Darganfyddwch ble i gael cymorth a chefnogaeth frys am ddim os ydych wedi rhedeg allan o arian, yn cael trafferth neu angen talu am gost annisgwyl.
Ble gallaf gael cymorth brys gydag arian a bwyd?
Help gyda bwyd a chostau hanfodol
Os nad oes gennych arian i dalu am fwyd a hanfodion, gall eich banc bwyd lleol rhoi cyflenwad ychydig ddiwrnodau o fwyd, talebau ar gyfer nwy a thrydan os ydych ar fesurydd rhagdaledig, nwyddau ymolchi ac eitemau babi.
Dilynwch y camau hyn i weithio allan beth sydd angen i chi ei wneud
Cael eich atgyfeirio i gael mynediad at fanc bwyd
Fel arfer bydd angen i chi gael eich atgyfeirio i fanc bwyd cyn y gallwch ei ddefnyddio. Gallwch gael atgyfeiriad gan:
- eich meddyg teulu neu ymwelwr iechyd
- eich gweithiwr cymorth
- eich cyngor lleol
- eich gweithiwr cymdeithasol
- elusen leol, fel Cyngor ar Bopeth
- yr heddlu, ac
- ysgol eich plentyn.
Gallwch gael atgyfeiriad am eich hunain ac unrhyw aelodau teulu rydych yn byw gyda nhw, gan gynnwys eich partner. Pan mae sefydliad yn eich atgyfeirio i fanc bwyd, byddent yn rhoi taleb i chi a’n dweud wrthych ble mae’r banc bwyd.
Dod o hyd i'ch sefydliad atgyfeirio agosaf:
- os ydych yn byw yn LloegYn agor mewn ffenestr newydd yn Cyngor ar Bopeth
- os ydych yn byw yng NghymruYn agor mewn ffenestr newydd yn Cyngor ar Bopeth
- os ydych yn byw yn Yr AlbanYn agor mewn ffenestr newydd yn Cyngor ar Bopeth Yr Alban
- os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon newyddYn agor mewn ffenestr newydd yn Advice NI
- yn eich cyngor lleolYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK.
Mynd i’r banc bwyd y cawsoch eich atgyfeirio ato
Gallwch gymryd y daleb i’r banc bwyd i’w gyfnewid am fwyd a hanfodion.
Os oes gennych daleb ond na allwch deithio, efallai gall eich banc bwyd agosaf anfon y nwyddau atoch. Cysylltwch â nhw i ddarganfod a yw hyn yn bosibl.
Mae gan rhai banciau bwyd derfyn ar y nifer o weithiau y gallwch ei ddefnyddio. Os ydych yn gweld eich hun yn dibynnu arnynt yn rhy aml, gallant eich helpu i ddod o hyd i gymorth arall.
Chwiliwch ar-lein i ddod o hyd i’ch banc bwyd agosaf:
- Independent Food Aid NetworkYn agor mewn ffenestr newydd ar gyfer rhestr o fanciau bwyd annibynol
- Trussel TrustYn agor mewn ffenestr newydd sy’n cynnal rhwydwaith o fanciau bwyd ledled y DU.
Mae ein blog Beth i’w wneud os na allwch fforddio bwyd hefyd yn esbonio ffyrdd i gael bwyd am ddim o archfarchnadoedd a phrydau am ddim
Darganfyddwch sut i gael arian argyfwng o’r llywodraeth
Sut i gael arian argyfwng o’r llywodraeth
Os ydych chi'n byw yn Lloegr ac na allwch fforddio bwyd neu hanfodion neu rydych wedi dioddef o drychineb fel tân neu lifogydd, gall eich cyngor lleol eich helpu. Nid oes angen i chi gael budd-daliadau, ond mae’n rhaid eich bod ar incwm isel.
Dilynwch y camau hyn i weithio allan beth sydd angen i chi ei wneud
Gwneud cais am y Gronfa Gymorth i Aelwydydd
Os ydych yn byw yn Lloegr, cysylltwch â’ch cyngor lleol i weld os gallwch wneud cais am y Gronfa Gymorth i Aelwydydd sy’n helpu pobl sy’n cael trafferth gyda biliau a threuliau bob dydd fel:
- biliau nwy neu drydan
- biliau rhyngrwyd neu ffôn symudol
- bwyd
- dillad
- costau teithio hanfodol fel trwsio car, prynu beic neu dalu am danwydd.
Os ydych yn byw yng Nghymru, gallwch wneud cais am help gyda hanfodion fel rhan o’r Gronfa Cymorth DewisolYn agor mewn ffenestr newydd ar wefan Llywodraeth Cymru.
