Os ydych chi'n cael trafferth talu benthyciad diwrnod cyflog yn ôl neu'n credu bod y benthyciwr wedi eich trin yn annheg, peidiwch â chynhyrfu na chael trafferth yn dawel. Mae llawer o bobl yn yr un sefyllfa ac mae benthycwyr yn barod i helpu.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Gwnewch yn siwr eich bod wedi gwneud cais am bopeth mae gennych hawl iddo
- Gwnewch gyllideb brys
- Beth i’w wneud gyntaf os ydych chi'n poeni na fyddwch chi'n gallu fforddio'ch ad-daliad benthyciad diwrnod cyflog nesaf
- Beth i’w wneud os na allwch dalu’ch benthyciad diwrnod cyflog yn ôl
- Camau nesaf os ydych wedi methu taliad
- Pryd i gael cyngor dyledion
- Sut i gwyno am fenthyciwr diwrnod cyflog
- Cefnogaeth ychwanegol os ydych chi'n cael trafferthion ariannol a gyda'ch lles meddyliol
Gwnewch yn siwr eich bod wedi gwneud cais am bopeth mae gennych hawl iddo
I wneud hyn, yn gyntaf edrychwch yn ein canllaw i Gwneud yn siŵr eich bod yn derbyn yr hawliau cywir
Gwnewch gyllideb brys
Os ydych yn poeni am lif arian, edrychwch ar yr hyn rydych yn ei wario a pha incwm sydd gennych yn dod i mewn.
Gallwch hefyd edrych ar ffyrdd o leihau eich biliau cartref, fel newid darparwyr ar gyfer eich contractau nwy, trydan neu ffôn symudol.
Beth i’w wneud gyntaf os ydych chi'n poeni na fyddwch chi'n gallu fforddio'ch ad-daliad benthyciad diwrnod cyflog nesaf
Os ydych chi'n mynd i gael trafferth gwneud taliadau, mae'n bwysig eich bod yn siarad â'ch benthyciwr neu'ch darparwr cyn gynted â phosib. Os cymeroch seibiant taliadau sydd nawr wedi dod i ben, mae’n bwysig eich bod yn deall beth sy’n digwydd nesaf.
Darganfyddwch fwy am Beth i’w wneud pan ddaw eich gwyliau talu i ben
Os nad ydych yn cysylltu â’ch benthycwyr, byddant fel arfer yn dilyn y broses hon:
- Gallent ofyn i chi gysylltu trwy ysgrifennu atoch neu roi galwad i chi.
- Byddant wedyn yn dosbarthu ‘rhybudd diffygdalu’ ysgrifenedig i chi. Mae hyn yn rhoi cyfle i chi drefnu sut i ddal i fyny â’ch taliadau a fethwyd.
- Os nad ydych chi’n delio â’r ddyled, bydd y ddyled yn ‘diffygdalu’. Bydd hyn fel arfer ar ôl methu dau neu dri taliad.
- Pan fydd y benthyciad wedi ‘diffygdalu’, gallai rhagor o log a chostau gael eu hychwanegu.
- Os ydych chi’n parhau heb ymateb iddynt, gallai eich benthyciwr fynd i lys i geisio dyfarniad Llys Sirol (CCJ). Fe’i gelwir yn archddyfarniad yn yr Alban. Mae CCJ yn rhoi rhagor o ddewisiadau i’ch benthyciwr i orfodi ad-daliad y ddyled. Cofiwch y gall y mesurau hyn gael effaith ddifrifol ar eich gallu i gael credyd gan fenthycwyr eraill yn y dyfodol
- Gallai’r ddyled gael ei throsglwyddo i asiantaeth casglu dyled a fydd yn cysylltu ac yn gofyn am daliad, fodd bynnag, ni chaniateir iddynt ymweld â'r eiddo a mynd a nwyddau i ffwrdd. Os na thelir y ddyled o hyd ar ôl cyhoeddi Dyfarniad Llys Sirol (CCJ), gall y credydwr geisio sicrhau gwarant rheoli a chyfarwyddo asiantau gorfodi (a elwir hefyd yn feilïaid). Dim ond ar y cam hwn y gellir codi a symud rhai nwyddau i dalu tuag at y ddyled.
Os ewch i'r afael â'r broblem yn gynnar, mae llawer llai o siawns y bydd unrhyw beth o hyn yn digwydd.
I ddarganfod mwy, gweler ein canllaw Benthyciadau diwrnod cyflog - beth sydd angen i chi ei wybod
Ydy eich incwm cartref yn cael ei wasgu?
Os ydych chi’n wynebu costau byw uwch, ond heb fawr o arian os o gwbl yn dod i mewn, darganfyddwch ffynonellau incwm ychwanegol a chymorth sydd ar gael i’ch helpu i reoli biliau cartref ac arbed arian yn ein canllaw Byw ar incwm gwasgedig
Beth i’w wneud os na allwch dalu’ch benthyciad diwrnod cyflog yn ôl
Os ydych yn cael trafferth talu benthyciad diwrnod cyflog yn ôl, y peth gwaethaf y gallwch chi ei wneud yw anwybyddu'r broblem.
