Got a pension question? Our help is impartial and free to use. Get in touch online or over the phone on 0800 011 3797
Cau
Skip to content
Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo
English
  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
  • Credyd Cynhwysol

    Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad

    Budd-daliadau os oes gennych blant

    Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant

    Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr

    Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd

    Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd

    Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth

    Budd-daliadau a gwaith

    Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd

    Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai

    Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel

    Problemau gyda budd-daliadau

    Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau

    Budd-daliadau

    Pob canllaw Budd-daliadau

    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn Llywio Ariannol

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Bancio a thaliadau

    Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc

    Cyllidebu

    Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian

    Prynu a rhedeg car

    Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg

    Credyd

    Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd

    Yswiriant

    Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant

    Arian bob dydd

    Pob canllaw Arian bob dydd

    Teclynnau

    Teclyn

    Cymharu cyfrifon banc

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Dod yn rhiant

    Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant

    Marwolaeth a phrofedigaeth

    Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau

    Ysgariad a gwahanu

    Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu

    Salwch ac anabledd

    Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio

    Gofal tymor hir

    Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal

    Arian myfyrwyr a graddedigion

    Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr

    Siarad am arian

    Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid

    Teulu a gofal

    Pob canllaw Teulu a gofal

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Prynu tŷ

    Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth

    Rhentu

    Rhentu cartref i fyw ynddo, rhentu cartref, a goresgyn problemau

    Cartrefi

    Pob canllaw Cartrefi

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Help gyda chostau byw

    Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi

    Delio â dyled

    Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion

    Problemau a chwynion am arian

    Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion

    Sgamiau

    Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan

    Problemau ariannol

    Pob canllaw Problemau ariannol

    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Ymrestru awtomatig

    Cyflwyniad, sut mae’n gweithio, popeth am gyfraniadau

    Adeiladu eich cronfa bensiwn

    Faint rydych ei angen, ffyrdd i adeiladu'ch cronfa, trosglwyddo ac uno

    Hanfodion pensiwn

    Dechrau pensiwn, mathau o bensiwn, deall pensiynau

    Problemau pensiwn

    Cwynion, cymorth ariannol pan wedi ymddeol, newidiadau i gynlluniau

    Pensiwn y Wladwriaeth

    Sut mae’n gweithio, beth allech chi ei gael, Yswiriant Gwladol

    Cymryd eich pensiwn

    Ffyrdd o dynnu eich pensiwn, pryd allwch chi ymddeol, apwyntiadau Pension Wise

    Treth a phensiynau

    Lwfansau treth, treth a delir ar bensiynau, rhyddhad treth

    Pensiynau ac ymddeoliad

    Pob arweiniad, gan gynnwys sut i ddefnyddio'r gwasanaeth Pension Wise

    Teclynnau

    Apwyntiad

    Trefnwch apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Darganfyddwch ymgynghorydd ymddeoliad

    POB TECLYN

    Trefnwch eich apwyntiad Pension Wise am ddim

    Dros 50 oed? Cewch arweiniad diduedd, am ddim o’n gwasanaeth sydd wedi’i gefnogi gan y llywodraeth. Byddwn yn esbonio’r opsiynau i gymryd arian o’ch cron…

  • Sut i gynilo

    Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau

    Buddsoddi

    Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli

    Math o gynilion

    Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant

    Cynilion

    Pob canllaw Cynilion

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Cyflogaeth

    Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol

    Colli eich swydd

    Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo

    Hunangyflogaeth

    Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad

    Gwaith

    Pob canllaw Gwaith

    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
  • Credyd Cynhwysol Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad
    Budd-daliadau os oes gennych blant Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant
    Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd
    Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth
    Budd-daliadau a gwaith Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd
    Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel
    Problemau gyda budd-daliadau Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau
    Budd-daliadau Pob canllaw Budd-daliadau
    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn Llywio Ariannol

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Bancio a thaliadau Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc
    Cyllidebu Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian
    Prynu a rhedeg car Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg
    Credyd Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd
    Yswiriant Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant
    Arian bob dydd Pob canllaw Arian bob dydd
    Teclynnau

