Got a pension question? Our help is impartial and free to use. Get in touch online or over the phone on 0800 011 3797
Cau
Skip to content
Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo
English
  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
  • Credyd Cynhwysol

    Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad

    Budd-daliadau os oes gennych blant

    Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant

    Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr

    Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd

    Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd

    Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth

    Budd-daliadau a gwaith

    Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd

    Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai

    Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel

    Problemau gyda budd-daliadau

    Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau

    Budd-daliadau

    Pob canllaw Budd-daliadau

    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn Llywio Ariannol

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Bancio a thaliadau

    Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc

    Cyllidebu

    Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian

    Prynu a rhedeg car

    Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg

    Credyd

    Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd

    Yswiriant

    Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant

    Arian bob dydd

    Pob canllaw Arian bob dydd

    Teclynnau

    Teclyn

    Cymharu cyfrifon banc

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Dod yn rhiant

    Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant

    Marwolaeth a phrofedigaeth

    Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau

    Ysgariad a gwahanu

    Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu

    Salwch ac anabledd

    Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio

    Gofal tymor hir

    Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal

    Arian myfyrwyr a graddedigion

    Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr

    Siarad am arian

    Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid

    Teulu a gofal

    Pob canllaw Teulu a gofal

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Prynu tŷ

    Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth

    Rhentu

    Rhentu cartref i fyw ynddo, rhentu cartref, a goresgyn problemau

    Cartrefi

    Pob canllaw Cartrefi

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Help gyda chostau byw

    Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi

    Delio â dyled

    Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion

    Problemau a chwynion am arian

    Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion

    Sgamiau

    Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan

    Problemau ariannol

    Pob canllaw Problemau ariannol

    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Ymrestru awtomatig

    Cyflwyniad, sut mae’n gweithio, popeth am gyfraniadau

    Adeiladu eich cronfa bensiwn

    Faint rydych ei angen, ffyrdd i adeiladu'ch cronfa, trosglwyddo ac uno

    Hanfodion pensiwn

    Dechrau pensiwn, mathau o bensiwn, deall pensiynau

    Problemau pensiwn

    Cwynion, cymorth ariannol pan wedi ymddeol, newidiadau i gynlluniau

    Pensiwn y Wladwriaeth

    Sut mae’n gweithio, beth allech chi ei gael, Yswiriant Gwladol

    Cymryd eich pensiwn

    Ffyrdd o dynnu eich pensiwn, pryd allwch chi ymddeol, apwyntiadau Pension Wise

    Treth a phensiynau

    Lwfansau treth, treth a delir ar bensiynau, rhyddhad treth

    Pensiynau ac ymddeoliad

    Pob arweiniad, gan gynnwys sut i ddefnyddio'r gwasanaeth Pension Wise

    Teclynnau

    Apwyntiad

    Trefnwch apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Darganfyddwch ymgynghorydd ymddeoliad

    POB TECLYN

    Trefnwch eich apwyntiad Pension Wise am ddim

    Dros 50 oed? Cewch arweiniad diduedd, am ddim o’n gwasanaeth sydd wedi’i gefnogi gan y llywodraeth. Byddwn yn esbonio’r opsiynau i gymryd arian o’ch cron…

  • Sut i gynilo

    Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau

    Buddsoddi

    Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli

    Math o gynilion

    Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant

    Cynilion

    Pob canllaw Cynilion

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Cyflogaeth

    Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol

    Colli eich swydd

    Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo

    Hunangyflogaeth

    Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad

    Gwaith

    Pob canllaw Gwaith

    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
  • Credyd Cynhwysol Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad
    Budd-daliadau os oes gennych blant Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant
    Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd
    Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth
    Budd-daliadau a gwaith Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd
    Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel
    Problemau gyda budd-daliadau Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau
    Budd-daliadau Pob canllaw Budd-daliadau
    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn Llywio Ariannol

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Bancio a thaliadau Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc
    Cyllidebu Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian
    Prynu a rhedeg car Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg
    Credyd Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd
    Yswiriant Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant
    Arian bob dydd Pob canllaw Arian bob dydd
    Teclynnau

    Teclyn

    Cymharu cyfrifon banc

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Dod yn rhiant Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant
    Marwolaeth a phrofedigaeth Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau
    Ysgariad a gwahanu Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu
    Salwch ac anabledd Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio
    Gofal tymor hir Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal
    Arian myfyrwyr a graddedigion Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr
    Siarad am arian Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid
    Teulu a gofal Pob canllaw Teulu a gofal
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Prynu tŷ Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth
    Rhentu Rhentu cartref i fyw ynddo, rhentu cartref, a goresgyn problemau
    Cartrefi Pob canllaw Cartrefi
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Help gyda chostau byw Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi
    Delio â dyled Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion
    Problemau a chwynion am arian Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion
    Sgamiau Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan
    Problemau ariannol Pob canllaw Problemau ariannol
    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Ymrestru awtomatig Cyflwyniad, sut mae’n gweithio, popeth am gyfraniadau
    Adeiladu eich cronfa bensiwn Faint rydych ei angen, ffyrdd i adeiladu'ch cronfa, trosglwyddo ac uno
    Hanfodion pensiwn Dechrau pensiwn, mathau o bensiwn, deall pensiynau
    Problemau pensiwn Cwynion, cymorth ariannol pan wedi ymddeol, newidiadau i gynlluniau
    Pensiwn y Wladwriaeth Sut mae’n gweithio, beth allech chi ei gael, Yswiriant Gwladol
    Cymryd eich pensiwn Ffyrdd o dynnu eich pensiwn, pryd allwch chi ymddeol, apwyntiadau Pension Wise
    Treth a phensiynau Lwfansau treth, treth a delir ar bensiynau, rhyddhad treth
    Pensiynau ac ymddeoliad Pob arweiniad, gan gynnwys sut i ddefnyddio'r gwasanaeth Pension Wise
    Teclynnau

