Got a pension question? Our help is impartial and free to use. Get in touch online or over the phone on 0800 011 3797
Cau
Skip to content
Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo
English
  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
  • Credyd Cynhwysol

    Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad

    Budd-daliadau os oes gennych blant

    Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant

    Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr

    Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd

    Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd

    Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth

    Budd-daliadau a gwaith

    Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd

    Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai

    Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel

    Problemau gyda budd-daliadau

    Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau

    Budd-daliadau

    Pob canllaw Budd-daliadau

    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn Llywio Ariannol

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Bancio a thaliadau

    Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc

    Cyllidebu

    Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian

    Prynu a rhedeg car

    Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg

    Credyd

    Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd

    Yswiriant

    Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant

    Arian bob dydd

    Pob canllaw Arian bob dydd

    Teclynnau

    Teclyn

    Cymharu cyfrifon banc

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Dod yn rhiant

    Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant

    Marwolaeth a phrofedigaeth

    Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau

    Ysgariad a gwahanu

    Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu

    Salwch ac anabledd

    Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio

    Gofal tymor hir

    Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal

    Arian myfyrwyr a graddedigion

    Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr

    Siarad am arian

    Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid

    Teulu a gofal

    Pob canllaw Teulu a gofal

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Prynu tŷ

    Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth

    Rhentu

    Rhentu cartref i fyw ynddo, rhentu cartref, a goresgyn problemau

    Cartrefi

    Pob canllaw Cartrefi

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Help gyda chostau byw

    Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi

    Delio â dyled

    Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion

    Problemau a chwynion am arian

    Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion

    Sgamiau

    Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan

    Problemau ariannol

    Pob canllaw Problemau ariannol

    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Ymrestru awtomatig

    Cyflwyniad, sut mae’n gweithio, popeth am gyfraniadau

    Adeiladu eich cronfa bensiwn

    Faint rydych ei angen, ffyrdd i adeiladu'ch cronfa, trosglwyddo ac uno

    Hanfodion pensiwn

    Dechrau pensiwn, mathau o bensiwn, deall pensiynau

    Problemau pensiwn

    Cwynion, cymorth ariannol pan wedi ymddeol, newidiadau i gynlluniau

    Pensiwn y Wladwriaeth

    Sut mae’n gweithio, beth allech chi ei gael, Yswiriant Gwladol

    Cymryd eich pensiwn

    Ffyrdd o dynnu eich pensiwn, pryd allwch chi ymddeol, apwyntiadau Pension Wise

    Treth a phensiynau

    Lwfansau treth, treth a delir ar bensiynau, rhyddhad treth

    Pensiynau ac ymddeoliad

    Pob arweiniad, gan gynnwys sut i ddefnyddio'r gwasanaeth Pension Wise

    Teclynnau

    Apwyntiad

    Trefnwch apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Darganfyddwch ymgynghorydd ymddeoliad

    POB TECLYN

    Trefnwch eich apwyntiad Pension Wise am ddim

    Dros 50 oed? Cewch arweiniad diduedd, am ddim o’n gwasanaeth sydd wedi’i gefnogi gan y llywodraeth. Byddwn yn esbonio’r opsiynau i gymryd arian o’ch cron…

  • Sut i gynilo

    Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau

    Buddsoddi

    Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli

    Math o gynilion

    Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant

    Cynilion

    Pob canllaw Cynilion

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Cyflogaeth

    Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol

    Colli eich swydd

    Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo

    Hunangyflogaeth

    Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad

    Gwaith

    Pob canllaw Gwaith

    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
  • Credyd Cynhwysol Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad
    Budd-daliadau os oes gennych blant Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant
    Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd
    Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth
    Budd-daliadau a gwaith Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd
    Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel
    Problemau gyda budd-daliadau Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau
    Budd-daliadau Pob canllaw Budd-daliadau
    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn Llywio Ariannol

