Gall methu â fforddio cynhesu neu bweru eich cartref beri pryder a straen mawr. Mae'n bwysig parhau i dalu'r biliau hyn ac mae help ar gael gan eich cyflenwr os ydych chi'n cael trafferth cyn i chi fynd i ddyled. Cysylltwch cyn i chi fethu taliad a darganfod sut y gallant eich helpu chi yn ogystal â ffyrdd eraill o fynd yn ôl ar y trywydd iawn.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Pa help y gall fy nghyflenwr ei roi i mi gadw i fyny â thaliadau ynni?
- Cefnogaeth gyda chyflenwad ynni a biliau os ydych chi’n agored i niwed
- Sut i ddarganfod pwy yw’ch cyflenwr
- Gwiriwch a ydych yn gymwys am help ychwanegol gan y llywodraeth
- Sicrhewch eich bod wedi hawlio popeth y mae gennych hawl iddo
- Os ydych wedi methu taliad ar eich bil nwy neu drydan
- Beth fydd yn digwydd os bydd fy nghyflenwr ynni yn mynd i’r wal
- Pryd i gael cyngor ar ddyled
- Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn cael trafferthion ariannol ac â’ch lles meddyliol
Pa help y gall fy nghyflenwr ei roi i mi gadw i fyny â thaliadau ynni?
Os ydych chi'n poeni am golli taliadau nwy neu drydan, cysylltwch â'ch cyflenwr yn gyntaf. Rhaid iddynt weithio gyda chi i gytuno ar gynllun talu sy'n addas i chi.
Mae'r rhain yn cynnwys pethau fel:
- adolygu'ch bil a chytuno ar daliadau mwy fforddiadwy
- rhoi seibiant talu i chi
- lleihau faint rydych chi'n ei dalu i roi cyfle i chi ddal i fyny
- rhoi mwy o amser i chi ad-dalu'r hyn sy'n ddyledus gennych
- mynediad at grantiau elusennol neu gronfeydd caledi.
Cefnogaeth gyda chyflenwad ynni a biliau os ydych chi’n agored i niwed
Rhaid i'ch cyflenwr nwy neu ynni roi cefnogaeth ychwanegol i chi os ydych chi'n agored i niwed. Er enghraifft, os ydych chi:
- ag anabledd neu gyflwr iechyd tymor hir
- ag anghenion iechyd meddwl
- wedi colli clyw neu olwg
- yn feichiog neu â phlant o dan bump oed
- yn gwella ar ôl anaf neu newydd gael ei ryddhau o'r ysbyty
- ddim yn siarad na darllen Saesneg yn dda neu bod gennych anghenion cyfathrebu eraill
- wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth.
Gallai fod rhesymau eraill pam y gallech fod yn agored i niwed, felly os nad ydych yn siŵr y gallwch ofyn i'ch cyflenwr.
Mae'n syniad da cofrestru ar Gofrestr Gwasanaethau BlaenoriaethYn agor mewn ffenestr newydd eich cyflenwr a'ch gweithredwr rhwydwaith sy'n gofalu am eich cyflenwad nwy.
Yr Uned Gymorth Ychwanegol Cyngor ar Bopeth
Os ydych chi'n agored i niwed ac yn cael trafferth gyda'ch biliau, gallwch ddefnyddio'r Uned Gymorth Ychwanegol Cyngor ar Bopeth. Gallant helpu gydag anghydfodau biliau neu broblemau eraill wrth dalu'ch bil.
Dyma sut i gael atgyfeiriad:
Os ydych chi’n byw yng Nghymru neu Loegr
Ffoniwch linell gymorth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth am ddim ar 0808 223 1133 o ddydd Llun i ddydd Gwener 9am i 5pm.
Os oes gennych golled clyw, gallwch ddefnyddio Relay UK i ffonio'r llinell gymorth defnyddwyr gan ddefnyddio ap neu ffôn testun. Darganfyddwch sut i ddefnyddio Relay UKYn agor mewn ffenestr newydd ar eu gwefan.
I gysylltu ag ymgynghorydd sy'n siarad Cymraeg, ffoniwch: 0808 223 1144.
Gallwch hefyd lenwi ffurflen ymholiad ynniYn agor mewn ffenestr newydd ar-lein.
Os ydych chi'n byw yn yr Alban
Gallwch ddefnyddio gwasanaeth Advice Direct Scotland ar wefan energyadvice.scotYn agor mewn ffenestr newydd neu eu ffonio am ddim ar 0808 196 8660.
Cysylltwch â’ch Cyngor ar BopethYn agor mewn ffenestr newydd lleol.
Os ydych chi’n byw yng Ngogledd Iwerddon
Gallwch gysylltu â NI Energy Advice ar wefan NI Housing Executive(Agor mewn ffenestr newydd) neu eu ffonio am ddim ar 0800 111 4455.