    Apwyntiad

    Trefnwch apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Darganfyddwch ymgynghorydd ymddeoliad

    POB TECLYN

    Trefnwch eich apwyntiad Pension Wise am ddim

    Dros 50 oed? Cewch arweiniad diduedd, am ddim o’n gwasanaeth sydd wedi’i gefnogi gan y llywodraeth. Byddwn yn esbonio’r opsiynau i gymryd arian o’ch cron…

  • Sut i gynilo Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau
    Buddsoddi Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli
    Math o gynilion Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant
    Cynilion Pob canllaw Cynilion
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Cyflogaeth Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol
    Colli eich swydd Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo
    Hunangyflogaeth Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad
    Gwaith Pob canllaw Gwaith
    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

Home
English
  1. Hafan
  2. Problemau ariannol
  3. Help gyda chostau byw
Problemau ariannol Help gyda chostau byw

Siarad â’ch credydwr

Os ydych wedi cael eich dal allan gan filiau uchel a'ch bod yn poeni am fethu taliad, rhoi gwybod i'ch credydwr a chael sgyrsiau cynnar gyda nhw yw'r cam cyntaf gorau i ddatrys eich problemau ariannol ac osgoi mynd i ddyled broblemus. Eich credydwr yw unrhyw sefydliad rydych yn ddyledus iddynt, er enghraifft, eich landlord neu gymdeithas dai, benthyciwr morgais, cyflenwr nwy, cyflenwr trydan neu'ch cyngor.

Darganfyddwch sut i gymryd camau i helpu - neu lawrlwythwch ein canllaw Siarad â’ch benthyciwr

Dau dyn ifanc yn gwenu

Buddion siarad â’ch credydwr

Chwalu mythau – siarad â’ch credydwyr

Gwybod lle i ddechrau

Paratoi i siarad â’ch credydwr

Gwneud y cyswllt cyntaf

Opsiynau gall eich credydwr eu cynnig i chi

Ar ôl siarad â’ch credydwr

Beth os na allwch gael canlyniad positif

Buddion siarad â’ch credydwr

Er nad yw gofyn am help yn rhywbeth rydych eisiau ei gwneud, mae buddion i/o estyn allan i’ch credydwr yn gyntaf am eich trafferthion arian.

Mae’n rhwystro pethau rhag mynd yn wael

Os ydych yn gwybod nid oes modd i chi dalu eich taliad nesaf, mae rhoi digon o rybudd i’ch credydwr yn golygu efallai y gallent roi cynllun mewn lle i’ch helpu cyn i bethau mynd yn waeth.

Gall parhau i anwybyddu’r broblem golygu y byddech yn wynebu llog a ffi taliad hwyr ac yn y pendraw colli’r gwasanaeth, y nwyddau neu roi eich cartref o dan risg. beryglu eich cartref.

Mae’n rhaid i’ch credydwr eich helpu

Bydd dweud wrth eich credydwr eich bod yn cael trafferth yn eu helpu nhw i'ch helpu chi. Dylent gynnig amrywiaeth o opsiynau cymorth a fydd yn gweithio i'r ddau ohonoch felly mae'n werth darganfod beth y gallant ei wneud.

Os oes gennych anabledd corfforol, yn profi problemau iechyd meddwl neu'n agored i niwed mewn ffordd arall, megis os ydych wedi dioddef profedigaeth, efallai y bydd ganddynt hefyd dimau arbenigol i'ch cynrychioli a'ch cefnogi ar hyd y ffordd.

Osgoi benthyg arian

Gall credydwyr gweithio gyda chi i gytuno ar gynlluniau talu mwy hyblyg. Trwy wneud hwn, gallwch hefyd osgoi benthyg mwy o arian er mwyn eu talu nhw, sydd yn y diwedd yn costio llai i chi.

Byddwch yn ymwybodol, bydd rhai datrysiadau sy’n cael eu cynnig yn effeithio ar eich sgôr credyd, felly mae’n werth darganfod mwy cyn cytuno i gynllun.

Cael mynediad at grantiau elusennol

Gall credydwyr eich rhoi mewn cysylltiad ag elusennau neu gymorth gwahanol sydd yn cynnig grantiau nad oes rhaid i chi dalu yn ôl i’ch helpu talu eich biliau.

Er enghraifft, mae Ymddiriedolaeth Cymorth Egni Nwy Prydain yn cynnig grantiau i bobl sy’n cael trafferth â chostau tanwydd, ac nid oes rhaid i chi fod yn gwsmer Nwy Prydain er mwyn gwneud cais.

Osgowch fenthyg arian

Gall credydwyr weithio gyda chi i gytuno ar drefniadau talu mwy hyblyg. Drwy wneud hynny, gallwch osgoi benthyca mwy o arian i'w talu, a fydd yn y pen draw yn costio llai i chi.