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Bancio a thaliadau Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc
    Cyllidebu Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian
    Prynu a rhedeg car Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg
    Credyd Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd
    Yswiriant Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant
    Arian bob dydd Pob canllaw Arian bob dydd
    Teclynnau

    Teclyn

    Cymharu cyfrifon banc

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Dod yn rhiant Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant
    Marwolaeth a phrofedigaeth Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau
    Ysgariad a gwahanu Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu
    Salwch ac anabledd Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio
    Gofal tymor hir Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal
    Arian myfyrwyr a graddedigion Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr
    Siarad am arian Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid
    Teulu a gofal Pob canllaw Teulu a gofal
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Prynu tŷ Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth
    Rhentu Rhentu cartref i fyw ynddo, rhentu cartref, a goresgyn problemau
    Cartrefi Pob canllaw Cartrefi
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Help gyda chostau byw Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi
    Delio â dyled Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion
    Problemau a chwynion am arian Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion
    Sgamiau Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan
    Problemau ariannol Pob canllaw Problemau ariannol
    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Ymrestru awtomatig Cyflwyniad, sut mae’n gweithio, popeth am gyfraniadau
    Adeiladu eich cronfa bensiwn Faint rydych ei angen, ffyrdd i adeiladu'ch cronfa, trosglwyddo ac uno
    Hanfodion pensiwn Dechrau pensiwn, mathau o bensiwn, deall pensiynau
    Problemau pensiwn Cwynion, cymorth ariannol pan wedi ymddeol, newidiadau i gynlluniau
    Pensiwn y Wladwriaeth Sut mae’n gweithio, beth allech chi ei gael, Yswiriant Gwladol
    Cymryd eich pensiwn Ffyrdd o dynnu eich pensiwn, pryd allwch chi ymddeol, apwyntiadau Pension Wise
    Treth a phensiynau Lwfansau treth, treth a delir ar bensiynau, rhyddhad treth
    Pensiynau ac ymddeoliad Pob arweiniad, gan gynnwys sut i ddefnyddio'r gwasanaeth Pension Wise
    Teclynnau

    Apwyntiad

    Trefnwch apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Darganfyddwch ymgynghorydd ymddeoliad

    POB TECLYN

    Trefnwch eich apwyntiad Pension Wise am ddim

    Dros 50 oed? Cewch arweiniad diduedd, am ddim o’n gwasanaeth sydd wedi’i gefnogi gan y llywodraeth. Byddwn yn esbonio’r opsiynau i gymryd arian o’ch cron…

  • Sut i gynilo Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau
    Buddsoddi Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli
    Math o gynilion Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant
    Cynilion Pob canllaw Cynilion
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Cyflogaeth Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol
    Colli eich swydd Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo
    Hunangyflogaeth Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad
    Gwaith Pob canllaw Gwaith
    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

Home
English
  1. Hafan
  2. Arian bob dydd
  3. Bancio a thaliadau
Arian bob dydd Bancio a thaliadau

Sut i agor, newid a chau cyfrif banc

Mae cyfrif banc yn hanfodol i'r rhan fwyaf o bobl, gan wneud rheoli eich arian bob dydd yn ddiogel ac yn syml. Rydym yn ymdrin â hanfodion bancio, gan gynnwys sut i newid cyfrif banc a'r ffioedd cyffredin i gadw llygad amdanynt.


Cyfrifon banc wedi’u hegluro

Sut i agor cyfrif banc

Sut i newid neu gau cyfrif banc

Cyfrifon banc wedi’u hegluro

Mae cyfrifon cyfredol yn caniatáu i chi wneud a derbyn taliadau, fel talu biliau, tynnu arian allan neu gael eich cyflog wedi’i dalu. Yma rydym yn egluro hanfodion bancio, termau allweddol ac yn tynnu sylw at y ffioedd a'r taliadau i wylio amdanynt.

