Os ydych wedi dechrau methu rhai o'ch biliau, efallai y byddwch yn teimlo eich bod wedi’ch llethu. Darllenwch fwy am sut i flaenoriaethu a gweithio allan pa ddyledion i’w had-dalu’n gyntaf a chael help os ydych yn cael trafferth gyda thaliadau.
Pam ei bod yn bwysig talu’ch dyledion yn y drefn gywir
Gall goblygiadau peidio â thalu rhai dyledion cyn rhai eraill fod yn fwy difrifol.
Felly os ydych yn cael anhawster gwneud eich ad-daliadau yn brydlon, mae angen i chi edrych ar eich dyledion a’u rhannu i :
- dyledion o flaenoriaeth
- dyledion nad ydynt yn flaenoriaeth
- argyfyngau dyled.
Os ydych yn wynebu argyfwng dyledion
Cael cyngor dyledion annibynnol am ddim ar frys os ydych yn wynebu argyfwng brys, fel:
- achos llys
- camau gan feili
- datgysylltiad, neu
- cael eich taflu allan o’ch tŷ am ôl-ddyledion morgais neu rent.
Bydd rhai cynghorwyr ar ddyledion yn gallu siarad â’r llys, beili neu gredydwr ar eich rhan. Os ydych am i rywun wneud hyn ar eich rhan, gwiriwch a fyddant yn gallu gwneud hyn ar eich rhan.
Byddant hefyd yn eich cynghori ar beth i’w wneud nesaf.
Mae’n bwysig eich bob amser yn mynychu gwrandawiad llys. Mae hyn yn rhoi’r cyfle i chi ddod i gytundeb.
Os na fyddwch yn mynd, efallai y gwneir penderfyniad heb ystyried rhyw wybodaeth am eich sefyllfa.
Os ydych yno gallwch ddweud wrth y llys beth sy’n digwydd a gallai hynny fod o gymorth i’r llys ddod i benderfyniad sydd yn fwy buddiol i chi.
Mae rhai llysoedd yn defnyddio sefydliadau cynghori fel Shelter a Chyngor ar Bopeth a fydd yn gallu rhoi cyngor munud olaf i chi ar beth i’w wneud.
Os ydych i fod i fynychu’r llys cyn pen 24 awr, gofynnwch a oes rhywun y gallwch siarad â hwy cyn gwrandawiad eich achos.
Beth yw dyledion blaenoriaeth?
Dyledion o flaenoriaeth yw rhai sydd â’r goblygiadau mwyaf difrifol os na fyddwch yn eu talu.
Nid oes rhaid i’r rhain fod y dyledion mwyaf neu’r rhai sydd â’r cyfraddau llog uchaf o reidrwydd, ond os na fyddwch yn eu talu gallai arwain at broblemau difrifol.
Mae dyledion blaenoriaeth yn cynnwys:
- dirwyon llys
- Treth neu Cyfraddau Cyngor
- Trwydded Deledu
- Cynhaliaeth Plant
- biliau nwy a thrydan
- Treth Incwm, Yswiriant Gwladol a TAW
- morgais, rhent ac unrhyw fenthyciadau a sicrhawyd yn erbyn eich cartref
- cytundebau hurbwrcas, os yw’r hyn rydych yn ei brynu â hwy yn hanfodol
- taliadau wedi’u methu sy’n ddyledus i’r DWP (Adran Gwaith a Phensiynau) neu HMRC (Cyllid a Thollau EM).
Pam y dylech dalu eich dyledion o flaenoriaeth yn gyntaf
Gallai goblygiadau peidio â thalu rhai dyledion olygu:
- cael ymweliad gan feiliaid
- derbyn gwŷs llys
- cael eich gwneud yn fethdalwr – am nad ydych wedi talu’ch biliau treth
- cael eich system wresogi neu’ch goleuadau’n wedi eu diffodd – am nad ydych wedi talu’ch biliau tanwydd
- colli’ch cartref – am nad ydych yn llwyddo i dalu’ch morgais neu rent yn brydlon.
Mae gan Gyngor ar Bopeth rhestr o ddyledion â blaenoriaethYn agor mewn ffenestr newydd, ei chanlyniadau a sut i ddelio gyda nhw ar ei wefan.
Darganfyddwch fwy am sut i ddelio â materion dyled ar National DebtlineYn agor mewn ffenestr newydd
Beth yw dyledion nad ydynt yn flaenoriaeth?