    Teclyn

    Cymharu cyfrifon banc

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Dod yn rhiant Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant
    Marwolaeth a phrofedigaeth Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau
    Ysgariad a gwahanu Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu
    Salwch ac anabledd Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio
    Gofal tymor hir Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal
    Arian myfyrwyr a graddedigion Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr
    Siarad am arian Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid
    Teulu a gofal Pob canllaw Teulu a gofal
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Prynu tŷ Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth
    Rhentu Rhentu cartref i fyw ynddo, rhentu cartref, a goresgyn problemau
    Cartrefi Pob canllaw Cartrefi
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Help gyda chostau byw Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi
    Delio â dyled Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion
    Problemau a chwynion am arian Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion
    Sgamiau Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan
    Problemau ariannol Pob canllaw Problemau ariannol
    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Ymrestru awtomatig Cyflwyniad, sut mae’n gweithio, popeth am gyfraniadau
    Adeiladu eich cronfa bensiwn Faint rydych ei angen, ffyrdd i adeiladu'ch cronfa, trosglwyddo ac uno
    Hanfodion pensiwn Dechrau pensiwn, mathau o bensiwn, deall pensiynau
    Problemau pensiwn Cwynion, cymorth ariannol pan wedi ymddeol, newidiadau i gynlluniau
    Pensiwn y Wladwriaeth Sut mae’n gweithio, beth allech chi ei gael, Yswiriant Gwladol
    Cymryd eich pensiwn Ffyrdd o dynnu eich pensiwn, pryd allwch chi ymddeol, apwyntiadau Pension Wise
    Treth a phensiynau Lwfansau treth, treth a delir ar bensiynau, rhyddhad treth
    Pensiynau ac ymddeoliad Pob arweiniad, gan gynnwys sut i ddefnyddio'r gwasanaeth Pension Wise
    Teclynnau

    Apwyntiad

    Trefnwch apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Darganfyddwch ymgynghorydd ymddeoliad

    POB TECLYN

    Trefnwch eich apwyntiad Pension Wise am ddim

    Dros 50 oed? Cewch arweiniad diduedd, am ddim o’n gwasanaeth sydd wedi’i gefnogi gan y llywodraeth. Byddwn yn esbonio’r opsiynau i gymryd arian o’ch cron…

  • Sut i gynilo Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau
    Buddsoddi Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli
    Math o gynilion Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant
    Cynilion Pob canllaw Cynilion
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Cyflogaeth Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol
    Colli eich swydd Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo
    Hunangyflogaeth Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad
    Gwaith Pob canllaw Gwaith
    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

Home
English
  1. Hafan
  2. Gwaith
  3. Cyflogaeth
Gwaith Cyflogaeth

Deall eich slip cyflog

Boed yn rhywun sy’n cael ei slip cyflog cyntaf neu wedi bod yn gweithio ers blynyddoedd, mae dal yn bwysig deall sut y cyfrifir eich cyflog. Mae eich slip cyflog yn cynnwys llawer o wybodaeth bwysig, yn cynnwys eich rhif cyflogres, eich cyflog gros a net, ac fel arfer eich cod treth. Mae’n bwysig eich bod yn deall eich slip cyflog a sut i wneud yn siŵr eich bod yn cael y swm cywir.

Beth sydd yn y canllaw hwn

  • Eich hawl i gael slip cyflog
  • Pa wybodaeth mae'n rhaid ei chynnwys ar eich slip cyflog
  • Deall eich slip cyflog
  • Beth yw cod treth?
  • Teclynnau defnyddiol
  • Beth yw cod treth argyfwng?
  • Beth yw'r gwahaniaeth rhwng cyflog gros a chyflog net?
  • Cadw eich slip cyflog
  • Cyfraddau cyflog gwahanol
  • Problemau slip cyflog

Eich hawl i gael slip cyflog

Mae gan bob cyflogai a gweithiwr hawl i gael slip cyflog unigol, manwl ac ysgrifenedig – pan, neu cyn, mae’r taliad yn cael ei wneud.

Nid oes angen i’r slip cyflog fod ar bapur – gellir ei anfon atoch ar e-bost neu fod ar gael ar y we.

Mae’r hawl i gael slip cyflog yn berthnasol i staff achlysurol yn ogystal â chyflogeion. Nid yw’n berthnasol i gontractwyr annibynnol na phobl sy’n gweithio'n llawrydd.

Nol i’r brig

Pa wybodaeth mae'n rhaid ei chynnwys ar eich slip cyflog

Cofiwch wirio eich slip cyflog yn rheolaidd a gwirio ei fod yn dangos yr un cod treth â’ch anfoneb dreth ddiweddaraf.