Cip olwg ar y nodweddion allweddol

Dyma beth mae'r holl dermau yn ei olygu:

  • cerdyn debyd – yn gadael i chi wario ar-lein neu mewn siopau, a thynnu arian allan mewn peiriannau arian parod 

  • trosglwyddiad banc – yn gadael i chi symud arian rhwng eich cyfrifon neu dalu rhywun arall

  • archeb sefydlog – trosglwyddiad banc rydych chi am ei ailadrodd, fel talu rhent neu symud arian i gyfrif cynilo  

  • debyd uniongyrchol – yn gadael i gwmnïau gymryd arian sy'n ddyledus gennych ar ddyddiad penodol, fel arfer ar gyfer biliau fel ynni neu ffonau symudol

  • gorddrafft – yn gadael i chi wario mwy nag sydd gennych, ond byddwch fel arfer yn talu llog bob tro y byddwch yn ei ddefnyddio

  • bancio ar-lein a symudol – yn rhoi mynediad diogel i chi i'ch cyfrifon 24/7 

  • bancio cangen neu swyddfa bost – os ydych am reoli eich arian yn bersonol. 

Y ffordd orau i reoli cyfrif cyfredol

Mae cyfrif banc a reolir yn dda yn aml yn gwneud eich bywyd yn haws. Gall hefyd wella eich sgôr credyd, gan eich gwneud yn fwy tebygol o gael y cynhyrchion gorau.

Dyma rai o’r prif awgrymiadau:

  • gwiriwch eich balans yn aml – gwnewch yn siwr bod gennych ddigon o arian ar gael ar gyfer gwariant a thaliadau (gallai tâl gael ei godi arnoch os na wnewch hyn)

  • gwiriwch y trafodion a rhowch wybod am unrhyw beth nad ydych yn ei adnabod yn gyflym – byddwch fel arfer yn cael ad-daliad os yw'n dwyll 

  • os ydych yn defnyddio eich gorddrafft, cael gwybod sut y byddwch yn ad-dalu – bydd ei glirio cyn gynted â phosibl yn lleihau taliadau llog

  • os ydych yn credu y byddwch yn methu taliad, gofynnwch i'r darparwr rydych yn ei dalu am help – byddant yn gwrando ac yn darparu ffyrdd i'ch cefnogi. Gweler siarad siarad â'ch credydwr am help.

Ydych chi wedi methu taliad?

Defnyddiwch ein Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion i  ddod o hyd i gyngor ar ddyled cyfrinachol am ddim ar-lein, dros y ffôn neu'n agos i ble rydych yn byw. 

Ffioedd banc a thaliadau i gadw llygad amdanynt

Mae'r rhain yn amrywio fesul banc, ond dyma'r prif rai i'w gwirio:

os ydych yn gwario mwy nag sydd gennych chi:

  • llog dyddiol ar gyfer defnyddio gorddrafft - yn aml hyd at 40% APR (cyfradd ganrannol flynyddol) nes ei dalu'n ôl

  • ffi os nad oes gennych ddigon o arian i dalu am daliad – a elwir fel arfer yn ffi trafodiad heb ei dalu. 

defnyddio eich cerdyn debyd dramor: 

  • ffi cyfnewid tramor, yn aml tua 3% o swm y trafodiad

  • ffi gwario neu beiriant arian parod, fel arfer rhwng £1 a £3 bob tro y byddwch yn defnyddio'ch cerdyn (ac eithrio Ewros yn yr UE).

Efallai y bydd banciau hefyd yn codi tâl am rai ceisiadau, fel trosglwyddo symiau mawr iawn o arian neu gael copïau o gyfriflenni. 

Edrychwch ar gyfrifon cyfredol gwahanol yn seiliedig ar eu ffioedd a'u taliadau.

Diogelu eich hun rhag twyll a sgamiau

Mae banciau'n defnyddio technoleg uwch i gadw'ch cyfrif yn ddiogel, fel adnabod wyneb i gael mynediad i'ch ap bancio symudol. Ond mae yna lawer o sgamiau ar-lein a ffôn i wylio allan amdanynt.

Y nod yw eich cael i rannu cyfrineiriau a manylion sensitif eraill fel y gall twyllwyr ddwyn o'ch cyfrif.

I helpu, dilynwch y rheolau hyn:

  • peidiwch byth â rhannu cyfrineiriau na manylion mewngofnodi bancio ar-lein gydag unrhyw un – gan gynnwys dros y ffôn a thrwy neges destun neu e-bost 

  • os yw'ch banc yn cysylltu â chi ar hap gallai fod yn sgamiwr – i fod yn ddiogel, rhowch y ffôn i lawr a'u ffonio yn ôl ar y rhif sydd wedi'i argraffu ar eich cerdyn.

  • dylech bob amser allgofnodi o sesiynau bancio ar-lein.

Darllenwch fwy yn ein canllaw i ddechreuwyr ar sgamiau.

Gallwch gwyno os nad ydych yn hapus

Os yw'ch banc yn gwneud camgymeriad neu os ydych yn anhapus gyda rhywbeth y maent wedi'i wneud, dilynwch y camau hyn:

  1. Cysylltwch â gwasanaethau cwsmeriaid a gofyn iddynt unioni pethau – os na allwch gytuno ar ddatrysiad, yna

  2. Gwnewch gwyn ffurfiol - mae ganddynt wyth wythnos i ymchwilio a rhoi ymateb terfynol. Os ydych yn parhau i anghytuno, neu os yw'r amserlen wedi mynd heibio, gallwch

  3. Fynd â'ch cwyn i Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol am ddim – fe gewch benderfyniad annibynnol ynghylch a oedd ymateb y cwmni yn deg neu a oes angen iddynt wneud mwy.

Am fwy o wybodaeth, gweler ein canllaw Hawlio iawndal os ydych wedi dioddef cam-werthu.

Oedd y wybodaeth yma yn ddefnyddiol?

Diolch am eich adborth.

Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Nol i’r brig

Sut i agor cyfrif banc

Mae agor cyfrif cyfredol fel arfer yn broses syml, ond yn aml mae angen i chi gael rhai mathau o brawf adnabod a phrawf cyfeiriad. Dyma bopeth sydd angen i chi ei wybod.

Cymharu cyfrifon

Mae yna lawer o opsiynau i ddewis ohonynt, gan gynnwys banciau stryd fawr gyda changhennau, banciau ar-lein yn unig, cyfrifon gyda manteision fel arian yn ôl a chyfrifon banc sylfaenol.

I helpu, mae ein teclyn cymharu cyfrifon banc yn eich galluogi i weld nodweddion, ffioedd a thaliadau cyfrif. Neu mae gennym gymorth cam wrth gam o ran sut i ddewis cyfrif banc.

Os ydych yn gweld bod adolygiadau cyfrif cyfredol yn ddefnyddiol, gweler:

  • Which? bank account guidesYn agor mewn ffenestr newydd 

  • MoneySavingExpert’s best bank accountsYn agor mewn ffenestr newydd

Os ydych chi'n byw yng Ngogledd Iwerddon, rhowch gynnig ar y Consumer Council’s Current Account Comparison TableYn agor mewn ffenestr newydd

Gwiriwch y meini prawf cymhwysedd

Wrth wneud eich rhestr fer o gyfrifon, mae'n bwysig gwirio eich bod yn gallu gwneud cais. Fel arfer mae angen i chi fod yn 18 oed neu'n hŷn ac yn breswylydd yn y DU, er y gallai fod angen i chi wneud y canlynol:

  • talu i mewn isafswm bob mis

  • ennill cyflog penodol

  • talu ffi fisol 

  • cael hanes credyd da

  • bod yn berchen ar ffôn clyfar.

Os ydych chi ar ôl banc y gallwch ymweld ag ef yn bersonol, mae'n werth sicrhau bod eich cangen leol yn agor ar adegau cyfleus.