Dyma'r camau y gallwch eu cymryd:
Cam un - cysylltwch â'ch benthyciwr diwrnod cyflog cyn gynted â phosibl
Yn gyfreithiol, mae’n rhaid iddynt:
- eich cyfeirio at ffynonellau cyngor dyled annibynnol ac am ddim
- atal adennill y ddyled am gyfnod rhesymol os ydych yn datblygu cynllun ad-dalu gydag ymgynghorydd dyled neu ar eich pen eich hun
- eich trin yn deg a chydag ystyriaeth, gan ganiatáu amser rhesymol i chi ad-dalu'r benthyciad a allai gynnwys rhewi llog ac atal taliadau
- peidio â'ch peledu â galwadau ffôn, e-byst a negeseuon testun
- ystyried derbyn taliadau bach dros dro os yw'ch ad-daliadau yn golygu nad oes gennych ddigon o arian ar ôl ar gyfer hanfodion fel bwyd, rhent neu forgais, a biliau cyfleustodau.
Cofiwch gadw copïau o'r holl negeseuon e-bost a llythyrau a anfonoch at y benthyciwr ac ysgrifennu manylion eich galwadau ffôn atynt. Mae hyn yn dystiolaeth o sut rydych chi wedi ceisio cysylltu â hwy os nad ydynt yn ateb ac mae angen i chi wneud cwyn.
Cam dau - beth i feddwl amdano cyn canslo'r taliad cylchol
Mae risg o ganslo taliad cylchol y bydd y cwmni'n codi ffi debyd uniongyrchol wedi'i ganslo arnoch.
Mae'n syniad da siarad â'ch banc neu fenthyciwr am opsiynau i gadw i fyny â thaliadau cyn i chi wneud unrhyw beth. Gallwch hefyd ofyn iddynt beth fydd yn digwydd os byddwch yn canslo ac a fydd unrhyw ffioedd neu daliadau.
Os ydych dal yn penderfynu canslo, gwnewch hynny o leiaf ddiwrnod cyn bod yr ad-daliad yn ddyledus. Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n dweud wrth eich benthyciwr eich bod chi wedi gwneud hynny.
Ysgrifennwch y dyddiad a'r amser y gwnaethoch chi gyfarwyddo'ch banc i ganslo'r taliad cylchol.
Os bydd arian yn mynd o'ch cyfrif i'r benthyciwr ar ôl y dyddiad hwn, cwynwch i'ch banc. Rhaid i'r banc roi ad-daliad i chi yn ôl y gyfraith.
Mae'n syniad da dilyn eich galwad ffôn gyda llythyr i'ch banc.
Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n dweud wrth y benthyciwr diwrnod cyflog cyn gynted â phosib eich bod chi wedi canslo'r taliad parhaus oherwydd anawsterau talu'r arian yn ôl.
Bydd y ddyled yn ddyledus gennych o hyd a gall y benthyciwr barhau i godi llog a ffioedd, felly mae'n bwysig eich bod yn cael cyngor ar ddyledion am ddim i'ch helpu i ddelio â'r broblem.
Cam tri - gwrthodwch ymestyn eich benthyciad
Efallai y bydd eich benthyciwr diwrnod cyflog yn awgrymu eich bod yn ‘ymestyn’ eich benthyciad am ryw fis arall. Mae hwn yn syniad gwael.
Mae'n golygu bod yn rhaid i chi dalu hyd yn oed mwy o daliadau a llog - felly bydd arnoch lawer mwy o arian yn y pen draw.
Yn lle hynny, mynnwch gyngor ar ddyledion ac ystyriwch yr opsiynau sydd ar gael ar gyfer delio â'ch dyled.
Cyn trosglwyddo'ch benthyciad, rhaid i'r benthyciwr diwrnod cyflog eich cyfeirio at gyngor dyled am ddim.
Cam pedwar - cael help gan gynghorydd dyled am ddim
Os ydych chi'n cael trafferth gyda biliau neu'n ei chael hi'n anodd delio â benthyciwr diwrnod cyflog, cysylltwch ag un o'r gwasanaethau cynghori dyled cyfrinachol rhad ac am ddim hyn:
- Elusen Dyledion StepChange
- National Debtline
- Cyngor Ar Bopeth – Cymru a Lloegr
- Citizens Advice – Yr Alban
- Citizens Advice – Gogledd Iwerddon
- Advice NI
Bydd y cynghorydd yn annibynnol ac yn gweithredu ar eich budd gorau - byddant yn eich helpu i reoli eich dyledion a gallant negodi a thrafod pob opsiwn gyda'r benthyciwr ar eich rhan.
Dywedwch wrth eich benthyciwr cyn gynted ag y byddwch chi'n dechrau gweithio gyda'r cynghorydd dyledion. Dilynwch eich galwad ffôn gyda llythyr.
Pan fyddwch wedi gwneud hyn, rhaid i'ch benthyciwr roi amser rhesymol i chi lunio cynllun ad-dalu cyn defnyddio casglwyr dyledion.