Mae goblygiadau peidio â thalu dyledion nad ydynt yn flaenoriaeth yn llai difrifol.
Os na thalwch eich dyledion nad ydynt yn flaenoriaeth, gallai’ch credydwr ddwyn achos llys yn eich herbyn yn y pen draw neu gyfarwyddo beiliaid i gasglu’r arian gennych.
Mae eich dyledion heb flaenoriaeth yn cynnwys:
- gorddrafftiau
- benthyciadau personol
- benthyciadau banc neu gymdeithas adeiladu
- arian wedi’i fenthyca gan ffrindiau neu deulu
- dyledion cerdyn credyd, dyledion cerdyn siop neu fenthyciadau diwrnod cyflog
- dyledion catalog, credyd cartref neu gredyd mewn siop.
Biliau dŵr a charthffosiaeth
Ni all eich dŵr a’ch carthffosiaeth gael ei rwystro yn yr un modd â’ch biliau eraill fel ynni. Ond fel bil hanfodol y cartref, mae’n werth ei ystyried yn gyfochrog â’ch biliau â blaenoriaeth eraill cyn eich dyledion heb flaenoriaeth.
Os na thalwch eich biliau dŵr a charthffosiaeth cyfredol o leiaf, bydd y swm sy’n ddyledus gennych yn parhau i gynyddu ac yn y pen draw gallai eich cwmni dŵr gymryd camau gorfodi i adfer yr hyn sy'n ddyledus gennych.
Trin credydwyr yn deg
Mae rheolau i'w dilyn os oes gennych sawl dyled ac arian sbâr i ddechrau eu talu. Mae rhaid rhannu unrhyw beth y gallwch fforddio ei dalu tuag at eich dyledion yn deg rhwng eich credydwyr.
Mae'n bwysig eich bod yn gwneud hyn oherwydd os nad ydych yn llwyddo i gadw i fyny ag ad-daliadau ac angen dod o hyd i ateb dyled ffurfiol, efallai na fyddwch yn gallu ymrwymo i rai trefniadau (fel methdaliad neu orchymyn rhyddhad dyled) os ydych wedi blaenoriaethu rhai credydwyr dros eraill.
Mae'n syniad da siarad â chynghorydd dyled yn gyntaf cyn i chi gytuno i wneud taliadau i bobl y mae arnoch arian iddynt.
Ydy eich incwm cartref yn cael ei wasgu?
Os ydych chi’n wynebu costau byw uwch, ond heb fawr o arian os o gwbl yn dod i mewn, darganfyddwch ffynonellau incwm ychwanegol a chymorth sydd ar gael i’ch helpu i reoli biliau cartref ac arbed arian yn ein canllaw Byw ar incwm gwasgedig
Cael cyngor am ddim ar ddelio â dyledion
Peidiwch â mynd i anhawster â dyledion – yn enwedig os ydych yn wynebu argyfwng, fel colli’ch cartref neu fynd i’r llys.
Os ydych angen mwy o gefnogaeth neu os nad ydych yn gwybod ble i gychwyn, ni ydych ar eich pen eich hun.
Mae bron i hanner y bobl mewn dyled wedi dweud wrthym nad ydynt yn siŵr am y ffordd orau i dalu eu dyledion, a dyna ble gall cynghorydd dyledion wir eich helpu i wneud y penderfyniadau cywir fel bydd y rhan fwyaf o'ch arian yn mynd i ad-dalu'ch dyledion.
Sy'n golygu y gallech fod yn rhydd o ddyled yn gynt nag roeddech yn meddwl.
Bydd cynghorydd dyled yn:
- trin popeth rydych yn ei ddweud yn gyfrinachol
- peidio byth â'ch barnu na gwneud i chi deimlo'n ddrwg am eich sefyllfa
- awgrymu ffyrdd o ddelio â dyledion na fyddech efallai yn gwybod amdanynt
- gwirio eich bod wedi gwneud cais am yr holl fudd-daliadau a hawliau sydd ar gael i chi
- gwneud yn siŵr eich bod yn gyffyrddus â'ch penderfyniad bob amser.
Mae tri chwarter y bobl sy'n cael cyngor ar ddyledion yn teimlo mwy o reolaeth ar eu cyllid wedi hynny.
Gyda rhai gwasanaethau cynghori ar ddyledion, gallwch fynd trwy'r opsiynau a gwneud penderfyniad eich hun ai dyna'r hyn sydd orau gennych.