P'un a ydych am gynilo ar gyfer diwrnod glawog, buddsoddi am ymddeoliad neu rywbeth rhwng y ddau, mae'n debyg bydd cynilion treth a lwfansau y gallwch elwa ohonynt. Efallai bydd rhai peryglon i ddisgwyl hefyd. Bydd y canllaw hwn yn rhoi help i chi ddeall sut y cyfrifir treth ar log cynilion, sut mae’r lwfans cynilion personol yn gweithio ac a allai eich buddsoddiadau fod yn drethadwy.
Y gyfradd gychwynnol ar gyfer cynilion os ydych ar incwm isel
Nod y gyfradd gychwynnol ar gyfer cynilion yw rhoi cymorth i gynilwyr sydd â’r incymau isaf.
Ar gyfer 2022/23 mae’n £5,000. Mae hyn yn golygu bod hyd at £5,000 o’r llog a geir o gynilion yn ddi-dreth
Gallwch ennill hyd at £17,570 y flwyddyn a bod yn gymwys o hyd ar gyfer y gyfradd gychwynnol ar gynilion.
Mae’r terfyn uchaf yn uwch os ydych yn hawlio’r Lwfans Person Dall (gan gynyddu’r swm y gallwch ei ennill gan £2,600 ar gyfer y Flwyddyn Dreth 2022/23 i £20,170) neu’r Lwfans Pâr Priod (sy’n rhoi swm sy’n ddibynnol ar eich amgylchiadau personol).
Mae’r meini prawf cymhwysedd ar gyfer y Lwfans Person Dall ychydig yn wahanol yn dibynnu ar le yn y DU rydych yn byw. Darganfyddwch fwy ar wefan GOV.UK
Mae’r gyfradd gychwynnol ar gyfer cynilion yn cael ei ostwng £1 am bob £1 yr enillwch dros y Lwfans Personol. Y Lwfans Personol yw’r swm y gallwch ei ennill yn ddi-dreth o incwm nad ydynt yn gynilion, fel swydd neu bensiwn, ac £12,570 yw’r ffigwr ar hyn o bryd.
Er enghraifft, rhywun ar gyflog o £14,570 y flwyddyn a llog ar gynilion o £150:
Incwm | Lwfans Personol | Y swm a enillwyd dros y Lwfans Personol | Y swm o gynilion sy’n weddill y caniateir iddo fod yn ddi-dreth |
---|---|---|---|
£14,500 |
£12,570 |
£14,570-£12,570 = £2,000 |
£5,000-£2,000 = £3,000 |
Mae hynny'n golygu y gellir ennill £3,000 yn ddi-dreth mewn llog ar gynilion, felly bydd y £150 o log a enillwyd gan yr unigolyn ar ei gynilion yn ddi-dreth.
Am ragor o wybodaeth am Dreth ar log ar gynilion, gwelwch wefan GOV.UK
Y Lwfans Cynilion Personol
Yn ogystal â chyfradd gychwynnol ar gyfer cynilion, ceir Lwfans Cynilion Personol hefyd.
Fel y gyfradd gychwynnol ar gyfer cynilion, mae’r Lwfans Cynilion Personol yn caniatáu i chi ennill swm penodol o log o’ch cynilion yn ddi-dreth.
Yn ddibynnol ar fand Treth Incwm eich incwm, mae’r Lwfans Cynilion Personol yn swm gwahanol:
Talwr treth cyfradd sylfaenol – £1,000
Talwr treth cyfradd uwch – £500
Talwr treth cyfradd ychwanegol – £0.
Faint o dreth a dalwch ar gynilion?
Nid yw’r llog a gewch ar eich cynilion yn cael ei drethu fel arfer, gan olygu y caiff ei dalu’n ‘gros’. Dyma’r trothwyon ar gyfer faint o log a gewch ar eich enillion yn ddi-dreth.
