Gallech ystyried cyfrif banc sylfaenol heb ffi os nad oes gennych gyfrif banc neu os na ydych yn gymwys am gyfrif banc safonol. Gallwch ei ddefnyddio i dderbyn arian a thalu biliau, ond nid yw’n caniatáu i chi ddefnyddio gorddrafft. Mae'n werth gwybod a allech fod yn gymwys i gael un, pa ddogfennau sydd eu hangen arnoch i agor un, a sut i'w defnyddio.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Cyfrifon banc sylfaenol heb ffi
- A allaf agor cyfrif banc sylfaenol heb ffi?
- Beth rwyf ei angen i agor cyfrif banc sylfaenol heb ffi?
- Pan efallai gaiff eich cais i gael cyfrif banc sylfaenol heb ffi ei wrthod
- Beth i'w wneud os na allwch gael cyfrif banc sylfaenol di-ffi
- Pwy sy’n cynnig cyfrifon banc sylfaenol heb ffi?
- Faint mae cyfrif banc sylfaenol heb ffi yn ei gostio?
- Sut i ddewis cyfrif banc sylfaenol heb ffi
- Pryd ellir cau eich cyfrif banc sylfaenol heb ffi
- Os ydych chi am gwyno am y gwasanaeth rydych wedi’i dderbyn
- Canllawiau wedi’u hargraffu am ddim
Cyfrifon banc sylfaenol heb ffi
Mae cyfrifon banc sylfaenol heb ffi ar gyfer pobl sydd heb gyfrif banc neu sydd ddim yn gymwys am gyfrif cyfredol sylfaenol.
Gallai hyn fod oherwydd nad ydych wedi cronni digon o hanes credyd neu efallai bod gennych hanes credyd gwael yn sgil problemau ariannol ac yn dymuno defnyddio cyfrif banc sylfaenol heb ffi hyd nes i chi fod yn gymwys unwaith eto am gyfrif cyfredol arferol.
Mae cyfrifon banc sylfaenol heb ffi yn cynnig llai o wasanaethau na chyfrif cyfrif cyfredol arferol ac ni allwch ddefnyddio gorddrafft, ac ni chewch lyfr siec. Ond gallwch:
- drefnu bod eich cyflog, eich budd-daliadau, ac unrhyw incwm arall yn cael eu talu i’ch cyfrif
- talu arian a sieciau i mewn am ddim - cyn belled nad ydynt mewn arian tramor
- codi arian dros y cownter neu o beiriant arian parod
- talu biliau rheolaidd trwy Ddebyd Uniongyrchol neu archeb sefydlog
- gwirio balansau’r cyfrif dros y cownter, wrth beiriant arian parod, ar-lein neu ar eich ffôn symudol
- defnyddio cerdyn debyd i dalu am bethau mewn siopau ac ar-lein
A allaf agor cyfrif banc sylfaenol heb ffi?
Mae’n rhaid i chi fod yn o leiaf 16 oed
Mae’n rhaid i chi fod yn 16 oed neu drosodd i agor cyfrif banc sylfaenol heb ffi, ond ar gyfer rhai cyfrifon mae’n rhaid bod yn 18 oed.
Os ydych chi dan 18 oed mae werth cymharu cyfrifon banc sylfaenol heb ffi gyda chyfrifon cyfredol eraill i bobl ifanc.
Nid oes rhaid i chi fod â hanes credyd dda
Nid yw cyfrifon banc sylfaenol heb ffi yn caniatáu i chi fynd i orddrafft. Felly nid oes angen i chi basio gwiriad credyd pan agorwch y cyfrif. Er gallai’ch banc neu gymdeithas adeiladu gynnal gwiriad credyd arnoch serch hynny.
Ydych chi wedi cael problemau ariannol, gan gynnwys mynd yn fethdalwr? Yna gall cyfrif banc sylfaenol heb ffi fod yn ffordd dda o wella’ch sgôr credyd hyd nes i chi fod yn gymwys i agor cyfrif cyfredol arferol.
Rhaid i chi roi prawf o’ch hunaniaeth a’ch cyfeiriad
Bydd pob banc neu gymdeithas adeiladu yn gofyn am brawf o’ch hunaniaeth a’ch cyfeiriad cyn i chi allu agor cyfrif banc sylfaenol heb ffi.
Cyfrifon ar y cyd
Gallwch agor cyfrif banc sylfaenol heb ffi ar y cyd os yw’r ddau ohonoch yn gymwys i agor un.
