Os ydych wedi cael anhawster agor cyfrif gyda banc neu gymdeithas adeiladu, byddai cyfrif cyfredol undeb credyd yn ddewis da i chi. Mae undebau credyd hefyd yn boblogaidd gyda phobl sy’n dewis rheoli eu harian trwy sefydliad di-elw.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Beth yw undebau credyd?
- Pwy all ymuno ag undeb credyd?
- Sut i gael cyfrif undeb credyd
- Beth allwch chi ei wneud gyda chyfrif cyfredol undeb credyd
- Faint mae cyfrif cyfredol undeb credyd yn ei gostio?
- Cyfrifon a gwasanaethau eraill undebau credyd
- Beth i’w wneud os bydd pethau’n mynd o chwith gyda’ch cyfrif undeb credyd
- Beth fydd yn digwydd os bydd fy Undeb Credyd yn mynd i’r wal?
Beth yw undebau credyd?
Mae undebau credyd yn fentrau cydweithredol a sefydlir gan ac ar ran aelodau er lles eu cymuned.
Maent yn cynnig cyfrifon a benthyciadau i’w haelodau yn bennaf, ond mae rhai nawr yn cynnig cyfrifon cyfredol hefyd. Maent yn eu helpu’r rhai hynny nad yw’n cael mynediad i gynhyrchion banc cyffredin yn aml. Mae hyn oherwydd eu bod yn rhedeg fel di-elw.
Os ydych yn cael trafferth i agor cyfrif cyffredin a ddarparwyd gan fanciau’r stryd fawr, mae nifer yn cynnig cyfrif banc di-dâ’ ‘sylfaenol’ hefyd.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw cyfrifon banc sylfaenol heb ffi
Pwy all ymuno ag undeb credyd?
I fod yn aelod o undeb credyd, bydd angen i chi gael cwlwm cyffredin gyda’r aelodau eraill.
Er enghraifft, byw yn yr un ardal, gweithio i’r un cyflogwr, neu fod yn aelod o’r un eglwys neu undeb masnach.
Sut i gael cyfrif undeb credyd
Os ydych chi yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban, gallwch ddod o hyd i undeb credyd yn defnyddio gwefan Cymdeithas Undebau Credyd Prydain
Ar gyfer Gogledd Iwerddon, defnyddiwch wefan Ffederasiwn Undebau Credyd Iwerddon neu Ffederasiwn Undebau Credyd Ulster
Bydd pob undeb credyd yn gofyn i chi am brawf o’ch hunaniaeth a chyfeiriad cyn y gallwch agor cyfrif.
Os nad oes gennych y dogfennau maent eu hangen, holwch nhw pa ddewisiadau eraill fyddant yn fodlon eu derbyn.
Beth allwch chi ei wneud gyda chyfrif cyfredol undeb credyd
Bydd beth mae cyfrif cyfredol undeb credyd yn ei gynnig i chi yn ddibynnol ar ba undeb credyd a ddefnyddiwch.
Dyma beth allwch chi ei wneud gyda’r rhan fwyaf o gyfrifon cyfredol undebau credyd:
- Talu sieciau i mewn am ddim
- Cael cyngor a chyngor cyllidebu
- Talu arian i mewn dros y cownter yn yr undeb credyd
- Talu siecau i mewn am ddim, cyn belled bod y swm mewn punnoedd sterling Prydeinig
- Cael cyflog, budd-daliadau, pensiynau a chredydau treth wedi’u talu yn syth i mewn i’ch cyfrif
- Cael arian allan dros y cownter neu o rai peiriannau pwynt arian
- Gwirio balans eich cyfrif dros y cownter neu o rai peiriannau pwynt arian
A gyda rhai cyfrifon cyfredol undeb credyd, gallwch hefyd:
- talu eich biliau trwy Ddebyd Uniongyrchol neu archeb sefydlog
- talu am bethau yn defnyddio cerdyn rhagdalu neu gerdyn debyd
- cael ‘jariau’ penodol yn eich cyfrif i’ch helpu i gyllidebu ar gyfer gwahanol fathau o wariant arall
Pa bynnag undeb gredyd a ddefnyddiwch, nid oes unrhyw isafswm swm misol y mae’n rhaid i chi dalu i’ch cyfrif cyfredol.