Os ydych chi ar fesurydd rhagdaledig
Os ydych chi'n poeni am ychwanegu at eich mesurydd rhagdaledig, mae gan Gyngor ar Bopeth mwy o wybodaeth os na allwch fforddio ychwanegu at eich mesurydd rhagdaledig
Maent yn cynnig cyngor ar sut y gallwch gael credyd dros dro gan eich cyflenwr a'r ffyrdd gorau o'i dalu'n ôl.
Yng Ngogledd Iwerddon, gallwch gael mwy o wybodaeth am gredyd brys os ydych ar fesurydd rhagdaledig yn power niYn agor mewn ffenestr newydd
Sut i ddarganfod pwy yw’ch cyflenwr
Darganfyddwch pwy yw'ch cyflenwr nwy neu drydan, a'u manylion cyswllt, ar fil ynni diweddar.
Darganfyddwch eich cyflenwr yn UK Power NetworksYn agor mewn ffenestr newydd
Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon, darganfyddwch eich cyflenwr ar Northern Ireland Electricity NetworksYn agor mewn ffenestr newydd
Ceisiwch gysylltu â'ch cyflenwr ar-lein. Os na chewch ateb, mae'n werth mynd ar ei ôl.
Gwiriwch a ydych yn gymwys am help ychwanegol gan y llywodraeth
Cynllun Gostyngiad Cartrefi Cynnes
Gall y Gostyngiad Cartrefi Cynnes roi £150 o ostyngiad oddi ar eich biliau trydan bob blwyddyn. Os ydych ar incwm isel ac yn cael rhai budd-daliadau penodol sy’n seiliedig ar brawf modd - gan gynnwys Credyd Cynhwysol - efallai y bydd gennych hawl iddo. Nid yw’r gostyngiad ar gael yng Ngogledd Iwerddon, ond efallai y byddwch yn gymwys i gael help i wneud eich cartref yn fwy effeithlon o ran ynniYn agor mewn ffenestr newydd
Gellir defnyddio'r gostyngiad hefyd ar gyfer biliau nwy yn lle trydan yn dibynnu ar eich darparwr ynni. Siaradwch â'ch cyflenwr trydan i ddarganfod.
Os nad ydych yn gymwys i gael y gostyngiad gyda’ch cyflenwr ynni presennol, edrychwch a allwch newid i un lle rydych yn gymwys. Mae rhestr o gyflenwyr ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
I’r mwyafrif o bobl, mae’r Gostyngiad Cartrefi Cynnes yn cael ei gymhwyso’n awtomatig os ydych yn gymwys. Os ydych yn byw mewn cartref parc, neu yn Yr Alban ac yn gymwys oherwydd incwm isel, bydd angen i chi wneud cais amdano. Mae mwy o fanylion ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon, gallwch wneud cais am y Taliad Tanwydd Gaeaf ar nidirectYn agor mewn ffenestr newydd
Taliadau Tywydd Oer
Os yw’r tywydd yn oer iawn a’ch bod eisoes yn cael rhai budd-daliadau, efallai y byddwch yn gymwys i gael taliadau tywydd oer gwerth £25.
Darganfyddwch fwy yn ein post blog Pwy sy'n gymwys am Daliadau Tywydd Oer
Taliad Tanwydd Gaeaf
Cynlluniau llywodraeth eraill i’ch helpu yn 2023/24
Darganfyddwch fwy am y Cap ar brisiau Ynni yn ein canllaw Beth i’w wneud os yw’ch bil ynni’n uchel
Os ydych chi wedi cyrraedd Oedran Pensiwn y Wladwriaeth dylech hefyd fod yn gymwys i gael Taliad Tanwydd Gaeaf rhwng £100 a £300. Dylid talu hwn i chi yn awtomatig.
Cymorth lleol i dalu biliau ynni
Os ydych yn mynd heb nwy na thrydan, gallai eich cynllun lles lleol helpu â thalebau atodol.
Mae rhai banciau bwyd hefyd yn dosbarthu ychwanegiadau talebau os ydych chi ar fesurydd rhagdalu. Bydd angen i chi gael eich cyfeirio at fanc bwyd yn gyntaf.
Gallwch hefyd gael atgyfeiriadau i fanciau bwyd trwy eich cyngor lleol a sefydliadau eraill gan gynnwys:
- canolfannau cynghori lleol
- eich meddyg teulu
- gweithwyr cymorth
- heddlu.
Rhoddir cymorth lles lleol fesul achos.