Yng Nghymru a Lloegr, mae’r cynlluniau hyn wedi’u hymestyn i 2026 fel rhan o Gyllideb yr Hydref 2024. Mae cynlluniau ar wahân ar gael os ydych chi’n byw yn yr Alban neu Ogledd Iwerddon:
- Os ydych chi'n byw yn yr Alban, darganfyddwch fwy am y Scottish Welfare Fund ar wefan Llywodraeth yr AlbanYn agor mewn ffenestr newydd
- Os ydych chi'n byw yng Ngogledd Iwerddon, darganfyddwch fwy am y newidiadau i'r Gronfa Gymdeithasol yn nidirect
I ddod o hyd i’ch cyngor lleol rhowch eich cod post yn GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Gwneud cais am Gyngor Lles Lleol
Os ydych yn wynebu argyfwng fel peiriant golchi wedi torri neu mae angen help sydyn gyda bwyd, dillad a biliau ynni ac rydych yn fregus, efallai y bydd help lleol ar gael. Gelwir hyn yn gyngor lles lleol.
Os ydych yn gwneud cais, caiff benderfyniad ei wneud i ddarparu help neu beidio a bydd faint rydych yn ei gael yn dibynnu ar eich sefyllfa unigol.
- os ydych yn byw yn Lloegr, cysylltwch â’ch cyngor i weld a oes ganddynt gynllun cymorth lles a dod o hyd i help sydd ar gael yn eich ardal ar End Future PovertyYn agor mewn ffenestr newydd
- os ydych yn byw yn Yr Alban, darganfyddwch fwy am y Scottish Welfare FundYn agor mewn ffenestr newydd
- os ydych yn byw yng Nghymru, darganfyddwch fwy am y Gronfa Cymorth DdewisolYn agor mewn ffenestr newydd
- os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon, darganfyddwch fwy am Discretionary SupportYn agor mewn ffenestr newydd
Arian gan y llywodraeth os ydych yn barod yn cael budd-daliadau
Hyd yn oed os ydych yn barod yn cael budd-daliadau mae’n werth gwirio ddwywaith eich bod yn cael popeth y mae gennych hawl iddo.
Dilynwch y camau hyn i weithio allan beth sydd angen i chi ei wneud
Gwiriwch eich budd-daliadau
Efallai byddwch yn gymwys i gael budd-daliadau nad oeddech yn gwybod amdanynt.
- defnyddiwch ein Cyfrifiannell budd-daliadau i wirio pa fudd-daliadau y gallwch eu hawlio
- ar gyfer gwiriad budd-daliadau llawn gan arbenigwr yn agos atochYn agor mewn ffenestr newydd ewch i Advicelocal.
Cael Benthyciad Trefnu neu Daliad Cyllidebu Ymlaen Llaw
Os ydych yn cael Credyd Cynhwysol, mae yna gymorth argyfwng ar gael, yn dibynnu ar eich sefyllfa. Efallai y gallwch wneud cais am Daliad Cyllidebu Ymlaen Llaw neu Fenthyciad Trefnu. Gall Taliadau Cyllidebu Ymlaen Llaw neu Fenthyciadau Trefnu helpu i dalu am bethau fel:
- eitem untro, er enghraifft, newid oergell sydd wedi torri
- treuliau sy’n ymwneud â gwaith, er enghraifft, prynu gwisg neu offer
- treuliau annisgwyl
- atgyweiriadau i’ch cartref
- treuliau teithio
- treuliau mamolaeth
- treuliau angladd
- costau symud tŷ neu flaendal rhent
- eitemau hanfodol, fel dillad.
Mae ein canllaw Benthyciadau Trefnu a Thaliadau Cyllidebu Ymlaen Llaw yn eich helpu i ddarganfod sut mae’n gweithio, os ydych yn gymwys, a sut i wneud cais
Darganfyddwch help gyda chostau babi
Help gyda chostau babi
Os ydych yn poeni am sut i dalu am fformiwla, bwyd neu hyd yn oed cewynnau, mae yna help ar gael.
Dilynwch y camau hyn i weithio allan beth sydd angen i chi ei wneud
Ymunwch â chynlluniau Cychwyn Iach/Best Start Foods
Os ydych yn feichiog neu’n gofalu am o leiaf un plentyn o dan bedair oed, efallai y gallwch ymuno â’r cynllun Cychwyn IachYn agor mewn ffenestr newydd. Cerdyn sydd wedi’i lwytho gyda chredyd yw hwn a gallwch ei ddefnyddio mewn archfarchnadoedd tuag at:
- fformiwla a llaeth
- ffrwythau a llysiau.
Mae’r cerdyn yn cael ychwanegiad bob pedwar wythnos os ydych yn gymwys.