Eich cyfradd treth | Incwm, fel cyflog, nid o gynilion | Faint o log ar gynilon sy’n ddi-dreth |
---|---|---|
Dim treth |
£0 to £12,570 |
Gallwch ennill uchafswm o £5,000 mewn llog o gynilion yn ddi-dreth â’r gyfradd gychwynnol ar gynilion. Gwelwch yr adran uchod ar gyfradd gychwynnol ar gynilion, i gael rhagor o wybodaeth. |
Talwr treth cyfradd sylfaenol – incwm isel |
£12,571 to £17,570 |
Gallwch ennill hyd at £5,000 mewn llog yn ddi-dreth â’r gyfradd gychwynnol ar gynilion. Gyda’r Lwfans Cynilion Personol, gallwch hefyd ennill hyd at £1,000 yn rhagor o log ar eich cynilion heb orfod talu treth. |
Talwr treth cyfradd sylfaenol |
£17,571 to £50,270 |
Gyda’r Lwfans Cynilion Personol, gallwch ennill hyd at £1,000 o log ar eich cynilion heb orfod talu treth. |
Talwr treth cyfradd uwch |
£50,271 to £150,000 |
Gyda’r Lwfans Cynilion Personol, gallwch ennill hyd at £500 o log yn ddi-dreth. |
Talwr treth cyfradd ychwanegol |
Dros £150,000 |
Dim lwfans llog ar gynilion. |
Trethir unrhyw gynilion sydd dros eich Lwfans Cynilion Personol neu Gyfradd Gychwynnol ar Gynilion. Bydd faint o dreth yn dibynnu ar eich incwm.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Faint o Dreth Incwm byddaf yn ei thalu?
Mae’r Lwfans Cynilion Personol a’r Gyfradd Gychwynnol ar Gynilion yn delio â llog o
- fanciau a chymdeithasau adeiladu
- cynilion a chyfrifon undebau credyd
- cwmnïau buddsoddi penagored (OEICs), ymddiriedolaethau buddsoddi ac ymddiriedolaethau uned
- benthyciadau cyfoed-i-gyfoed
- bondiau llywodraeth neu gwmni
- taliadau blwydd-dal oes
- rhai cytundebau yswiriant bywyd.
Os ydych yn byw yn yr Alban, mae’r cyfraddau treth ychydig yn wahanol. Ond byddwch yn parhau i dalu’r cyfraddau treth incwm y DU ar incwm cynilo trethadwy fel llog banc neu incwm difidend.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Treth Incwm ac Yswiriant Gwladol yr Alban
Hawlio treth yn ôl
Os credwch eich bod wedi gordalu treth ar eich cynilion, gallwch ei hawlio’n ôl drwy gwblhau ffurflen R40 ar wefan GOV.UK
Cynilion di-dreth
Mae rhai cynhyrchion cynilo yn talu llog sydd bob amser yn ddi-dreth, waeth faint fyddwch yn ei ennill neu unrhyw log arall a gewch ar gynilion. Nid oes angen i’r rhan fwyaf o gynilwyr gynilo mewn ISA i ennill llog yn ddi-dreth nawr, yn sgil dyfodiad y Lwfans Cynilion Personol.
Eich lwfans ISA ar gyfer y flwyddyn dreth 2022/23 yw £20,000, sy’n golygu y gallwch barhau i gynilo yn ddi-dreth hyd yn oed os ydych yn drethdalwr ar gyfradd ychwanegol.
Mae cynhyrchion cynilo di-dreth yn cynnwys ISAs a rhai cynhyrchion NS&I.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Cyfrifon ISA a ffyrdd eraill sy'n effeithlon o ran treth i gynilo neu fuddsoddi
Darganfyddwch fwy am gynhyrchion di-dreth NS&I ar wefan NS&I
Buddsoddiadau yn seiliedig ar gyfranddaliadau
Os ydych yn berchen ar gyfranddaliadau, gallech gael incwm ar ffurf difidendau.
Mae difidendau yn gyfran o’r elw a wna’r cwmni a gyhoeddodd y cyfranddaliadau yr ydych wedi buddsoddi ynddynt.
