Mae cyfrif ar y cyd yn galluogi i chi reoli unrhyw arian rydych yn ei rannu â rhywun arall. Mae hyn yn fwyaf tebygol o fod yn bartner i chi, ond gallai hefyd fod yn gyd-letywr neu unrhyw un arall. Mae’n gyfleus iawn er mwyn rhannu costau, ond mae risg bob amser o roi rheolaeth ar gyfrif unigol i nifer o bobl.
Beth yw cyfrif ar y cyd?
Mae cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu ar y cyd yn gyfrif yn enw dau neu fwy o bobl.
Gall pawb a enwir ar y cyfrif yn gallu rhoi arian i mewn neu ei gymryd allan - er weithiau mae angen i fwy nag un person gytuno i hyn.
Gan amlaf defnyddir cyfrifon ar y cyd gan y canlynol:
- cyplau priod, partneriaid sifil a chyplau sy’n cyd-fyw
- cyd-letywyr sy’n rhannu tŷ ac yn rhannu costau - fel rhent a biliau.
Nid yw cyfrifon ar y cyd yn addas os oes angen mynediad hirdymor arnoch at arian rhywun arall. Er enghraifft, os oes angen i chi helpu perthynas oedrannus i edrych ar ôl eu cyllid.
Os ydych yn y sefyllfa hon, darllenwch ein canllaw Pan fydd rhywun angen cymorth ffurfiol i reoli ei arian
Os ydych yn fyfyriwr sy'n byw gyda chyd-letywyr, darganfyddwch fwy yn ein canllaw Cyfrifon banc i fyfyrwyr a graddedigion
Cyfrifon banc ar y cyd - Y manteision ac anfanteision
Os oes gennych unrhyw amheuon am sefydlu cyfrif ar y cyd, peidiwch â gwneud hynny. Nid oes angen cyfrif ar y cyd arnoch os ydych eisiau rhannu popeth 50:50, er enghraifft.
Manteision
-
Ffordd syml o rannu eich arian a rheoli eich costau byw, fel biliau a thaliadau morgais neu rent.
-
Mae rhai cyplau’n teimlo bod cael cyfrif ar y cyd – a chael canllawiau pendant ar gyfer sut mae ei reoli – yn gallu helpu ag atal dadleuon am arian.
Anfanteision
-
Os oes hanes credyd gwael ag un ohonoch, fel arfer nid yw’n syniad da i agor cyfrif ar y cyd. Cyn gynted ag y byddwch yn agor cyfrif â’ch gilydd, byddwch yn cael eich ‘cyd-sgorio’ a bydd eich statws credyd yn dod yn gysylltiedig. Nid yw hyn yn digwydd trwy fyw gyda rhywun yn unig - hyd yn oed os ydych yn briod.
-
Rydych yn colli rhywfaint o breifatrwydd. Bydd pob deiliad y cyfrif arall yn gallu gweld ar beth rydych yn gwario arian.
-
Os bydd un o deiliad y cyfrif yn tynnu arian allan o’r cyfrif ar y cyd, nid oes llawer o opsiynau ar gyfer ei gael yn ôl.
-
Os bydd y cyfrif mewn gorddrafft, mae pob deiliad y cyfrif ar y cyd yn gyfrifol am yr holl arian sy’n ddyledus. Mae hyn yn golygu gallech fod yn atebol am ad-dalu dyled y person arall.
Os nad ydych yn siŵr a yw cyfrif ar y cyd yn iawn i chi, mae'n werth siarad â'ch partner.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Siarad â’ch partner am arian
Cyfrifon ar y cyd am daliadau Credyd Cynhwysol
Os ydych chi a’ch partner yn hawlio Credyd Cynhwysol, byddwch yn cael un taliad ar eich cyfer chi’ch dau - nid un yr un. Ond nid yw hyn yn golygu bod rhaid i chi agor cyfrif ar y cyd. Os yw’n well gennych, gallwch dalu’r arian i gyfrif â dim ond un o’ch enwau arno.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Taliadau Credyd Cynhwysol ar y cyd i gyplau
Sut i agor cyfrif ar y cyd
Nid yw agor cyfrif ar y cyd yn wahanol iawn i agor cyfrif banc arferol.
Mae angen i bob deiliad cyfrif lenwi eu hadran o'r cais yn unig. Efallai y bydd angen i chi ddarparu prawf cyfeiriad a phrawf hunaniaeth, ond os oes gennych gyfrif cyfredol â hwy eisoes, efallai na fydd angen y cam hwn.
Siaradwch â’ch banc yn ystod y broses ymgeisio, gan ofyn iddynt egluro:
- os gall unrhyw un dynnu arian allan heb gael caniatâd gan eraill ar y cyfrif
- sut bydd pob gorddrafft yn cael ei drin – fel rheol, mae pawb sy’n dal cyfrif yn gyfrifol am dalu’r holl arian sy’n ddyledus yn ei ôl ac efallai bydd y banc yn cymryd arian o gyfrif unigol rhywun i wneud iawn am y gorddrafft yn y cyfrif ar y cyd
- sut mae delio ag anghytuno neu ddiwedd perthynas ymhlith pobl sydd â chyfrif ar y cyd
‘Mandad’ neu ‘awdurdod’ yw’r enw ar y cytundeb ffurfiol ar gyfer pwy sy’n cael gwneud beth â’r cyfrif.