Yn Yr Alban, mae cynllun tebyg o’r enw Best Start FoodsYn agor mewn ffenestr newydd ar gyfer plant sydd o dan 3 oed.
Gallwch ddysgu am ragor o fudd-daliadau a hawliadau yn ein canllaw Pa fudd-daliadau gallaf eu hawlio pan fyddaf yn feichiog neu wedi cael babi?
Os yw eich plant yn yr ysgol, mae gennym flog am sut i gael prydau ysgol am ddim
Cael atgyfeiriad i ddefnyddio eich banc babi lleol
Os ydych yn cael trafferth i gael yr hanfodion ar gyfer eich babi, gall banc babi helpu. Gallant gynnig:
- offer babi
- dillad a nwyddau ymolchi
- fformiwla a llaeth
- bwyd babi
- cewynnau, a chadachau
- deganau.
Mae gan bob banc rheolau eu hunain ond fel arfer bydd angen cael atgyfeiriad i gael mynediad gan:
- bydwraig
- gweithiwr cymorth teulu
- ymwelwr iechyd
- banc bwyd
- gweithiwr cymdeithasol, neu
- ganolfan plant.
Gallwch ddod o hyd i’ch banc babi lleol gan:
- chwilio ar-lein
- gofyn i wasanaethau atgyfeirio
- defnyddio’r map rhyngweithiol ar Little VillageYn agor mewn ffenestr newydd
- defnyddio eich cod post ar NetmumsYn agor mewn ffenestr newydd.
Darganfyddwch help os ydych mewn perygl sydyn o ddigartrefedd
Help os ydych mewn perygl sydyn o ddigartrefedd
Mae yna sawl sefydliad a all eich helpu, gan gynnwys eich cyngor lleol. Cysylltwch â nhw os gallwch fod mewn perygl o ddigartrefedd.
Dilynwch y camau hyn i weithio allan beth sydd angen i chi ei wneud
Cael help nawr
Os ydych yn cael eich bygythio gyda gorchymyn troi allan ac angen help argyfwng, cysylltwch â:
Cael cyngor o’ch Advicelocal agosaf
Gallwch hefyd gael cyngor diduedd ac am ddim o’ch Advicelocal agosaf i helpu gyda phroblemau gyda’ch:
- budd-daliadau
- treth cyngor
- tai
- cyflogaeth
- anabledd a gofal cymdeithasol, a
- lloches a mewnfudo.
Rhowch god post ar AdvicelocalYn agor mewn ffenestr newydd a dewiswch bwnc cyngor i ddod o hyd i ddolenni at wybodaeth sydd wedi’i theilwra ar gyfer eich ardal chi
Darganfyddwch help os ydych yn profi cam-drin domestig neu ariannol
Help os ydych yn profi cam-drin domestig neu ariannol
Os nad ydych mewn perygl sydyn, mae yna lawer o sefydliadau a all rhoi help a chyngor i chi
Dilynwch y cam hwn i weithio allan beth sydd angen i chi ei wneud
Cael help a chyngor
- Dewch o hyd i restr o sefydliadau a all rhoi help a chyngor i chi yn ein canllaw Cam-drin ariannol: adnabod yr arwyddion a gadael yn ddiogel.
- Darganfyddwch sut i wahanu eich cyllid, parhau i wneud taliadau hanfodol ac agor cyfrifon newydd yn eich enw chi yn ein canllaw Cymryd rheolaeth yn ôl ar ôl cam-drin ariannol.
- Os ydych wedi methu taliadau a’n cael trafferth gyda dyledion o ganlyniad i gam-drin ariannol, dewch o hyd i’ch gwasanaeth dyled lleol gyda’n teclyn lleolwr cyngor ar ddyledion.
Os ydych chi neu’ch plant mewn perygl sydyn, deialwch 999 i ffonio’r heddlu.
Os na allwch siarad, deialwch 999 ac yna 55
Darganfyddwch grantiau a help arall
Grantiau a help arall
Cael mwy o arian gan elusennau lleol neu’ch undeb credyd lleol. Gallwch gael help gyda threuliau sy’n ymwneud â swydd a dod o hyd i gymorth ar gyfer eich iechyd meddwl.
Dilynwch y camau hyn i weithio allan beth sydd angen i chi ei wneud
Elusennau a sefydliadau lleol
Os ydych ar incwm isel, efallai y gallwch gael arian ychwanegol gan elusennau a sefydliadau lleol, na fydd angen i chi ei dalu’n ôl.
- Defnyddiwch declyn chwilio am grantiau ar Turn2US i ddod o hyd i elusennau a all helpu
- Cofrestrwch am Borth Lightning Reach i ddod o hyd i a gwneud cais am gymorth gan sawl ddarparwr.