Byddwch yn ymwybodol, bydd rhai atebion a gynigir yn effeithio ar eich sgôr credyd, felly mae'n werth cael gwybod cyn cytuno i gynllun.

Arbed arian gyda thariff gwell

Gall rhai credydwyr cynnig tariff gwell i chi neu fargenion sy’n fwy addas i’ch anghenion a’ch cyllid.

Er enghraifft, os ydych ar incwm isel neu yn agored i niwed, mae cwmnïoedd dŵr, ynni a rhyngrwyd yn cynnig tariff sy’n gwarantu eich bod ar y fargen ratach neu sy’n rhoi cap ar eich biliau.

Oedd y wybodaeth yma yn ddefnyddiol?

Diolch am eich adborth.

Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Nol i’r brig

Chwalu mythau – siarad â’ch credydwyr

Yn meddwl nad yw’n werth ei gwneud? Rydym yn trefnu’r gwir o’r ffug am siarad â’ch credydwr os ydych yn cael trafferthion arian.

Myth: Maent ond eisiau arian

Ffaith: Tra bod ganddynt ddiddordeb yn yr arian sy’n ddyledus iddynt, mae’n fwy costus iddynt gymryd camau drastig, fel rhwystro’ch gwasanaeth neu eich cymryd i’r llys. Maent am ddatrys pethau’n gynnar gan ei fod yn well i’r ddau ohonoch.

Mae nifer o gwmnïoedd gyda chefnogaeth ychwanegol mewn lle ar gyfer sefyllfaoedd fel hyn, a dylent weithio gyda chi i ddod i gytundeb teg a fforddiadwy sy’n gweithio iddyn nhw ac eich sefyllfa ariannol.

Myth: Byddant yn torri fy ngwasanaeth i ffwrdd

Ffaith: Dyna'r dewis olaf nad oes neb ei eisiau.

Yn y pen draw, mae gan eich darparwr y pŵer i derfynu'r gwasanaeth y mae'n ei ddarparu i chi, ond dim ond os byddwch yn gwrthod ymgysylltu â nhw ac yn methu â gwneud unrhyw daliadau tuag at eich bil yn barhaus.

Mae eithriadau i'r hawl i derfynu gwasanaethau. Er enghraifft, ni chaniateir i gwmnïau dŵr ddatgysylltu na chyfyngu ar eich cyflenwad dŵr hyd yn oed os ydych yn ddyledus iddynt.

Myth: Byddan nhw'n gwrthod siarad â mi

Ffaith: Gyda chostau byw cynyddol ac adladd y pandemig, mae credydwyr yn disgwyl i nifer o bobl cael trafferth ar hyn o bryd. Maent wastad eisiau siarad â chi ac am glywed beth sydd gennych i ddweud.

I sicrhau eu bod yn nhw’n gwrando, byddwch yn onest am eich sefyllfa, peidiwch ag addo pethau i’ch credydwyr na allwch eu cadw.

Sicrhewch eich bod yn darparu tystiolaeth, fel llythyrau meddyg os oes angen. Bydd hwn yn ei helpu i gael y cymorth cywir mewn lle.

Myth: Does dim arian gen i i’w gynnig

Ffaith: Ni all ddarparwyr rydych yn ddyledus iddynt nhw eich gorfodi i dalu rhywbeth nad oes gennych, felly siaradwch â nhw cyn i chi fethu taliad. Mae dweud wrthynt am eich sefyllfa a dangos nad oes gennych yr arian yn golygu bod yn rhaid iddynt weithio o gwmpas hwn.

Efallai y byddent yn eich galluogi i gymryd seibiant o wneud taliadau am dymor byr neu gynnig taliadau llai dros gyfnod ad-dalu hirach. Os ydych wir yn cael trafferth, gallwch wneud cais i ddileu rhan neu’r cyfan o’r ddyled mewn achosion difrifol.

Oedd y wybodaeth yma yn ddefnyddiol?

Diolch am eich adborth.

Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Nol i’r brig

Gwybod lle i ddechrau

Cyn cysylltu â’ch darparwr, y cam cyntaf yw cymryd amser i gael popeth mewn trefn. Dyma beth sydd eu hangen arnoch i ddechrau.

Creu rhestr o’ch holl filiau a thaliadau

Dewch o hyd i’ch gwaith papur i gyd sy’n ymwneud â’ch biliau.

Yna, ewch drwyddo gan nodi pob rhif cyfrif a balans, dyddiadau y mae’r taliadau’n ddyledus, taliadau misol, faint sy’n ddyledus a manylion cyswllt y credydwyr.

Ystyriwch ddefnyddio taenlen i drefnu’ch rhestr o filiau fel eich bod yn gallu olrhain taliadau yn hawdd, a gweld faint sy’n ddyledus gennych ac yn talu pob mis.

Delio gyda’ch biliau yn y drefn gywir

Mae rhai biliau yn bwysicach nag eraill, felly mae’n bwysig i fynd i’r afael â nhw yn y drefn gywir.

Unwaith mae gennych restr mewn lle, gallwch ddefnyddio ein Blaenoriaethwr Biliau i’ch helpu i drefnu pa filiau i ddelio â’n gyntaf a darganfod sut i osgoi methu taliadau.

Mae hefyd awgrymiadau defnyddiol a chymorth ychwanegol gall fod ar gael sy’n golygu y gallwch ddelio â phethau ar eich pen eich hun.