Mae'n rhaid i’ch slip cyflog ddangos y wybodaeth isod:

  • Tâl gros. Eich tâl yn llawn cyn tynnu unrhyw dreth neu Yswiriant Gwladol.
  • Cyfanswm yr arian sydd yn y boced wedi’r didyniadau. Gelwir hyn yn cyflog net.
  • Swm unrhyw ddidyniadau sydd yn newid o un diwrnod cyflog i’r llall, a beth yw pwrpas y didyniadau. Gelwir y rhain yn ddidyniadau amrywiol. Maent yn cynnwys treth ac Yswiriant Gwladol.
  • Cyfanswm unrhyw ddidyniadau sefydlog. Dyma’r gostyngiadau nad ydynt yn amrywio o un diwrnod cyflog i’r llall - er enghraifft tâl undeb. Nid oes rhaid i gyflogwr roi manylion ynglŷn â phwrpas y didyniadau hyn, cyn belled â’i fod yn rhoi datganiad ar wahân â’r manylion hyn o leiaf unwaith y flwyddyn.
  • Cyfanswm a’r dull o bennu unrhyw daliad rhannol o gyflog. Er enghraifft, ffigyrau ar wahân o daliad arian parod a’r balans a gredydir i gyfrif banc.
  • O Ebrill 2019, mae'n rhaid dangos yr oriau gwaith ar slipiau cyflog ble mae’r cyflog yn amrywio yn ôl faint o amser a weithiwyd.

Efallai bydd eich cyflogwr yn cynnwys gwybodaeth ychwanegol ar eich slip cyflog nad yw’n wybodaeth ofynnol ganddo. Er enghraifft, eich:

  • cod treth
  • rhif Yswiriant Gwladol
  • graddfa tâl (un ai blynyddol neu fesul awr)
  • taliadau ychwanegol fel goramser, arian cildwrn neu fonws. Mae’n ofynnol eu cynnwys beth bynnag yn eich ffigwr tâl gros.
Nol i’r brig

Deall eich slip cyflog

1. Eich gwybodaeth bersonol

Dangosir eich enw a’ch cyfeiriad cartref weithiau.

2. Eich rhif cyflogres

Mae rhai cwmnïau yn defnyddio rhifau cyflogres i adnabod unigolion ar y gyflogres.

3. Y dyddiad

Fel rheol mae’r dyddiad y bydd eich tâl yn cyrraedd eich banc yn cael ei ddangos.

4. Y cyfnod treth

Mae’r rhif hwn yn cynnwys y cyfnod treth ar gyfer y slip cyflog hwnnw. Er enghraifft os ydych yn cael eich talu yn fisol, 01 = Ebrill a 12 = Mawrth.

5. Eich cod treth

Bydd eich cod treth yn cael ei anfon atoch gan Gyllid a Thollau EF (HMRC).

Dyma’r cod sy’n dweud wrth eich cyflogwr faint o gyflog di-dreth y dylech ei gael cyn i dreth ddechrau cael ei didynnu o’r gweddill. Os yw’r cod yn anghywir, gallech orfod talu gormod neu rhy ychydig o dreth. Felly mae’n bwysig i wirio hyn yn erbyn hysbysiad eich cod treth.

Mae mwy am godau treth, a pham ei bod yn bwysig eu gwirio, yn nes ymlaen yn y canllaw hwn

6. Eich Rhif Yswiriant Gwladol

Mae rhaid i chi gael rhif Yswiriant Gwladol i weithio yn y DU.

Bydd gennych yr un rhif YG trwy gydol eich bywyd – hyd yn oed os byddwch yn newid eich enw.

Dyma eich rhif personol ar gyfer y system nawdd cymdeithasol gyfan. Mae’n cael ei ddefnyddio i sicrhau bod eich holl gyfraniadau yn cael eu cofnodi’n gywir, ac mae’n rhoi cymorth i sefydlu eich hawl am fudd-daliadau – fel pensiwn.

7. Taliadau, cyflogau, bonysau a chomisiwn

Bydd hyn yn dangos faint rydych wedi ei ennill mewn cyflog cyn i unrhyw ddidyniadau gael eu gwneud.

Gall ddangos hefyd sut cafodd eich tâl ei gyfrifo, Er enghraifft eich cyfradd fesul awr a’r nifer o oriau a weithiwyd.