A does dim angen i chi basio gwiriad credyd i gael cyfrif. Mae hyn oherwydd nad yw Undebau Credyd yn darparu gorddrafftiau fel arfer.
Os ydych chi angen benthyg arian, gallwch wneud cais i’r undeb credyd am fenthyciad.
Bydd yn edrych ar eich incwm, arbedion a hanes blaenorol cyn gwneud penderfyniad. (Gweler ‘Cyfrifon a gwasanaethau eraill’ isod)
Faint mae cyfrif cyfredol undeb credyd yn ei gostio?
Weithiau mae undebau credyd yn codi ffi weinyddol ar gyfrifon cyfredol, yn arbennig os ydynt yn cynnig cymorth gyda chyllidebu. Ond nid yw rhai’n codi ffi o gwbl. Gwiriwch gyda’ch undeb credyd lleol cyn gwneud penderfyniad
Mae rhai landlordiaid tai cymdeithasol a chynghorau wedi bod yn gweithio gydag undebau credyd i gynnig cyfrifon cyfredol i denantiaid gyda ffioedd is.
Os yw’ch landlord yn un ohonynt, efallai y gwelwch y bydd yn talu’r ffi weinyddol i chi.
Os yw’r cyfrif yn gadael i chi sefydlu Debyd Uniongyrchol ac archebion sefydlog i dalu biliau, bydd angen i chi wirio a fyddwch yn gorfod talu am Ddebydau Uniongyrchol a wrthodwyd.
Cyfrifon a gwasanaethau eraill undebau credyd
Cyfrifon cynilo
Mae’n werth gwirio’r cyfraddau cynilo a gynigir gan eich undeb credyd lleol – efallai y byddwch yn canfod eu bod yn well na’r rhai a gynigir gan fanciau’r stryd fawr a chymdeithasau adeiladu.
Unwaith y byddwch yn aelod ac wedi bod yn cynilo gydag undeb credyd am gyfnod penodol o amser, gallwch ymgeisio am fenthyciad.
Dysgu fwy am Cyfrifon cynilo undebau credyd
Benthyciadau
Mae undebau credyd yn ceisio sicrhau mai dim ond os gallant ei dalu yn ôl y byddant yn gadael i aelodau gymryd benthyciad. Maent yn gwneud hyn trwy asesu eich incwm ac edrych ar faint ydych wedi gallu ei gynilo.
Mae yna gap ar swm y llog y gallant godi ar eu benthyciadau. Mae hyn yn 3% y mis ym Mhrydain Fawr ac 1% y mis yng Ngogledd Iwerddon).
Darllenwch ein canllaw Benthyca gan undeb credyd
Beth i’w wneud os bydd pethau’n mynd o chwith gyda’ch cyfrif undeb credyd
Mae undebau credyd wedi eu rheoleiddio gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol. Mae hyn yn golygu bod rhaid iddynt fodloni rhai safonau penodol.
Os nad ydych yn fodlon â’r gwasanaeth a dderbynioch gan undeb credyd, dylech drafod y mater â nhw yn gyntaf.
Os nad yw’r undeb credyd yn datrys eich cwyn, gallwch fynd â’r mater i’r Gwasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol.
I gael gwybod sut i wneud cwyn, darllenwch ein canllaw Cael trefn ar broblem ariannol neu wneud cwyn
Beth fydd yn digwydd os bydd fy Undeb Credyd yn mynd i’r wal?
Diogelir yr holl arian sydd wedi’u cynilo mewn undeb credyd gan y Cynllun Iawndal Gwasanaethau Ariannol (FSCS) hyd at £85,000 y person. Mae hyn yr un lefle o ddiogelwch â chynilion mewn cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu.