Os yw'ch incwm wedi gostwng a'ch bod yn poeni na fydd yn mynd yn ôl i normal, darganfyddwch beth gallwch ei wneud i leihau'r risg o syrthio ar ôl ar eich taliadau prynu nawr talwch wedyn.
Beth i’w wneud gyntaf os ydych yn pryderu na fyddwch yn gallu fforddio eich ad-daliadau prynu nawr talu wedyn
Bydd y rhan fwyaf o gynlluniau yn codi ffi talu hwyr a/neu log yn dibynnu ar ba fath o gontract prynu nawr talu wedyn rydych arno.
Bydd methu taliad yn effeithio’n negyddol ar eich sgôr credyd ac effeithio ar eich gallu i gael credyd yn y dyfodol.
Bydd rhai cynlluniau hefyd yn gofyn i chi dalu am unrhyw beth sydd gennych yn ddyledus gyd mewn un taliad.
Os ydych yn mynd i gael trafferth, mae'n bwysig eich bod yn siarad â'ch darparwr cyn i chi fethu taliad.
Gallent gynnig cymorth gan gynnwys:
- Gweithio gyda chi i ddarparu cefnogaeth cyn i chi fethu unrhyw daliadau
- Bod yn hyblyg a defnyddio ystod lawn o opsiynau i helpu i leddfu. unrhyw straen a phryder y gallech fod yn mynd drwyddo oherwydd problemau arian.
- Rhoi trefniadau ad-dalu fforddiadwy a chynaliadwy mewn lle.
- Cymryd fewn i ystyriaeth eich sefyllfa ariannol ehangach gan gynnwys dyledion gyda benthycwyr eraill a threuliau byw hanfodol a allai fod gennych.
- Rhoi ddigon o amser i chi ad-dalu a ddim rhoi pwysau arnoch i ad-dalu'ch dyled o fewn cyfnod afresymol o fyr.
- Sicrhau nad yw'ch balans yn cynyddu allan o reolaeth unwaith y bydd trefniant ad-dalu mewn lle.
- Cydnabod ac ymateb i'ch anghenion os ydych yn fregus.
Darganfyddwch am y gwahanol fathau o gynlluniau Prynu Nawr Talu Wedyn
Os na fyddwch yn cysylltu â'ch benthyciwr prynu nawr talu wedyn bydd darparwyr fel arfer yn dilyn y broses hon:
- Efallai y byddant yn gofyn i chi gysylltu trwy ysgrifennu atoch neu ffonio.
- Yna byddant yn rhoi ‘rhybudd o fethiant’ ysgrifenedig i chi. Mae hyn yn rhoi cyfle i chi drefnu sut i ddal i fyny â'ch taliadau a fethwyd.
- Os na fyddwch yn delio â’r ddyled, bydd y benthyciad yn ‘ddiffyg taliad’ (mewn geriau eraill, rydych wedi methu â gwneud taliadau). Bydd hyn fel arfer ar ôl i ddau i dri o daliadau gael eu methu.
- Pan fydd y benthyciad wedi ‘methu’, gellid ychwanegu mwy o log a thaliadau - gan gynyddu’r hyn sy’n ddyledus gennych.
- Os nad ydych wedi ymateb iddynt o hyd, gallai eich benthyciwr fynd i'r llys i ofyn am ddyfarniad Llys Sirol (CCJ). Gelwir hyn yn archddyfarniad yn yr Alban. Mae CCJ yn rhoi mwy o opsiynau i'ch benthyciwr orfodi ad-daliad o'r ddyled. Gall y mesurau hyn effeithio'n ddifrifol ar eich gallu i gael credyd â benthycwyr eraill yn y dyfodol.
- Gellir gwerthu'r ddyled i asiantaeth casglu dyledion a fydd yn cysylltu â chi ac yn gofyn am daliad. Fodd bynnag ni chaniateir iddynt ymweld â'ch eiddo a symud nwyddau. Os nad ydych wedi talu'r ddyled o hyd ar ôl i Ddyfarniad Llys Sirol (CCJ) gael ei roi, gall y credydwr wneud cais am warant rheoli a chyfarwyddo asiantau gorfodi (a elwir hefyd yn feilïaid). Dim ond ar y pwynt hwnnw y gellir codi a symud rhai nwyddau i dalu tuag at y ddyled.