Gallai ddangos hefyd unrhyw daliadau ychwanegol rydych wedi eu hennill ar ben eich tâl sylfaenol megis bonysau, comisiwn 

8. Treuliau

Gall eich cyflogwr dalu unrhyw dreuliau sy’n ddyledus i chi drwy’r gyflogres.

Bydd rhai cyflogwyr yn rhestru pob taliad treuliau yn unigol ar y slip cyflog. Bydd eraill yn creu cyfanswm llawn a’i ddangos fel cyfanswm i’w drethu neu ddi-dreth.

9. Didyniadau – treth ac Yswiriant Gwladol

Mae rhaid i’ch slip cyflog ddangos cyfanswm y didyniadau amrywiol, fel treth ac Yswiriant Gwladol.

Darganfyddwch fwy yn ein canllawiau:
Sut mae Treth Incwm a’r Lwfans Personol yn gweithio
Sut mae Yswiriant Gwladol yn gweithio ac a ddylech fod yn ei dalu?

10. Pensiynau

Os ydych yn talu tuag at bensiwn y gweithle a gafodd ei sefydlu gan eich cwmni neu a alluogodd i chi gael mynediad ato, bydd y cyfanswm rydych yn ei gyfrannu yn cael ei ddangos.

Os yw eich cyflogwr yn cyfrannu hefyd, gall hyn gael ei ddangos hefyd.

Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Pam cynilio mewn pensiwn?

11. Benthyciad myfyriwr

Os ydych yn gwneud ad-daliadau ar fenthyciad myfyriwr, bydd hyn yn cael ei ddangos ar eich slip cyflog.

Os ydych yn gyflogai, byddwch yn dechrau gwneud ad-daliadau benthyciad myfyriwr fel arfer o fis Ebrill yn dilyn eich dyddiad graddio neu ddyddiad gadael y cwrs. Bydd CThEF yn dweud wrth eich cyflogwr sut i gyfrifo a thynnu’r swm cywir.

Mae’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr yn cael gwybod unwaith y flwyddyn gan CThEFbeth sydd wedi cael ei ad-dalu. Felly, mae’n beth call cadw eich slipiau cyflog a’ch P60 fel cofnod o’r ad-daliadau a wnaed rhag i chi gael problemau.

Mae rhai cyflogwyr yn rhoi cyfansymiau parhaus o dreth a gostyngiadau ar eich slip cyflog. Mae’r rhain yn ddefnyddiol iawn ar gyfer cadw trefn ar eich ad-daliadau benthyciad myfyriwr.

12. Gorchmynion llys a chynhaliaeth plant

Gall llys orchymyn didyniadau yn uniongyrchol o’ch cyflog. Er enghraifft dirwyon heb eu talu neu ad-daliadau dyled i’w trosglwyddo i’ch credydwyr.

Gall y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant wneud cais am Orchymyn Gostyngiadau o Enillion (DEOau) ar gyfer cynhaliaeth plentyn.

Os gwneir y gorchmynion hyn ar gyfer didyniadau, gall y cyflogwr gymryd £1 ychwanegol fel ffi weinyddol os ydynt yn dymuno gwneud hynny.

Dim ond os bydd didyniad neu ddidyniad rhannol wedi ei wneud y gall y ffi hon gael ei gosod.

Mae cyflogwyr yn aml yn anwybyddu’r ffi, ond pan fydd yn cael ei didynnu, bydd rhaid ei dangos ar wahân ar y slip cyflog â disgrifiad.

Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Sut i drefnu cynhaliaeth plant?

13. Tâl salwch

Bydd yr hyn a ddangosir ar eich slip cyflog yn dibynnu ar pa mor hir y buoch yn sâl a pholisi salwch eich cwmni.

Mae gan eich cyflogwr gyfrifoldeb i dalu Tâl Salwch Statudol (SSP) os ydych yn absennol o’ch gwaith oherwydd salwch am bedwar diwrnod neu fwy â’i gilydd, a’ch bod yn bodloni rhai amodau.

Mae SSP yn cael ei drin fel y tâl neu’r cyflog y mae’n ei ddisodli. Felly bydd didyniadau yn cael eu gwneud mewn perthynas â threth, Yswiriant Gwladol a benthyciadau myfyrwyr, ac ati.

Yn eich cytundeb gallech hefyd fod yn gymwys i hawlio tâl salwch galwedigaethol.

Bydd hwn yn cael ei ddangos fel arfer fel ffigwr ar wahân – mae unrhyw SSP yn debygol o gael ei ddidynnu o’r tâl salwch galwedigaethol.