Trefnwch eich taliadau gyda’n Blaenoriaethwr Biliau

Cysylltu â mwy nag un credydwr

Os ydych yn ddyledus i sawl cwmni nad ydych yn gallu ei ad-dalu, canolbwyntiwch ar daliadau blaenoriaeth yn gyntaf fel eich rhent neu forgais, Treth Gyngor neu Ardrethi, a biliau nwy a thrydan. Mae gan y rhain y canlyniadau mwyaf difrifol os na fyddwch yn talu unrhyw beth tuag atynt.

Os ydych wedi methu taliadau, gall siarad â nifer o gredydwyr deimlo'n llethol, felly gallwch siarad â chynghorydd dyled yn gyntaf. Gallant hyd yn oed siarad â'ch credydwyr ar eich rhan. Maen nhw'n cynnig cyngor ar-lein, dros y ffôn neu'n agos at ble rydych chi'n byw.

Siaradwch â rhywun heddiw gan ddefnyddio ein Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

Os ydych chi'n cael trafferth gyda'ch morgais, edrychwch ar ein canllaw Help gyda thaliadau morgais

Oedd y wybodaeth yma yn ddefnyddiol?

Diolch am eich adborth.

Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Nol i’r brig

Paratoi i siarad â’ch credydwr

Gall ddod yn drefnus, meddwl am beth gall eich credydwr gofyn a sut y byddwch yn cysylltu â nhw gwneud sgyrsiau yn haws.

Sicrhewch fod eich gwaith papur yn barod

Gall cael y wybodaeth i gyd a’r manylion cyfrif bydd angen arnoch wrth law, gan gynnwys rhifau cyfeirnod eich helpu i chi ffocysu ar y ffeithiau a’ch gwneud i chi deimlo mewn rheolaeth o’r sgwrs gan fydd modd i chi ateb cwestiynau’n haws.

Os ydych yn gofyn am gymorth oherwydd bod rhywbeth wedi digwydd, er enghraifft, rydych wedi colli’ch swydd neu rydych yn cael trafferth o ganlyniad i salwch neu ddamwain, profedigaeth neu chwalu perthynas mae’n ddefnyddiol cael llythyr meddyg neu gyfriflen banc sy’n dangos gostyngiad yn eich incwm yn agos.

Os oes dogfennau ar goll gennych, gallwch ofyn i’ch credydwyr am gopïau neu fynediad iddynt drwy eich cyfrif ar-lein os oes un gennych.

Os bydd dod o hyd i ddogfennau yn cymryd gormod o amser neu nad ydych yn teimlo fel chwilio amdanynt, peidiwch â gadael i’r dogfennau coll eich rhwystro rhag siarad â’ch credydwr.

Mae hwn yn arbennig o wir os ydych yn agored i niwed neu’n dioddef o iechyd meddwl isel ac mae hwn yn teimlo’n ormod i chi. Byddai’n well gan eich credydwr eich bod yn cysylltu â nhw, a gallech weithio allan pa ddogfennau sydd angen arnoch gyda’ch gilydd.

Edrychwch ar eich cyllideb

Cyn i chi gysylltu â’ch credydwr, mae’n syniad da i gymryd yr amser i edrych ar eich incwm ac alldaliadau hanfodol i weithio allan faint y gallwch fforddio talu.

Os ydych am greu cyllideb fanwl, gallwch ddefnyddio ein Cynlluniwr Cyllideb i’ch helpu. Mae ond yn cymryd 20 munud i’w lenwi.

Nid oes rhaid i chi ddefnyddio taenlennu ffansi neu gynllunydd. Mae rhai pobl yn defnyddio llyfrau ymarfer neu gallwch ddefnyddio ap ar-lein.

Fodd bynnag, peidiwch â phoeni os na fedrwch wneud hwn, gall eich credydwr mynd trwy bopeth gyda chi a’i gweithio allan.

Cofiwch, mae sefyllfa pawb yn wahanol, a dylai credydwyr eich cefnogi a’ch trin yn deg.

Gall ein Cynlluniwr Cyllideb eich helpu i ddeall faint gallwch gynnig i’ch credydwr

Dewis sut byddwch yn cysylltu â’ch credydwr

Gobeithio y byddwch yn teimlo llai o straen os ydych yn dewis ffordd i gysylltu â’ch credydwr sy’n teimlo yn gyfforddus i chi. Dyma rhai pethau i feddwl am:

Dros y ffôn

Dewiswch ddiwrnod ac amser sy’n addas i chi, fel na fydd yn rhaid i chi adael y sgwrs i ddelio ag ymrwymiadau eraill.

Cofiwch, yn aml mae gan ganolfannau cyswllt amseroedd prysur, felly, os gallwch, yr amser orau i ffonio yw canol y bore neu ganol y prynhawn neu’n gynnar yn y noswaith yn lle amser cinio neu peth cyntaf yn y bore.

Gwesgwrs neu WhatsApp

Ystyriwch ddefnyddio gwesgwrs neu WhatsApp os nad ydych yn barod. Mae’n rhoi rheolaeth y sgwrs i chi a gallwch ymateb yn amser eich hun.