- Os ydych chi'n byw yn Lloegr, cysylltwch â'ch cyngor i weld a oes ganddyn nhw gynllun cymorth lles. Darganfyddwch eich cyngor lleol yn GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
- Os ydych chi'n byw yn yr Alban, darganfyddwch fwy am Gronfa Les yr Alban ar wefan Llywodraeth yr AlbanYn agor mewn ffenestr newydd
- Os ydych chi'n byw yng Nghymru, darganfyddwch fwy am y Gronfa Cymorth Dewisol ar wefan Llywodraeth CymruYn agor mewn ffenestr newydd
- Os ydych chi'n byw yng Ngogledd Iwerddon, gallwch gael cyngor os ydych yn cael trafferth i dalu eich biliau ynni ar nidirectYn agor mewn ffenestr newydd
- Yng Ngogledd Iwerddon, gallwch ddod o hyd i awgrymiadau arbed ynni ar nidirectYn agor mewn ffenestr newydd
Sicrhewch eich bod wedi hawlio popeth y mae gennych hawl iddo
- Yn gyntaf, sicrhewech eich bod yn cael popeth y mae gennych hawl iddo.
- Os ydych yn cael trafferth gydag arian ac eisiau darganfod beth allwch fod â hawl iddo, defnyddiwch ein Cyfrifiannell Budd-daliadau
Os ydych yn wynebu costau byw uwch, darganfyddwch am ffynonellau incwm a chefnogaeth ychwanegol yn ein hadran Help gyda chostau byw
Os ydych wedi methu taliad ar eich bil nwy neu drydan
Os ydych wedi methu dim ond un taliad ac nad oes gennych unrhyw ddyledion eraill, siaradwch â'ch cyflenwr cyn gynted ag y gallwch.
Mae gan y gwefannau isod gyngor ar yr hyn sydd angen i chi ei wneud, y camau y gall eich cyflenwr eu cymryd a pham ei bod yn bwysig clirio unrhyw ôl-ddyledion nwy neu drydan cyn gynted ag y gallwch:
- Os oes gennych ôl-ddyledion nwy a thrydan, ewch i StepChange (Opens in a new window)
- Os ydych yn cael trafferth talu'ch biliau ynni, ewch i Cyngor ar Bopeth (Opens in a new window)
- Gallwch ysgrifennu at eich credydwyr gan ddefnyddio llythyrau enghreifftiol o wefan Cyngor ar Bopeth (Opens in a new window)
Darganfyddwch gymorth ariannol arall
Defnyddiwch declyn Lightning Reach i wirio a allwch wneud cais am grantiau neu gymorth ariannol ychwanegol os ydych yn byw ar incwm isel. Mewn 15 munud yn unig allwch ddarganfod sut i wneud cais am gyllid gan elusennau, eich cyngor lleol a sefydliadau eraill.
Beth fydd yn digwydd os bydd fy nghyflenwr ynni yn mynd i’r wal
Er ei bod yn beth prin i gyflenwr ynni mawr fynd i'r wal, mae llawer o gwmnïau ynni bach wedi mynd i'r wal oherwydd pris uchel nwy cyfanwerthol.
Darganfyddwch fwy am beth ddylai eich camau nesaf fod yn ein canllaw Beth i’w wneud os yw’ch bil ynni’n uchel
Os bydd hyn yn digwydd, mae ‘rhwyd ddiogelwch Ofgem’ yn sicrhau nad ydych yn cael eich gadael heb ynni.
Mae'r rhwyd ddiogelwch yn eich symud yn awtomatig i gyflenwr ynni newydd, i fargen newydd.
Dewisir y fargen gan ddefnyddio proses gystadleuol a gallai fod ychydig yn fwy na'ch tariff blaenorol. Gallwch chi ddod â'ch bargen newydd i ben neu symud i gyflenwr gwahanol pryd bynnag y dymunwch.
Os oes arnoch chi arian i gyflenwr sydd wedi mynd i’r wal
Os oeddech chi mewn dyled i'ch hen gyflenwr, bydd yn rhaid i chi dalu hwn o hyd ond efallai y bydd yn rhaid i chi ei dalu i'ch cyflenwr newydd. Arhoswch i'ch cyflenwr newydd gysylltu â chi.
Os oeddech mewn credyd gyda'ch cwmni ynni, mae'r un peth yn wir: byddwch yn cael yr arian yn ôl, ond dylech aros i'ch cyflenwr newydd gysylltu â chi.
Darganfyddwch fwy am yr hyn y gallwch ei wneud os yw’ch cyfrif mewn dyled neu mewn credyd pan fydd eich cyflenwr yn mynd i’r wal ar Cyngor ar Bopeth (Opens in a new window)
Pryd i gael cyngor ar ddyled
Os ydych wedi methu mwy nag un taliad yn barod ac yn methu â dod i gytundeb â'r darparwr, mae'n well cael cyngor cyn gynted ag y gallwch, yn enwedig os oes gennych ddyledion eraill hefyd.
Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn cael trafferthion ariannol ac â’ch lles meddyliol
Gall codi'r ffôn a siarad am eich problemau arian fod yn anodd pan rydych yn cael trafferth gyda'ch iechyd meddwl. Ond mae'n werth cysylltu â'ch banc, cymdeithas adeiladu, benthyciwr neu bwy bynnag rydych yn ddyledus iddynt, i drafod eich opsiynau.