14. Tâl mamolaeth, tadolaeth a mabwysiadu

A ydych yn fam sydd i ffwrdd o’ch gwaith oherwydd eich bod wedi cael babi ac rydych yn cael Tâl Mamolaeth Statudol? Dangosir hwn ar eich slip cyflog.

Gallech fod yn cael tâl mamolaeth hefyd, sydd fel arfer wedi ei ddangos ar wahân.

Os yw rhieni yn dewis rhannu amser i ffwrdd, ac yn cymryd Absenoldeb Rhiant a Rennir, efallai y byddant yn derbyn Tâl Rhiant a Rennir. 

Os yw plentyn wedi ei fabwysiadu, bydd Tâl Mabwysiadu Statudol yn cael ei dalu i’r rhiant newydd sydd yn aros yn y cartref am gyfnod wedi’r mabwysiad. Os yw cwpl yn mabwysiadu ar y cyd, gall y partner arall fod yn gymwys am Tâl Tadolaeth Statudol Ychwanegol.

Eto, mae rhaid i chi fodloni rhai amodau i allu bod yn gymwys ar gyfer y taliadau hyn. Maent i gyd yn cael eu trin yn yr un modd ag enillion cyffredin ar gyfer treth ac Yswiriant Gwladol.

15. Buddion y gweithle

A ydych yn cael yswiriant iechyd trwy eich gweithle neu oes gennych gar cwmni? Yna, rhestrir y rhain ar eich slip cyflog a gallant effeithio ar eich cod treth a’ch Yswiriant Gwladol.

Gall ad-daliad benthyciadau tocynnau tymor, benthyciadau cynllun beicio i’r gwaith a rhoddion elusennol hefyd (gan ddefnyddio’r cynllun rhoi wrth i chi ennill) gael eu dangos hefyd.

Os ydych wedi tanysgrifo ar gyfer un o’r rhain, dylai ddangos ar eich slip cyflog.

Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Ceir, yswiriant a buddiannau gweithwyr eraill

16. Didyniadau eraill

Dylid dangos unrhyw ddidyniadau eraill, megis tanysgrifiadau undeb llafur.

17. Crynodeb o’r flwyddyn hyd yma

Bydd gan rai slipiau cyflog adran sydd yn dangos faint rydych wedi cael eich talu hyd yma yn y flwyddyn ariannol hon (o Ebrill 6 i Ebrill 5).

Gall hefyd ddangos cyfansymiau rydych wedi eu talu mewn treth, Yswiriant Gwladol, benthyciadau myfyriwr a phensiynau hefyd.

18. Tâl net – beth sydd ar ôl

I nifer o bobl, y ffigwr pwysicaf ar eu slip cyflog yw’r tâl net.

Felly, beth yw tâl net. Dyma’r swm a gewch wedi i’r holl ddidyniadau gael eu tynnu. Dylech wirio hyn yn erbyn eich cyfriflen banc i sicrhau bod yr hyn sydd wedi ei dalu i mewn yr un fath.

19. Negeseuon pwysig

Mae rhai cyflogwyr yn defnyddio lle ar y slip cyflog ar gyfer negeseuon pwysig. Gall hyn roi gwybodaeth ychwanegol i chi ynglŷn â’ch tâl neu wybodaeth arall mae’n dymuno ei rhannu.

Defnyddiwch y teclyn rhyngweithiol Deall eich slip cyflogYn agor mewn ffenestr newydd o’r Chartered Institute of Payroll Professionals i ddeall eich slip cyflog
Nol i’r brig

Beth yw cod treth?

Mae faint o dreth rydych yn ei thalu yn dibynnu ar:

  • faint o incwm sydd gennych
  • faint o dreth rydych eisoes wedi'i thalu yn ystod y flwyddyn
  • eich Lwfans Personol.

Mae gan wahanol bobl godau treth gwahanol, yn dibynnu ar eu hamgylchiadau.

Bob blwyddyn, mae Cyllid a Thollau EF yn anfon Rhybudd Codio. Mae hyn yn dweud wrthych beth yw eich cod treth a faint o dreth rydych wedi'i thalu.

Gallwch hefyd ddod o hyd i’ch cod treth ar eich slip cyflog. Mae fel arfer wedi ei wneud o ychydig rifau a llythyren.