Os ydych yn y carchar neu gyda euogfarn
Efallai y gallech gael cyfrif banc sylfaenol heb ffi. Nid oes gan fanciau fynediad at gofnodion troseddol, ond mae ganddynt systemau i adnabod ceisiadau gan bobl sydd â hanes o dwyll neu weithgareddau anghyfreithlon cysylltiedig.
Gall pob banc a chymdeithas adeiladu wrthod ceisiadau gan bobl sydd â hanes o dwyll.
Methdaliad
Gall banciau hefyd eich gwrthod os ydych yn ‘fethdalwr heb ei ryddhau’. Mae hyn yn golygu rhywun sydd wrthi’n mynd drwy’r broses o ddod yn fethdalwr.
Darganfyddwch fwy am agor cyfrif banc os oes gennych euogfarn yn eich erbyn ar wefan theInformationHub
Beth rwyf ei angen i agor cyfrif banc sylfaenol heb ffi?
Fel arfer gallwch wneud cais am gyfrif sylfaenol heb ffi:
- yn bersonol
- drwy’r post
- dros y ffôn
- ar-lein.
Bydd yn rhaid i chi roi ID cyn i chi fedru agor cyfrif banc sylfaenol heb ffi. Efallai y bydd yn rhaid i chi hefyd gadarnhau’ch cyfeiriad.
Gallai prawf o’ch ID fod yn:
- basbort, neu
- drwydded yrru.
Gweler isod ar gyfer dolenni i dudalen benodol pob banc ar sut i brofi eich cyfeiriad a hunaniaeth er mwyn agor cyfrif.
Sut i brofi pwy ydych chi a’ch cyfeiriad
Dyma restr o ba fathau o ID a phrawf cyfeiriad y mae pob banc yn gofyn amdanynt:
Defnyddio dogfennau eraill i brofi pwy ydych chi a’ch cyfeiriad
Efallai na fydd y dogfennau y byddai’r banc yn gofyn amdanynt fel arfer, gennych chi. Dyma rai dogfennau eraill y gallech eu defnyddio:
Os nad oes gennych | Gallech geisio |
---|---|
Pasbort neu drwydded yrru |
Llythyrau:
|
Tystiolaeth o gyfeiriad |
Lythyrau gan eich:
|
Efallai y bydd gennych ddogfennau eraill i brofi’ch ID a’ch cyfeiriad os ydych yn:
- fyfyriwr rhyngwladol
- gweithiwr mewnfudol
- ffoadur
- ceisiwr lloches
- carcharor
- ar brawf.
Os nad ydych yn sicr beth allwch chi ei ddefnyddio i brofi’ch ID a’ch cyfeiriad, ewch â phob dogfen sydd gennych chi.
Bydd hyn yn helpu’r banc neu’r gymdeithas adeiladu i benderfynu beth fyddant yn fwy tebygol o’i dderbyn.
Pan efallai gaiff eich cais i gael cyfrif banc sylfaenol heb ffi ei wrthod
Ni all pawb agor cyfrif banc sylfaenol heb ffi.
Bydd eich banc neu gymdeithas adeiladu yn dymuno gwirio eich bod yn gymwys cyn cymeradwyo’ch cais.
Gallant wrthod agor cyfrif banc sylfaenol heb ffi os:
- ni allwch brofi’ch ID neu’ch cyfeiriad
- gallech gael cyfrif gwahanol, fel cyfrif cyfredol arferol er enghraifft
- rydych yn gwrthod gwiriad credyd - er nid oes raid i chi basio un
- maent o’r farn y byddwch yn defnyddio’r cyfrif yn anghyfreithlon neu’n dwyllodrus
- rydych yn bod yn fygythiol, yn anweddus neu’n dreisgar tuag at staff.
Os caiff eich cais am gyfrif banc sylfaenol ei wrthod, mae hawl gennych i ofyn pam.
Dylai’ch banc neu’r gymdeithas adeiladu ddweud wrthych y rheswm, oni bai eu bod yn eich amau o dwyll neu wyngalchu arian.
Os na fyddwch yn cytuno â’r penderfyniad ac o’r farn bod hawl gennych i agor cyfrif banc sylfaenol heb ffi, gallwch apelio i’ch banc neu gymdeithas adeiladu.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Cael trefn ar broblem ariannol neu wneud cwyn
Beth i'w wneud os na allwch gael cyfrif banc sylfaenol di-ffi
Yn gyntaf, edrychwch ar ein hadran uchod o ran Pryd efallai gaiff eich cais i gael cyfrif banc sylfaenol ei wrthod. Efallai y gallwch ddatrys rhai o'r pethau sy'n eich atal rhag gallu agor y cyfrif.