Ydy eich incwm cartref yn cael ei wasgu?
Os ydych chi’n wynebu costau byw uwch, ond heb fawr o arian os o gwbl yn dod i mewn, darganfyddwch ffynonellau incwm ychwanegol a chymorth sydd ar gael i’ch helpu i reoli biliau cartref ac arbed arian yn ein canllaw Byw ar incwm gwasgedig
Byddwch yn ofalus sut rydych yn defnyddio cynlluniau BNPL
Gall talu mewn rhandaliadau neu oedi pan fyddwch yn talu am eich pryniant deimlo fel ffordd dda o reoli'ch arian, yn enwedig os rydych angen prynu hanfodion, fodd bynnag, os ydych yn cael trafferth cadw i fyny â thaliadau, ceisiwch osgoi eu defnyddio nes eich bod yn ôl ar y trywydd iawn.
Po fwyaf aml y byddwch yn eu defnyddio, y mwyaf tebygol y byddant o ymddangos ar eich ffeil gredyd a gallai hyn gael effaith negyddol ar eich sgôr credyd.
Gofynnwch i'ch hun a fyddech yn prynu'r eitem pe na bai wedi'i gynnig i chi yn y modd hwn. Mewn geiriau eraill, a oes gwir ei angen arnoch?
Gwnewch cyllideb
Os ydych yn poeni am arian, os nad ydych wedi gwneud hynny eisoes, edrychwch ar yr hyn rydych yn ei wario a pha incwm sydd gennych yn dod i mewn i weld a allwch dorri'n ôl ar gostau.
Os ydych am dorri'n ôl ar filiau neu dreuliau, gallai ein canllaw defnyddio safleoedd cymharu helpu.
Os ydych wedi methu mwy nag un taliad neu os ydych yn jyglo dyledion eraill, mae'n bwysig eich bod yn eu talu yn y drefn iawn. Mae hyn oherwydd bod rhai yn bwysicach, ac mae gan rai benthycwyr fwy o rym nag eraill.
Sicrhewch eich bod yn talu dyledion â blaenoriaeth yn gyntaf. Mae'r rhain yn ddyledion fel ôl-ddyledion morgais neu rent, a biliau tanwydd.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Sut i flaenoriaethu eich dyledion
Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn cael trafferthion ariannol a â'ch lles meddyliol
Gallai cael materion iechyd meddwl olygu eich bod yn cael trafferth gwneud y penderfyniadau gorau i chi yn seiliedig ar arian, yn ogystal â gweithredu arnynt
Darganfyddwch awgrymiadau ymarferol ar sut i ymdopi'n ariannol a ble i gael cymorth arbenigol am ddim yn ein canllaw Problemau arian a lles meddyliol
Cofiwch, os ydych yn cael trafferthion ariannol a gyda'ch lles meddyliol, cysylltwch â'ch banc, benthyciwr i drafod eich opsiynau.
Dylent fod â thim lles all roi cefnogaeth ychwanegol i chi. Gadewch iddynt wybod os ydych angen hyn gan ni allant eich helpu os na ofynnwch.
Fodd bynnag, mae'n aml yn haws dweud na gwneud i godi’r ffôn a siarad am eich problemau pan fyddwch yn teimlo'n isel.
I gael awgrymiadau ymarferol ar sut i siarad â'r bobl y mae arnoch arian iddynt, edrychwch ar ein canllaw Cael sgyrsiau anodd am arian
I gael rhai awgrymiadau ar sut y gallwch reoli eich iechyd meddwl edrychwch ar ganllaw Rethink. Mae'n cynnwys popeth o osod cyllideb i gael help os ydych chi, neu rywun rydych yn poeni amdano, yn cael argyfwng iechyd meddwl.