Mae gan CThEF gyfres o fideos addysgiadol i’ch helpu i ddeall eich cod trethYn agor mewn ffenestr newydd sut mae’n effeithio ar eich tâl a sut i ddiweddaru eich manylion os ydynt wedi dyddio

Beth yw cod treth?

Sut caiff fy nghod treth ei gyfrifo?

Fel arfer, eich cod treth yw'r swm y gallwch ei ennill heb dalu treth, wedi'i rannu â 10, â llythyren wedi'i ychwanegu.

Er enghraifft:

Cod treth: 1257L

Daw 1257 yn £ 12,570 a enillir cyn treth.

Mae fy nghod treth yn dechrau â BR

Mae hyn yn golygu nad ydych yn cael eich lwfans personol sylfaenol di-dreth - felly mae'ch holl incwm yn cael ei drethu ar y gyfradd sylfaenol o 20%.

Gall hyn ddigwydd os nad oes gan eich cyflogwr yr holl wybodaeth sydd ei hangen, ac mae angen iddynt gyfrifo'ch cod treth.

Nid yw bob amCThEF wedi dyrannu eich lwfans personol yn erbyn un o'r rhain. 

Nid oes rhif ar fy nghod treth, neu mae’n dechrau â D ac yna rhif

Mae hyn fel arfer oherwydd bod gennych fwy nag un ffynhonnell incwm.

Defnyddir eich Lwfans Personol ar eich prif ffynhonnell incwm, ac rydych yn talu treth ar bopeth rydych yn ei ennill o'ch ail ffynhonnell incwm.

Er enghraifft, efallai y byddwch yn gweithio prif swydd yn ystod y dydd ac yn gwneud sifftiau mewn tafarn neu'n gweithio mewn ffatri â'r nos.

Os ydych yn ennill mwy na £12,570 y flwyddyn (ar gyfer 2024/25) yn eich prif swydd, bydd eich ail swydd yn cael ei threthu ar y gyfradd sylfaenol. Gall hyn hefyd fod yn berthnasol i bensiynau neu arian a delir gan fuddsoddiadau (difidendau). 

Mae fy nghod treth yn dechrau â K

Mae hyn yn golygu bod gennych dreth o'r gorffennol y mae rhaid i chi ei thalu o hyd, neu eich bod yn cael arian neu fudd-daliadau na ellir eu trethu cyn i chi ei dderbyn. Er enghraifft, Pensiwn y Wladwriaeth neu gar cwmni.

O hyn, gall eich cyflogwr weithio allan faint y dylid ei dalu tuag at yr hyn sy'n ddyledus gennych.

Ni fydd y swm rydych yn ei dalu byth yn fwy na hanner y swm rydych wedi'i ennill neu ei dderbyn yn ystod y cyfnod tâl. Ni waeth a yw hynny'n fisol, wythnosol neu gyfnod arall.

Nol i’r brig

Teclynnau defnyddiol

Nol i’r brig

Beth yw cod treth argyfwng?

Weithiau nid yw'ch cod treth yn iawn ar gyfer eich amgylchiadau ac efallai y rhoddir cod argyfwng i chi.

Mae cod treth argyfwng yn tybio mai dim ond y lwfans personol sylfaenol y mae gennych hawl iddo. Bydd yn golygu y byddwch yn talu treth ar eich holl incwm uwchlaw'r lwfans personol sylfaenol (£12,570 ar gyfer 2024/25).

Nid yw'n ystyried unrhyw lwfansau neu ostyngiadau a rhyddhadau y gallai fod gennych hawl iddynt.

Gall hyn olygu eich bod yn talu mwy o dreth nag y dylech fod am gyfnod byr.

Ar gyfer 2024/25, y codau treth brys yw:

  • 1257L W1
  • 1257L M1
  • 1257L X.

Efallai y cewch eich rhoi ar god treth argyfwng os:

  • rydych wedi dechrau swydd newydd
  • rydych wedi dechrau gweithio i gyflogwr ar ôl bod yn hunangyflogedig, neu
  • rydych yn cael budd-daliadau cwmni neu Bensiwn y Wladwriaeth.

Os yw'ch cod treth yn un o'r rhain, bydd Cyllid a Thollau EF yn ei ddiweddaru'n awtomatig. Ond gallai olygu na fydd eich cyflog yr un fath am fis neu ddau, felly byddwch yn ofalus â'ch cyllidebu.