Hefyd, gwiriwch ein rhestr ddwywaith Beth rwyf ei angen arnaf i agor cyfrif banc sylfaenol di di-ffi. Weithiau gall banciau wneud camgymeriadau ac ni fyddant yn derbyn dogfennau y dylent. Os yw hyn yn wir gallwch apelio i'r banc. Gallwch wneud hyn mewn cangen, dros y ffôn, neu ar-lein, yn dibynnu ar y banc neu'r gymdeithas adeiladu.
Os ydych wedi cael anhawster agor cyfrif gyda banc neu gymdeithas adeiladu, gallai cyfrif cyfredol undeb credyd fod yn opsiwn da i chi.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Cyfrifon cyfredol undebau credyd
Dewis arall yw cerdyn Rhagdaledig. Mae'r rhain fel cardiau debyd, dim ond i chi ychwanegu at arian cyn eich bod chi am ei ddefnyddio. Gallwch lwytho arian ar gerdyn ar-lein neu mewn cangen banc neu gymdeithas adeiladu, ac yna prynu gyda'r cerdyn yn unrhyw le sy'n derbyn taliadau cerdyn.
Mae'r prosesau ymgeisio hefyd yn llawer symlach ar gyfer y mathau hyn o gardiau.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Cardiau Rhagdaledig
Pwy sy’n cynnig cyfrifon banc sylfaenol heb ffi?
Gall unrhyw fanc neu gymdeithas adeiladu gynnig cyfrif banc sylfaenol heb ffi. Ond mae’n ofynnol i’r naw banc mwyaf eu cynnig.
Os nad oes gennych gyfrif banc neu os nad ydych yn gymwys i agor neu ddefnyddio cyfrif cyfredol arferol, dyma’r naw darparwr dynodedig:
Enw'r banc | Enw'r cyfrif banc sylfaenol heb ffi |
---|---|
Barclays |
|
Santander |
|
NatWest |
|
Ulster Bank (Northern Ireland) |
|
Royal Bank of Scotland |
|
HSBC |
|
Nationwide |
|
Co-operative Bank |
|
Lloyds Banking Group (gan gynnwys Halifax a Bank of Scotland) |
|
TSB |
|
Metro Bank* |
*Nid oes angen i’r cyfrif hwn gydymffurfio â’r un rheoliadau sy’n rheoli'r darparwyr mwyaf.
Faint mae cyfrif banc sylfaenol heb ffi yn ei gostio?
Nid oes unrhyw gost am gynnal cyfrif banc sylfaenol heb ffi ac ni fydd yn rhaid i chi dalu ffioedd am Ddebydau Uniongyrchol neu archebion sefydlog sy’n methu.
Ond gall y bobl y mae arnoch chi arian iddynt godi ffi arnoch am fethu taliadau serch hynny.
Byddwch yn wynebu ffi am brynu pethau gydag arian tramor neu am ddefnyddio’ch cyfrif pan fyddwch chi’n teithio dramor.
Peiriannau codi arian (ATMs)
Mae tynnu arian o beiriant codi arian mewn banc, cymdeithas adeiladu neu Swyddfa’r Post yn y DU am ddim fel rheol.
Gall peiriannau codi arian preifat, fel y rhai sydd i’w gweld y tu mewn i siopau, godi ffi arnoch ond byddant yn gofyn i chi gytuno i’r ffi cyn i chi dynnu eich arian allan.
Rydych yn debygol o dalu ffi os tynnwch arian parod allan pan fyddwch chi dramor.
Darganfyddwch fwy am ffioedd peoroannau codi arian yn ein canllaw Cipolwg ar ffioedd banc
Sut i ddewis cyfrif banc sylfaenol heb ffi
Cyn i chi agor cyfrif banc sylfaenol heb ffi, mae'n bwysig cymharu ffioedd a thaliadau cyfrif banc.
Gallwn roi cymorth i chi gymharu unrhyw gostau gyda'n teclyn cymharu. Er enghraifft, ffioedd am ddefnyddio cerdyn dramor neu gostau am anfon neu dderbyn arian y tu allan i’r DU. Bydd hyn yn eich helpu i ganfod y cyfrif cywir i chi.
Darganfyddwch fwy ar ein tudalen Cymharu ffioedd a thaliadau cyfrifon banc
Pethau i'w hystyried wrth ddewis cyfrif banc:
- Gwiriwch bod y peiriannau codi arian parod y dymunwch eu defnyddio’n rheolaidd, am ddim.
