (18 mis mewn amgylchiadau eithriadol). Gall unrhyw gynilion effeithio ar faint a gewch.

Yr isafswm y gallwch ofyn amdano yw £100. Yr uchafswm yw:

  • £348 os ydych yn sengl
  • £464 os ydych yn rhan o gwpl
  • £812 os oes gennych blant.
Darganfyddwch fwy am Daliadau Cyllidebu Ymlaen Llaw a sut i wneud caisYn agor mewn ffenestr newydd ar wefan Cyngor ar Bopeth
 
Os ydych chi'n byw yng Ngogledd Iwerddon, gallwch ddarganfod sut i gael Blaenswm CyllidebuYn agor mewn ffenestr newydd ar wefan nidirect

Darganfyddwch pa gymorth ychwanegol sydd ar gael wrth weithio

Oedd y wybodaeth yma yn ddefnyddiol?

Diolch am eich adborth.

Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Nol i’r brig

Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio

Os ydych yn gyflogedig, efallai y byddwch yn gallu cynyddu eich incwm drwy wirio eich bod yn cael eich talu’n gywir neu ystyried gwaith ar yr ochr. Os ydych yn chwilio am waith, mae llawer o gymorth ariannol i'ch helpu i gael yn ôl ar eich traed.

Dilynwch y camau hyn i weithio allan beth sydd angen i chi ei wneud

Gwiriwch eich slip cyflog

Os ydych yn gyflogedig, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio’ch slip cyflog i weld eich bod ar y cod treth cywir ac yn cael eich talu ar yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol neu uwch.

Does dim rhaid i’ch slip cyflog ysgrifenedig fod ar bapur – gellir ei anfon atoch drwy e-bost neu drwy wefan.

Darganfyddwch fwy am godau treth yn ein canllaw Deall eich slip cyflog
 
Gwiriwch a ydych yn cael eich talu’n gywir a darganfyddwch beth i’w wneud os ydych yn cael llai o dâl nag y dylech fod yn ein canllaw Isafswm Cyflog Cenedlaethol
Gwnewch gais am ryddhad treth os ydych yn gweithio o gartref

Os oes rhaid i chi weithio gartref am yr wythnos gyfan neu ran o’r wythnos efallai y gallwch hawlio rhyddhad treth ar rai o’ch treuliau. 

Bydd CThEM yn derbyn ceisiadau wedi’u hôl-ddyddio am hyd at bedair blynedd. Byddwch yn derbyn cyfandaliad am unrhyw geisiadau llwyddiannus sydd wedi’u hôl-ddyddio.

Edrychwch ar ein hadran gyda thudalennau erthygl eraill ar Sut i gael arian argyfwng o’r llywodraeth
Cymerwch waith ychwanegol

Os oes gennych yr amser, efallai y gallwch chi ennill arian o swydd arall, a elwir weithiau’n waith ar yr ochr.

Cyn i chi gymryd gwaith ychwanegol, mae angen i chi wybod beth yw eich hawliau o ran gweithio i fwy nag un cyflogwr neu wneud oriau ychwanegol. Hefyd sut rydych yn delio â’r dreth ychwanegol a’r Yswiriant Gwladol y byddwch yn ei dalu.

Peidiwch ag anghofio yr effaith y gallai ei gael ar unrhyw fudd-daliadau a gewch neu eich cyfraniadau pensiwn.

Os ydych yn ystyried gwneud rhywfaint o arian ychwanegol, darllenwch ein canllaw Treth a chyflog ail swydd

Dod o hyd i help os ydych chi'n cael trafferth gydag arian ac iechyd meddwl

Oedd y wybodaeth yma yn ddefnyddiol?

Diolch am eich adborth.

Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Nol i’r brig

Arian ac iechyd meddwl

Ni fu blaenoriaethu iechyd meddwl erioed mor bwysig nag y mae ar hyn o bryd. Mae'r cynnydd mewn costau byw wedi achosi argyfwng iechyd meddwl. Cofiwch, nid yw gofyn am help yn arwydd o wendid – dyma’r cam cyntaf i gael rheolaeth yn ôla r eich arian.

Dilynwch y camau hyn i weithio allan beth sydd angen i chi ei wneud

Deall sut mae arian yn effeithio ar ein hiechyd meddwl

Gall pryderon ariannol effeithio ar eich iechyd meddwl a gall iechyd meddwl gwael effeithio ar y ffordd rydych yn rheoli eich arian. Gall ddigwydd i unrhyw un, ar unrhyw adeg ac am unrhyw gyfnod o amser.

Dyma rai ffyrdd cyffredin y gall eich iechyd meddwl effeithio ar y ffordd rydych yn delio ag arian:

  • Efallai y byddwch yn ei chael hi’n anoddach gwneud penderfyniadau cyllidebu a gwariant.
  • I wneud i chi'ch hun deimlo’n well, efallai y byddwch yn gwario arian nad oes gennych ar bethau nad ydych eu hangen ac yna'n difaru yn nes ymlaen.
  • Efallai y byddwch yn teimlo’n bryderus neu dan straen am siarad ar y ffôn, mynd i’r banc neu agor eich biliau.
  • Gallai symptomau salwch meddwl achosi i chi ymddwyn yn fyrbwyll fel gwario llawer o arian ar yr un pryd.