Sut mae gwirio fy nghod treth?

Er mwyn sicrhau eich bod ar y cod treth cywir, gwiriwch fod eich cod yn cyfateb i'r Lwfans Personol y dylech fod yn ei gael

Gwiriwch eich Treth Incwm ar gyfer y flwyddyn ar wefan GOV.UK

Beth dylwn ei wneud os credaf fod fy nghod treth yn anghywir

Os ydych yn credu bod eich cod treth yn anghywir, neu os oes gennych unrhyw amheuaeth, cysylltwch â Chyllid a Thollau EF.

Mae'n bwysig eich bod yn rhoi'r holl wybodaeth maent yn gofyn amdani fel nad ydych yn dod i ben ar y cod treth anghywir ac yn talu gormod neu rhy ychydig o dreth

Mae manylion cyswllt Cyllid a Thollau EF (HMRC) ar wefan GOV.UK

Os ydych yn meddwl eich bod chi wedi talu gormod o dreth

Mae'n werth gwirio faint o dreth rydych wedi'i thalu ar eich cyflog.

Os credwch eich bod wedi gor-dalu treth, gallwch wirio os oes ad-daliad yn ddyledus i chi ar wefan GOV.UK
Neu, defnyddiwch gwiriwr treth ar-lein ar wefan GOV.UK

Yn ddibynnol ar eich amgylchiadau, efallai gallwch ofyn am ad-daliad gan ddefnyddio ffurflen, neu efallai byddwch angen cysylltu â ChThEF

Mae manylion cyswllt ChTHEF ar gael ar wefan GOV.UK

Os credwch nad ydych wedi talu digon o dreth

Os credwch nad ydych wedi talu digon o dreth, efallai y bydd rhaid i chi gwblhau ffurflen dreth.

Os mai dyma’r achos, mae terfynau amser hunanasesu arferol yn berthnasol.

I dalu swm hyd at £3,000 trwy addasiad i'ch cod treth ar gyfer y flwyddyn ganlynol, dylech ffeilio ffurflen erbyn 31 Rhagfyr yn dilyn diwedd y flwyddyn dreth.

Fel arall, mae rhaid talu treth sy'n dal yn ddyledus am y flwyddyn dreth ddiwethaf erbyn 31 Ionawr yn dilyn diwedd y flwyddyn dreth y cododd yr incwm.

Os credwch nad ydych wedi talu digon o dreth, cysylltwch â Chyllid a Thollau EF.

Efallai y gofynnir i chi lenwi ffurflen dreth. Byddwch yn ymwybodol os na wnewch hyn, fel arfer bydd rhaid i chi dalu cosb a llog pan ddaw'r tandaliad i'r goleuni.

I ddatrys tandaliad treth, mae manylion cyswllt ar gyfer CThEF ar wefan GOV.UK
Nol i’r brig

Beth yw'r gwahaniaeth rhwng cyflog gros a chyflog net?

Cyflog gros yw'r incwm a gewch cyn i unrhyw drethi a didyniadau gael eu tynnu. Eich tâl gros blynyddol yw'r hyn y cyfeirir ato'n aml fel eich cyflog blynyddol.

Cyflog net yw'r hyn sydd ar ôl ar ôl tynnu didyniadau fel treth incwm ac Yswiriant Gwladol. Dyma'r hyn y cyfeirir ato'n aml fel eich tâl mynd adref.

Gallwch weld beth oedd eich cyflog gros a faint sydd wedi'i dynnu (os rhywbeth) ar eich slip cyflog.

Nol i’r brig

Cadw eich slip cyflog

Mae'n bwysig cadw'ch slipiau cyflog mewn lle diogel. Dyma ein tri rheswm gorau pam:

  1. Diogelwch. Mae slipiau cyflog yn cynnwys llawer o wybodaeth bersonol amdanoch chi a'ch enillion, gan gynnwys eich rhif Yswiriant Gwladol. Dylech eu cadw'n ddiogel i helpu i'w hosgoi rhag cael eu defnyddio ar gyfer twyll hunaniaeth.
  2. Cadw cofnodion. Mae'n syniad da cadw cofnod o'ch holl enillion a thaliadau treth rhag ofn bod problem ac mae angen i chi wirio hen fanylion.
  3. Tystiolaeth o enillion. Ar gyfer rhai cynhyrchion ariannol, fel benthyciadau, efallai y gofynnir ichi brofi'ch enillion trwy ddangos eich tri slip cyflog diwethaf. 
Nol i’r brig

Cyfraddau cyflog gwahanol

A yw'ch cyflog yn amrywio, yn dibynnu ar ba mor hir neu pryd rydych yn gweithio? Yna bydd rhaid i'ch cyflogwr gynnwys manylion yr oriau y buoch yn gweithio yn ogystal â faint rydych wedi'i ennill ar eich slip cyflog.

