Mae eich biliau Treth Incwm a TAW yn cael eu hystyried yn ddyledion â blaenoriaeth. Mae hyn yn golygu, os na fyddwch yn eu talu, gall HMRC gymryd camau gorfodi i gael yr arian sy'n ddyledus gennych
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Beth i’w wneud os ydych yn cael trafferth yn talu'ch bil Treth Incwm
- Os na allwch fforddio’ch bil treth
- Beth sydd angen i chi ei baratoi wrth ofyn i Gyllid a Thollau EM am help
- Gwneud cyllideb argyfwng
- Pryd i gael cyngor ar ddyledion
- Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn cael trafferthion ariannol ac â’ch lles meddyliol
Beth i’w wneud os ydych yn cael trafferth yn talu'ch bil Treth Incwm
Mae'n bwysig cysylltu â HMRC os ydych yn mynd i gael trafferth yn talu'ch bil treth. Os na fyddwch yn ei dalu mewn pryd, mae'n debygol y byddwch yn talu llog a dirwyon ar y swm sy'n ddyledus.
Hefyd efallai gall HMRC:
- ei gasglu'n syth o'ch enillion neu'ch pensiwn
- cael asiantaeth casglu dyledion (beili) i adennill yr arian – efallai y byddant yn cymryd pethau rydych yn perchen arnynt a'u gwerthu (os ydych yn byw yng Nghymru, Lloegr neu Ogledd Iwerddon)
- cymryd arian o'ch cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu (os ydych yn byw yng Nghymru, Lloegr neu Ogledd Iwerddon)
- mynd â chi i'r llys
- eich gwneud yn fethdalwr neu'n cau eich busnes.
Os oes gennych daliad sy'n ddyledus, neu'n poeni y gallech fethu taliad yn y dyfodol, ffoniwch linell gymorth Amser i Dalu Cyllid ar 0300 200 3822.
Gallwch hefyd greu trefniant Amser i Dalu gan ddefnyddio'ch cyfrif Porth Llywodraeth ar-lein.
Darganfyddwch fwy am y cynllun Amser i Dalu ar GOV.UK (Opens in a new window)
Os na allwch fforddio’ch bil treth
Os na allwch fforddio talu eich bil treth, mae angen i chi gysylltu â Chyllid a Thollau EM cyn gynted â phosibl trwy ffonio'r Gwasanaeth Cymorth Taliad Busnes ar 0300 200 3825. Mae'r gwasanaeth hwn ar gyfer pawb, nid busnesau yn unig.
Beth sydd angen i chi ei baratoi wrth ofyn i Gyllid a Thollau EM am help
Bydd angen i chi awgrymu faint y gallwch ei fforddio a thros faint o amser y gallwch wneud yr ad-daliadau.
I feddwl am hyn, gwnewch yn siŵr eich bod yn:
- cyfrifo faint sydd gennych yn dod i mewn a nodi unrhyw risgiau i'ch incwm yn y dyfodol
- llunio cyllideb - sicrhau y gallwch dalu unrhyw gostau byw a dyledion blaenoriaeth eraill
- penderfynu ar swm y byddwch yn gyffyrddus yn ei dalu'n ôl bob mis
- cyfrifo pa mor hir y byddai'n ei gymryd i dalu, gan ddefnyddio’r ffigur misol hwnnw.
Os bydd eich sefyllfa'n newid, gallwch eu ffonio eto i esbonio'r sefyllfa ac awgrymu cynllun ad-dalu newydd.
Os nad yw HMRC yn cytuno â'ch syniadau cynllun ad-dalu, byddant yn defnyddio'r wybodaeth a roesoch i lunio trefniant ad-dalu arall.
Ydy eich incwm cartref yn cael ei wasgu?
Os ydych chi’n wynebu costau byw uwch, ond heb fawr o arian os o gwbl yn dod i mewn, darganfyddwch ffynonellau incwm ychwanegol a chymorth sydd ar gael i’ch helpu i reoli biliau cartref ac arbed arian yn ein canllaw Byw ar incwm gwasgedig
Gwneud cyllideb argyfwng
Os ydych yn poeni am lif arian, edrychwch ar yr hyn rydych yn ei wario a pha incwm sydd gennych yn dod i mewn.
Gallwch hefyd edrych ar ffyrdd o leihau eich biliau cartref, fel newid darparwyr ar gyfer eich contractau nwy, trydan neu ffôn symudol.
Mae gan ein canllawiau ar Rheoli arian yn dda yn ein hadran Cyllidebu awgrymiadau ar sut gallwch leihau biliau cartref a chostau byw
Darganfyddwch sut i arbed arian a chynyddu incwm i’ch helpu i ddal i fyny â’ch taliadau ar wefan StepChange
Defnyddiwch y gyfrifiannell budd-daliadau i wneud yn siwr eich bod yn hawlio’r holl fudd-daliadau mae gennych hawl iddynt ar wefan Turn2Us
Pryd i gael cyngor ar ddyledion
- Gwelwch ein canllaw ar Sut i flaenoriaethu'ch dyledion i’ch helpu i weithio allan pa rai i’w talu gyntaf
- Am fwy o wybodaeth ewch i Gyngor ar Bopeth ar sut i wneud cynllun i dalu’ch dyledion
- Os ydych ar incwm isel a ni allwch gael yr help sydd ei angen arnoch gan HMRC, mae Taxaid yn cynnig cyngor cyfrinachol ar dreth am ddim
Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn cael trafferthion ariannol ac â’ch lles meddyliol
Gallai cael problemau iechyd meddwl olygu eich bod yn cael trafferth gwneud y penderfyniadau gorau yn seiliedig ar arian i chi, yn ogystal â gweithredu arnynt.
Darganfyddwch awgrymiadau ymarferol ar sut i ymdopi’n ariannol a ble i gael cymorth arbenigol am ddim yn ein canllaw Problemau ariannol a lles meddyliol gwael
Cofiwch, os ydych yn cael trafferthion ariannol ac â’ch lles meddyliol, mae'n werth cysylltu â'ch banc, cymdeithas adeiladu, benthyciwr neu bwy bynnag mae gennych arian yn ddyledus iddynt, i drafod eich opsiynau.
Fodd bynnag, yn aml mae'n haws dweud na chodi'r ffôn a siarad am eich problemau pan fyddwch yn cael trafferth â'ch iechyd meddwl.
Edrychwch ar ein canllaw i gael awgrymiadau ymarferol ar Sut i gael sgwrs am arian
Mae gan y rhan fwyaf o leoedd y mae gennych arian yn ddyledus bolisïau ynglŷn â'ch cefnogi os ydych yn fregus. Ond ni allant eich helpu oni bai eich bod yn gofyn.
I gael rhai awgrymiadau cyffredinol ar sut y gallwch reoli eich iechyd meddwl edrychwch ar ganllaw Rethink. Mae'n cynnwys popeth o osod cyllideb i gael help os ydych chi, neu rywun rydych yn poeni amdano, yn cael argyfwng iechyd meddwl.