- Darganfyddwch a oes cangen leol o’ch banc neu gymdeithas adeiladu, neu Swyddfa’r Post, lle gallwch dalu arian i mewn a gwirio’ch cyfrif
- Gwiriwch a oes trefniant sy’n gadael i chi dynnu swm bychan - £10 er enghraifft - hyd yn oed pan yw balans eich cyfrif yn isel, fel y gallwch barhau i godi arian gan ddefnyddio peiriant arian parod.
- Oes gennych gyfrif eisoes gyda’r un banc neu gymdeithas adeiladu ac mae arnoch arian arno - er enghraifft rydych wedi mynd i orddrafft? Yna a allent ddefnyddio arian yn eich cyfrif newydd i ad-dalu’r hyn sy’n ddyledus gennych ar eich hen gyfrif? Os felly, gallai wneud synnwyr i agor eich cyfrif sylfaenol heb ffi newydd gyda banc neu gymdeithas adeiladu gwahanol.
Rheoli eich cyfrif banc sylfaenol
Pan fydd eich cyfrif banc sylfaenol heb ffi wedi ei agor, sicrhewch eich bod yn sefydlu Debydau Uniongyrchol neu archebion sefydlog ar gyfer taliadau rheolaidd ar adeg benodol o’r mis pan wyddoch y bydd digon o arian yn. Er enghraifft, fel y diwrnod ar ôl y diwrnod pan gewch eich cyflog neu fudd-dal.
Gall eich banc neu gymdeithas adeiladu ganslo’r taliadau os nad oes gennych ddigon o arian yn eich cyfrif ar fwy nag un achlysur. A gallech wynebu ffi gan y bobl yr ydych yn ddyledus iddynt.
Gwiriwch eich balans yn rheolaidd i’ch helpu i wneud yn siŵr bod digon o arian yn eich cyfrif i dalu am eich gwariant.
Gallwch sefydlu negeseuon testun neu e-bost ar eich ffôn symudol neu gyfrifiadur a fydd yn eich rhybuddio os byddwch yn brin o arian neu ba bryd y bydd y taliadau’n ddyledus.
Gallwch lawrlwytho ap atgoffa Debyd Uniongyrchol o'r wefan Bacs
Pryd ellir cau eich cyfrif banc sylfaenol heb ffi
Gall eich banc neu gymdeithas adeiladu gau eich cyfrif banc sylfaenol heb ffi neu eich symud i gyfrif banc arferol os byddwch yn:
- rhoi gwybodaeth anghywir neu gamarweiniol
- agor cyfrif banc arall yn y DU
- methu’n rheolaidd â bodloni amodau a thelerau’r cyfrif
- peidio defnyddio’ch cyfrif am fwy na dwy flynedd
- defnyddio’r cyfrif yn anghyfreithlon neu’n dwyllodrus neu os bydd unrhyw bryderon y gallech ddefnyddio’r cyfrif fel hynny
- bod yn fygythiol, yn anweddus neu’n dreisgar tuag at staff
Rhaid iddynt roi rhybudd ysgrifenedig o ddau fis o leiaf i chi, gan roi amser i chi apelio os byddwch yn anghytuno.
Os ydych chi am gwyno am y gwasanaeth rydych wedi’i dderbyn
Mae camgymeriadau’n gallu digwydd, ond mae yna bethau y gallwch chi a’ch banc neu’ch cymdeithas adeiladu eu gwneud i unioni pethau.
Os oes gennych gŵyn am y gwasanaeth y byddwch yn ei dderbyn, dylech gysylltu â’r banc neu’r gymdeithas adeiladu yn gyntaf i roi cyfle iddynt ddatrys y broblem.
Dylent ddelio â’ch cwyn a’ch ateb o fewn wyth wythnos.
Os na fyddwch chi’n fodlon gyda’u hateb, gallech fynd â’ch cwyn o bosib at Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol i weld a allen nhw eich helpu.
Rhaid i’ch banc neu gymdeithas adeiladu roi manylion y gwasanaeth Ombwdsmon rhad ac am ddim hwn i chi pan fyddant yn anfon ateb atoch.
Darganfyddwch fwy am ddelio â phroblemau ariannol yn ein canllaw Datrys problem ariannol neu wneud cwyn
Canllawiau wedi’u hargraffu am ddim
Mae ein canllawiau printiedig yn rhoi gwybodaeth a chyngor clir a diduedd i chi. Maent yn fan cychwyn da a gallant eich helpu i wneud deisiadau gwybodus.