- Gwiriwch a ydych yn gymwys i gael biliau dŵr rhatach. Dysgwch sut i wneud cais am dariff cymdeithasol gyda'ch cwmni dŵr:
- os ydych yng Nghymru neu Loegr, gwnewch gais am dariff cymdeithasol gan y Consumer Council for Water (CCW)Yn agor mewn ffenestr newydd
- os ydych yn yr Alban, gwnewch gais am dariff cymdeithasol ar Turn2UsYn agor mewn ffenestr newydd
- os ydych yng Ngogledd Iwerddon, ni fyddwch yn talu costau dŵr ond gallwch ofyn am help ychwanegol gan Gofrestr Gofal Cwsmer y Consumer CouncilYn agor mewn ffenestr newydd
Gwneud cais i’ch undeb gredyd lleol
Os oes angen i chi fenthyg arian yn gyflym, gallwch wneud cais i’ch undeb credyd lleol i ddarganfod pa fathau o fenthyciadau a chyfraddau llog sydd ar gael. Gall ein canllaw Benthyg gan undeb credyd eich helpu i ddarganfod sut mae’n gweithio a sut i ddod o hyd i un.
Cysylltwch â llinell gymorth Help through Hardship
Os ydych chi'n poeni am arian ac yn cael trafferth fforddio hanfodion:
- os ydych yn byw yng Nghymru a Lloegr, gallwch ffonio llinell gymorth Help through HardshipYn agor mewn ffenestr newydd. Mae’n wasanaeth ffôn rhad ac am ddim sy’n cael ei redeg gan Ymddiriedolaeth Trussell a Chyngor ar Bopeth
- os ydych yn byw yn yr Alban, gallwch gael cymorth gan Food Aid NetworkYn agor mewn ffenestr newydd, neu
- gall Advice NI helpuYn agor mewn ffenestr newydd, os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon.
Help gyda chostau wrth chwilio am swydd neu ddechrau gwaith
Os ydych yn chwilio am swydd a’n cael Credyd Cynhwysol, gofynnwch eich anogwr gwaith sut y gallant eich cefnogi. Gall y Gronfa Cymorth Ddewisol eich helpu i dalu am:
- ddillad gwaith
- costau teithio a thanwydd
- offer arbenigol, a
- chostau gofal plant.
Darganfyddwch fwy am y Gronfa Gymorth Ddewisol ar Turn2UsYn agor mewn ffenestr newydd
Help os ydych yn cael trafferth gyda’ch iechyd meddwl
Gall problemau arian ddod yn llethol yn gyflym gan effeithio ar eich iechyd meddwl. Gall ein canllaw Problemau ariannol a lles meddyliol eich helpu:
- i ddelio â dyled
- darganfyddwch beth i’w wneud os ydych yn meddwl eich bod wedi cael eich trin yn annheg gan gredydwr
- i ddarganfod sut i reoli eich arian os ydych yn yr ysbyty
- i gael rhywun i’ch helpu i reoli eich arian
- i ddarganfod pa fudd-daliadau y gallwch fod yn gymwys iddynt os oes gennych iechyd meddwl gwael
- darganfyddwch ble i gael help os ydych yn cael trafferth gyda’ch iechyd meddwl.
Darganfyddwch ble i gael cyngor cyfreithiol am ddim
Ble gallaf gael cyngor cyfreithiol am ddim?
Mae yna lawer o ffyrdd y gallwch gael cyngor cyfreithiol am ddim neu gymorth yn y llys
Dilynwch y camau hyn i weithio allan beth sydd angen i chi ei wneud
Advicelocal
Mae gan Advicelocal restr estynedig o ble i gael cyngor cyfreithiol am ddimYn agor mewn ffenestr newydd gan asiantaeth cyngor annibynnol lleol a chenedlaethol. Mae’n cynnwys:
- budd-daliadau lles
- tai
- cyflogaeth
- Treth Cyngor
- lloches a mewnfudo.
Law Centres Network
Mae gan y Law Centres Network gyfeiriadur o ganolfannau cyfraithYn agor mewn ffenestr newydd lleol yn Lloegr ar gyfer pobl na all fforddio cyfreithiwr. Mae yna hefyd gyfeiriadur o wasanaethau cyngor cyfreithiol eraill os nad oes ganolfan cyfraith yn eich ardal.
Ydych chi wedi methu taliad?
Os felly, nawr yw’r amser i gael cyngor ar ddyledion
-
Mae am ddim ac yn gyfrinachol
-
Yn rhoi gwell ffyrdd i chi reoli eich dyledion a’ch arian
-
Yn sicrhau eich bod yn hawlio’r holl fudd-daliadau a hawliadau cywir