E-bost neu lythyr

Os byddai’n well gennych i ddanfon e-bost neu lythyr, mae gan Gyngor ar BopethYn agor mewn ffenestr newydd a StepChangeYn agor mewn ffenestr newydd llythyrau sampl y gallwch eu defnyddio, er enghraifft, os na allwch fforddio cadw lan â thaliadau neu i ofyn am gytundeb talu dros-dro.

Cofiwch, gall gymryd mwy o amser i dderbyn ymateb, felly’n well eu defnyddio os nad yw’ch ymholiad ar frys.

Edrychwch ar gefn eich bil neu ddatganiad am ffyrdd o gysylltu â’ch credydwr

Gofynnwch i ffrind neu aelod o'r teulu eich helpu

Gall ddelio â phroblemau arian achosi straen. Mae’n helpu i gael rhywun rydych yn ymddiried ynddynt i helpu a chefnogi chi trwy’r broses, p’un ai ydynt yn eich helpu i ysgrifennu a phrawf ddarllen eich gohebiaeth neu eich helpu i ymarfer beth rydych am ddweud.

Gall aelod o’r teulu neu ffrind rydych yn ymddiried ynddynt hyd yn oed gweithredu fel eich cynrychiolydd os bydd cyfathrebu â’ch darparwr yn anodd i chi.

Esbonio eich sefyllfa

Mae’n bwysig i fod yn onest am eich sefyllfa a byddwch mor agored ag ydych yn gyfforddus gydag am unrhyw beth y gall helpu esbonio pam rydych yn cael trafferth. Dilynwch y strwythur isod i helpu eich sgwrs:

  • Dywedwch wrthynt eich bod methu fforddio’ch taliad arferol
  • Esboniwch pam na allwch dalu, er enghraifft, os ydych wedi colli’ch swydd, neu fod gennych salwch neu anabledd, neu eich bod wedi profi rhywbeth sydd wedi cael effaith negyddol ar eich bywyd fel profedigaeth.
  • Gofynnwch iddynt a yw’n bosib newid telerau eich ad-daliad.
  • Yn dibynnu ar y credydwr a beth allant gynnig, darganfyddwch os neu sut y gallai effeithio ar eich sgôr credyd.
  • Os ydych yn dod i gytundeb newydd, sicrhewch eich bod yn ei gael yn ysgrifenedig.

Oedd y wybodaeth yma yn ddefnyddiol?

Diolch am eich adborth.

Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Nol i’r brig

Gwneud y cyswllt cyntaf

Gall cysylltu â’ch credydwr fod yn frawychus, yn arbennig enwedig os nad ydych wedi’i wneud o’r blaen. Dyma restr wirio i’ch helpu trwy’r sgyrsiau hyn.

Gweithredwch nawr

Yn aml y peth anoddach yw ffeindio’r amser a chodi’r dewrder i gysylltu â’ch credydwr i ofyn am help.

Ond gall gweithredu nawr arbed arian a straen yn yr hirdymor.

Bydd cael sgwrs yn rhoi’r cyfle i chi i ddod i ddatrysiad gyda’ch credydwr cyn i chi fethu taliad a gallech gael eich synnu gan faint yn well mae’n teimlo i gymryd rheolaeth yn ôl dros y sefyllfa.

Byddwch yn barod gyda phapur a phen

Ysgrifennwch y prif bwyntiau rydych am eu trafod i lawr a beth rydych yn cael trafferth gyda.

Cymerwch nodiadau yn ystod eich sgwrs, gan gynnwys dyddiad ac amser y galwad, enw’r person rydych yn siarad â ac yr opsiynau maent yn cynnig.

Os ydych yn anfon e-bost, copïwch eich hun i mewn i’r neges fel y gallwch ddod o hyd iddo yn y dyfodol.

Cadwch eich nodiadau mewn lle diogel – maen nhw’n gofnod o bopeth gwnaethoch drafod.

Ymarferwch beth rydych am ei dweud

Ystyriwch ofyn i aelod o’ch teulu neu ffrind rydych yn ymddiried ynddynt os bydden nhw’n gwneud galwad ymarferol â chi.

Os ydych yn bwriadu e-bostio’ch credydwr, gofynnwch i rywun gwirio’ch neges cyn ei anfon.

Gallwch hefyd ofyn i ffrind neu aelod o’r teulu i siarad ar eich rhan os ydych yn poeni am y sgwrs. Bydd rhaid i chi roi caniatâd.

Gofynnwch am gymorth ychwanegol os oes ei angen arnoch

Rhowch wybod i’ch credydwr eich bod yn cael trafferth gyda’ch iechyd meddwl, anabledd meddyliol neu gorfforol neu eich bod yn agored i niwed, er enghraifft, rydych yn rhiant sengl, gofalwr neu berson hŷn. Mae gan y rhan fwyaf o gredydwyr timau a all gynnig cymorth ychwanegol.

Os ydych yn meddwl byddwch yn cael trafferth cyfathrebu â’ch darparwr, gallwch ofyn i rywun rydych yn ymddiried ynddynt i weithredu fel eich cynrychiolydd. Gallwch hefyd ofyn i’ch credydwr i weld os oes ganddynt wasanaeth cynrychiolydd neu benodai neu wasanaethau dehongli ar gyfer pobl gydag anghenion ychwanegol.

Rhowch wybod iddynt hefyd os bydd hi’n cymryd amser i chi ymateb, er enghraifft os ydych yn dibynnu ar rywun arall i’ch helpu i gyfathrebu.

