Mae cyfrif cyfredol yn wych ar gyfer rheoli’ch arian dydd-i-ddydd. Gallwch dderbyn taliadau’n rheolaidd fel cyflog, budd-daliadau, credydau treth neu bensiynau i’ch cyfrif. Gallwch hefyd sefydlu taliadau allan o’ch cyfrif ym mha ffordd bynnag sy’n gyfleus i chi.
Beth gallwch ei wneud â chyfrif cyfredol
Gyda chyfrif cyfredol, gallwch:
- talu am bethau â cherdyn debyd
- ysgrifennu sieciau er mwyn talu biliau ac unigolion
- derbyn taliadau yn uniongyrchol i’ch cyfrif
- sefydlu Debydau Uniongyrchol ac archebion sefydlog i dalu’ch biliau
- trosglwyddo arian dros y ffôn neu â bancio ar-lein.
- gall trethdalwyr ar y gyfradd sylfaenol ennill hyd at £1,000 o log ar eu cynilion heb orfod talu treth a gall trethdalwyr ar y gyfradd uwch ennill hyd at £500 o log yn ddi-dreth. Darganfyddwch fwy am Dreth ar gyfrifon cynilo
- codi arian dros y cownter neu o beiriant arian parod
- gwirio’ch balans trwy ddefnyddio bancio ffôn neu ryngrwyd, mewn peiriant arian parod neu dros y cownter
- gwneud cais am orddrafft. Bydd hyn yn caniatáu i chi wario mwy na sydd gennych yn eich cyfrif - ond codir ffi arnoch amdano
- talu sieciau i mewn i’ch cyfrif. Mae’r arian fel arfer yn clirio’r diwrnod gwaith canlynol (dydd Llun i ddydd Gwener, ac eithrio gwyliau’r banc) ond gall gymryd yn hirach os yw siec yn cael ei dalu i mewn yn hwyrach na’r amser torbwynt a hysbysebir. Darganfyddwch fwy ar ein tudalen Taliadau i mewn i’ch cyfrif banc
Gallwch gael mynediad i’r mwyafrif o gyfrifon cyfredol mewn cangen ar y stryd fawr, ar-lein, trwy ddefnyddio bancio symudol neu dros y ffôn.
Pwy all gael cyfrif cyfredol?
Mae angen i chi fod dros 16 oed i agor cyfrif cyfredol, ond mewn rhai banciau mae rhaid bod yn 18 oed.
Os yw’ch plentyn o dan 18 oed, efallai y cewch agor cyfrif cyfredol â help rhiant.
Os na all eich plentyn agor cyfrif cyfredol efallai y dymunwch edrych ar gyfrifon cynilo i blant. Mae rhai banciau yn cynnig cyfrifon y gallwch ei agor ar ôl i’ch plentyn cael ei eni.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Cyfrifon cynilo i blant
Isafswm taliad misol
Efallai y bydd rhai banciau’n gofyn i chi dalu isafswm i’ch cyfrif bob mis. Gall hyn fod eich cyflog, budd-daliadau neu bensiwn.
Hanes credyd da
Gan fod llawer o gyfrifon cyfredol yn caniatáu i chi gael gorddrafft, efallai y bydd angen i chi basio gwiriad credyd pan agorwch y cyfrif.
Tystiolaeth o hunaniaeth a chyfeiriad
Bydd pob banc neu gymdeithas adeiladu yn gofyn am brawf o’ch hunaniaeth a’ch cyfeiriad cyn i chi allu agor cyfrif banc.
How much does a current account cost?
Awgrym Da
Os na allwch agor cyfrif cyfredol, gallech ystyried cyfrif banc sylfaenol am ddim. i’ch helpu i ddewis yr un gorau, gwelwch ein tudalen cyfrif banc sylfaenol heb ffi
Cyhyd â bod gennych arian yn eich cyfrif, fel arfer nid oes rhaid i chi dalu am wasanaethau cyfrif cyfredol.
Mae rhai cyfrifon cyfredol yn codi ffi fisol ar gyfer nodweddion ychwanegol – gelwir y rhain yn gyfrifon banc pecyn.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Cyfrifon pecyn
Gorddrafftiau a chyfrifon cyfredol
Mae gorddrafft yn ddull o fenthyca arian gan eich banc drwy eich cyfrif cyfredol. Mae hyn yn golygu y gallwch wario mwy na sydd gennych yn eich cyfrif.
Mae banciau fel arfer yn codi llog arnoch am fenthyca’r arian hwn i chi.
Yn aml mae’r llog mor uchel â 40%, sy’n llawer uwch na gyfradd tebygol am fenthyciad personol.
Fodd bynnag, mae rhai’n cynnig gorddrafftiau di-log. Ond mae hyn yn dibynnu ar eich cytundeb â’r banc – dylech gysylltu â’ch banc i gael gwybod.
Bellach mae gan y cyfrifon cyfredol Uchafswm Tâl Misol (MMC). Dyma'r uchafswm y byddwch yn ei dalu bob mis mewn ffioedd, costau a llog. Mae'r swm yn amrywio, yn dibynnu ar y banc neu'r gymdeithas adeiladu, a pha gyfrif cyfredol sydd gennych.