Os ydych yn ennill gwahanol symiau ar gyfer gwahanol fathau o waith, bydd rhaid cynnwys ffigurau ar wahân ar gyfer y ddau ar eich slip cyflog.

Mae'r newid hwn i ddeddfwriaeth wedi'i anelu at weithwyr sy'n gweithio oriau amrywiol ac y mae eu cyflog yn newid yn unol â hynny. Bydd hyn yn ei gwneud yn gliriach os ydych yn cael eich talu o leiaf yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol.

Bydd gweithwyr contract dim oriau yn elwa'n arbennig o'r ddeddfwriaeth newydd hon.

Nol i’r brig

Problemau slip cyflog

Os nad ydych yn deall rhywbeth ar eich slip cyflog, neu gredu bod camgymeriad arno, siaradwch â rhywun yn adran gyflogres eich cwmni.

Nol i’r brig
Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Rhannu erthygl
E-bost Facebook Twitter
Rhannu hwn gyda
WhatsApp LinkedIn
Copio’r ddolen yma
Anfon e-bost
Copio’r ddolen yma
Cyflogaeth

Hanfodion cyflogaeth

  • Sut ydych chi’n cael eich talu yn y gwaith
  • Isafswm Cyflog Cenedlaethol
  • Gwahanol fathau o statws cyflogaeth
  • Deall eich slip cyflog
  • Tâl a buddion i weithwyr dros dro a gweithwyr asiantaeth
  • Esbonio Prentisiaethau
  • Contractau cyflogaeth ac egluro eich hawliau fel cyflogai
  • Coronafeirws, ffyrlo a bod yn cyflogai
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan

Hanfodion cyflogaeth

  • Sut ydych chi’n cael eich talu yn y gwaith
  • Isafswm Cyflog Cenedlaethol
  • Gwahanol fathau o statws cyflogaeth
  • Deall eich slip cyflog
  • Tâl a buddion i weithwyr dros dro a gweithwyr asiantaeth
  • Esbonio Prentisiaethau
  • Contractau cyflogaeth ac egluro eich hawliau fel cyflogai
  • Coronafeirws, ffyrlo a bod yn cyflogai
Logo Llywodraeth E.M

Darperir HelpwrArian gan:

Logo Gwasanaeth Arian a Phensiynau
Level AA conformance, W3C WAI Web Content Accessibility Guidelines 2.1 Clear English Standard for Websites logo
  • Amdanom ni
  • Cael help a chyngor
  • Cysylltu â ni
  • Partneriaethau
  • Offer a chyfrifianellau
  • Rhoi adborth
  • Cynllun Iaith Gymraeg
  • Blog

Dilynwch ni:

© 2023 Money and Pensions Service, 120 Holborn, London EC1N 2TD. Cedwir pob hawl.

  • Telerau ac amodau
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Datganiad hygyrchedd
  • Map safle
  • Sut rydym yn defnyddio cwcis
  • Dewisiadau cwcis Dewisiadau cwcis
Siaradwch â ni yn fyw am...
Cau
Siaradwch â ni yn fyw am...
Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio’r ffôn
  • O dramor: +44 20 7932 5780
  • I’r hunangyflogedig: 0345 602 7021*
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn – Sul:Wedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn
  • Cymraeg: 0800 138 0555*
  • Typetalk: 18001 0800 915 4622
  • O dramor: +44 20 3553 2279
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Blaenorol Cau

Blaenorol Cau

Blaenorol Cau

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun–Gwener8am-6pm
  • Sadwrn8am - 3pm
  • Sun and bank holidaysWedi cau
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun, Mercher, Gwener8.20am - 6.20pm
  • Tues, Thurs9am - 6.20pm
  • Sat, Sun and bank holidaysWedi cau
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion, cwestiynau credyd neu ganllaw pensiynau. Am bopeth arall, cysylltwch â ni trwy Wesgwrs neu dros y Ffôn.

Blaenorol Cau