Sicrhewch eich bod yn cael popeth yn ysgrifenedig

Pan mae’n dod i greu cytundeb newydd, gofynnwch i’ch credydwr e-bostio neu ddanfon llythyr yn cadarnhau'r newidiadau. Mae hwn fel bod gennych dystiolaeth o’ch cytundeb newydd.

Efallai bydd hefyd angen i chi ddilyn y sgwrs gyda rhagor o wybodaeth, gan gynnwys unrhyw ddogfen y bydd angen i chi ddarparu, er enghraifft, tystiolaeth o ddiweithdra.

Oedd y wybodaeth yma yn ddefnyddiol?

Diolch am eich adborth.

Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Nol i’r brig

Opsiynau gall eich credydwr eu cynnig i chi

Dyma rhai o’r datrysiadau gall eich credydwr cynnig i chi. Cyn cytuno i gynllun, sicrhewch eich bod yn deall yr effaith y gall ei gael ar eich sgôr credyd.

Cynllun ad-daliad hyblyg

Ar ôl i’ch credydwr mynd trwy eich incwm ac alldaliadau â chi i weld faint y gallwch fforddio i’w ad-dalu, efallai y byddent yn eich caniatau i:

  • gwasgaru taliadau dros gyfnod hirach, yn golygu byddech yn gwneud taliadau llai bob mis
  • talu swm llai dros-dro os ydych yn gwybod bydd eich cyllid yn gwella yn y tymor byr
  • talu llai na’r swm misol contractiol am gyfnod penodol
  • ail-gyllidebu benthyciad ar raddfa llog llai
  • hepgor cyfraddau llog am gyfnod cyfyngedig
  • lleihau neu ostwng ffi taliad hwyr

Gwyliau talu

Efallai bydd eich credydwr yn eich caniatau galluogi i gymryd gwyliau talu (a elwir hefyd yn gohirio). Mae hwn fel arfer yn golygu y gallwch naill ai:

  • cymryd seibiant o wneud taliadau nes bod eich sefyllfa yn ôl dan reolaeth, neu
  • gohirio taliadau am amser byr os ydych yn disgwyl i’ch incwm cynyddu cyn bo hir

Byddwch yn ymwybodol gall llog parhau i gronni yn y cefndir gyda chynhyrchion ariannol, felly mae’n bosibl y byddwch yn talu mwy yn y tymor hir. Gofynnwch faint mae hwn yn debygol o fod pob tro.

Mae gwyliau talu yn debygol o ychwanegu at eich ffeil credyd a gall cael effaith ar eich sgôr credyd. Fodd bynnag, caiff hwn effaith llai na cholli taliadau, cyn belled rydych yn cadw at y cytundeb newydd.

Newid tariff neu gynnyrch

Yn ogystal â chynnig cytundebau taliad mwy hyblyg, dylai eich credydwr hefyd gwirio os ydych ar y tariff gorau ar gyfer eich anghenion.

Efallai y byddent yn eich helpu i symud i dariff rhatach sydd yn fwy addas i’ch cyllideb a’ch defnydd.

Mae’r tariffau orau (a elwir hefyd yn dariffau cymdeithasol) yn aml ar gyfer pobl sydd yn derbyn budd-daliadau penodol neu sydd ag anghenion eraill.

Os ydych yn cael trafferth â thaliadau, efallai gall eich darparwr gwirio os ydych yn hawlio’r budd-daliadau rydych yn gymwys iddynt, fel eich bod yn gymwys am y tariffau a’r cynhyrchion gorau i leihau eich biliau.

Mae tariffau cymdeithasol ar gael ar gyfer eich biliau dŵr, tra bod rhai credydwyr yn cynnig tariffau cymdeithasol i’ch helpu gwneud galwadau ffôn symudol a dod ar-lein os ydych yn derbyn budd-daliadau penodol.

Opsiynau eraill

Yn dibynnu ar eich darparwr a’ch sefyllfa, efallai byddent yn eich caniatáu  i:

  • talu llog y benthyciad yn unig hyd nes bod y gallu gennych i ddechrau taliadau misol eto
  • ildio’n wirfoddol neu roi eitem a brynwyd ar gredyd yn ôl, neu
  • gwerthu’r eitem a defnyddio’r arian parod i dalu'r balans sy’n weddill neu ran ohono
  • gwerthu eich cartref yn wirfoddol os na fedrwch fforddio byw yna rhagor
  • cael mynediad at dariffau gostyngol neu gynlluniau rhyddhad os ydych yn cwrdd â chymhwysedd penodol, neu
  • eich helpu i gael mynediad at gynlluniau cymwynasgar os ydych yn cwrdd â chymhwysedd penodol.

Cofiwch, byddwch ond yn gallu gwerthu neu roi eitemau yn ôl os yw’ch cytundeb yn eich caniatau i wneud hyn.tract allows you to.  

Dileu dyled yn rhannol neu’n llawn

Fel arfer mae credydwyr ond yn dileu dyled lle mae cyfle bach iawn y bydden nhw’n cael ei arian yn ôl yn llawn. Er enghraifft, os ydych yn dioddef neu’n wynebu salwch meddwl neu gorfforol hirdymor neu eich bod methu â gweithio’n barhaol. Bydd angen i chi darparu tystiolaeth o’r amgylchiadau hon cyn i ddarparwr ystyried dileu dyled.

Os ydych yn gwynebu trafferthion ariannol o ganlyniad i newid dros-dro mewn amgylchiadau, mae’n annhebygol y byddent yn cytuno i ddileu eich dyledion.

Oedd y wybodaeth yma yn ddefnyddiol?

Diolch am eich adborth.

Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Nol i’r brig

Ar ôl siarad â’ch credydwr

Os ydych wedi dod i gytundeb newydd gyda’ch credydwr, gofynnwch am gadarnhad ysgrifenedig. Bydd ein rhestr wirio yn eich helpu gyda’ch camau nesaf.

Gwirio telerau’r cytundeb newydd

Pan fyddwch wedi dod i gytundeb newydd, sicrhewch eich bod yn ei gael yn ysgrifenedig. Gofynnwch i’ch darparwr anfon llythyr sy’n amlinellu amodau a thelerau’r cytundeb newydd.

Pan fyddwch yn cael y llythyr, adolygwch y ddogfen yn ofalus i sicrhau bod y cytundeb yn gywir ac nid oes telerau coll neu ychwanegol sydd heb gael eu cytuno.

Os oes camgymeriad, sicrhewch eich bod yn cysylltu â’ch credydwr i drafod eich cytundeb eto a chael copi o’r cytundeb newydd cyn gwneud taliadau.

Os yw popeth yn gywir, dechreuwch wneud taliadau a chadwch at y cynllun.

Cadwch mewn cysylltiad

Mae’n bwysig i roi gwybod i’ch credydwyr am unrhyw newidiadau i’ch sefyllfa ariannol.

Gwnewch nodyn o bwy rydych yn siarad â os oes angen galw yn ôl.  Os ydych wedi cytuno i bwyntiau gwirio, yna rhowch nhw yn eich calendr, fel na fyddwch yn anghofio.

Os yw eich credydwr am eich ffonio chi, dywedwch sut byddwch am iddynt gysylltu â chi a rhowch yr amserau orau i’ch cyrraedd chi.

Os ydych yn ffeindio eich bod tu ôl ar daliadau, siaradwch â’ch credydwyr mor fuan â phosib er mwyn dod o hyd i ddatrysiad taliadau newydd sy’n gweithio i chi a’ch cael yn ôl mewn rheolaeth.

Cael help i dorri’n ôl ar gostau

Os oes le i chi dorri yn ôl fel eich bod yn gallu gwneud eich ad-daliadau, gall hwn fod yn rhywbeth i ystyried.

Dysgwch sut i dorri’n ôl ar gostau a dod o hyd i ffyrdd i wneud i’ch incwm fynd yn bellach ymhellach yn ein canllaw Byw ar incwm gwasgedig

Beth i wneud os yw eich credydwr yn eich cyfeirio at gyngor ar ddyledion

Mae’n rhaid i’ch credydwr gweithio â chi i geisio dod o hyd i ddatrysiad ond weithiau ni fydd hwn yn bosibl. Efallai y byddent yn awgrymu eich cyfeirio at gyngor ar ddyledion. Gall hwn fod yn syniad da iawn, yn enwedig os ydych yn cael trafferth gyda thaliadau eraill hefyd.

Gall rhai credydwyr eich trosglwyddo yn syth i gyngor ar ddyledion ar yr un alwad ond os oes angen amser i feddwl arnoch neu rydych am benderfynu ar gynghorydd eich hunan, defnyddiwch ein teclyn canfyddwr cyngor ar ddyledion i ddod o hyd i wasanaethau ffôn, ar-lein a wyneb-i-wyneb yn eich ardal leol.

Oedd y wybodaeth yma yn ddefnyddiol?

Diolch am eich adborth.

Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Nol i’r brig

Beth os na allwch gael canlyniad positif

Darganfyddwch beth i’w wneud os nad ydych yn mynd unrhyw le neu sut i wneud cwyn.

Byddwch yn barhaus

Os ydych yn ffeindio’ch hun mewn sefyllfa lle nad ydych yn gallu cael gafael ar eich credydwr, ceisiwch eto.

Ystyriwch gysylltu â nhw trwy ddefnyddio dull gwahanol, er enghraifft, os na fedrwch gael gafael dros y ffôn, anfonwch e-bost neu lythyr yn lle neu geisiwch ddefnyddio’r gwesgwrs neu WhatsApp.

Mae cael popeth yn ysgrifenedig yn syniad da fel bod gennych gofnod eich bod wedi ceisio cysylltu â nhw, yn enwedig os ydych yn agos i fethu taliad.

Gallwch hefyd ofyn i aelod o’ch teulu neu ffrind rydych yn ymddiried ynddynt i’ch helpu gwneud cysylltiad.

Os ydych yn cael trafferth gyda methu taliadau, yn aml gall cynghorydd dyled cysylltu â’ch credydwyr ar eich rhan a gall bod ganddynt gysylltiadau a all cyflymu pethau.