Os ydynt yn dal i gysylltu â chi tra'ch bod chi'n gweithio gyda'r cynghorydd dyled, anfonwch e-bost yn gofyn iddynt stopio.
Pwyntiau eraill i’w cofio
Ni ddylai eich benthyciwr diwrnod cyflog geisio eich rhoi dan bwysau gormodol, gan gynnwys:
- eich ffonio yn y gwaith heb eich caniatâd
- trafod eich dyled gyda'ch cyflogwr neu aelodau'ch teulu
- gwrthod delio â'r gwasanaeth cynghori ar ddyledion sy'n gweithredu ar eich rhan.
Camau nesaf os ydych wedi methu taliad
Os ydych chi wedi methu taliad, cysylltwch â'ch benthyciwr i egluro'ch sefyllfa. Ceisiwch osgoi cymryd mwy o gredyd oni bai eich bod yn gwybod y gallwch fforddio ei dalu'n ôl.
Am help i siarad â'ch benthyciwr, gweler ein canllaw Problemau wrth ad-dalu benthyciad diwrnod cyflog
Pryd i gael cyngor dyledion
A ydych eisoes wedi methu mwy nag un taliad neu'n poeni y gallech ac yn methu â dod i gytundeb â'ch benthyciwr? Yna mae'n well cael cyngor cyn gynted ag y gallwch, yn enwedig os oes gennych ddyledion eraill hefyd.
Sicrhewch eich bod yn talu dyledion â blaenoriaeth yn gyntaf. Mae'r rhain yn ddyledion fel ôl-ddyledion morgais neu rent, a biliau tanwydd.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Sut i flaenoriaethu’ch dyledion
Darganfyddwch fwy am sut i wneud cynllun i dalu'ch dyledion yn Cyngor Ar Bopeth (Opens in a new window)
Sut i gwyno am fenthyciwr diwrnod cyflog
Os ydych yn teimlo bod eich benthyciwr diwrnod cyflog wedi eich trin yn annheg neu os ydych yn anhapus gyda'r cynllun ad-dalu maent wedi'i gynnig, cwyno iddynt yn gyntaf gan ddefnyddio ein llythyr templed os ydych angen cwyno i’ch darparwr benthyciad (Opens in a new window) (DOCX, 20KB)
Yna mae gan y benthyciwr wyth wythnos i ddatrys y sefyllfa.
Os nad ydynt yn cwrdd â'r dyddiad cau hwn neu os ydych yn teimlo nad ydynt wedi ateb eich cwyn yn iawn, gallwch gwyno i Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol.
Am help i wneud eich cwyn, mae Resolver yn wasanaeth ac ap ar-lein am ddim sy'n cynnig cyngor i ddefnyddwyr ac yn symleiddio'r broses o gwyno.
Darganfyddwch fwy i helpu i wneud cwyn, yn Resolver (Opens in a new window)
Defnyddiwch y Gwasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol
Mae'r Gwasanaeth Ombwdsmon Ariannol yn wasanaeth annibynnol sy'n delio â chwynion heb eu datrys am ddarparwyr gwasanaethau ariannol.
Os ydynt yn barnu nad yw’r benthyciwr diwrnod cyflog wedi datrys eich cwyn yn iawn neu wedi eich trin yn annheg, gallant orchymyn i’r benthyciwr dalu iawndal i chi.
Cefnogaeth ychwanegol os ydych chi'n cael trafferthion ariannol a gyda'ch lles meddyliol
Gallai cael materion iechyd meddwl olygu eich bod yn cael trafferth gwneud y penderfyniadau gorau yn seiliedig ar arian i chi, yn ogystal â gweithredu arnynt.
Dewch o hyd i awgrymiadau ymarferol ar sut i ymdopi’n ariannol a ble i gael cymorth arbenigol am ddim yn ein canllaw Problemau ariannol a lles meddyliol gwael
Cofiwch, os ydych yn cael trafferthion ariannol a chyda'ch lles meddyliol, mae'n werth cysylltu â'ch banc, cymdeithas adeiladu, benthyciwr neu bwy bynnag mae gennych arian yn ddyledus iddynt, i drafod eich opsiynau.
Fodd bynnag, yn aml mae'n haws dweud na chodi'r ffôn a siarad am eich problemau pan rydych yn cael trafferth gyda'ch iechyd meddwl.
Edrychwch ar ein canllaw ar Sut i gael sgwrs am arian i gael awgrymiadau ymarferol ar ar sut i siarad â’r sawl mae arnoch arian iddynt
Mae'r rhan fwyaf o lefydd mae arnoch arian iddynt gyda pholisïau ynglŷn â'ch cefnogi os ydych chi'n fregus. Ond ni allant eich helpu oni bai eich bod yn gofyn.
I gael rhai awgrymiadau cyffredinol ar sut y gallwch reoli eich iechyd meddwl ewch i Rethink Mae'n cynnwys popeth o osod cyllideb i gael help os ydych chi, neu rywun rydych chi'n poeni amdanynt, yn cael argyfwng iechyd meddwl.