Os oes gennych gronfa fuddsoddi sydd wedi ei buddsoddi mewn cyfranddaliadau, gallech gael dosraniadau sydd wedi eu trethu yn yr un modd â difidendau.
Ar gyfer y flwyddyn dreth 2022/23, y Lwfans Difidend di-dreth yw £2,000 y flwyddyn.
Trethir difidendau uwchben y lefel hon ar:
- 8.75% (ar gyfer trethdalwyr ar y gyfradd sylfaenol)
- 33.75% (ar gyfer trethdalwyr ar y gyfradd uwch)
- 39.35% (ar gyfer trethdalwyr ar y gyfradd ychwanegol).
Ni effeithir ar unrhyw ddifidendau a dderbynnir o fewn pensiwn neu ISA gan barhau’n ddi-dreth.
Bydd angen i drethdalwyr cyfradd sylfaenol sy’n cael difidendau o fwy na £2,000 gwblhau ffurflen hunanasesu.
Er enghraifft:
- Os cewch ddifidend incwm hyd at £2,000 ar unrhyw beth ar wahân i ISA, ni fyddwch yn talu treth ar eich difidendau, hyd yn oed os ydych yn drethdalwr cyfradd uwch neu gyfradd ychwanegol.
- Os yw cyfanswm eich incwm yn llai na £12,570 (y lwfans personol ar hyn o bryd), diogelir unrhyw incwm gan eich lwfans personol. Ni fydd gennych unrhyw dreth i’w dalu gan nad yw’ch lwfans difidend o £2,000 wedi ei gyffwrdd.
- Os derbynnir eich incwm difidend o fewn ISA, bydd yn parhau’n ddi-dreth ac ni fydd y lwfans difidend yn effeithio ar unrhyw incwm a gewch.
Buddsoddiadau effeithlon o ran treth
Mae stociau a chyfranddaliadau ISAs yn ddefnyddiol os ydych yn talu treth incwm ar y gyfradd uwch neu ychwanegol. Mae’n bwysig gwybod bydd rhaid i chi dalu costau buddsoddi ar ISA stociau a chyfranddaliadau, fel unrhyw fuddsoddiad arall.
Ble nad yw’r buddsoddiadau yn eich ISA stociau a chyfranddaliadau yn talu difidendau, ond yn hytrach yn talu llog (er enghraifft, bondiau llywodraeth a chorfforaethol), mae’r llog yn parhau’n ddi-dreth.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw ISAs Stociau a chyfranddaliadau
Gall gynilo drwy bensiwn fod yn ffordd effeithlon o ran treth i fuddsoddi.
Darganfyddwch fwy yn ein callaw Pam cynilo mewn pensiwn?
Opsiynau eraill
Efallai y bydd yn gwneud synnwyr i ystyried mathau eraill o gronfeydd buddsoddi, megis ymddiriedolaethau uned a chwmnïau buddsoddi penagored (OEICS).
Gyda’r cronfeydd eraill hyn, mae rhan o’r elw a gewch yn cyfrif fel incwm ac yn gyffredinol wedi eu trethu, tra gall rhan ddod o enillion oherwydd cynnydd mewn prisiau.
Os oes gennych derfyn lwfans di-dreth enillion cyfalaf mawr (£12,300 y flwyddyn ar gyfer y flwyddyn dreth 2022-23), gallech orfod talu llai o dreth os oes gennych y mathau hyn o gronfeydd buddsoddi yn hytrach na rhai buddsoddiadau yswiriant bywyd.
Gydag unrhyw fath o fuddsoddiad, lle bydd risg y gallwch golli eich arian, dylech ystyried cymryd cyngor ariannol rheoledig er mwyn eich helpu dewis pa fath o fuddsoddiad sy’n iawn i chi. Efallai bydd rhaid i chi dalu am y cyngor, ond gall hyn arbed llawer o arian (a phryder) yn y hirdymor.