Gwneud cwyn

Os ydych yn teimlo nad yw eich credydwr yn eich trin yn deg, rhowch wybod iddynt trwy ysgrifennu llythyr neu e-bost. Gallwch ddod o hyd i lawer o awgrymiadau i’ch helpu ysgrifennu cwyn ar wefan StepChangeYn agor mewn ffenestr newydd

Gallwch fynd a’ch cwyn ymhellach os nad ydych yn teimlo bod eich credydwr wedi datrys pethau trwy gysylltu â’r cwmnïoedd isod:

  • Gwasanaeth Ombwdsmon AriannolYn agor mewn ffenestr newydd – ar gyfer cwynion am fenthyciadau personol, benthyciadau diwrnod cyflog, cardiau credyd a siopau, gorddrafftau, morgeisiau, a pholisïau yswiriant
  • CISASYn agor mewn ffenestr newydd neu Wasanaethau Ombwdsmon: CyfathrebuYn agor mewn ffenestr newydd – ar gyfer cwynion am ddarparwyr ffôn neu ryngrwyd
  • Gwasanaeth Ombwdsmon: YnniYn agor mewn ffenestr newydd – ar gyfer cwynion am gwmnïoedd nwy ac ynni yng Nghymru, Lloegr a’r Alban. Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon, cysylltwch â The Consumer CouncilYn agor mewn ffenestr newydd
  • Cymdeithas OmbwdsmonYn agor mewn ffenestr newydd – ar gyfer cwynion am wasanaeth cyhoeddus, awdurdod lleol neu adran o’r llywodraeth.

Siaradwch â ni

Angen mwy o help? Cysylltwch â ni am gyngor ariannol diduedd ac am ddim os ydych angen help gyda chyllidebu neu wneud i’ch arian mynd ymhellach, pe bai ar-lein neu dros y ffôn.

Beth bynnag yw’ch ymholiad, rydym yma i helpu. Os nad ydym yn gwybod yr ateb byddwn yn gallu rhoi chi ar y trywydd iawn i gysylltu â rhywun sydd â’r ateb.

Gallwch gysylltu â ni trwy Gwesgwrs, WhatsApp, dros y ffôn, trwy ddefnyddio’n ffurflen ar-lein, neu trwy gyfryngau cymdeithasol

Oedd y wybodaeth yma yn ddefnyddiol?

Diolch am eich adborth.

Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Nol i’r brig

Ydych chi wedi methu taliad?

Eicon biliau ac ebychnod mewn triongl rhybudd melyn

Os felly, nawr yw’r amser i gael cyngor ar ddyledion

  • Mae am ddim ac yn gyfrinachol

  • Yn rhoi gwell ffyrdd i chi reoli eich dyledion a’ch arian

  • Yn sicrhau eich bod yn hawlio’r holl fudd-daliadau a hawliadau cywir

Darganfyddwch fwy am gyngor ar ddyled
Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Rhannu erthygl
E-bost Facebook Twitter
Rhannu hwn gyda
WhatsApp LinkedIn
Copio’r ddolen yma
Anfon e-bost
Copio’r ddolen yma

Efallai bydd gennych ddiddordeb mewn...

Byw ar incwm gwasgedig
Os ydych yn poeni am gostau byw cynyddol, darganfyddwch ffyrdd o wneud i'ch incwm fynd ymhellach. Dysgwch sut i gyllidebu, cwtogi ar gostau a gwel...
Blaenoriaethwr biliau: cael help gyda’ch biliau
Os na allwch dalu eich treth cyngor, morgais neu filiau cyfleustodau, mae’n bwysig cael help i osgoi canlyniadau difrifol. Darganfyddwch pa opsiyn...
Diswyddo a cholli eich swydd
Os ydych yn wynebu cael eich diswyddo neu golli swydd, rhaid i’ch cyflogwr eich trin yn deg. Darganfyddwch am y broses ddiswyddo a ble y gallwch g...
Logo Llywodraeth E.M

Darperir HelpwrArian gan:

Logo Gwasanaeth Arian a Phensiynau
Level AA conformance, W3C WAI Web Content Accessibility Guidelines 2.1 Clear English Standard for Websites logo
  • Amdanom ni
  • Cael help a chyngor
  • Cysylltu â ni
  • Partneriaethau
  • Offer a chyfrifianellau
  • Rhoi adborth
  • Cynllun Iaith Gymraeg
  • Blog

Dilynwch ni:

© 2023 Money and Pensions Service, 120 Holborn, London EC1N 2TD. Cedwir pob hawl.

  • Telerau ac amodau
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Datganiad hygyrchedd
  • Map safle
  • Sut rydym yn defnyddio cwcis
  • Dewisiadau cwcis Dewisiadau cwcis
Siaradwch â ni yn fyw am...
Cau
Siaradwch â ni yn fyw am...
Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio’r ffôn
  • O dramor: +44 20 7932 5780
  • I’r hunangyflogedig: 0345 602 7021*
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn – Sul:Wedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn
  • Cymraeg: 0800 138 0555*
  • Typetalk: 18001 0800 915 4622
  • O dramor: +44 20 3553 2279
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Blaenorol Cau

Blaenorol Cau

Blaenorol Cau

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun–Gwener8am-6pm
  • Sadwrn8am - 3pm
  • Sun and bank holidaysWedi cau
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun, Mercher, Gwener8.20am - 6.20pm
  • Tues, Thurs9am - 6.20pm
  • Sat, Sun and bank holidaysWedi cau
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion, cwestiynau credyd neu ganllaw pensiynau. Am bopeth arall, cysylltwch â ni trwy Wesgwrs neu dros y Ffôn.

Blaenorol Cau