Myfyriwr? Gweler Cyfrifon banc Myfyrwyr a Graddedigion. 

Dan 18? Gweler Cyfrifon banc gorau i blant gan MoneySavingExpertYn agor mewn ffenestr newydd

Gweld pa ID rydych ei angen

Bydd y rhan fwyaf o fanciau yn gofyn am drwydded yrru neu basbort i brofi pwy ydych chi - neu lun os ydych yn gwneud cais ar-lein, yn aml ynghyd â hunlun.

Os nad oes gennych y rhain, gwiriwch a fyddant yn derbyn dogfennau diweddar eraill (fel arfer o dan dri mis oed) fel:

  • bil Treth Cyngor

  • bil cyfleustodau, fel nwy neu drydan

  • cyfriflen banc neu gymdeithas adeiladu

  • datganiad cardiau credyd

  • llythyr neu ddatganiad treth CThEM

  • datganiad morgais

  • cytundeb tenantiaeth

  • datganiad budd-dal neu bensiwn y wladwriaeth

  • llythyr gan eich cyflogwr, coleg neu ddarparwr hyfforddiant.

Mae hefyd yn werth cofrestru i bleidleisioYn agor mewn ffenestr newydd gan fod rhai banciau yn defnyddio hyn fel rhan o'u gwiriadau.

Os nad oes gennych y dogfennau cywir, gallech ystyried cyfrif cerdyn rhagdaledig yn lle hynny, lle nad oes angen ID fel arfer.

Gwneud cais - fel arfer bydd angen i chi basio gwiriad credyd

Yn dibynnu ar y cyfrif rydych wedi'i ddewis, gallwch wneud hyn fel arfer:

  • ar-lein

  • drwy ddefnyddio ap

  • dros y ffôn 

  • yn bersonol.

Gwnewch yn siwr nad oes unrhyw gamgymeriadau ar y ffurflen oherwydd gall camgymeriadau arwain at oedi neu geisiadau yn cael eu gwrthod.

Fel arfer, bydd y banc yn cynnal gwiriad credyd i weld eich hanes credyd, gan gynnwys a ydych wedi cael problemau talu arian yn ôl. Mae'n syniad da gwirio bod eich ffeil credyd mewn cyflwr da cyn gwneud cais, gweler sut i wella eich sgôr credyd.

Byddwch wedyn yn cael gwybod os ydych wedi cael eich derbyn neu eich gwrthod. Os cewch eich gwrthod am gyfrif safonol, efallai y cewch gynnig cyfrif banc sylfaenol yn ei le - nid yw'r rhain yn codi ffioedd nac yn cynnig gorddrafftiau. 

Oedd y wybodaeth yma yn ddefnyddiol?

Diolch am eich adborth.

Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Nol i’r brig

Sut i newid neu gau cyfrif banc

Gallwch ddewis cau cyfrif neu newid banc ar unrhyw adeg. Mae newid fel arfer yn hawdd iawn, gyda'ch holl daliadau yn cael eu symud drosodd yn awtomatig i chi. Dyma bopeth sydd angen i chi ei wybod.

Defnyddio'r Gwasanaeth Newid Cyfrif Cyfredol (CASS)

Wrth agor cyfrif newydd, gofynnir i chi fel arfer a ydych am newid o gyfrif sy'n bodoli eisoes – neu gallwch ei wneud yn nes ymlaen. Bydd rhai banciau hyd yn oed yn cynnig pethau rhad ac am ddim os gwnewch hyn.