Mae rhaid i ddeiliad cyfrif dal llofnodi’r mandad wrth agor y cyfrif.
Mae’r mandad hwn yn wahanol i fandad ‘trydydd parti’. Mandad trydydd parti yw lle rydych yn rhoi caniatâd i berson penodol redeg eich cyfrif banc. Er enghraifft, os oes gennych salwch hirdymor neu os ydych yn mynd dramor am gyfnod.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw am gael cymorth anffurfiol i reoli eich arian
Cynilion di-dreth
Gall trethdalwyr ar y gyfradd sylfaenol ennill hyd at £1,000 o log ar eu cynilion heb orfod talu treth a gall trethdalwyr ar y gyfradd uwch ennill hyd at £500 o log yn ddi-dreth.
Y rhan fwyaf o'r amser, rhennir llog yn gyfartal rhwng y ddau ddeiliad cyfrif a bydd yn mynd tuag at bob un o'ch Lwfansau Cynilo Personol (PSA).
Dyma swm y llog cynilo y gallwch ei ennill bob blwyddyn heb dalu treth. Os ydych mewn gwahanol fracedi treth, mae'r llog yn dal i gael ei rannu'n gyfartal.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Treth ar gynilion a buddsoddiadau – sut mae'n gweithio
Sut i gau cyfrif banc ar y cyd
Ni fyddwch yn gallu cau cyfrif nes bod unrhyw orddrafft wedi'i dalu.
Bydd rhai darparwyr yn gadael i un person gau cyfrif ar y cyd, cyn belled nad oes anghydfod wedi'i gofrestru. Fel arall, bydd angen i chi'ch dau lofnodi ac anfon ffurflen cau cyfrif neu ymweld â changen â'ch gilydd.
Bydd angen i'ch banc neu gymdeithas adeiladu wybod sut y bydd yr arian yn cael ei ddosbarthu rhyngoch, a beth ddylai ddigwydd i unrhyw archebion sefydlog neu Ddebydau Uniongyrchol.
Bydd manylion yr holl gymdeithasau ariannol yn aros ar eich adroddiad credyd oni bai eich bod yn dweud wrth yr asiantaethau cyfeirio credyd fel arall.
Cysylltwch â’r tair asiantaeth - Callcredit, Equifax ac Experian - i gyhoeddi ‘rhybudd o ddatgysylltiad’. Mae hyn yn golygu na fydd eu hamgylchiadau ariannol yn effeithio ar eich ceisiadau credyd yn y dyfodol. Efallai y gofynnir i chi am brawf bod eich cysylltiad ariannol wedi'i dorri.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Sut i wella'ch sgôr credyd
Os bydd farw deiliad cyfrif ar y cyd
Os bydd farw rhywun rydych yn rhannu cyfrif â hwy, bydd angen prisio’r cyfrif ar y cyd fel ‘ased cydberchnogaeth’ pan fydd ei ystad yn cael ei gweithio allan.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Beth i’w wneud pan fydd rhywun yn marw
Os bydd pethau’n mynd o chwith
Sut mae delio ag anghytuno ag eraill sy’n dal y cyfrif
Os ydych yn cael problemau â'ch cyd-ddeiliaid cyfrifon, efallai oherwydd bod perthynas wedi dod i ben, canslwch y mandad.
Bydd hyn yn rhewi'r cyfrif. Mae hyn yn golygu na fydd unrhyw un, gan eich cynnwys chi, yn gallu tynnu arian yn ôl.
Dim ond pan fydd pawb yn cytuno ar sut i rannu'r arian y bydd eich banc neu'ch cymdeithas adeiladu yn datgloi'r cyfrif.
Ac, os na allwch ddod i gytundeb, efallai mai'r unig opsiwn fyddai gadael i'r llysoedd benderfynu pwy sy'n cael beth.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Trefnwch gyfrifon banc ar y cyd, yswiriant, biliau a chyllid arall â’ch cyn partner
Amddiffyn eich hun rhag cam-drin ariannol
Mae gan bawb yr hawl i annibyniaeth ariannol. Os yw'ch partner yn rheoli'ch arian neu'n rhedeg dyledion yn eich enw chi, mae'n cam-drin ariannol.
Ond nid oes angen i chi frwydro ymlaen ar eich pen eich hun.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Amddiffyn rhag cam-drin ariannol
Os bydd eich banc neu eich cymdeithas adeiladu yn mynd i’r wal
Yn union fel cyfrifon eraill, mae cyfrifon ar y cyd wedi’u gwarchod gan Gynllun Iawndal y Gwasanaethau Ariannol (FSCS) – hyd at £85,000.
Ar gyfer cyfrifon ar y cyd, mae Cynllun Iawndal y Gwasanaethau Ariannol (FSCS) yn cymryd yn ganiataol bod gan bawb sy’n dal y cyfrif gyfran gyfartal.
Felly, os oes dau berson yn dal cyfrif ar y cyd, gallech roi £170,000 yn y cyfrif – £85,000 yr un – a byddai’r cyfan wedi’i ddiogelu.