Efallai y bydd datrys pethau pan fyddwch yn teimlo’n isel neu’n bryderus teimlo fel tasg llethol ond mae’n bwysig cymryd pethau un cam ar y tro.

Os ydych yn meddwl bod materion ariannol yn effeithio ar eich iechyd meddwl, darllenwch ein canllaw Problemau ariannol a lles meddyliol
Gwrandewch ar stori Vicky

Gall poeni am broblemau ariannol effeithio ar eich iechyd meddwl ac ni ddylid eu hanwybyddu.

Mae Vicky Eves, un o’r cyfranogwyr yn ein cyfres fideo Arian ac Iechyd Meddwl, yn siarad yn agored am ei brwydrau a pham mae gofyn am help yn iawn ac nid yn arwydd o wendid.

Gwyliwch a darllenwch stori Vicky yn ein blog am Pam nad yw gofyn am help yn arwydd o wendid
Cael help os ydych chi’n cael trafferth gyda’ch iechyd meddwl

Os ydych yn teimlo’n isel iawn neu’n profi meddyliau hunanladdol, gallwch ffonio’r Samariaid am ddim ar 116 123Yn agor mewn ffenestr newydd.

Mae’r Samariaid yn darparu gwasanaethau gwrando anfeirniadol 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos, 365 diwrnod y flwyddyn. Beth bynnag rydych yn mynd drwyddo, bydd Samariad yn ei wynebu gyda chi.

Os teimlwch eich bod mewn perygl o ladd eich hun, ffoniwch y gwasanaethau brys ar 999

Mae rhai pobl yn profi argyfwng iechyd meddwl fel toriad gyda realiti. Efallai y byddant yn gweld neu’n clywed pethau nad ydynt yno, neu efallai eu bod yn credu pethau na all fod yn wir. Gall hyn weithiau olygu eu bod yn rhoi eu hunain mewn perygl. Os ydych yn poeni bod rhywun rydych yn ei adnabod mewn perygl o hyn neu mewn perygl o ladd eu hunan, dylech ffonio 999 ar unwaith.

Am fwy o wybodaeth am iechyd meddwl a delio gyda dyled, darllenwch y llyfrynYn agor mewn ffenestr newydd hwn gan MoneySavingExpert.

Darganfyddwch fwy am sut i gymryd rheolaeth dros eich cyllid yn ein canllaw Problemau arian a lles meddwl

Oedd y wybodaeth yma yn ddefnyddiol?

Diolch am eich adborth.

Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Nol i’r brig
Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Rhannu erthygl
E-bost Facebook Twitter
Rhannu hwn gyda
WhatsApp LinkedIn
Copio’r ddolen yma
Anfon e-bost
Copio’r ddolen yma

Efallai bydd gennych ddiddordeb mewn...

Blaenoriaethwr biliau: cael help gyda’ch biliau
Os na allwch dalu eich treth cyngor, morgais neu filiau cyfleustodau, mae’n bwysig cael help i osgoi canlyniadau difrifol. Darganfyddwch pa opsiyn...
Diswyddo a cholli eich swydd
Os ydych yn wynebu cael eich diswyddo neu golli swydd, rhaid i’ch cyflogwr eich trin yn deg. Darganfyddwch am y broses ddiswyddo a ble y gallwch g...
Help i'r hunangyflogedig
Os ydych yn hunangyflogedig ac wedi cael eich taro'n ariannol gan y pandemig coronafeirws a chostau byw uchel, darganfyddwch pa help sydd ar gael ...
Logo Llywodraeth E.M

Darperir HelpwrArian gan:

Logo Gwasanaeth Arian a Phensiynau
Level AA conformance, W3C WAI Web Content Accessibility Guidelines 2.1 Clear English Standard for Websites logo
  • Amdanom ni
  • Cael help a chyngor
  • Cysylltu â ni
  • Partneriaethau
  • Offer a chyfrifianellau
  • Rhoi adborth
  • Cynllun Iaith Gymraeg
  • Blog

Dilynwch ni:

© 2023 Money and Pensions Service, 120 Holborn, London EC1N 2TD. Cedwir pob hawl.

  • Telerau ac amodau
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Datganiad hygyrchedd
  • Map safle
  • Sut rydym yn defnyddio cwcis
  • Dewisiadau cwcis Dewisiadau cwcis
Siaradwch â ni yn fyw am...
Cau
Siaradwch â ni yn fyw am...
Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio’r ffôn
  • O dramor: +44 20 7932 5780
  • I’r hunangyflogedig: 0345 602 7021*
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn – Sul:Wedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn
  • Cymraeg: 0800 138 0555*
  • Typetalk: 18001 0800 915 4622
  • O dramor: +44 20 3553 2279
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Blaenorol Cau

Blaenorol Cau

Blaenorol Cau

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun–Gwener8am-6pm
  • Sadwrn8am - 3pm
  • Sun and bank holidaysWedi cau
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun, Mercher, Gwener8.20am - 6.20pm
  • Tues, Thurs9am - 6.20pm
  • Sat, Sun and bank holidaysWedi cau
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion, cwestiynau credyd neu ganllaw pensiynau. Am bopeth arall, cysylltwch â ni trwy Wesgwrs neu dros y Ffôn.

Blaenorol Cau