I ofyn i newid, byddwch angen:

  • rhoi rhifau eich cyfrif a cherdyn debyd

  • dewis dyddiad i'w gwblhau – mae'n cymryd saith diwrnod gwaith 

Yna bydd CASS yn gofalu am y gweddill, gan gynnwys:

  • trosglwyddo Debydau Uniongyrchol ac archebion sefydlog

  • symud eich balans

  • ailgyfeirio taliadau sy'n dod i mewn, fel budd-daliadau neu gyflogau 

  • cau eich hen gyfrif

Os bydd unrhyw beth yn mynd o'i le, byddwch yn cael eich ad-dalu unrhyw log a thaliadau ar eich hen gyfrifon a'ch cyfrifon newydd. Gweler y gwarant newid Cyfrif CyfredolYn agor mewn ffenestr newydd

Newid gyda gorddrafft

Fel rhan o'r cais am newid, fel arfer fe ddangosir i chi a fydd y banc newydd yn cynnig gorddrafft i chi.  Os yw hyn yn cwmpasu'r hyn sy'n ddyledus gennych, bydd yr arian yn cael ei anfon i'ch hen fanc a bydd balans y gorddrafft yn ddyledus ar y cyfrif newydd yn lle. 

Os yw'n swm is, neu os na allwch gael un, bydd angen i chi drefnu i dalu'r gweddill ar wahân cyn y gallwch newid neu gau'ch hen gyfrif.

Am help i glirio gorddrafft, gweler canllaw MoneySavingExpert i dorri costau gorddrafftYn agor mewn ffenestr newydd

Os ydych ond eisiau cau, cysylltwch â'ch banc

Mae cau cyfrif fel arfer yn syml, dim ond gofyn i'r banc sydd yn rhaid i chi. Fel arfer, gallwch ofyn am hyn:

  • ar-lein

  • dros y ffôn neu sgwrs fyw

  • yn bersonol.

Os ydych yn defnyddio'ch gorddrafft, bydd yn rhaid i chi ei dalu'n ôl cyn y gallwch gau'ch cyfrif. Byddwch yn colli mynediad at ddatganiadau, felly gwnewch yn siwr bod gennych gopïau os ydych eu hangen.

Oedd y wybodaeth yma yn ddefnyddiol?

Diolch am eich adborth.

Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Nol i’r brig
Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Rhannu erthygl
E-bost Facebook Twitter
Rhannu hwn gyda
WhatsApp LinkedIn
Copio’r ddolen yma
Anfon e-bost
Copio’r ddolen yma
Logo Llywodraeth E.M

Darperir HelpwrArian gan:

Logo Gwasanaeth Arian a Phensiynau
Level AA conformance, W3C WAI Web Content Accessibility Guidelines 2.1 Clear English Standard for Websites logo
  • Amdanom ni
  • Cael help a chyngor
  • Cysylltu â ni
  • Partneriaethau
  • Offer a chyfrifianellau
  • Rhoi adborth
  • Cynllun Iaith Gymraeg
  • Blog

Dilynwch ni:

© 2023 Money and Pensions Service, 120 Holborn, London EC1N 2TD. Cedwir pob hawl.

  • Telerau ac amodau
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Datganiad hygyrchedd
  • Map safle
  • Sut rydym yn defnyddio cwcis
  • Dewisiadau cwcis Dewisiadau cwcis
Siaradwch â ni yn fyw am...
Cau
Siaradwch â ni yn fyw am...
Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio’r ffôn
  • O dramor: +44 20 7932 5780
  • I’r hunangyflogedig: 0345 602 7021*
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn – Sul:Wedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn
  • Cymraeg: 0800 138 0555*
  • Typetalk: 18001 0800 915 4622
  • O dramor: +44 20 3553 2279
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Blaenorol Cau

Blaenorol Cau

Blaenorol Cau

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun–Gwener8am-6pm
  • Sadwrn8am - 3pm
  • Sun and bank holidaysWedi cau
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun, Mercher, Gwener8.20am - 6.20pm
  • Tues, Thurs9am - 6.20pm
  • Sat, Sun and bank holidaysWedi cau
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion, cwestiynau credyd neu ganllaw pensiynau. Am bopeth arall, cysylltwch â ni trwy Wesgwrs neu dros y Ffôn.

Blaenorol Cau