Sicrhewch eich bod yn gwirio beth yw'r MMC â'ch cyfrif cyfredol. Bydd hyn yn eich helpu i sicrhau eich bod yn gwybod faint mae eich gorddrafft yn ei gostio i chi.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Egluro gorddrafftiau
Ffioedd am Ddebydau Uniongyrchol ac archebion sefydlog a wrthodir
Os nad oes digon yn eich cyfrif i dalu archeb sefydlog neu Ddebyd Uniongyrchol gellid ei wrthod. Os bydd hyn yn digwydd, fel arfer bydd rhaid i chi dalu ffi.
Gall hyn fod cymaint â £25 ar gyfer pob taliad a wrthodir.
Darganfyddwch fwy am sut i ddefnyddio Debydau Uniongyrchol ac archebion sefydlog heb dalu ffioedd ar ein tudalen Debydau Uniongyrchol ac archebion sefydlog
Peiriannau codi arian (ATMs)
Yn y DU, fel arfer, mae tynnu arian allan o beiriant codi arian â’ch cerdyn debyd am ddim.
Mae rhai eithriadau:
- Mae rhai peiriannau codi arian – yn enwedig y rhai y tu mewn i siopau bychain, ar flaen gyrtiau garejys ac mewn clybiau nos – yn gallu codi ffi o hyd at £5 bob tro rydych yn tynnu arian allan ohonynt. Maent yn dweud wrthych am y ffioedd ar y sgrin cyn i chi dynnu’r arian allan fel eich bod yn gallu penderfynu a ydych am barhau ai peidio.
- Mae defnyddio cerdyn credyd i dynnu arian allan yn cynnwys ffi, ac rydych yn talu llog o’r dyddiad rydych yn tynnu’r arian allan. Os oes gennych gerdyn â chyfnod di-log, bydd dim ond yn berthnasol i brynu nwyddau. Byddwch yn parhau i dalu ffi os ydych yn tynnu arian parod.
- Mae rhai cardiau rhagdaledig yn codi ffi arnoch i dynnu arian parod o beiriannau codi arian.
Sut i gael cyfrif cyfredol
Sut i ddewis cyfrif cyfredol
Mae gwefannau cymharu yn lle da i ddechrau i unrhyw un sy’n chwilio am gyfrif cyfredol sy’n bodloni eu hanghenion.
Dyma ychydig o wefannau sy'n cymharu cyfrifon cyfredol:
Yng Ngogledd Iwerddon, gallwch hefyd roi cynnig ar Consumer Council’s Current Account Comparison Table
Cofiwch, ni fydd pob un gwefan gymharu yn rhoi’r un canlyniadau i chi, felly cofiwch ddefnyddio mwy nag un gwefan cyn gwneud penderfyniad.
Hefyd mae’n bwysig gwneud tipyn o waith ymchwil i mewn i’r math o gynnyrch neu nodweddion a ddymunwch cyn prynu neu newid darparwr.
Darganfyddwch fwy yn ein Canllaw ar wefannau cynharu
I'ch helpu i ddewis y cyfrifon banc gorau i'ch plant, edrychwch ar wefan Which?
Sut i agor, newid a rheoli eich cyfrif cyfredol
Fel arfer gallwch wneud cais wyneb-yn-wyneb, drwy’r post, dros y ffôn neu ar-lein.
Os gwrthodir eich cais, peidiwch â bod ofn gofyn pam. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cwrdd â’r holl feini prawf yn yr adran Pwy all gael cyfrif cyfredol? uchod.
Sut i newid cyfrifon cyfredol
Mae’r holl fanciau a chymdeithasau adeiladu’n cynnig Gwasanaeth Newid Cyfrif Cyfredol saith-diwrnod am ddim.
Fe’i cefnogir gan warant sy’n golygu y cewch ad-daliad o unrhyw log a ffioedd ar eich cyfrifon hen a newydd os bydd pethau'n mynd o chwith.
Darganfyddwch fwy am Newid eich cyfrif banc.
Rheoli’ch cyfrif cyfredol
Bydd gwirio eich balans yn rheolaidd yn eich helpu i wneud yn siŵr bod digon o arian yn eich cyfrif i dalu unrhyw archebion sefydlog neu Ddebydau Uniongyrchol, fel na fydd angen i chi dalu ffi oherwydd iddynt cael eu gwrthod.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Sut i reoli’ch cyfrif banc
Beth i’w wneud os bydd pethau’n mynd o chwith â’ch cyfrif cyfredol
Os ydych yn anhapus ag unrhyw beth am eich banc neu eich cymdeithas adeiladu, siaradwch â hwy yn gyntaf.
Mae rhaid iddynt ymchwilio i’ch cwyn a rhoi ateb clir i chi o fewn wyth wythnos.
Os nad yw’r cwmni’n anfon ymateb i chi o fewn wyth wythnos neu os nad ydych yn fodlon o hyd, mae’n bosibl y gallwch gwyno i’r Gwasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol.