Mae cynnal eich taliadau trwydded teledu’n bwysig oherwydd mae’n cael ei ystyried yn ddyled â blaenoriaeth. Gall Trwyddedu Teledu roi dirwy neu fynd â chi i’r llys am fethu â thalu. Os ydych yn cael trafferth i dalu, darganfyddwch yr opsiynau sydd ar gael.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Beth rwyf i’w wneud os wyf yn cael trafferth i dalu fy nhrwydded teledu
- Sut gallwch ganslo’ch trwydded teledu a chael arian yn ôl
- Beth os wyf wedi colli taliad yn barod?
- Ni allaf fforddio gwneud fy nhaliad Debyd Uniongyrchol nesaf - beth dylwn ei wneud?
- Rwyf dros 75 oed a ni allaf fforddio talu fy nhrwydded teledu
- Sgamiau trwydded teledu
Beth rwyf i’w wneud os wyf yn cael trafferth i dalu fy nhrwydded teledu
Os ydych yn poeni am gynnal eich taliadau trwydded teledu, cysylltwch â Thrwyddedu Teledu cyn gynted â phosibl.
Os yw’r gostyngiad yn eich incwm dros dro ac rydych yn disgwyl iddo fynd yn ôl i’r arfer cyn bo hir, bydd Trwyddedu Teledu yn gweithio â chi i greu cynllun ad-daliadau fforddiadwy.
Gallwch eu ffonio 0300 555 0300 neu ewch i wefan Trwyddedu Teledu. Nid yw galwadau’n costio dim mwy na’r gyfradd galwadau cenedlaethol i rifau 01 neu 02 number, boed hynny o rif ffôn symudol neu linell daear. Os ydych yn cael munudau cynhwysol ar eich ffôn symudol, caiff galwadau i rifau 0300 eu cynnwys.
Gallech hefyd ystyried canslo’ch trwydded teledu. Byddwch yn arbed arian ac efallai byddai’n ddewis gwell os nad ydych yn sicr pryd bydd eich incwm yn cynyddu eto.
Darganfyddwch fwy am beth i'w wneud os ydych yn cael trafferth talu'ch Trwydded DeleduYn agor mewn ffenestr newydd
Os ydych yn cael anawsterau ariannol ac yn bodloni amodau penodol eraill, efallai y byddwch yn gymwys am Gynllun Talu Syml.
Beth yw cynllun talu syml Trwyddedu TeleduYn agor mewn ffenestr newydd
Sut gallwch ganslo’ch trwydded teledu a chael arian yn ôl
Os nad ydych yn meddwl y gallwch fforddio trwydded teledu yn y dyfodol agos, mae’n well ei ganslo ac o bosibl gael rhywfaint o arian yn ôl.
Mae'n costio £159 am drwydded teledu lliw a £53.50 am un Du a gwyn. Mae’r pris hwn wedi’i osod tan Ebrill 2024.
Gallwch ganslo’ch trwydded teledu os nad ydych bellach yn:
- gwylio nac yn recordio rhaglenni wrth iddynt gael eu dangos ar unrhyw sianel
- gwylio nac yn ffrydio rhaglenni’n fyw ar wasanaeth ar-lein (fel ITV Hub, All 4, YouTube, Amazon Prime Video, NOW TV, Sky Go)
- lawrlwytho nac yn gwylio unrhyw raglenni BBC ar iPlayer.
Os oes angen canslo’ch trwydded teledu arnoch, ac o bosibl cael ad-daliad, ffoniwch TV Licensing ar:
- 0300 790 6068 - os ydych yn talu trwy Debyd Uniongyrchol neu mewn un taliad.
- 0300 555 0300 - os ydych yn talu trwy gerdyn talu Trwyddedu Teledu.
Neu gallwch ganslo ar-lein trwy ddefnyddio'r ffurflen gyswllt ar wefan Trwyddedu Teledu
Sicrhewch fod gennych eich rhif cwsmer wrth law a dewiswch yr opsiwn i ganslo’ch trwydded.
Gallwch wneud cais ar-lein am ad-daliad hyd at ddwy flynedd ar ôl dyddiad terfyn eich trwydded. Efallai bydd rhaid i chi argraffu’r ffurflen a darparu tystiolaeth.
Darganfyddwch fwy am sut i hawlio ad-daliad ar wefan Trwyddedu Teledu
Beth os wyf wedi colli taliad yn barod?
Mae Trwyddedu Teledu’n ymwybodol bod llawer o bobl yn cael trafferth i dalu eu biliau ar hyn o bryd, gan gynnwys eu trwydded teledu.
Maent y rhoi seibiant i bobl ac efallai na fyddant yn ysgrifennu atoch os ydych yn mynd ar ei hôl â’ch taliadau.
Fodd bynnag, dylech geisio cynnal eich cynllun taliadau gan fydd hyn yn cadw’ch taliadau yn y dyfodol cyn ised â phosibl.
Os na allwch gynnal eich cynllun taliadau, cysylltwch â Trwyddedu Teledu cyn gynted ag y gallwch ar 0300 555 0300. Byddant yn gwneud beth allant i’ch helpu.
Ar hyn o bryd mae gan Trwyddedu Teledu lai o staff yn ateb galwadau. Mae hyn yn golygu maent ond yn gallu darparu gwasanaeth hanfodol ac felly mae’n cymryd mwy o amser iddynt ateb e-byst a llythyrau.
Ydy eich incwm cartref yn cael ei wasgu?
Os ydych chi’n wynebu costau byw uwch, ond heb fawr o arian os o gwbl yn dod i mewn, darganfyddwch ffynonellau incwm ychwanegol a chymorth sydd ar gael i’ch helpu i reoli biliau cartref ac arbed arian yn ein canllaw Byw ar incwm gwasgedig
Ni allaf fforddio gwneud fy nhaliad Debyd Uniongyrchol nesaf - beth dylwn ei wneud?
Mae trwydded teledu yn ddyled â blaenoriaeth. Dylech ddim ond canslo Debyd Uniongyrchol am ddyled â blaenoriaeth fel dewis olaf.
Os na allwch ddod o hyd i ffordd i dalu’ch trwydded teledu, mae’n well cael cyngor cyn gynted ag y gallwch, yn enwedig os oes gennych ddyledion eraill hefyd.
Er mwyn eich helpu i weithio allan pa rai i'w talu yn gyntaf, gwelwch ein canllaw Sut i flaenoriaethu'ch dyledion
Rwyf dros 75 oed a ni allaf fforddio talu fy nhrwydded teledu
Mae rhai pobl dros 75 oed sy’n gallu cael y drwydded teledu am ddim o hyd neu ar gyfradd is.
Os ydych yn gymwys am Gredyd Pensiwn
Mae Credyd Pensiwn yn ychwanegu at eich arian darparu incwm ymddeol ar ôl ymddeol os ydych ar incwm isel. Nid yw traean y bobl sy’n gymwys i’w gael yn ei hawlio.
Os ydych chi neu rywun sy’n byw gyda chi dros 75 oed ac yn hawlio credyd pensiwn gallwch hefyd hawlio trwydded teledu am ddim.
Darganfyddwch fwy o fanylion yn ein canllaw Credyd Pensiwn
I wneud cais am eich trwydded teledu am ddim ffoniwch Trwyddedu Teledu ar 0300 790 6117 i ofyn am ffurflen gais. Bydd rhaid i chi ddarparu tystiolaeth o’ch oedran a’ch bod yn cael Credyd Pensiwn.
Darganfyddwch fwy am Drwyddedu Teledu os ydych dros 75Yn agor mewn ffenestr newydd
Os ydych yn byw mewn cartref gofal
A ydych dros 75 oed ac yn byw mewn cartref gofal preswyl? Efallai bydd trwydded eich cartref gofal yn berthnasol i chi a ni fydd rhaid i chi dalu, hyd yn oed os nad ydych yn hawlio credyd pensiwn.
Gofynnwch i reolwr eich cartref gofal os oes ganddo drwydded teledu ‘Llety Gofal Preswyl’ (ARC).
Darganfyddwch fwy am Drwyddedu Teledu ar gyfer preswylwyr cartref gofal neu lety cysgodolYn agor mewn ffenestr newydd
Os ydych wedi’ch cofrestru’n ddall
Os ydych wedi’ch cofrestru’n ddall (â nam difrifol ar eich golwg) gallwch gael gostyngiad o 50% ar gost eich trwydded teledu. Nid oes terfyn oedran i wneud cais am hyn.
Os mai dim ond gwrando ar y radio rydych
Os nad ydych yn gwylio’r teledu (nac yn gwylio unrhyw beth ar BBC iPlayer) ac rydych dim ond yn gwrando ar y radio (hyd yn oed os ydych yn gwrando ar radio’r BBC), nid oes angen i chi dalu am drwydded teledu.
Os oes gennych deledu du a gwyn
Os yw eich teledu’n ddu a gwyn gallwch wneud cais am drwydded teledu â chost gostyngedig o £53.50. Mae trwydded teledu lliw yn costio £159.
Os nad ydych yn gymwys am unrhyw un o’r gostyngiadau uchod ac yn poeni a fyddwch yn gallu talu am eich trwydded teledu, cysylltwch cyn gynted â phosibl ar 0300 555 0300.
Os ydych wedi ymddeol mae rhai budd-daliadau gallai fod gennych hawl iddynt.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Budd-daliadau mewn ymddeoliad
Sgamiau trwydded teledu
Byddwch yn wyliadwrus rhag e-byst ffug neu negeseuon testun gan “TV Licensing”, gan ei fod yn sgam cyffredin.